25.10.22

ATOMFA ARALL?

Be ydi'ch barn chi am ddatblygu adweithyddion bach modiwlar -small modular reactors- yn Traws? Peth da ar gyfer swyddi? Syniad gwael i’r amgylchedd a diogelwch? 

Llun Paul W
 

Pan adeiladwyd yr atomfa yn wreiddiol roedd cryfder yr iaith yn ein cymunedau yn ddigon i ddygymod efo’r gweithlu diarth anferth. Ydi hynny’n wir os bydd adeiladu ar raddfa fawr yno eto?

Oes cyfiawnhad i ddatblygu adweithydd arall cyn bod gwastraff y cyntaf wedi’i waredu’n ddiogel? Sut fyddai atomfeydd newydd yn effeithio ar uchelgais rhai yng Nghymru i fod yn genedl annibynol? Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd pan ofynnodd Llafar Bro am farn pobl leol.

Er mwyn adlewyrchu pob barn yn deg, rhoddwyd cais yn rhifyn Gorffennaf-Awst, ac ar ein cyfryngau cymdeithasol am sylwadau, ac mi gafwyd nifer o ymatebion. Diolch i bawb am gyfrannu. 

Doedd Diana ddim yn hapus amdano o gwbl, a Vivian yn gresynu am dorri addewidion ‘y byddai adweithyddion yr orsaf bresennol a gweddill yr adeiladau yno wedi eu chwalu i'r llawr ymhen deng mlynedd o gychwyn y digomisiynu’. Roedd hefyd o’r farn bod ardaloedd fel y Blaenau a'r fro yn cael eu cadw’n ddifreintiedig, er mwyn ‘sicrhau y bydd cynlluniau peryglus fel hwn yn cael eu derbyn yn ddiwrthwynebiad!

Mae Dyfed ar y llaw arall, yn hollol gefnogol o’r syniad o atomfa newydd, ac o’r farn y daw a ‘gwaith sydd yn talu cyflogau da i bobl leol. Mae canran fawr sydd yn gweithio yn Traws ar y funud yn Gymry Cymraeg (“tua 90% or gweithwyr ‘swn i yn amcangyfri yn lleol” (Gwynedd/Môn/Conwy)’.

Medd David: 'Os ydy o’n saff (ac efo technoleg di gwella ers y 60au fedra'i ddim gweld pam sa fo ddim) a fod yna addawiad i roi canran da o'r swyddi i bobl lleol (cynnig 'academi' hyfforddi am y dyfodol hefyd) dw'i yn gefnogol’. 

Fy marn personol i’ medd Mari ydy fod y safle yn bodoli yn barod, a byddai unrhyw ddatblygiad newydd yn fuddiol i weithwyr/prentisiaeth i bobl leol’ gan ychwanegu: ‘Ond, yn y pendraw y peth pwysica' ydy pwy sy'n mynd i elwa o'r egni a gynhyrchir yno? Os mai ar ei'n stepan drws ni mae'r pwerdy, ac unrhyw risgiau cysylltiedig siawns mai NI ddylai weld y buddianau!?

Holi mae Calvin a fydd y gwaith yma ar gael i weithwyr lleol? Achos mae’r mwyafrif o’r ‘agencies’ ‘ma yn dod a gweithwyr efo nhw o ardaloedd eraill...’

Mae Marcus wedi gweithio i Magnox ers yr wythdegau, ac yn gefnogol. Heblaw am y gwaith a’r arian fydd yn dod i’r ardal, dwi yn meddwl bod ynni niwcliar newydd yn hanfodol i’r cymysgiad i gynhyrchu ynni ‘gwyrdd’, ac hefyd’ meddai ‘yn ddefnyddiol i gynhyrchu hydrogen fforddiadwy fel sgil-gynnyrch’.

Teg felly, ydi awgrymu fod y farn wedi’i hollti yn lleol.

Mae dau wedi ymateb yn fwy cynhwysfawr, felly dyma adlewyrchu eu barn hwy isod, gan obeithio fod hyn yn fodd i gychwyn trafodaeth pellach yn lleol. Mae’n wirioneddol bwysig i ni sy’n byw yma, i gynnal y drafodaeth a chyfrannu at y penderfyniadau pwysig am sut mae ein bro yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio.

Mae Meilyr Tomos yn arbenigwr ar ynni adnewyddadwy, ac roedd yn gweithio efo’r Dref Werdd yn Stiniog tan yn ddiweddar iawn. Mae o wedi ymchwilio i’r math o adweithydd sydd dan sylw, ac mae’n amheus o’r addewidion am swyddi: Yn ôl Rolls Royce, gwneuthurwyr y dechnoleg newydd, mae tua 90% o’r gwaith cynhyrchu ac adeiladu’r offer yn digwydd mewn ffatri ac nid ar y safle, felly nid yn lleol fydd y swyddi adeiladu ar y cyfan. Mae’r cwmni angen 16 lleoliad er mwyn cael ad-daliad ar eu buddsoddiad hwy yn y dechnoleg; ydi hynny’n awgrymu angen masnachol yn hytrach na gwir angen yr egni..? 

Dwi’n gwbl hyderus’ medd Meilyr ‘y gallwn ni ddiwallu ein anghenion trydan lleol trwy ffynonellau adnewyddol, a hynny am brisiau teg, heb orfod talu am dividends i gyfranddalwyr cwmniau rhyngwladol. Mae angen datblygu grid egni lleol; gall hyn fod trwy grid ‘rithiol’ gan ddefnyddiol is-adeiledd bresennol, neu weithiau trwy gyswllt newydd lleol’.

Gwyddwn yn fras faint o drydan fydden ni angen fesul tŷ erbyn 2050, ac os wnawn ni gyfri faint mae’r pwerdai hydro bach a chanolig i gyd yn gynhyrchu yng nghyffiniau gogledd Meirionnydd, mae hynny’n ddigon i gyflenwi 133% o’r angen hwnnw. Mae hynny cyn ystyried cynhyrchu solar PV, ac unrhyw ddatblygiadau hydro a gwynt cymunedol newydd ddaw erbyn hynny.

O ran jobsys lleol hefyd, meddai, roedd diffiniad cwmni Horizon o ‘lleol’ ar gyfer Wylfa Newydd yn golygu ardal bob cam at Gaer, dros y ffîn! Mae o hefyd wedi canfod ystadegau am adweithydd tebyg -yng Nghanada- i’r rhai sy’n gael eu hawgrymu ar gyfer Traws, lle nad oes ond 29 aelod o staff yn gweithio yno. Ac mi fydd y dechnoleg mewn 10 mlynedd arall o bosib yn cynnig hyd yn oed mwy o awtomeiddio offer.

Yn olaf, mae costau datgomisynu adweithyddion Prydain yn rhedeg i’r Biliynau, a hynny heb ddatrys y mater o ganfod storfa ddiogel barhaol i’r hen danwydd. Pwy sydd eisiau un o’r rheiny ar eu stepan drws?!

Mae Dei Mur, Blaenau yn gweithio ar safle’r atomfa ar hyn o bryd. Dyma’r hyn oedd ganddo fo i’w ddweud:

Credaf, yn bersonol, bydd y cais ar y cyfan o les i’r ardal.  Dywedir fod Cymru eisoes yn cynhyrchu digon o drydan i’n cynnal fel mae hi, ond dwi’n meddwl mai’r cynllun pell gan Llywodraeth Cymru a San Steffan yw cael holl gerbydau cludiant ynys Prydain yn rhedeg ar hydrogen.  I allu cynhyrchu’r hydrogen ‘gwyrdd’ hyn dywedir fod rhaid cael cyflenwad cyson o drydan, rhywbeth sydd ar hyn o bryd yn amhosib ei gael efo’r dechnoleg bresennol, gyda gwynt, llanw neu heulwen.  Gallu buddsoddi yn y rhain dylai fod ein huchelgais er datblygu technolegau newydd at y dyfodol. Does dim dadl bellach fod y blaned yn cynhesu ac mae’n rhaid inni felly ddarfod rhyddhau carbon, a hynny ar frys.  Cyn hynny, gwell byddai cael ein cerbydau cludiant yn rhedeg ar drydan a gyda hyn byddem angen nerth y bwystfil niwclear i chargio’r batris dros oriau tawel y nos.  Faint o geir bysem yn gallu chargio gyda gwynt? Dim llawer.  

Deallaf bydd ychydig o wrthwynebiad i’r cynllun yn lleol, wedi’r cwbl pan mae pethau’n mynd o’i le gydag adweithydd gall y canlyniadau fod yn arswydus.  Tybiaf fod digon o ymchwil a rheolau diogelwch yn bodoli ar hyn o bryd i rwystro unrhyw ddamweiniau bellach.

Rheswm arall i gefnogi’r cynllun yw bod yr ardal, ac yn enwedig y Blaenau, wir angen y gwaith yma.  Oni bai am Traws fyswn i wedi hen symud o’ma bellach.  Byddai rhai dwi’n siŵr yn dadlau fod hyn ynddo’i hyn yn reswm da i gau’r lle ond faint sydd eisoes wedi gorfod mynd?  Cynhelid aduniad un o flynyddoedd Ysgol y Moelwyn yn Gaer yn ddiweddar a hynny am fod fanno’n agosach i’r rhan fwyaf!

Sut yn y byd fedrwn gadw’n ieuenctid yma heb waith, a hynny’n waith o safon, sy’n talu’n dda?
Daw digon o dwristiaid yma, a da o beth yw hynny, ond be mae o wedi ei gyfrannu i’r ardal mewn gwirionedd? Mae’r gwaith sy’n dod yn ei sgil yn aml ar isafswm cyflog ac/neu’n gytundebau ‘zero hours’.  Da i ddim i rywun sydd am gael morgais a thrio gosod gwreiddiau yma.  Byddai'r un banc yn benthyca i weithiwr gyda thelerau o’r fath yn siŵr i chi.  Golygai hefyd fod prisiau’r tai wedi codi.  Dywedodd Glyn Lasarus Jones yn ei erthygl wych yn Llafar Bro Gorffennaf-Awst fod 320 o dai AirBnB yma, Duw a ŵyr faint o dai haf yn ogystal!  

Tydi’r gallu ddim gennym i reoli’r farchnad dai ar hyn o bryd felly da ni’n cael ein rheibio gan y farchnad rydd.  Deallaf fod rhai cyplau ifanc sydd wedi bod digon lwcus i gael gwaith yn lleol ac am drïo aros yn yr ardal, wedi’r cwbwl dyma ydi eu cartref, yn gorfod cymryd morgeisi hir dymor iawn o 40 i 45 o flynyddoedd.  Dychmygwch!  A gyda chymaint o eiddo’r dref yn wag am gyfnodau hir yn ystod y flwyddyn, does fawr ryfedd fod siopau’r stryd yn cau.  Y rhyngrwyd, tai haf/llety gwyliau a diffyg gwaith yn fygythiadau enbyd i’r Stryd Fawr.

Ar wahanol adegau pan fûm yn gweithio i ffwrdd, a chychwyn yn oriau mân ar fore Llun, toedd hi ddim yn beth diarth i weld ceir eraill ar y ffordd ar yr un pryd, un ai’n mynd am y Crimea neu’r Migneint, gyda phobol fel finnau’n mynd am eu gwaith.  Roeddwn yn meddwl ar y pryd 'sgwn i be ydi poblogaeth y dref rhwng bore Llun a nos Wener?  Yn saff i chi ‘da ni i gyd yn nabod pobol sy’n gorfod gweithio i ffwrdd, ac mae hyn eto’n ychwanegu at broblemau’r stryd fawr gan fod llawer iawn o’r dynion, a merched, ddim ond yn eu cartrefi ar benwythnosau’n unig.

Yn ôl at y ddadl, credaf fod yr ardal wir angen y cynllun hwn a rhoi cyfle i’n bobol ifanc gael gyrfa, tai a theuluoedd Cymraeg i’r dyfodol.  Bydd geiriau gwag y gwrthwynebwyr yn fawr o gysur inni.  Haws yw gwrthwynebu heb gynnig atebion.  Na, mae’n rhaid stopio llosgi glo a nwy. 

Mae geiriau bythgofiadwy Mic El ar Radio Cymru (dwi’n siŵr fydd o’m yn meindio imi ailadrodd) “dwi’n gorfod mynd i Port i brynu pâr o drôns” yn dweud y cwbwl!

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022



22.10.22

Misoedd Cyntaf Cynghorydd Newydd

Ar y 6ed o Fai eleni cefais fy ethol yn gynghorydd sir dros ward Bowydd a Rhiw yma yn ‘Stiniog, ac mae’r misoedd dwytha wedi bod yn rhai diddorol, bywiog a chyffrous iawn! Mae pobl wedi bod yn ffeind iawn wrthai yn fy nghroesawu mewn i’r rôl newydd, a dwi wedi bod yn trafod gyda degau o bobl i geisio datrys problemau a phryderon lleol. 

Roedd y mis ar ôl yr etholiad yn un bywiog iawn yn bersonol i minnau hefyd, priodais i Anwen, fy nyweddi, ac ar y 7fed o Fehefin, ganwyd i ni efeilliaid, Iorwerth Prysor a Gwynant Edw ab Elfed - pleser mawr oedd eu croesawu i’r byd, a diolch i bobl am fod yn amyneddgar gyda mi pan oeddwn yn teithio nôl ag ymlaen o’r ysbyty am fis ar ôl eu genedigaeth. 

Mae hi wedi bod yn gyfnod o drafod problemau ynglŷn â thai, parcio, cyfleon lleol, syniadau argyhoeddiedig, amserlenni bysiau a phopeth arall dan haul, ac mi rydw i’n mwynhau pob munud ohonno - does ‘na ddim byd gwell na helpu rhywun, mae wir yn dod a gwen i fy ngwyneb i. Balchder mawr yw cael cynrychioli ardal sydd mor agos at fy nghalon i, a gyda bobl mor hael ac agored.
Braint ydyw hefyd gael fy nghyfethol ar y cyngor tref, a bydd hynny yn fy nghaniatau i ddod a gwaith y ddau gyngor yn agosach er mwyn cael yr atebion gorau i’r fro.

Mae gynnai lawer iawn o syniadau dwi isio’i weld yn digwydd i Flaenau, llawer iawn ohonynt yn ymwneud gyda dod a chyfleon economaidd i’r dref, a chydweithio gyda mentrau a busnesau lleol i greu economi sy’n wydn a’n arloesol. Mae problemau tai yn y fro wedi dod yn fwystfil a’n fwrn ar y gymuned hon gyda llawer iawn o bobl yn methu fforddio i fyw yn lleol, felly dwi’n benderfynol i weld newidiadau yn dod gan y cyngor ac o’r Senedd i ddatrys y niwed yma ar ein cymuned. Yn ogystal a hyn dwi wedi bod yn gweithio i weld nifer o brosiectau yn y fro ymlaen, a gobeithio bydd rheiny yn dwyn ffrwyth yn y flwyddyn sydd i ddwad.

Edrychaf ymlaen at ddal ati i weithio dros bobl Bowydd a Rhiw am y 4 mlynedd a mwy sydd ar ôl tan yr etholiad nesaf, a cofiwch os ydych chi angen cymorth o gwbl, cysylltwch!
Elfed Wyn ap Elwyn
cynghorydd.elfedwynapelwyn@gwynedd.llyw.cymru

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022

 

20.10.22

Mae Llafar Bro angen eich help!

Mae Geraint, ein dosbarthwr, yn camu i lawr ar ôl rhifyn Tachwedd, felly rydym yn chwilio am rywun sy'n fodlon sefyll yn y bwlch.


 

Be mae'r job yn olygu?
Mae Gwasg Carreg Gwalch yn Llanrwst yn argraffu 800 copi bob mis, ac mae gwirfoddolwyr Llafar Bro wedyn yn eu danfon o ddrws i ddrws, neu i'r siopau.

Gwaith y dosbarthwr ydi derbyn yr 800 copi (mae gennym rywun sy'n medu eu cario i'r Blaenau bob mis, ond gall y dosbarthwr newydd eu nôl os yn fwy cyfleus) a'u rhannu nhw yn fwndeli i'w rhoi i'r dosbarthwyr cymunedol, er enghraifft pecyn o 100 i fan hyn a bwndal o 30 i fan draw, ac yn y blaen. Mae'r dosbarthwyr lleol yn dod i fan canolog ar y noson ddosbarthu bob mis i nôl eu pecyn.

Hefyd, mae angen mynd a bwndeli i wyth neu naw o siopau lleol ar y diwrnod dosbarthu neu'r diwrnod canlynol, a derbyn y pres gwerthiant am y rhifyn blaenorol (gan basio hwnnw ymlaen i'n trysorydd efo manylion syml lle/faint).

Ar hyn o bryd, mae Llafar Bro ar werth hefyd ym Mhorthmadog, Penrhyn a'r Bala, a gall y pwyllgor helpu'r dosbarthwr newydd i ganfod gwirfoddolwyr i ddanfon i'r rheiny neu gall y dosbarthwr wneud hynny ei hun os yw'n hwylus.

Fel pob joban arall yn Llafar Bro, GWIRFODDOL ydi'r gwaith hwn, llafur cariad, a'r wobr ydi'r balchder o gyfrannu at barhad ein papur bro.

OND, mae costau tanwydd ar gael i'r dosbarthwr.

Cysylltwch os ydych yn fodlon helpu i sicrhau dyfodol Llafar Bro. Mae cyfle i gydweithio efo Geraint efo rhifyn Tachwedd, er mwyn cael blas ar y gwaith.

Diolch bawb.

- - - - 

Efallai y cofiwch hefyd i ni wneud apêl am Swyddog Codi Arian, nôl ar ddechrau'r flwyddyn; mae'r swyddo honno dal yn wag  :(

Be' amdani? Fedrwch chi roi awr neu ddwy y mis i sicrhau dyfodol ein papur Cymraeg lleol?

 

19.10.22

Diwedd y tymor yn Llys Dorfil

Cynhaliwyd diwrnod agored llwyddiannus gan Gymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog yn Llys Dorfil ddiwedd Gorffennaf. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Llun Paul W

Y  DEIS  BACH
Darganfuwyd y deis 6mm hwn pan gloddiwyd sondage i ddod o hyd i lawr yr hyn a allai fod yn dŷ neuadd arall. Fe'i ddaeth i’r golwg mewn haenan wedi'i selio ar lawr y neuadd, 10cm o dan lefel y ddaear. Gwnaed deisiau cynnar o amrywiaeth o ddeunyddiau - fel asgwrn, metel a chlai. Ein cred yw ei fod wedi’i wneud o glai. 

Lluniau Dafydd Roberts
 

Darganfuwyd yr adeilad hwn trwy archwilio cynlluniau braslunio Dr Danes o’r safle a wnaethpwyd ar ddiwedd y 1960au.

Y tymor hwn rydym wedi gallu anfon wyth sampl i Glasgow ar gyfer dyddio Carbon 14. Costiodd hyn £2958.75 i ni, gan gynnwys postio. Oherwydd cyfyngiadau Covid 19 nid oedd yr arian yn dod i fewn i’r gronfa. Felly, penderfynodd pwyllgor y Gymdeithas Archeoleg apelio am arian.

Buom yn llwyddiannus a derbyniwyd
£1,000 gan MAGNOX, Cynllun Economaidd-Gymdeithasol Trawsfynydd.
£500 gan Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru.
£378 gan Gyngor Tref Blaenau Ffestiniog.
£378 gan Claire a David Nash.
£378 Bwyty Plaswaenydd (Llechwedd).
Roeddem ychydig filoedd o bunnoedd yn fyr o'n targed, ond cyfrannodd aelodau a ffrindiau yn hael o rhwng £10 a £500 a werthfawrogwyd yn fawr iawn. 

Mary a Bill Jones

Llun Paul W

 

 

 

 

 

 

 

 

- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022

 Am fwy o hanesion y cloddio cliciwch ar y label Llys Dorfil isod

(Os ydych yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'View web version' er mwyn gweld y labeli)


17.10.22

UNMAN YN DEBYG I GARTREF...

Yn ogystal â thudalen flaen ein rhifyn diwethaf [Airbnblaenau], mae’r mater o ail gartrefi a llety gwyliau wedi cael cryn sylw yn y wasg Gymraeg a Chymreig yn ddiweddar, gyda’r ymateb yn aml yn ennyn teimladau ac emosiynau cryfion. Yma yng Ngwynedd, mae 40 y cant o’r cartrefi a werthir ar y farchnad yn cael eu prynu i’r perwyl yma. 

Edrychwyd yn fras iawn yn rhifyn Gorffennaf-Awst ar un agwedd o hyn – tai ‘Airbnb’, gyda’r newid cymdeithasol sydd yn aml yn deillio o hynny. Y mis hwn dyma fwrw’r rhwyd ychydig yn ehangach. 

Isod fe geir tabl diddorol iawn o rai o ffigyrau Cyngor Gwynedd. Mae’r ochr chwith (melyn) yn dangos y newid a fu mewn ail gartrefi ers cyflwyno dwbl treth cyngor arnynt. Mae’r ochr dde (gwyrdd) yn dangos y newid a fu mewn llety gwyliau yn ystod yr un cyfnod o bymtheg mis. 


Yr hyn sy’n ddifyr yw bod niferoedd yr ail gartrefi wedi syrthio ers codi treth cyngor dwbl ar y perchnogion. Ond, yn ddadlennol iawn, mae nifer y tai gwyliau hunan arlwyo wedi codi – gyda’r cynnydd yma yn cyfateb yn aml iawn yn union i’r lleihad cyfatebol yn nifer yr ail dai. Wyth ail gartref yn llai ym Mowydd a Rhiw, ond wyth llety gwyliau yn fwy. Pump ail gartref llai yn Niffwys a Maenofferen ond pum llety gwyliau yn fwy. Wrth gwrs, heb durio ymhellach i’r ffigyrau hyn, mae’n amhosib gwybod a oes yna berthynas uniongyrchol rhwng y ffigyrau hyn – a yw’r holl ailgartrefi blaenorol hynny i gyd wedi eu troi yn llety gwyliau, neu a yw’r cynnydd mewn llety gwyliau yn deillio o droi tai eraill yn llety gwyliau. 

Ond bid a fo am hynny, mae yna duedd, a phatrwm, sy’n dangos nad yw lleihau niferoedd ail-gartrefi ynddo’i hun yn datrys rhyw lawer ar y problemau tai y mae cynifer o’n hardaloedd yn ei hwynebu. Diolch i’r drefn, mae gan awdurdodau lleol rymoedd bellach, ar ôl cryn bwysau cymdeithasol, sy’n rhoi rheidrwydd i gael caniatâd cynllunio cyn troi tŷ yn llety gwyliau. 

Gadawn inni yn awr ystyried yr honiad a glywir yn aml y byddai llai o ail gartrefi yn golygu mwy o dai i bobl leol eu prynu. Dyma haeriad y mae’r Athro Simon Brooks yn ei drafod yn ei ddogfen ragorol ‘Ail gartrefi – datblygu polisïau newydd yng Nghymru’ (2021). Mae yna elfen o wirionedd yn hyn. 

OND – ac mae hyn yn ond go fawr – byddai’r tai hyn ar y farchnad agored, yn rhydd i unrhyw un o gwbl eu prynu. Byddai pobl leol felly yn gorfod cystadlu amdanynt, a hynny yn aml yn erbyn prynwyr o ffwrdd sydd â llawer mwy o gyfalaf. Does dim dal felly y cai ail-gartrefi eu prynu gan bobl leol, a hyd yn oed os mai pobl leol fyddai’n eu prynu, pwy fydd yn prynu’r tai y maen nhw wedi symud ohonynt, ac yn y blaen ac yn y blaen ar hyd y gadwyn. A chan fod poblogaeth naturiol Cymru, yn ôl ffigyrau’r cyfrifiad, yn gostwng, a nifer y tai yn cynyddu, y gwir amdani bellach yw nad oes yna ddigon o ‘bobl leol’ i lenwi pob tŷ mewn ardal beth bynnag. 

A dyma ddod at y cwestiwn tyngedfennol. Beth sydd orau felly i barhad y gwareiddiad Cymraeg yn y cornelyn hwn o’r cread, neu o leiaf, beth sydd leiaf andwyol iddo:
> Cael ail gartrefi, y gall eu perchnogion fod yn Seisnigo’r fro am rai penwythnosau’r flwyddyn?
> Bod yr ail dai hyn yn dai gwyliau, gan hyrwyddo rhagor o or-dwrisitaeth, fel y cydnabyddir sydd yn y rhan fwyaf o orllewin Cymru bellach.
> Bod yr ail gartrefi yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored, gan hyrwyddo mewnlifiad parhaol, a Seisnigo beunyddiol. 

Mi wn i yn wir am un dyn sydd wedi gwerthu ei gartref ‘cyntaf’ yng nghanolbarth Lloegr ac sydd wedi symud i’w ‘dŷ haf’ yn barhaol – gan frolio ei fod wedi osgoi ‘dwbl treth’ Cyngor Gwynedd. Rhaid ei oddef yn awr bob dydd o’r pedwar tymor, yn hytrach na rhyw chwe gwaith y flwyddyn. A beth am yr ail gartrefi hynny sydd yn nwylo siaradwyr Cymraeg? Pobl sydd wedi etifeddu tŷ ym mro eu mebyd ac eisiau cadw cyswllt â’r ardal? Neu sydd efallai yn rhannu eu hamser rhwng dau le efo’u gwaith? A yw hi wir yn fanteisiol gweld y tai hyn yn mynd ar y farchnad agored i’w prynu gan unrhyw un? Dyma ddangos natur amlweddog y broblem dai sy’n wynebu ein hardaloedd, a’r hyn sy’n weddill o’r cadarnleoedd Cymraeg yn arbennig.  

Yn Ardal y Llynnoedd yng ngogledd Lloegr, ac ym Mharc Cenedlaethol Dyffrynnoedd Swydd Efrog, ceir amod meddiannaeth leol, sy’n golygu y blaenoriaethir pobl leol yn y farchnad dai. Ar rai o ynysoedd y sianel, fe geir dwy farchnad dai, un ‘leol’ ac un ‘agored’. Nid Cymru mo’r ardaloedd hyn wrth gwrs, ond maent yn esiamplau o ddangos beth sy’n bosib ei wneud efo dipyn o weledigaeth a rhuddin a grym deddfwriaeth. 

Credaf, heb ymyrraeth bellach, nad yw’r mân dincran a wnaed hyd yma efo’r farchnad dai yn ddim ond dianc ar Glwyd a boddi ar Gonwy. Neu o gymhwyso’r idiom i’r fro hon – yn fater o ddianc ar Gynfal a boddi ar Goedol.  
Glyn Lasarus Jones

- - - - - - - - - - 

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022