9.8.23

Stolpia- melin goed Glan-y-pwll

Hen ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-Pwll, gan Steffan ab Owain

Gellir dweud bod amrywiaeth o ddiwydiannau wedi bod yn y ddwy ardal hon tros y blynyddoedd. Yn ddiau, y mae nifer o’r to hŷn yn cofio’r Felin Goed yn gweithio yng Nglan-y-pwll yn ystod y ‘40au a’r ‘50au. Sefydlwyd y felin goed gan gwmni Evan Tudor a’i fab, Trawsfynydd yn y flwyddyn 1939, ond ni chredaf iddi weithio rhyw lawer yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 

Pa fodd bynnag, cyfrifoldeb Dafydd Tudor, y mab, oedd y felin goed o ddiwedd y 40au, a byddid yn cario coed yno o gyffiniau Dolgellau a’r Ganllwyd. Yna, ar ôl i’r cwmni brynu Stâd Glynllifon yn sir Gaernarfon yn 1948 ceid dewis o goed da o’r goedlan yno ar gyfer eu llifio yn blanciau a phlociau. 

Gyda llaw, yn ôl y ddiweddar Pegi Lloyd Williams, a fu’n ysgrifenyddes iddo, ymadawodd Dafydd Tudor o’r ysgol pan oedd yn naw neu ddeng mlwydd oed a gweithiodd yn galed ar hyd ei oes. Daeth yn gryn entrepreneur a gŵr busnes llwyddiannus gyda melin goed arall yng Nghonwy, yn ogystal â rhedeg Chwarel Bwlch Slatas ar ochr y Manod Mawr. Bu hefyd yn Gynghorydd Sir a phenodwyd ef yn Uchel Siryf Sir Feirionnydd yn 1951.

Roedd llawer o’r coed yn cael eu gwneud yn byst ar gyfer y pyllau glo, ac anfonid cannoedd o blanciau i sawl rhan o’r wlad ar y trên nwyddau. Ymhlith y rhai a gludai’r coed o’r felin i Gei London a’u llwytho ar y wageni yno ceid  Richard Parry, Creigle a’i fab, Tom (Regina Coaches yn ddiweddarach).

Cofier, roedd galwad lleol hefyd am rai o’r llifwydd, megis ais ar gyfer y chwareli a bocsus ar gyfer Ffatri Metcalfe - dafliad carreg o’r lle.  
(i’w barhau).

Llyn Barlwyd- Holwyd yn ddiweddar pa bryd y torrodd argae yr hen Lyn Barlwyd ac achosi cryn ddifrod yng nghyffiniau Rhiwbryfdir a Glan-y-pwll. Digwyddodd y llyn-doriad hwn ar fore dydd Iau, 11 Gorffennaf 1861, yn dilyn glaw trwm. Llifodd y dyfroedd yn un cerrynt anferth a drylliodd y ffordd fawr rhwng Talyweunydd ac Adwy Goch, yn ogystal â gwaelod Inclên Isaf Chwarel Llechwedd. Taflodd nifer o wageni i bob cyfeiriad a chariodd goed a cherrig mawr o’i flaen nes llenwi’r ffordd. Trwy ryw drugaredd, ni anafwyd neb gan i nifer o bobl ddianc drwy eu ffenestri a dringo i ben y tai. Drylliwyd un hen dŷ ger Pont Fawr y Rhiw a chollodd llawer eu dilladau, dodrefn a bwydydd yn y cenllif.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon