9.10.21

Rhod y Rhigymwr- Hiraeth am Eisteddfod

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Anodd credu fod bron 34 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i Gwmni HTV Cymru redeg y gyfres rhaglenni cwis ‘Profi’r Pethe’. Cwis oedd hwn i brofi gwybodaeth am yr Eisteddfod Genedlaethol er pan fu iddi ddod yn Ŵyl flynyddol ym 1880, ynghyd ag agweddau eraill oedd yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg. Gofynnwyd i’m cyfaill, John Bryn Williams ffurfio tîm o dri, a chafodd Phil Mostert a minnau ein dewis ganddo. 


Yr Athro Derec Llwyd Morgan oedd y cwis-feistr, a’r diweddar gyn-Archdderwydd Selwyn Iolen oedd yn gosod y cwestiynau. Eifion Lloyd Jones oedd yn cynhyrchu. Er mawr syndod a llawenydd, fe fu inni lwyddo i drechu sawl tîm ar ein siwrne i’r rownd derfynol, ac fel pencampwyr, derbyn cyfrol … ‘Cerddi Saunders Lewis’ [argraffiad Gwasg Gregynog] bob un.

Roedd y tri ohonom yn ein tri-degau yr adeg honno, ac fe’u cawsom hi’n weddol hawdd i gofio manylion pob Prifwyl … pwy oedd enillwyr y prif wobrau ac ymhle y cynhaliwyd yr eisteddfodau, a dadansoddi ambell gliw cryptig oedd wedi ei saernïo’n gyfrwys gan Selwyn. 

Roeddwn yn brif athro yn Ysgol Bro Cynfal ar y pryd, a chofiaf fel y byddwn yn gofyn i gyd-aelodau o’r staff ac eraill o’m cydnabod pa flwyddyn y cawson nhw’u geni. Byddwn innau’n ymateb wedyn efo’r manylion ble cynhaliwyd yr Eisteddfod, pwy enillodd y gadair a phwy enillodd y goron. Do, cafwyd llawer o hwyl!

Ers 1880, dim ond dau fwlch ddi-eisteddfod a gafwyd, a hynny o achos dau Ryfel Byd, sef 1914 a 1940. Afraid ydy dweud fod dau fwlch arall bellach wedi eu hychwanegu at y rheiny, sef 2020 a 2021. 

Bellach, rhaid byw mewn gobaith y cawn ni fynd i Dregaron yn 2022!
Dyma symbylodd y dasg a osodais yn rhifyn Mehefin … gorffen pennill yn dechrau efo:

Rhaid aros blwyddyn arall
Cyn cawn ni roddi tro
I ‘Steddfod Sir y Cardis

Hyfryd ydy cael croesawu CLIFF O’R BONT yn ôl. Cyfaddefa mai anodd fu dychwelyd wedi’r brofedigaeth a wynebodd ynghynt eleni, pryd y collodd ei annwyl briod, Iona. Cyfeiriwyd at hyn yn fy ngholofn Mis Mawrth. 

Rhaid aros blwyddyn arall
Cyn cawn ni roddi tro
I ‘Steddfod Sir y Cardis

Achos yr hen ‘bo-bo’;                   
A’r peth pwysica’ rŵan    
Fydd difa’r felltith gudd,
A rhuo canu’n hanthem                  
Yn ‘Steddfod Cymru Rydd.

Dyma blethu’n dwt obaith pob un ohonom i gael gwared â’r pandemig a’r deisyfiad i weld ein gwlad yn rhydd o grafangau pob gelyn arall.

Mae ARTHUR O FACHEN hefyd yn gweld eisiau’r Ŵyl, ac mewn pennill bach tlws, yn awchu am gael dychwelyd at normalrwydd unwaith yn rhagor:

Rhaid aros blwyddyn arall
Cyn cawn ni roddi tro
I ‘Steddfod Sir y Cardis

A golygfeydd eu bro.
Cawn brofi sain cystadlu
A’r miri ar y Maes,
A gwleddoedd hen draddodiad
Pob Cymro a Chymraes,
A’r dorf yn trafod gyda gwên
O’r Pafiliwn i’r Babell Lên.

Am y tro cyntaf un, hyfrydwch ydy cael estyn croeso i RICHARD O’R BAE i Rod y Rhigymwr. Deallaf mai un o hogiau Pengwndwn ydy Richard Jones yn wreiddiol, er iddo fod yn byw yng nghyffiniau Bae Penrhyn ers sawl blwyddyn. Hoffaf yn fawr y modd y crisialodd yntau’r gobaith y cawn weld Prifwyl yn fuan … y flwyddyn nesa’ os Duw a’i myn:

Rhaid aros blwyddyn arall
Cyn cawn ni roddi tro
I ‘Steddfod Sir y Cardis

A gweld mwynderau’r fro
Eisteddfod ddaw, rwy’n siŵr o hyn,
Daw unwaith eto haul ar fryn.

Ganrif yn ôl i eleni, tre Caernarfon oedd lleoliad y Brifwyl. Soniais yn Rhifyn Chwefror 2020 am bryddest CYNAN, ‘Mab y Bwthyn,’ a gipiodd y goron yno.
Bardd y gadair oedd Robert John Rowlands, a adwaenir yn well dan yr enw barddol, MEURYN. Gŵr o Abergwyngregyn, Bangor ydoedd, a newyddiadurwr o ran galwedigaeth. Pan gadeiriwyd ef am ei awdl delynegol ‘Min y Môr,’ roedd newydd ddechrau ar ei swydd fel golygydd Yr Herald Gymraeg yng Nghaernarfon. Daeth wedyn i fri fel awdur cyfres o nofelau dirgelwch i blant hŷn ac fel beirniad Ymryson y Beirdd ar y radio. Ef hefyd fu’n gyfrifol am y golofn ‘Cerdd Dafod’ yn wythnosolyn Y Cymro. Bu farw’n henwr 87 oed ym 1967.

Mae ei awdl yn disgrifio hyfrydwch natur. Hwyrach nad oes llawer o arbenigrwydd yn perthyn iddi, ond erys y cywydd canlynol ar gof llawer ohonom:

Gwelais long ar y glas li
Yn y gwyll yn ymgolli;
Draw yr hwyliodd drwy’r heli
A rhywun hoff arni hi;
Dűwch rhiniol dechreunos
Leda’i law dros ei hwyl dlos.

Hwylia’r llong yn ôl o’r lli –
Dawnsia’r don asur dani;
Daw yn ôl o dan heulwen,
A’r awel iach ar hwyl wen;
A daw gwynfyd eigionfor
I minnau mwy ym min môr.

Gwnaeth erthygl SIMON CHANDLER … ‘Diogelwn’ gryn argraff ar ddarllenwyr Llafar Bro y mis dwytha. Ystyriwn pa mor hanfodol ydy cadw’r enwau gwreiddiol ar dai a thyddynnod ein gwlad, a gwrthod gadael i’r un estron eu disodli. Ar Ynys Môn yn ddiweddar, ail-enwyd tŷ yn ‘Llan Tropez!’  A dyma ymateb Simon i hynny ar ffurf gryno deng-sillaf-ar-hugain englyn grymus, gafaelgar arall o’i eiddo:

Llan Tropez … 

Ar dân o’r gogledd i’r de, rhyw feirws
ar furiau sawl cartre’,
un aflan, taer am gyfle:
gwewyr pur yw Llan Tropez.

-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021



5.10.21

Blas o Waith Cwmni Bro

Mae ‘na lwyth o newyddion da wedi dod o waith a phrosiectau y rhwydwaith cymunedol! Dyma flas o be' sydd ar y gweill.

Ymchwil Cymunedol

Ers rhai wythnosau, mae Cwmni Bro wedi bod yn cynnal ymchwil i ddarganfod barn pobl leol am y gymuned. Bydd yr atebion yn helpu i’r mentrau cymunedol ddeall beth sydd wir o bwys i’r gymuned, ac yn helpu i siapio datblygiadau cymunedol y dyfodol.

Sganiwch y côd ‘QR’ ar ein hysbyseb i lenwi’r holiadur ar y wê, neu cysylltwch â Chwmni Bro i gael copi papur!


Y camau nesaf fydd cynnal grwpiau ffocws i drafod y cwestiynau a rhannu syniadau – plîs cysylltwch os ydych chi’n aelod o gymdeithas neu grŵp sydd â diddordeb.

Hen Eglwys Llan

Ar ôl misoedd o waith adnewyddu ahnygoel, mae hen Eglwys Sant Mihangel Llan Ffestiniog bron yn barod i agor ei drysau unwaith eto fel gofod i’r gymuned.
Yn yr haf, cynhaliwyd weithdai adeiladwaith traddodiadol i ddatblygu sgiliau’r mynychwyr tra’n parhau efo’r adfer allanol. 

Mae’r perchnogion newydd yn awyddus i glywed syniadau trigolion yr ardal am sut gall yr adeilad gael ei ddefnyddio er budd y gymuned, a felly cafwyd sesiwn drafod yn y Llan. Os nad oedd modd i chi ymuno, cysylltwch â ni ar 831 111, neu drwy ebostio cwmnibro@cwmnibro.cymru i ychwanegu eich syniadau!

Blaentroed 

Mae’r cynllun Blaentroed yn rhedeg gyda mwy o stêm na thrên bach Ffestiniog. Hyd yma, mae ambell i berson ifanc wedi cychwyn eu gwaith, a llwyth o swyddi amrywiol eraill –o weithio yn y Siop Werdd i fod yn dafluniwr yn Sinema CellB- yn cael eu hysbysebu. 

Mae’r swyddi’n agored i bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd ar gredyd cymhwysol, ac yn cael eu hysbysebu drwy’r ganolfan waith ym Mhorthmadog.



1.10.21

Y Dref Werdd dros yr haf

Dod yn ôl at dy Goed

Braf iawn oedd gallu gweithredu ar ein cynllun presgripsiynu gwyrdd newydd, Dod yn ôl at dy Goed, ym mis Mai, ar ôl clo arall hir yn cynllunio.

Mae hwn yn gynllun ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo fel dod i dreulio ychydig o amser yn yr awyr agored, i ddysgu a rhannu sgiliau, mwynhau natur a chael cyfle i gymdeithasu unwaith eto mewn awyrgylch gyfeillgar a diogel. 

Mae’r budd sydd i’w gael o fod ym myd natur yn enfawr – mae’n gallu lleihau straen, codi imiwnedd a gwneud y byd o les i’r corff a’r meddwl. Mae pawb sydd wedi bod yn mynychu yn elwa ohono’n barod ac yn bendant, rydym ni fel staff yn cael budd hefyd! 

Hyd yn hyn rydym wedi cynnal nifer o sesiynau ‘Panad yn y Coed’ ynghŷd ag ymweliad i fferm Pen y Bryn, sesiynau casglu sbwriel, Pilates, symudiadau Tai Chi, plannu’r wal werdd yng nghanol y dref a chwynu a phlannu yn yr ardd berlysiau wrth y Llyfrgell. 

Mae llawer o gyfleoedd eraill i ddod hefyd – cadwch lygad am ein rhaglen fisol, neu cysylltwch er mwyn iddo gael ei anfon yn uniongyrchol atoch yn fisol. 

Y Wal Werdd 

Gyda help gan wirfoddolwyr o bob oed, cafodd 160 o focsys a dros 350 o blanhigion eu plannu yng nghanol y dref dros yr hanner tymor.  Mae'r gwyrddni ynghyd â'r murluniau newydd ar waliau caffi Antur Stiniog yn ddathliad o hanes a threftadaeth y Fro.  


Medd Nina, un o griw y Dref Werdd:

Mae hwn wedi bod yn ymdrech ryfeddol, gydweithredol yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Y Dref Werdd, Antur Stiniog, Cwmni Bro, Canolfan Arddio Bryncir, ac yn bwysicaf oll, aelodau o'r cyhoedd a gwirfoddolwyr lleol. Yn bersonol, rydw i wir wedi mwynhau gweithio ar y prosiect hwn. Mae'n atgoffa ni y gallwn ni i gyd fwynhau bod ychydig yn fwy gwyrdd, ychydig yn fwy ymwybodol o'n hamgylchedd a natur.  Mae’r gwenyn a gloÿnnod byw eisoes yn mwynhau! Rwy'n gobeithio bod pobl Blaenau yn teimlo'n falch iawn ohono. Rwy'n gwybod fy mod i.”    
Diolch enfawr i Nina, yr oll wirfoddolwyr, a gweddill criw Y Dref Werdd am eu gwaith gwerthfawr. Ariannwyd y wal gan gronfa Adfywio Canol Trefi Cyngor Gwynedd.

Sgwrs

Mae cynllun Sgwrs yn parhau yn llwyddianus gyda dros 250 awr wedi ei gyflawni bellach! Cofiwch gysylltu hefo ni os ‘da chi’n hoff o sgwrsio... neu wrando! Diolch i’n holl wirfoddolwyr sydd wedi ac sy’n parhau i roi cefnogaeth a charedigrwydd i eraill yn ystod yr amser rhyfedd hwn.

Digidol

Mae gennym ddigon o ddyfeisiau digidol ar gael i’w benthyg i rywun sy’n awyddus i fynd arlein. Rydym hefyd yn apelio am wirfoddolwyr i helpu’r bobl hynny i ddysgu defnyddio’r dyfeisiau. Cysylltwch os oes angen benthyg dyfais arnoch neu os ydych yn awyddus i helpu.
07385 783340     hwb@drefwerdd.cymru

Eda’ Eco

Mae Eda’ Eco bellach wedi agor! Gofod gwnïo, creu a chymdeithasu i’r gymuned sydd wedi ei leoli ar lawr cyntaf y Siop Werdd. Mae yno ddau beiriant gwnïo gyda’r holl offer a deunyddiau y byddwch angen i drwsio neu greu fel y mynnwch!
Cysylltwch â’r Siop Werdd i ddefnyddio’r gofod – 01766 830750.
--------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021



24.9.21

Safle Treftadaeth y Byd

Fel y gwyddom bellach, bu’r ymgais i sicrhau dynodiad Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn llwyddianus gyda UNESCO yn rhoi eu penderfyniad cadarnhaol ddiwedd Gorffennaf. Yr ardal lechi yw pedwaredd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru, yn ymuno â llefydd fel Wal Fawr Tsiena, a’r Taj Mahal ar y rhestr rhyngwladol.  

Inclên enwog y Greigddu, a'r Blaenau yn y cefndir. Llun Paul W
 

Rhoddodd ein hardal do ar y byd, ac mae’r dirwedd llechi yn cael ei dathlu am ei chyfraniad byd eang yn darparu deunyddiau, pobl, sgiliau a thechnoleg i bedwar ban byd yn ystod y 19eg ganrif, yn ogystal a dathlu ein diwylliant, iaith a thraddodiadau arbennig sydd wedi siapio a diffinio ein cymunedau.

Y diwydiant llechi oedd y Cymreicaf o ddiwydiannau mawr Cymru a dyma’r ardal sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg heddiw; Mae dros i 70% o boblogaeth dyffrynnoedd llechi Gwynedd yn siarad Cymraeg, ac yn rhywbeth rydym yn ymfalchïo ynddi.

Fel rhan o ddatblygu’r dynodiad, mae Cyngor Gwynedd ac ystod o bartneriaid wedi bod yn cydweithio gyda chymunedau o fewn chwe ardal y cais ar y cynllun ‘LleCHI’ i ailgysylltu pobl gyda’u treftadaeth gyfoethog, i godi hyder a balchder ymysg trigolion a sbarduno adfywiad ein cymunedau.  Y murluniau ar siop Antur Stiniog ydi un o weithgareddau diweddar y cynllun yn Stiniog. 

 

Llun Cyngor Gwynedd

Hefyd, rhoddwyd brofiadau i bobl ifanc Bro Ffestiniog i ddysgu mwy am eu hanes a’u treftadaeth drwy gefnogi gweithgareddau Clwb Clinc, Cell a oedd yn cynnwys cerfio a hollti llechi, cyfweliadau, creu fideos byw ac ymgyrchoedd lleol.
Gwenan Pritchard, Cydlynydd Llechi Cymru.

----

Llun Paul W

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog

Mae’r gymdeithas yn cyd-weithio ar hyn o bryd efo Cyngor Gwynedd i ddiweddaru ac ail-argraffu y llyfryn Diwylliant Ymysg Diwydiant - sydd yn manylu ar y dywediadau a geir ar hyd y stryd. 

Fe'i cyhoeddir ar ei newydd wedd yn fuan iawn - ar yr un pryd ac y cytunir i'r cais i ddynodi Ardaloedd y Llechi ar restr Treftadaeth y Byd gobeithio.


----

Effeithiau Negyddol?
Nid pawb sy’n teimlo bod y dynodiad yn llesol, gyda’r mudiad Cylch yr Iaith, er enghraifft yn gweld peryglon difrifol yn codi o or-dwristiaeth ac angen mesurau penodol i warchod y cymunedau.

Dyma grynodeb o’r hyn oedd gan eu llefarydd, Howard Huws, i’w ddweud wrth Llafar Bro:
Mae nifer o fesurau y mae’n rhaid i Gyngor Gwynedd eu gweithredu er mwyn sicrhau na fydd y dynodiad yn cael effeithiau niweidiol ar ein cymunedau a’n hiaith. Mae’n eironig bod UNESCO ei hun, mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn gosod y Gymraeg yn y dosbarth ‘Bregus’ ar ei restr o ieithoedd Ewropeaidd sydd mewn perygl o ddiflannu.

Mae perygl i’r ardaloedd llechi ddod yn fwy o gyrchfannau gwyliau nag y maent eisoes. Mae Croeso Cymru â chwmni Twristiaeth Gogledd Cymru yn amcanu denu mwy fyth o ymwelwyr i ardaloedd fel Blaenau Ffestiniog os bydd yr enwebiad yn llwyddiannus.

Gan hynny, mae angen i Gyngor Gwynedd ateb y ddau gwestiwn canlynol:

1.    Sut mae’r Cyngor am sicrhau na fyddai mwy o stoc dai y Blaenau a’r cylch yn troi’n ail gartrefi a thai gwyliau tymor-byr, a dwysáu’r argyfwng tai? Mae astudiaeth academaidd yn dangos bod nifer dda o ymwelwyr i ardal yn dewis prynu tŷ yno fel ail gartref.

2.    Sut mae Cyngor Gwynedd yn mynd i sicrhau na fyddai denu mwy o ymwelwyr yn cynyddu’r mewnlifiad Saesneg ac felly’n gwanychu’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol? 

Cafwyd astudiaeth gan Bwyllgor Cludiant a Thwristiaeth Senedd Ewrop yn cyflwyno tystiolaeth fod Safleoedd Treftadaeth y Byd yn dioddef effeithiau gor-dwristiaeth, a bod Cymru eisoes yn un o'r lleoedd yn Ewrop sy’n amlygu hynny.

Mae’r duedd i ail gartrefi a thai gwyliau gynyddu mewnlifiad parhaol wedi’i dwysáu gan y pandemig, wrth i ragor o bobl ddod yma ar wyliau yn hytrach na mynd dramor; wrth i ragor benderfynu ymddeol yma’n gynnar; a rhagor symud i fyw yma a gweithio o gartref. Mae hynny’n codi prisiau eiddo, ac yn  gwaethygu’r argyfwng tai oherwydd na all pobl leol fforddio prynu tŷ yn eu hardal eu hunain.

Sut mae atal hynny? Rhaid i Gyngor Gwynedd gymryd camau a gosod mesurau penodol yn eu lle er mwyn sicrhau na fyddai’r dynodiad yn cael effeithiau negyddol ar y gymuned, er enghraifft gwneud Cyngor Tref Ffestiniog yn rhanddeiliad yn y Safle Treftadaeth y Byd trwy roi lle i’w cynrychiolwyr ar y Bwrdd Rheoli. Byddai hynny’n eu galluogi i fynegi barn gymunedol ar strategaeth, prosiectau a datblygiadau; Ail-lunio methodoleg yr asesiad ardrawiad iaith presennol fel ei fod yn llawer cadarnach, er mwyn gwneud yn siŵr na fyddai datblygiadau tai a datblygiadau twristaidd yn niwediol i’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Wedi’r cyfan, ein hiaith ydi ein treftadaeth gyfoethocaf fel bro ac fel gwlad, ac mae ei sefyllfa’n fregus. 

Gofynnwn i Gyngor Gwynedd ddangos ymrwymiad i wneud popeth sydd ei angen i sicrhau na fyddai dynodi ardaloedd y llechi yn Safle Treftadaeth y Byd yn gam a allai wneud sefyllfa’n hiaith yn fwy bregus fyth.
-----
Be ydi barn darllenwyr Llafar Bro? Gyrrwch air atom.


- - - -

Addasiad yw'r uchod o ddarnau a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021



17.9.21

Crwydro -Rhiwbach

Cyfres newydd am lwybrau'r fro.

Ar ôl prynu esgidiau cerdded newydd i’n teulu bach o bedwar, roedd rhaid mynd i chwilio am antur! Wrth fynd am dro uwch ben Llan Ffestiniog mi wnaethom ni ddarganfod hen chwarel Rhiw Bach. 

Roedd yr hen chwarel yn anhygoel ac yn llawn hanes. O enwau wedi cael ei cerfio mewn hen lechi, i hen hoelion wedi cael ei cuddio yn y waliau. 

Lluniau uchod gan Eirian Daniels Williams

Oes unrhyw un yn adnabod yr enwau yma sydd wedi ei naddu yn y waliau? Neu yn gallu rhannu ychydig fwy o hanes i ni am yr hen chwarel yma?  

Eirian Daniels Williams

 

Chwarel Rhiwbach yn y pellter, a chwarel Blaen y Cwm. Llun Paul W

Mae criw Llafar Bro yn cytuno efo chdi Eirian; mae Rhiwbach yn lle arbennig iawn, ac er ym mhlwyf Penmachno, mae cysylltiadau agos iawn ag ardal Stiniog yn hanesyddol, ac mae’n gyrchfan braf ar daith gerdded o’n hochr ni o’r mynydd.

Os ydi darllenwyr eraill Llafar Bro awydd mynd am dro, mae’n ddigon hawdd cyrraedd yno o ben uchaf Cwm Teigl: parciwch wrth fynedfa Chwarel Bwlch a dilyn y lôn drol i’r gogledd nes cyrraedd ffordd haearn Rhiwbach a throi i’r dde. Mi fyddwch yn fuan iawn ar ben uchaf inclên Rhiwbach, yn edrych dros yr hen chwarel a’i hadeiladau niferus. 

I’r rhai sy’n chwilio am daith hirach, gallwch gychwyn o Drefeini a chyrraedd ffordd haearn Rhiwbach trwy Chwarel Maenofferen. Cewch fwynhau’r daith heibio adfail Tŷ’r Mynydd (dyna le anhygoel i fyw!) a Llyn Newydd a Llyn Bowydd, a gweld golygfeydd gwych i bob cyfeiriad.

Mi ddylia fod copi o lyfr y diweddar Griff Jones, Cae Clyd (Rhiwbach Slate Quarry: Its history and development, 2005) yn y llyfrgell, ac o bosib yn Siop Lyfrau’r Hen Bost, ond yn y cyfamser mae Vivian, is-ysgrifennydd Llafar Bro wedi sgwennu’n helaeth am Rhiwbach hefyd.

Fel mae’n amlwg o brif stori rhifyn Gorffennaf/Awst, mae CADW, corff henebion llywodraeth Cymru, hefyd yn cytuno efo Eirian bod Rhiwbach yn arbennig. Diolch am rannu hanes eich taith; be am i ddarllenwyr eraill Llafar Bro yrru pwt o hanes un o’ch teithiau diweddar chithau?

Clwb Mynydda Cymru
Rhai eraill sydd wedi bod yn crwydro’n lleol yn ddiweddar ydi Clwb Mynydda Cymru. Mae’r aelodau wedi ymweld ddwywaith â Chwm Cynfal a Llyn Morwynion, gan gychwyn o’r Pengwern i Geunant Cynfal, heibio Pulpud Huw Llwyd, a dringo hyd at Lyn Morwynion a dychwelyd heibio Garreg Lwyd, Hafod Ysbyty a Chwm Teigl. Ar Orffennaf 14eg mi oedden nhw’n crwydro Bryniau Maentwrog, ac ar Sul y 18fed yn gwneud taith go heriol am 12 awr o ganol y Blaenau hyd bob un o gopaon Pedol Stiniog. Ewch i’w gwefan am fanylion pellach.

Cymdeithas Edward Llwyd
Ar y 12fed o Fehefin bu Cymdeithas Edward Llwyd yn crwydro Tanygrisiau a’r Llwybr Llechi, - cylch o gwmpas Dolrhedyn, Cwm Rhiwbryfdir, Tanygrisiau, Fron Fawr a Chefn Bychan- dan arweiniad Iona Price. Nid oes amnylion ar hyn o bryd am raglen haf y gymdeithas ond cadwch olwg ar eu gwefan hwythau.

---------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021