21.5.17

Enillydd Ysgoloriaeth Patagonia 2017-18


Enillydd Ysgoloriaeth Patagonia eleni oedd Elin Roberts, Blaenau Ffestiniog. 

Mewn seremoni yn Siambr y Cyngor Tref dyfarnwyd y wobr iddi ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Ysgoloriaeth hon gael ei ddyfarnu, gyda gwobr o £1500 yn mynd i unigolion wnaeth argraff ar y beirniaid. Ysgoloriaeth yw hon sy’n cael ei dyfarnu yn flynyddol i unigolion rhwng 16 a 30 ac sy’n byw neu’n hanu o ardal y Cyngor Tref.

Rhaid iddynt ddisgrifio prosiect y maent am ei gyflawni sydd yn debygol o wella’r ddealltwriaeth sy’n bodoli rhwng y dref hon a’i gefeilldref, sef Rawson, ym Mhatagonia. Mae Maia Jones, enillydd y llynedd eisoes wedi ymweld â Phatagonia ac mae Elin yn gobeithio mynd ddiwedd y flwyddyn hon ac ymweld ag Eisteddfod Patagonia.

Mae Cyngor Tref Ffestiniog i’w longyfarach ar sefydlu’r ysgoloriaeth hon ac am eu gweledigaeth mewn perthynas â’r gefeillio rhwng Blaenau Ffestiniog a Rawson.

Dim ond un cynnig am yr Ysgoloraieth ddaeth i law eleni ond roedd y tri beirniad, Ceinwen Humphreys, Anwen Jones a Tecwyn Vaughan Jones yn unfryd yn eu penderfyniad i wobrwyo Elin ac yn canmol yr ymgeisydd am ei brwdfrydedd a’i gallu amlwg i fedru cyflawni gofynion yr Ysgoloriaeth.

Addysgwyd Elin yn Ysgol Bro Cynfal ac Ysgol y Moelwyn ac mae ar hyn o bryd ar ei blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn Nolgellau. Mae’n astudio Ffrangeg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Hanes a Mathamateg. Mae hefyd yn anelu ei gallu tuag at Wobr Aur Dug Caeredin ac mae eisoes yn lysgennad i S4C ar y campws ac wedi sefydlu Cymdeithas Ddadlau o fewn y Coleg.

Y Cynghorydd Annwen Daniels yn llongyfarch Elin
Mae’n berson sy’n hoffi gwirfoddoli ac mae nifer yn y dref yn ei nabod am y gwaith gwirfoddol y mae’n ei wneud. Mae i’w gweld ym Manc Bwyd Blaena’ yn ystod gwyliau’r ysgol ac mae’n selog ar Bwyllgor Gwaith yr Ŵyl Gerdd Dant a gynhelir yn y Blaenau yn 2018, ac yn brysur gyda’r Pwyllgor Cyllid a Chyhoeddusrwydd.

Mae’n canu’r delyn a'r piano ac wedi cwblhau gradd 6 telyn a gradd 7 piano. Ei bwriad yw dilyn gradd yn y Gyfraith ac mae wedi ei derbyn yn ddiweddar i Ysgol Haf y Gyfraith UNIQ yn Rhydychen ac hefyd yn rhan o gynllun preswyl APP y Gyfraith yn Llundain.

Mae Elin yn bwriadu gweithio ar gynllun fydd yn cysylltu rhai o ysgolion y fro gydag ysgol yn Rawson a hefyd cynnal sesiynau yn yr ysgolion ar ôl dychwelyd i son am fywyd bob dydd yn y dref honno.

Gellir  ymgeisio am yr Ysgoloriaeth hon ar gyfer 2018-19, o ddechrau mis Hydref ymlaen. Bydd hysbysebion yn ymddangos gyda mwy o fanylion yn ddiweddarach, ond bydd yr ysgoloriaeth yn agored i unrhyw unigolyn rhwng 16 a 30 oed ac sy’n byw neu’n hanu o ardal Cyngor Tref Ffestiniog. Mae hon yn Ysgoloriaeth sy’n cynnig cyfle gwych i ymweld â Phatagonia, felly mentrwch!                Tecwyn Vaughan Jones
------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017.
Dilynwch hanes y gefeillio efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


18.5.17

Stiniog a'r Rhyfel Mawr- colledion

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Difyr oedd darllen hanes William Jones, Bryntryweryn, Trawsfynydd, ar ei ymweliad â gwersyll milwriol Litherland, lle roedd rhai o fechgyn y pentref yn cael eu hyfforddi cyn gadael am y ffrynt. Un o’r newydd-ddyfodiaid yno oedd y bardd adnabyddus, Hedd Wyn, ac roedd William yn awyddus iawn i’w gyfarfod. Ymhen dim, fe’i harweinwyd o amgylch y gwersyll, a chael ei anfon i Hut Hedd Wyn, a chael croeso mawr gan y bardd.

Roedd y gŵr ifanc yn amlwg wedi setlo’i mewn y dda yno. Cymaint felly, fel y cyfansoddodd englyn am Wersyll Litherland i William Jones. Cyhoeddodd Y Rhedegydd yr hanes, a’r englyn ar y 3ydd o Fawrth 1917.
Gwel wastad Hutiau’n glwstwr, a bechgyn
Bochgoch yn llawn dwndwr;
Ag o’i wedd fe ddwed pob gŵr –
Dyma aelwyd y milwr.
Yn rhifyn 6 Mawrth 1917 o'r Herald, datgelwyd i'r Captain Evan Jones, erbyn hyn, Plas Cwmorthin,
gyfrannu £5 tuag at gronfa i gael cofgolofn i golledion y rhyfel o'r cylch. Ychydig wyddai Evan Jones ar y pryd y nifer uchel o enwau dynion o'r fro fyddai'n cael ei harysgrifio ar y gofeb arfaethedig honno. Os oedd dinasyddion y fro mor barod i gynnig eu gwasanaeth er budd 'eu gwlad', nid felly yr ymateb i'r alwad am roddion ar gyfer codi cofeb i golledigion y rhyfel. Ond, rhaid oedd ystyried y sefyllfa economaidd  yn yr ardal ar y pryd, gyda chymaint o ddynion allan o waith, neu wedi ymuno â'r fyddin. Fel y dywed gohebydd y North Wales Chronicle yn ei golofn 'Y Golofn Gymreig: O'r Moelwyn i'r Betws', 23 Mawrth:
Sibrydir mae pur araf ar y cyfan y daw rhoddion i law ar gyfer cofeb dewrion Ffestiniog. Dymunol fuasai gweled mwy o fywyd yn y mater. Mae ein bechgyn wedi aberthu popeth er ein mwyn ni, a'r lleiaf peth a allwn ninnau wneud yw ceisio bwrw ein ceiniogau prin i'r drysorfa er cael cofeb deilwng ohonynt ymhob ystyr. Hyderwn y penderfyna pawb wneud ei oreu yn y dyfodol.
Cyhoeddodd Y Rhedegydd dri llythyr hirfaith a anfonwyd gan filwyr o’r ardal oedd yn gwasnaethu gyda’r fyddin ar 17 Chwefror 1917. Byddai llythyrau o’r fath yn cael eu trosglwyddo gan deuluoedd y milwyr, ac ar brydiau’n llenwi mwy nag un dudalen o’r papur. Roedd ceisio cynnwys yr holl lythyrau, lluniau ac erthyglau yn ymwneud â’r milwyr yn sicr o fod yn anodd i’r golygyddion. Oherwydd prinder papur yn gyffredinol, roedd y papurau newyddion wedi gorfod lleihau nifer y tudalennau am gyfnod yn ystod y rhyfel. Nid yn unig y cynhwysai’r Rhedegydd erthyglau wythnosol am ddatblygiadau’r brwydro, roedd hefyd  dudalen reolaidd gyda naws leol arni, dan bennawd ‘Ein Milwyr’.

Yn ychwanegol, gwelid newyddion lleol yr ardaloedd eraill oedd yn nalgylch y papur, ynghyd â nifer o eitemau eraill. Yng ngholofn ‘Ein Milwyr’, cafwyd hanes y colledigion, a’r milwyr o’r fro a anafwyd, ynghyd â lluniau y rhai a laddwyd, ac eraill oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Croesawyd milwyr oedd adref ar leave o’r fyddin, a chafwyd geiriau dwys gan y golygydd yn aml, megis rhain, yn rhifyn 24 Mawrth 1917:
‘Boed cysgod y Nefoedd dros eu bywydau gwerthfawr wedi yr elent yn ôl i’r drin ofnadwy.’
Cyhoeddodd Y Rhedegydd restr o enwau’r milwyr o’r ardal a gollodd eu bywydau yn y rhyfel, y Roll of Honour yn y Saesneg, gyda dros drigain  o enwau arni hyd at yr adeg honno. Gwelwyd rhestrau eraill gyda llawer mwy o enwau’r colledigion hynny dros y misoedd dilynol.

Pedwar brawd y teulu Smart o'r Blaenau fu'n gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr. Ted, Arthur, Wil Norman ac Archie (taid Elwyn Willliams, Stryd Dorfil)  Diolch i Elwyn am y llun.
Fel un a fu'n recriwtio chwarelwyr i ymuno â chatrawd o fwynwyr i dwnelu dan ffosydd yr Almaenwyr, byddai'r Cadben Evan Jones yn sicr o gymeradwyo'r ffaith fod cynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Cenedlaethol wedi bod o amgylch y fro tua'r adeg hon i ddosbarthu taflenni i annog pobl i gynnig eu gwasanaeth er budd y wladwriaeth. Meddai'r North Wales Chronicle ar 23 Mawrth
'Dywedir nad oes ond ychydig iawn yn gwrthod rhoddi eu henwau fel yn barod i wneud rhyw wasanaeth neu gilydd i'r wlad yn nydd ei chyfyngder.'
Ysgrifenodd Lifftenant-Gyrnol C.H.Darbyshire, Penmaenmawr, lythyr i'r un rhifyn o'r papur, gyda'r newyddion fod recriwtio chwarelwyr ar gyfer y Quarry Battalion yn mynd ymlaen yn dda iawn. Yr oedd yn bersonol yn hawlio'r fraint honedig o recriwtio dros ddau gant o'i gyd-chwarelwyr, a'u hanfon i Ffrainc. Ychwanegodd fod angen mwy o chwarelwyr i ymuno â'r fataliwn honno.
--------------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

16.5.17

Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog

Crynodeb defnyddiol iawn o'r frwydr hyd yma.

Mae’r gwaith ar yr adeilad newydd yn tynnu at ei derfyn, a hynny ddwy flynedd yn hwyrach nag a gafodd ei addo. Yr Agoriad Swyddogol ym mis Medi eleni, yn ôl yr addewid diweddaraf!

Mae’n amlwg i bawb, bellach, na fu gan swyddogion y Betsi unrhyw fwriad dros y blynyddoedd i wrando ar reswm nac ar ddadleuon oedd yn groes i’w cynlluniau nhw. Fel y gŵyr pawb ohonoch bellach, ffars oedd pob ‘ymgynghoriad cyhoeddus’. O’r cychwyn cyntaf, fu arweinyddiaeth y Bwrdd Iechyd ddim yn agored nac yn onest efo pobol y cylch. Yn ôl yn 2012, er enghraifft, roedd y Prif Weithredwr ar y pryd – sef y ddiweddar Mary Burrows – yn addo mai dros dro yn unig yr oedd raid cau’r Uned Mân Anafiadau, a hynny
‘am gyfnod o 4 wythnos oherwydd absenoldeb salwch staff dros dro, er mwyn cynnal diogelwch cleifion a chefnogi staff nyrsio presennol’. 
Celwydd noeth, fel y profwyd yn fuan iawn! Dywedwyd wedyn mai ‘dros dro’ hefyd yr oedd y feddygfa yn Llan yn cau.

Celwydd eto! A phan dorrwyd ar y nifer gwlâu yn yr Ysbyty Coffa o 12 i lawr i 10, gwnaed esgus nad oedd digon o staff i gynnal y gwasanaeth llawn. Esgus a chelwydd arall!

Y ffaith oedd bod y Bwrdd Iechyd, erbyn hynny, yn cael trafferth staffio’r ysbyty newydd yn Nhremadog ac mai’r ateb hawsaf, cyn belled ag yr oedden nhw yn y cwestiwn, oedd cau’r Ysbyty Coffa a symud y tîm o nyrsys a staff profiadol oedd gynnon ni yma yn Stiniog i lawr i Alltwen. Fe ellid dyfynnu llu o enghreifftiau eraill o dwyll a chelwydd y Betsi.

Does ond rhyw 7¼ mlynedd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod i rym yn 2009 ac, yn y cyfnod cymharol fyr hwnnw, goeliwch chi fod y Pwyllgor Amddiffyn wedi gorfod llythyru efo cymaint â phump o Brif Weithredwyr gwahanol, sef Mary Burrows, Geoff Lang (dros dro), Simon Dean, David Purt a rŵan Gary Doherty, (pob un ohonynt ar gyflog o fwy na £220,000 y flwyddyn, a chynllun pensiwn yr un mor hael!) yn ogystal â phedwar Gweinidog Iechyd gwahanol – Edwina Hart, Lesley Griffiths, Mark Drakeford a rŵan Vaughan Gething.

Pa obaith, meddech chi, am sefydlogrwydd o unrhyw fath, heb sôn am weledigaeth ystyrlon? Oes ryfedd bod y Gwasanaeth Iechyd yn y fath gyflwr?      GVJ
------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill.
Dilynwch yr ymgyrch efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


11.5.17

Yr Ysgwrn -Paratoi i ail agor

Newyddion o gartref Hedd Wyn

Gyda blwyddyn y canmlwyddiant wedi cyrraedd, rydym yn edrych ymlaen i groesawu ffrindiau hen a newydd i’r Ysgwrn unwaith eto.

Wedi misoedd o chwysu, crafu pen a bwrw iddi mae’r gwaith mwyaf wedi ei gwblhau a’r hen dŷ bron yn barod i dderbyn y dodrefn teuluol a’r Gadair Ddu yn ôl i’w gôl. Bu’r adeiladwyr wrthi’n ddiwyd dros y misoedd diwethaf yn gwarchod gwead y tŷ, gwella’r adeiladau a chodi waliau cerrig traddodiadol.

Mae’r maes parcio newydd bellach wedi ei orffen, a phlant Ysgol Bro Hedd Wyn wedi bod wrthi’n brysur yn plannu coed i’w harddu. Cafodd yr hen ffordd i fyny at y tŷ dipyn o ofal hefyd, ac mae bellach yn addas ar gyfer pob math o gerbydau a bysiau – a fydd dim rhaid agor yr un giat hyd yn oed!

Rhai o blant Ysgol Bro Hedd Wyn yn plannu coed yn y maes parcio newydd

Ond y Beudy Llwyd sydd wedi gweld y newid mwyaf. Tra bo’r hen adeilad yn edrych fel beudy o’r tu allan o hyd, yma bellach y byddwch yn medru prynu eich tocyn i’r tŷ, treulio orig yn yr arddangosfa neu flasu paned a chacen leol tra’n edmygu’r olygfa. 

Wedi tipyn o waith twtio a chymoni, byddwn yn ail agor y drysau yn fuan iawn, gyda mawr ddiolch am yr holl gefnogaeth a chymorth rydym ni wedi ei dderbyn ar hyd y daith.

Bydd Yr Ysgwrn ar agor i ymwelwyr o ddydd Mawrth i ddydd Sul fel arfer, ond am ragor o wybodaeth, neu i archebu ymweliad grŵp ffoniwch Sian neu Jess ar 01766 770 274.

Apêl planhigion

Mi fu'r Ysgwrn yn apelio yn ddiweddar am blanhigion sbar o erddi ein cefnogwyr. Roeddem am blannu pethau fel coed cyrins duon a chochion, riwbob, gwsberis a'r wermod lwyd, ffiwsia, llygad llo mawr, ac ati.

Bu criw Y Dref Werdd acw i blannu gerddi’r Ysgwrn dros y Pasg, ac mae'r hanes yn rhifyn Mai Llafar Bro.
---------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill.
Dilynwch hanesion Yr Ysgwrn efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

4.5.17

Dwy stori fer

Dau ddarn o lên meicro a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2007, gan y diweddar Rhiain y Ddôl.

A WÊL Y LLYGAID
Doedd Mara ond pump oed. Arferwn adrodd chwedlau iddi am y tylwyth teg a'r cawr penfelyn, ond y tro hwn, teimlwn fel adrodd rhywbeth gwir - hanes fy mhlentyndod yng nghwm fy nechreuad - cwm o brydferthwch dihafal.

Soniais wrthi am yr afon a redai heibio'r tŷ a'r llecyn o'r golwg hwnnw lle chwaraewn dŷ bach hefo tegins fel llestri a thorchen fel torth. Gwelwn y cwbl fel darlun clir - y ffermydd, y llynnoedd a'r coed.

Penderfynais fynd â hi yno. 'Rôl taith hir a blinderus, cyrhaeddom yr union fan. Cefais ail-fyw fy mhlentyndod o'i weld drwy lygaid fy nychymyg fel yr oedd o'r blaen.

A'r gwir yw, ni welodd hi ond dŵr!


TOMI
Prin flwyddyn oedd ers pan ddaeth Mr a Mrs Prys i'r ardal - cwpwl pur fawreddog yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb. Wedi gwirioni'n lân ar Tomi - yr hwn a fagwyd yn foethus ganddynt. Yn fuan iawn, dechreuodd Tomi ddod yn boen llosg ar Ifans y Post. Cychwynnai Tomi allan pan fyddai y mwyafrif yn hwylio am eu gwelyau, ac ar ei ffordd yn ôl gyda chariad, arferent loetran dan gantel Siop y Post yn fawr eu twrw, a'i wneud yn stondin garu.

Sgrechiai ei gân 'bop' nes deffro pawb. Dro arall, deuai ar draws ei debyg i gael cwffio a rhegi, a chyn ymadael, byddai'n sicr o basio dŵr ar y drws a'i adael i redeg yn afon ddrewllyd dros y grisiau o lechi gleision. Doedd dweud y drefn yn talu dim. Roedd Tomi yn benglogaidd, rêl bwli a iob, a Mr a Mrs Prys yn credu na thoddai menyn yn ei geg.

Ond un noson, cafodd Ifans y Post lond bol ar hyn. Cododd i ffenast y llofft hefo gwn dau faril, ond chwythodd y saeth mo'r targed. Llamodd Tomi yn ddianaf i gynhesrwydd ei gartref.
Gan wireddu'r hen ddihareb - "Fel cath i gythral!"


[Llun gan Paul W]