15.10.22

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog

Wedi cyfnod hesb oherwydd y Covid, cyfarfu y Gymdeithas Hanes yn ystod mis Awst.

Croesawyd yr aelodau i weld beth a fu'n digwydd ar safle Llys Dorfil gan aelodau o'r Gymdeithas Archeolegol. 


Arweiniodd Dafydd Roberts (Cae Clyd) ni o gwmpas y safle a oedd yn llawer mwy helaeth nac a dybid. Yr oedd gwaith y cloddwyr wedi amlygu safle fawr ac olion o nifer o adeiladu pwysig yn eu dydd. Eglurodd yr archeolegwr Bil Jones sut y tybir i'r safle edrych ganrifoedd yn ôl a rhoddodd gyd-destun iddi. Wedyn arddangosodd Mary Jones rai o'r arteffactau a ddarganfyddwyd ar y safle i ni.

Er i'r aelodau fod wedi darllen am y gwaith cloddio ac am y darganfyddiadau yn Llafar Bro dros y blynyddoedd, yr oedd cael ymweld â'r safle a gweld y gamp a gyflawnwyd gan y cloddwyr yn agoriad llygad a gwerthfawrogwyd y gwahoddiad i ymweld yn arw.

Fe drefnir rhaglen o gyfarfodydd yn ystod yr hydref/gaeaf ond y mae'r manylion llawn eto i'w cadarnhau, yn y cyfamser, trefnwyd cyfarfod awyr-agored arall ar nos Fercher, Medi 21ain gyda  Steffan ab Owain yn arwain taith gerdded o gwmpas ardal y Rhiw. Tynnodd sylw at adeiladau a safleoedd sy’n bwysig yn yr ardal hon o'r dref ac yn rhannu llawer o hanesion difyr. Bu hefyd yn gyfle i aelodau weld gweithdy David Nash yng Nghapel y Rhiw. 

Mae adroddiad am yr achlysur yn rhifyn Hydref.

- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022

 

 

5.10.22

Rhod y Rhigymwr- hen lyfrau

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Rydw i’n hynod ddiolchgar i gyfeillion am dynnu fy sylw at hen lyfrau sydd wedi cilio o gof ers blynyddoedd, ac am fod mor garedig i holi a fyddai gen i ddiddordeb i’w cael. Gwerthfawrogaf hefyd dderbyn gwybodaeth am bethau y cyfeiriais atyn nhw naill ai yn fy ngholofn neu mewn erthyglau eraill yn y papur.

Rai misoedd yn ôl, cyfeiriais at Ddafydd Nanmor, y bardd o’r 15fed ganrif oedd yn feistr ar y canu mawl ac a ystyrir yn un o’r pwysicaf o Feirdd yr Uchelwyr. Cysylltodd Kenneth Anwyl Parry efo fi, yn nodi mai ‘William Parry’ oedd enw ei dad, a’i fod o’n gallu olrhain ei achau’n ôl ymhell yng nghyffiniau Nanmor a Beddgelert. Anfonodd lun-gopi i mi o’r cysylltiadau, a gwelais mai un o gyn-deidiau Ken oedd ‘William Parry,’ a anwyd yn Nanmor a’i fedyddio yn Eglwys Beddgelert ym 1740. Bu farw yng Ngardd Llygad-y-dydd [neu , ‘Garlag-tŷ’ ar lafar], ym 1827. Tybed oedd y ‘William Parry’ yma yn un o ddisgynyddion yr hen gywyddwr?

Derbyniais gopi o ‘Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog’ [David Williams, Glasfryn, Blaenau Ffestiniog ... cyhoeddwyd 1927] ynghyd â sawl llyfryn diddorol arall gan Marian Roberts, Cae Clyd. Hwyrach y cofia rhai ohonoch i mi sôn rywdro am fy nghysylltiad teuluol efo’r bardd a’r cerddor, Eos Bradwen [1831-99]. Ymhlith y llyfrau a dderbyniais gan Marian, [oedd yn eiddo i’w thaid, John Hugh Evans], mae sgôr hen nodiant o’r gantawd ‘Owain Glyn-dŵr’ ... y libretto a’r gerddoriaeth gan yr ‘Eos’ ei hun. Fe’i cyfansoddwyd ym 1864. 

Trysor bychan arall a dderbyniais oedd ‘Huw a Beti: llyfr o ganeuon ac adroddiadau i blant bach’ gan Mrs L. M. Thomas, Penmorfa. Derbyniais hwn trwy garedigrwydd Ellen Evans, Tanymanod Newydd. Fe’i cyhoeddwyd gan Hugh Evans a’i feibion, Lerpwl. O fynd ati i chwilota, gwelais mai 1923 oedd dyddiad ei gyhoeddi. Fe’i cyflwynwyd ‘i blant Ysgol Brontecwyn, Sir Feirionnydd.’ 

Nodir mai amcan cyhoeddi’r llyfryn oedd ‘ceisio cyflenwi’r angen am rywbeth yn Gymraeg, yn ddigon syml a diddorol ei straeon a’i ganeuon, i swyno plant bach ym mhrydferthwch iaith eu mamau.’ Uwchben nifer o’r geiriau, ysgrifenwyd alawon bach tlws yng nghyfrwng y sol-ffa. Credaf i hwn fod ar iws mewn ysgolion cynradd cyn fy nghyfnod i.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1924, cyhoeddodd Mrs Thomas lyfryn arall ... ‘Y Plentyn a’r Wennol’.  Cyfeirir at eiriau cynta’r gân ... ‘Wennol. Wennol, ble’r wyt ti’n mynd?
Yn sicr, fe gofiaf ddysgu honno pan oeddwn yn blentyn. Er na chofiaf y geiriau i gyd, mae’r nodau sol-ffa’n troelli’n fy mhen y funud yma...  [mewn amseriad 6/8] ... 

s : - : m / s : - : m / r : d : r / d : - : - / r : r : m / f : - : r / m : m : f / s : - : m / s : - : m / s : - m /  r : d : r / d : - : - // ... [Dof, mi ddof i Gymru yn ôl]


Pan fo pethau fel yma’n deffro yng nghilfachau’r co, fe fydda i’n diolch am y diwylliant a drosglwyddwyd i mi’n ienctid fy nyddiau ... nid yn unig ar yr aelwyd gartref, ond yn yr ysgol gynradd yng Nghorris. Coffa da am y stôr caneuon a gyflwynwyd inni gan ein hathrawes, Mrs Lilian Briwnant Jones ... ‘Anti Lil’ i mi y tu allan i ffiniau’r ysgol, gan ei bod yn berthynas i nhad. Cawsom addysg arbennig ganddi, addysg a gyfrannodd at fagu cariad ynof at ‘y pethe.’ Cofiaf ddysgu canu’r recorder efo hi, dysgu sol-ffa, emynau, caneuon gwerin, ac ambell osodiad cerdd dant. Daeth un o’i brodyr iau, Robert Ieuan Roberts yma i’r Blaenau yn fecanic ar fysus ‘Crosville.’ Dyma dad Pat Rowlands, Llety Fadog, a thaid i ‘Dylan Delynor.’ O gofio am ddawn gerddorol ‘Anti Lil,’ ei hen fodryb, pa ryfedd fod cerddoriaeth yn llifo o fysedd Dyl!

Un gerdd fach yn llyfr ‘Huw a Beti’ ydy ‘Enwau Adar.’ Hwyrach y gallai hon fod yn ddefnyddiol i athrawon ein hysgolion er mwyn sicrhau bod plant heddiw nid yn unig yn adnabod adar, ond yn gwybod eu henwau hefyd ... a hynny yn Gymraeg:

Pa faint o adar Cymru
A fedrwch chwi enwi i mi?
Wel, yn gyntaf oll, y FWYALCHEN,
ROBIN GOCH, a’r DRYW BACH, dyna dri.

SIANI LWYD, SIGL’I GWT, a’r BENFELEN,
TITW TOMOS, a DERYN-Y-TO,
JAC Y NICOL a’r WENNOL a’r GLOMEN,
A RHEGEN YR YD a’r JAC-DO.

JI-BINC, a’r EHEDYDD a’r GWCW,
A’r FRONFRAITH mor swynol ei chân;
CRËYR GLAS, CUDYLL COCH a’r GORNCHWGLEN,
A hithau’r YSGUTHAN a’r FRÂN.

Yr WYLAN a’r TROELLWR a’r DRUDWY,
TYLLUAN a CHOBLYN Y COED,
Mae mwy o adar yng Nghymru
Nag a feddyliais erioed.

Bydd llawer ohonynt yn canu,
Ac eraill yn gweiddi yn groch,
Ond y gorau gen i o’r holl deulu
Yn wir ydyw ROBIN GOCH.

Biti garw mod i wedi ymddeol o’r llawr dysgu ers cymaint o amser! Fe fyddwn i’n sicr wedi ceisio cael y plantos i weithio ar gywaith diddorol i gyd-fynd â’r gerdd fach hoffus yma.
- - - - - - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022, a'r llun -gan Gerallt Roberts- ar y dudalen flaen.


25.9.22

Stolpia- Ogofeydd a Chrefftau

Gan fod ein colofnydd hirhoedlog Steffan ab Owain yn cymryd egwyl haeddianol, mae o wedi rhoi caniatâd i Llafar Bro edrych ‘nôl trwy’r archif a dethol darnau amrywiol o’i hen ysgrifau. 

Yn y bennod gyntaf yma, cawn bytiau o gyfres arall ganddo -Llên Gwerin- o 40 mlynedd yn ôl ym 1982, yn ogystal â darnau o gyfres Stolpia o 30 ac 20 mlynedd yn ôl, ym 1992 a 2002. 

Ogofeydd
Er fod yr ardal hon yn frith o lefelydd chwarelyddol, ychydig iawn o ogofeydd a geir yma, yn enwedig ogofeydd â hanes neu draddodiad iddynt. Gelwir dau hen ffermdy yng ngodre’r Moelwyn wrth yr enwau Ogo’ Llechwryn ac Ogo’ Oronwy ond nis gwn yn lle mae’r ogofeydd eu hunain ‘chwaith.

Cyfyng iawn yw ceg Ogo’ Stwlan heddiw ac er na fu’n ogof fawr erioed roedd yn haws cerdded i mewn iddi flynyddoedd yn ôl a chyn iddynt wneud y ffordd i fyny at y llyn. Ni chlywais am un chwedl ynglŷn â’r hen ogof ond os y cofiwch darganfyddwyd pen bwyell garreg gan R. Glyndwr Edwards ychydig bellter o’r fan honno rai blynyddoedd yn ôl pan oeddynt ar ganol gwneud y gwaith trydan.

Ogof Cwmbywydd - dywedodd un hen ŵr wrthyf fod ogof yng Ngwmbywydd (nid honno sy’ ar ochr y llwybr a olygir) a’i cheg wedi ei chuddio ag eiddew. Yn ôl yr hen gyfaill, mae’r ogof yn cyrraedd o Gwmbywydd i lawr i le gerllaw Plas Dolmoch ond nid oes neb sy’n fyw heddiw yn gwybod am ei dau ben. 

Clywais un arall yn dweud bod ogof yng nghyffiniau Cefn Trwsgwl ac i ŵr a fu’n lletya yn ‘Stiniog fynd a’i gi am dro heibio’r lle un tro a phan oedd yn mynd heibio man arbennig ar y gefnen aeth y ci i snwyro i rhyw dwll. Pan gyrrhaeddodd y dyn at y twll gwelodd bod math o risiau yn arwain i lawr i grombil ogof ond ni fentrodd i lawr y diwrnod hwnnw. Ychydig ddyddiau ar ôl iddo ddweud yr hanes hwn wrth gyd-weithiwr bu’r gŵr farw.

Crefftau llechi

Llun- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Gwnaed llawer o bethau o lechfaen gan ein teidiau, megis cloddiau, ffaniau, gratiau, pwysau papur (paper weight), atalfeydd drysau (door stops) a.y.b.

Un o’r gwrthrychau harddaf y gwelodd y diweddar Evan Williams, Talwaenydd, wedi ei wneud o lechfaen oedd ‘chest of drawers’. Gwnaed hi gan Dafydd Roberts, Tŷ Mawr, Talwaenydd ac yn argraffedig ar y ‘gist logellog’ ceid enw’r cerflunydd sef ‘David Roberts, Novbr 1867’. Tybed ymhle y mae hi heddiw? Ai ydyw wedi mynd o dan yr ordd?

 

Gwnaeth Robert Roberts (Moelwyn Fardd) lawer iawn o bethau o lechfaen, megis y garreg las gyda’r tair pluen a osodwyd ar furiau yr hen orsaf yn y Diffwys. Gwnaeth hefyd harmoniwm o lechfaen, a gwnaeth Ieuan Hengal y Traethau rigwm i’n hatgoffa o hynny.

‘Moelwyn Fardd yw’r unig Gymro
A wnaeth harmoniwm werth ei chofio
Fe ddylai hyn ei wneud yn uchel,
Gan bob dyn o fewn yr ardal.’
Un arall oedd Richard Williams (Wmffra Dafydd) yr hynafiaethydd a’r hanesydd lleol. Gwnaeth yntau lawer iawn o wrthrychau o lechfaen gan gynnwys cerrig beddi.

Wrth bori drwy lyfr cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898 sylwais fod cystadleuaeth wedi bod yno am y gorau i wneud ‘Drych mewn llechfaen’. Cynigid gwobr o £1.10s i’r gorau – ac yn ôl yr hyn y gwelais, un o’r enw W. Herbert, Caerdydd, a enillodd. Ys gwn i pwy oedd y gŵr hwn? A oedd ganddo gysyltiad a’n hardal?

Yn Eisteddfod Daleithiol Gwynedd a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog yn 1891 cynigid gwobr o 3 gini i’r gorau am arlunio ar lechen. Yr enillydd oedd W.J.Roberts, Arlunydd (a ffotograffydd?), Blaenau Ffestiniog.

Tri chan mlynedd yn ôl -mwy neu lai
Oddeutu dechrau’r ddeunawfed ganrif dim ond rhyw 80,000 o dai oedd yng Nghymru, ac amcangyfrifir fod tua 400,000 o boblogaeth yma. Wel, am braf, ynte?  Digon araf deg oedd bywyd pob dydd yn yr amseroedd hyn ... dim tensiynau ... dim ‘stress’ ... wel, yn sicr, dim cymaint ag y sydd heddiw. 

Poblogaeth plwyf Ffestiniog oddeutu tri chanmlynedd yn ôl oedd tua 460, ac yn y flwyddyn 1700 ganwyd deuddeg o blant yma a bu farw deuddeg o bobl. Ni phriododd neb yn ein plwyf yn ystod y flwyddyn 1704 na’r blynyddoedd 1709 a 1710 chwaith. Cofier, nid oedd siop o fath yma tan agorwyd siop ‘Meirion House’ tua 1726. Prif gynhaliaeth y trigolion oedd cig eu da byw ac ychydig o geirch, ac mewn degawdau diweddarach ceid ychydig o haidd a thatws, efallai.

Erbyn y flwyddyn 1780 ceid tua 54 o ffermydd a thyddynnod yn ein plwyf ac un neu ddau o fythynnod, megis Bwth y Cleiriach a’r Ysgol Newydd, efallai. Talai lle fel Plas Dolymoch rent neu dreth o tua £30 y flwyddyn, Bron y Manod £9 a Llwyn y Gell £3. Cofier, nid oedd pawb yn dlawd, ac os edrychwn ar rai o ewyllysiau pobl y plwyf gwelwn nad oeddyn ar glemio, fel y dywedir. Er enghraifft, yn 1729 gadawodd Robert Cadwaladr, Cwm Bywydd gymaint o £40 yn ei ewyllys i’w ferch Catherine, £15 i’w ferch Elen a £5 i’w ferch Margaret, a’r gweddill i’w wraig, a chredwch chi fi roedd hyn yn dipyn o arian yn y 18fed ganrif.

Cofiwch bod archif Llafar Bro ar gael i bawb yn Llyfrgell y Blaenau, wedi eu rhwymo mewn clawr caled deniadol, fesul blwyddyn, o 1975 hyd 2019. Gobeithiwn y bydd y gwasanaeth llyfrgell yn medru parhau i rwymo’r blynyddoedd i ddod hefyd.

- - - - - -

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022



20.9.22

Cynefin a Chymuned i Blant

Bu 2021-22 yn gyfnod cyffrous i ni ac i griw o blant Bro Ffestiniog wrth i ni gael gwneud gwahanol weithgareddau a chael profiadau anhygoel gan arweinwyr lleol gyda chynllun Cynefin a Chymuned i Blant. Gyda diolch i Mantell Gwynedd am ariannu’r cynllun.

Bu'm yn ymweld yn wythnosol a choedlan fach y mae’r Dref Werdd wedi bod yn ei datblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Cawsom ddysgu sgiliau newydd fel dod i adnabod coed a phlanhigion, adeiladu den, dysgu am gynefinoedd bywyd gwyllt, gwneud celf a chrefft naturiol a choginio ar dân agored.

Trefnwyd sesiynau misol hefyd dan arweiniad gwirfoddolwr lleol, a chawsom amrywiaeth dda o brofiadau i ddysgu am ein cynefin a’n cymuned leol.

Hoffem ddiolch yn fawr i bob un o’r arweinwyr - Elfed Wyn Ap Elwyn, Paul Williams, Daniel Griffith, Eurig Joniver, Catrin Roberts, Gai Toms, Sel Williams, Meilyr Tomos, criw Yr Ysgwrn, Hefin Hamer, Pred Hughes a Dewi Prysor am sesiynau difyr iawn ac am roi eu hamser i blant Bro Ffestiniog.

 

I ddathlu holl lwyddiannau’r plant dros y flwyddyn, bûm yn gwersylla am noson ym Mhenrhyn fis Mehefin. Cawsom lawer o hwyl ond dim digon o gwsg! Fe fûm yn trochi rhwydi a gweld pa fath o fywyd gwyllt oedd yn byw yn y pyllau, chwarae gemau a gwneud pilates yn yr awyr agored cyn cael siocled poeth o amgylch y tân.

Derbyniodd bawb dystysgrifau Gwobr John Muir am eu hymdrechion. 

Llongyfarchiadau mawr iddynt oll. Gan obeithio y byddwch yn mynd ymlaen i rannu eich sgiliau newydd a’ch gwybodaeth am eich cynefin a’ch cymuned gydag eraill.
Pob lwc i chi gyd a pheidiwch â bod yn ddiarth!
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022

Cliciwch ar y ddolen 'cynefin a chymuned' isod neu yn y cwmwl geiriau ar y dde am fwy o erthyglau perthnasol. (Efallai bydd angen dewis 'web view' os yn darllen ar eich ffôn).


 

15.9.22

Cynulliad Hinsawdd Bro Ffestiniog

Cadi Dafydd sy’n adrodd yr hanes 

Siarad gwag a dim digon o weithredu... dyna un o’r problemau mwyaf yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, hyd y gwela i. Mae’r ffeithiau yna mewn du a gwyn i’n dychryn ni i ymateb, ac mae nifer o’r atebion wedi cael eu cyflwyno’n glir i wladwriaethau.

Pam, felly, a finnau’n lled-sinigaidd ynghylch pwyllgora a thrafod hyd syrffed, fy mod i wedi cofrestru i fynychu Cynulliad Cymunedol Bro Ffestiniog ar yr Hinsawdd? Efallai mai’r un elfen sinigaidd sy’n perthyn i fi sydd wrth wraidd hynny, a phryder bod ymatebion llywodraethau a chwmnïau mawrion ddim yn ddigon. Rhaid felly, yn wyneb y ddrwgdybiaeth honno, weithredu’n lleol.

Nod a phwrpas mudiad GwyrddNi yw hybu, hwyluso a chyd-lynu gweithredu cymunedol i drio gwella’r sefyllfa, a dros y tair wythnos ddiwethaf, mae tua 50 o drigolion Ffestiniog wedi bod yn dod ynghyd yn y Ganolfan. Mae trafod gyda llond stafell o bobol sy’n rhannu’r un dyhead i weld dyfodol gwell wedi bod yn chwa o awyr iach, a gweld awch yn y gymuned i rannu arfer da, wedi bod yn braf.

Cawsom sgwrs ddifyr gan Ceri Cunnington wnaeth danio awydd i weithredu’n lleol, a’n hatgoffa am yr holl adnoddau sydd gennym ni yma’n barod i hwyluso hynny. Mewn grwpiau, buom ni’n trafod yr adnoddau naturiol a’r seilwaith sydd gennym ni yn yr ardal i helpu’r hinsawdd, yn ogystal â thrafod yr hyn y gellir adeiladu arno.

Yn y drydedd sesiwn, daeth panel o arbenigwyr ar natur ac amaeth o’r ardal atom i’n hatgoffa bod rhaid i’r ymateb i newid hinsawdd fod yn un sy’n mynd tu hwnt i ystyriaethau dynol. Cafwyd sgwrs gan Bini Jones, sy’n ffermio’n organig yn Nhŷ Isa; Ryan Williams sy’n gweithio gyda Bini; y Cynghorydd Elfed ab Elwyn, sy’n ffermio yn Nhrawsfynydd; a Catrin Roberts, sy’n arbenigo ar rinweddau planhigion, am rôl y byd naturiol a ffermio yn yr ymateb.

Wrth adael gyda llond ein boliau o datws pum munud, roedd yna deimlad o fod eisiau gweithredu gyda sawl aelod yn barod iawn i rannu eu harbenigedd ac eraill yr un mor barod i ddysgu a gweithredu. Gobeithio y bydd y sesiynau nesaf yn gyfle i roi’r maen i’r wal go iawn.

10% cyfoethocaf y byd sy’n gyfrifol am tua hanner allyriadau carbon y byd, ac felly yn dal yr allwedd i gyfran helaeth o’r datrysiad. Ond, dw i’n sylweddoli hefyd bod yn RHAID i bob un wan jac ohonom ni weithredu. Ac mae un peth yn sicr o’r Cynulliadau, mae yna gyfoeth o frwdfrydedd yn ein congl fach ni o’r byd dros weithredu.

I ddysgu mwy am GwyrddNi ewch draw i www.gwyrddni.cymru neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. 

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022