8.8.14

Dathlu penblwydd Antur Stiniog

Darn o erthygl ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2014:

Ers sefydlu Antur Stiniog fel Menter Cymdeithasol yn 2007, dim ond ers 2 flynedd, Gorffennaf 2012, mae'r cwmni wedi bod yn masnachu, ac erbyn hyn yn cyflogi 19 o drigolion lleol trwy ei amryw weithgareddau.


Yn ôl adroddiad diweddar gan Gyngor Gwynedd mae'r Cwmni bellach yn cyfrannu yn agos i £900,000  i'r economi leol yn flynyddol, ac mae gwariant y pen defnyddwyr y llwybrau beic yn lleol oddeutu £17. Yn dilyn adroddiad yn 2007 dim ond 25c y pen oedd ymwelwyr yn gwario yn 'Stiniog. Yn amlwg mae hyn yn newyddion calonogol ond rydym fel gweithwyr a bwrdd o gyfarwyddwyr yn gwbl ymwybodol bod llawer iawn o waith i’w wneud i sicrhau bod y dref a'i thrigolion yn cael budd o'n gweithgareddau.

Llun- PW

Mae'r cwmni bellach yn rhedeg Canolfan Feicio lawr-allt Llechwedd, gan gynnwys y caffi yno; hefyd Y Siop ynghanol y dref; ac ers Mehefin yr 2il wedi ennill cytundeb  i redeg a datblygu cyfleusterau yn yr hen glwb Cymdeithasol ar lan Llyn Trawsfynydd.

Rhaid cofio mai Menter Cymdeithasol nid-er-elw ydi'r cwmni ac er yn cyflogi 19 o bobl, criw gweithgar ac ymroddgar o wirfoddolwyr lleol sydd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoi'r weledigaeth;
Y cam nesaf ydi cynnal ein gweithgareddau a'r swyddi sydd wedi eu creu. Rydym wedi rhoi cais i fewn i Gyngor Chwaraeon Cymru i ddatblygu Llwybr Llyn Tanygrisiau a cawn ateb ym mis Awst os ydym wedi bod yn llwyddiannus. Rydym hefyd mewn trafodaethau efo Network Rail a'r NDA am ddyfodol y lein rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd. Mae'n rhaid cael atebolrwydd am ddyfodol y lein yma sydd yn wastraff adnodd llwyr ar hyn o bryd.




Megis dechrau mae taith Antur Stiniog ac mae angen inni gyd gydweithio fel unigolion, asiantaethau a busnesau i sicrhau bod yr ardal a’r gymuned leol yn wirioneddol elwa o'n gweithgareddau.
Mae hi'n mynd i gymryd llawer mwy 'na llwybrau beics i adfywio'r ardal anhygoel 'ma. Da' ni'n gwbl grediniol mai dim ond drwy gweithio mewn partneriaeth byddwn yn llwyddo.



 Os oes gennych unrhyw syniad neu eisiau gwybod mwy am ein gweithgareddau, neu eisiau cyfrannu yna dewch draw am banad i'r Siop yng nghanol y Stryd Fawr, neu ffoniwch 01766 832 214 neu Ceri.c@anturstiniog.com.  Antur Stiniog, Uned 1 a 2, Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES

24.7.14

Dal dy ddwr

Rhan o erthygl o rifyn Gorffennaf 2014:

Mae cryn brysurdeb a gweithgaredd ar safle trin dŵr Garreglwyd ar hyn o bryd. Llanast ofnadwy medd rhai; ac eraill yn holi be’ ar y ddaear sy’n digwydd yno? O chwilio a holi rhyw ‘chydig, daw’n amlwg bod Dŵr Cymru yn ymestyn eu safle yno. O archwilio’r cais cynllunio, deallwn bod cronfa ddŵr newydd (tanc mawr, mewn geiriau eraill) yn cael ei hadeiladu tu cefn i’r gwaith trin, yn ogystal ag ychwanegu cabanau offer a manion eraill.

Y tu hwnt i’r datganiad cyffredinol ‘Pwrpas y datblygiad yw sicrhau bod y dŵr yfed yn cyrraedd y safonau priodol’, dwi wedi methu a chanfod pam bod angen hynny rwan, a be’ oedd yn bod ar ansawdd y dŵr gynt? Ta waeth, mi ddyliwn ymfalchïo, debyg iawn, eu bod yn buddsoddi yn ein cyflenwad.


Ond dal dy ddŵr, meddech chi!
Mae gwaith Garreglwyd ynghanol tirlun hynod o bwysig a chyfoethog yn nhermau hanes a chwedloniaeth ein milltir sgwâr. Gerllaw mae bryngaer ryfeddol Bryn Castell, lle bu’n cyndadau ni’n cynhyrchu haearn cyn -ac ar ôl- cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru. Saif y gwaith trin ar ffordd Rufeinig Sarn Helen, a ger safle tybiedig Beddau Gwŷr Ardudwy, a lleoliad darganfod carreg Cantiorix, sydd bellach yn eglwys Penmachno. Rhoddodd Parc Cenedlaethol Eryri replica ohoni a llechen i’w dehongli ar wal derfyn y gwaith dŵr yn 2006.

Llun-PW. (Gwynedd ydi ystyr Venedos)
Fel y gallwch ddisgwyl gyda datblygiad fel hyn, roedd yn destun cais cynllunio, ac er ei bod yn rhy hwyr i yrru sylwadau, gallwch weld y cynlluniau manwl ar wefan y Parc Cenedlaethol, o dan y cyfeirnod NP5/59/397C. Mae’r Parc wrth gwrs yn gwerthfawrogi gwerth hanesyddol a diwyllianol y safle, ac un o’r amodau a roddwyd ar Ddŵr Cymru oedd bod yn rhaid cynnal asesiad archaeolegol manwl cyn dechrau’r gwaith.


Mae’r llun yma gan VPW yn dangos hyd a lled y gwaith adeiladu, ac mae’r ardal reoli a storio ar y chwith yn ymddangos yn ddychrynllyd, ond ardal dros dro yw hi, gyda’r bwriad o adfer yn llwyr.

Mi holais John Roberts, archaeolegydd y Parc am ychydig o fanylion ac roedd yn barod iawn i rannu adroddiad yr asesiad, a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.  Meddai John, am ganlyniadau’r asesiad a’r ffosydd archwilio a wnaed ar y safle:
“Ni ddarganfuwyd olion archaeolegol arwyddocaol iawn ond mi deimlwyd bod dal posibilrwydd o ddiddordeb archaeolegol, ac felly awgrymais amod i gyflawni gorchwyl gwylio/watching brief , yn ystod yr adeiladu”.
Ychwanegodd: “Mae’r gorchwyl gwylio wedi cael ei wneud yn ddiweddar… Mae’n bosib bod ffos a gloddiwyd ar hyd y trac, sef llwybr Sarn Helen, yn [dangos olion] Rhufeinig ond doedd dim darganfyddiadau eraill o arwyddocâd”.

Ffosydd archwilio

Yn rhai o’r ffosydd archwilio, canfyddwyd nifer o grawiau gwastad, ac mae’r Ymddiriedolaeth Archaeolegol yn awgrymu efallai eu bod wedi eu gosod ar lawr gan y rhai fu’n cloddio am lechi yn y cyffiniau, er mwyn cludo deunydd dros ardal gorsiog. Maen nhw’n mynd ymlaen i awgrymu, oherwydd ffurf a maint y crawiau, y gallen nhw fod wedi dod o nodweddion archaeolegol fel cistiau claddu ac ati.

Os daw rhywbeth arall i’r amlwg cyn diwedd yr adeiladu, cewch ddarllen y manylion yn Llafar Bro yn y dyfodol. Yn y cyfamser, gallwch weld copïau o’r adroddiadau archaeolegol dros yr haf yn arddangosfa’r Gymdeithas Hanes.   
-PW

18.7.14

Llyfr Newydd -Elis o'r Nant

Mae ysgrifennydd Llafar Bro wedi bod yn brysur eto, ac ar Nos Lun, 21ain Gorffennaf, am 6.30 o’r gloch, bydd Vivian Parry Williams, a Gwasg Carreg Gwalch yn lansio’i gyfrol ddiweddaraf ‘Elis o’r Nant –Cynrychiolydd y Werin’, yn neuadd Sefydliad y Merched, Blaenau.


Bydd y siaradwyr gwadd Gwyn Thomas, Bruce Griffiths, a Rheinallt Llwyd yn darllen pytiau o’r gyfrol ar y noson, dan lywyddiaeth Geraint Vaughan Jones. Mae croeso i bawb ddod draw, a bydd y gyfrol ar werth yn y neuadd am £7.50.

14.7.14

Stolpia- cadw ieir yn y Rhiw!

Rhan o erthygl Steffan ab Owain, o rifyn Gorffennaf 2014, o'i gyfres am Rhiwbryfdir yn y 1950au:


Fel llawer un arall yn y Rhiw, bu fy nhad yn cadw ieir yn rhan isaf yr ardd gefn ac un o’r pethau sydd wedi aros yn fy nghof amdanynt  yw’r noson pan ymwelodd yr hen Sion Blewyn Coch a chwt y da pluog.
 
Roedd fy nhad druan yn yr ysbyty yn Llangwyfan ar y pryd yn dioddef o diciau ar ei sbein, ac felly, mam a ofalai am yr ieir. Beth bynnag i chi, anghofiodd a chau drws y cwt y noson honno a rhyw dro yn ystod tywyllwch y nos daeth yr hen gadno heibio a chynhyrfu yr holl drigolion ynddo.

Celf gan Lleucu Gwenllian Willliams

Clywodd mam eu sŵn a rhedodd nerth ei thraed i lawr at y cwt gyda ffon yn ei llaw a phwy oedd yn dod ohono â’r ceiliog coch yn ei safn, ond y llwynog.
 
Rhedodd ar ei ôl i fyny at Benycei wrth y lein fawr ac yno penderfynodd yr hen gochyn ei ollwng neu gael curfa â’r ffon, ond roedd gwddw’r ceiliog wedi ei hambygio ganddo ac nid oedd fawr o fywyd ar ôl ynddo.

Os cofiaf yn iawn,bu’n rhaid i Mr Ellis Evans, a breswyliai tros y ffordd inni, sef tad Kathleen ac Ieuan, a thaid David Clack, un o’m ffrindiau bore oes, roi tro yn ei wddw.

Bu clo ar y cwt pob nos ar ôl hyn !



Hysbysebion Coll

Yn anffodus, diflanodd tair hysbyseb o rifyn Gorffennaf, wrth fynd trwy'r wasg. Dyma nhw:







CYMDEITHAS GYN-DDISGYBLION A CHYFEILLION YSGOL Y MOELWYN

PRYD:     Bore Mawrth, 5ed Awst  2014

BLE:        Pabell y Cymdeithasau 1 ar Faes yr Eisteddfod yn Llanelli

PAM:     Cyfarfod anffurfiol pryd y datgelir enillwyr Gwobr 2014

AMSER: 11 – 12 o.g.

SIARADWYR: Dewi Lake, Sian Arwel Davies

COST:    Isafswm £2 y pen

DYMA’R TRO CYNTAF INNI GYFARFOD YN Y STEDDFOD PAN MAE YN Y DE!! 

DEWCH YN LLU

Croeso i bawb sydd â chysylltiad â’r ysgol beth bynnag eich oedran!