Ddechrau Mehefin, 1965, rhoddwyd gorchymyn i weithwyr ffatri yn hen ysgol Tanygrisiau i beidio a siarad Cymraeg wrth eu gwaith! Roedd Sais o’r enw Brewer-Spinks newydd gyrraedd o Loegr i reoli’r ffatri ac yn awyddus i ddangos pwy oedd y bós. Ond pan wrthododd rhai o’i staff lofnodi cytundeb yn gaddo peidio a siarad eu mamiaith efo’u cydweithwyr, diswyddwyd nhw.
Dyna ddechrau helynt arweiniodd at gyfarfodydd cyhoeddus tanllyd a phrotestiadau yn lleol, a galwadau cenedlaethol am drin y Gymraeg yn gyfartal.
Dywedir fod y cyfarfodydd yma ymysg y rhai cynharaf i Gymdeithas yr Iaith annerch y dorf, a’r bygythiad cyntaf i baentio arwyddion Saesneg.
Cefnogwyd y gweithwyr gan undebau llafur, yr aelod seneddol lleol, yr archdderwydd, a chymdeithasau hyd a lled Cymru a thu hwnt. Ond yn bwysicach efallai, cythruddwyd pobl Stiniog, a daeth cannoedd allan i brotestio’r anhegwch a’r sarhad digywilydd i’w hunaniaeth.
Mae lluniau arbennig o’r protestiadau wedi ymddangos ar dudalennau Blaenau ar Facebook, fel yr isod gan Gwyn Evans...
(Nid yw’r manylion hawlfraint yn amlwg, gadewch i Llafar Bro wybod os wyddoch y manylion).
Ewch ar y we i chwilio a chael eich ysbrydoli: fod gweithredu heddychlon lleol -er gwaethaf tueddiad llywodraethau heddiw i geisio eu rhwystro- YN medru bod yn effeithiol ac yn holl-bwysig mewn unrhyw gymdeithas resymol.
Gwyddwn fod ein haliau fel Cymry dal yn y fantol, yn enwedig os gaiff plaid o genedlaetholwyr Seisnig sy’n hynod o boblogaidd ar hyn o bryd eu hethol i’n Senedd ni yn etholiad 2026.
Mae’n anghredadwy ein bod yn parhau i frwydro am gyfartaledd i’n hiaith, ond diolch i arloeswyr Tanygrisiau ym 1965 am eu safiad!
- - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025
Beryl, fy niweddar, gariadus wraig, y drydedd o'r dde yn y rhes flaen. Hiraeth mawr amdani. Rebal go iawn yr adeg hynny hefyd, yn 17 oed. Da iawn chi genod, dangos nad oeddech am ddderbyn gorthrwm yr eithafwr gwrth- Gymraeg, Brewer Spinks.
ReplyDeleteY mae Geraint Jones wedi ysgrifenu pennod am hanes Helynt Brewer-Spinks yn ei lyfr Brwydr yr Iaith 1962-67. Gwerth ei ddarllen.
ReplyDelete