Erthygl gan John Humphrey, neu John Wmffre, Y Rhyl.
Wedi darllen allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones yn Llafar Bro am hanes y bêl-droed yn y Blaenau daeth a llu o atgofion i minnau, a cheisiaf innau anfon ychydig o atgofion.
Yn fy nyddiau ysgol yr oedd y clybiau yma yn bod: Offeren City - tîm enwog iawn; tîm yn Rhiw; tîm y siopwyr yn chwarae ar ddydd Iau; o Danygrisiau Stradau Celts ac yn Nolrhedyn, Gwynfryn Celts. Robin Owen Jones oedd y capten ac yn chwarae mewn esgidiau hoelion. Yn y gôl yr oedd Jack Roberts, Jack Dolgell fel y gelwid, ac yr oedd nam ar un lygaid iddo, ac os byddai y tîm wedi colli o rhyw dair neu bedair gôl, fe fyddai hogiau y chwarel yn tynnu yn ei goes gan ofyn, “Beth oedd yn mater dydd Sadwrn, Jack?”, a dyma ei atebiad iddynt, “Fe ddarfu mi ddal bob un i mi weld.” Gyda llaw, tad y gôl-geidwad enwog, Orthin Roberts, Notts Forest, oedd y brawd.
Roedd hefyd dîm yn Llan Ffestiniog a Thanygrisiau a’r ddau yn chwarae yng nghynghrair y Cambrian Coast, heb anghofio tîm y Blaenau ei hun.
Yn awr yr ydym yn symud ymlaen i 1935-39. Dyma i chwi amddiffyn: Dei Bach Rhiw yn gôl; Jack Crimea fel craig a Ieu Tŷ’n Ddôl yn gadarn, Gwilym Peniel, Bob Davies a Calc. Hogiau wedi eu dwyn i fyny yn y Blaenau, ac yn teimlo yn fraint o chwarae dros eu hardal, a hynny heb dderbyn dimai goch, y cewri ymysg cewri oedd y bechgyn yma i ni y plant.
Yn awr dyma ni wedi cyrraedd 1939 a dechrau 1940, a daeth terfyn ar y ‘Welsh League Div’ oherwydd bod y bechgyn yn cael eu galw i fyny i bob rhan o’r byd. Yna, yn 1946 wedi i’r rhyfel orffen ail-ddechreuwyd y ‘Welsh League’, gyda hogiau lleol.
Dipyn o anrhefn oedd hi ar y dechrau, rwy’n cofio mynd i’r Port i chwarae: Dick Jones oedd yn gofalu amdanom, ac yn y bws wrth fynd rhaid oedd rhoddi y tîm. Yr oedd yna 15 hefo cardiau yn dweud eu bod wedi cael eu dewis (selection card). Wel mi roedd yr hen Dick mewn penbleth yn awr hefo pwy i’w ddewis a phwy i’w adael allan, a dyma sut y daeth allan ohoni - gan mai fi oedd yr unig gôli yr oeddwn i yn mynd i’r gôl a’r 14 enw arall yn mynd i’r het a dewis allan ohoni!
Rhyw dro arall yn chwarae yn y ‘Welsh Cup’ ym Mae Colwyn, bws John Williams, Porthmadog oedd gennym, ond wnai y gyrrwr ddim cychwyn heb gael pres i dalu am y bws i ddechrau - dim pres ar gael, a rhai o bwyllgor y clwb yn mynd i geisio cael benthyg pres gan rai o’r siopau; llwyddo, ac i ffwrdd a ni, pawb yn y tîm yn cydweld ein bod yn aros yn Llandudno ar ôl y gêm. Buom yn llwyddiannus i ennill, ac wedi plesio Mr Skillen yn arw, fo oedd yn galw amdanom (Sais) a dyna fo yn dweud am ein bod wedi chwarae mor dda ei fod o wedi trefnu i ni fynd i Gonwy i gael bwyd.
Dywedsom ninnau ein bod yn mynd i Landudno, ond i Gonwy yr aethom i gael te a Skillen yn codi ar ei draed a dweud, “Pick whatever you want from the menu, I’m in charge" ac felly y bu. Wedi i ni orffen bwyta cododd y dyn ar ei draed eto a gofyn, “Did you enjoy the meal?”... “Yes” meddai pawb. “I’m glad to hear, because you’ve got to pay for it - I have no money!”
Yn byw yn stryd West End yn Nolrhedyn yr oedd gennyf gyfaill oedd yn 10 mlynedd yn iau na mi, sef Tomi Richard. Yr oeddwn i yn gweithio yn Llechwedd wedi dod adref o’r rhyfel. Byddai Tomi yn rhoi amser i mi gael fy nhe, ac yna yn dod a chnocio y drws, mam yn agor y drws a fy ffrind yn gofyn, “Ydi John yn dod allan i chwarae,” a’r bêl o dan ei gesail. Byddai hefyd yn cario fy ‘sgidiau ffwtbol pan oeddwn yn chwarae yn y Blaenau, a phob amser yn pwyso ar y postyn gôl, ie, dros y weiar a phwyso ar y postyn. Wel, be wnelo hyn â ffwtbol? Wel dyma fo i chwi.
Yr oedd tîm y Blaenau yn chwarae R.A.F Llanbedr, ger Harlech, mewn cwpan arbennig pan ddarfu eu ‘outside left’ roi cic galed ar hyd y llawr a’r bêl yn mynd i mewn yn nhroed y postyn, ac allan wedyn fel ergyd o wn. Beth ddigwyddodd tybed? Wel Tomi ddarfu roi ergyd iddi o’r tu arall i’r rhwyd! R.A.F. a’u dwylo i fyny yn gweiddi a’r reff yn dweud “No goal, hit the post and out” ac felly yr enillwyd y gêm gan Tomi! Wel pwy oedd y Tomi yma? Neb llai na’r bardd, emynydd, gweinidog parchus a phregethwr penigamp a grymus, sef y Parch. T.R. Jones, Crymych!
---------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2004, fel ymateb i gyfres 'Hanes y Bêl-droed yn y Blaenau'.
18.3.18
14.3.18
Llyfr Log Maenofferen. 1943-45
Rhan Olaf cofnodion llyfrau log Ysgol Maenofferen (Genethod) yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan Agnes Edwards
24/01/43 Presenoldeb isel. Tywydd gwlyb a stormus bob dydd a llawer o’r genethod yn dioddef o annwyd trwm, 2 yn dioddef o’r crafu – gyrrwyd hwy i Harlech i’r ysbyty i gael sylw.
01/02/43 Mae’r ysgol yn dechrau am 9.30 a.m eto am fod y boreau yn dywyll iawn. Presenoldeb yn isel – annwyd trwm a dolur gwddw.
10/02/43 Tywydd yn dal yn wlyb iawn a stormus. Mae’r plant yn cyrraedd yr ysgol yn wlyb. Pan maent yn dychwelyd o ginio’r ysgol ym Mrynbowydd, maent yn gorfod sychu eu sanau o flaen y tân. Llawer ohonynt yn methu cael wellingtons. ('unable to procure' yw’r cofnod. Nid ydynt yn dweud pam, ai prinder yn y siopau, neu brinder pres?)
07/04/43 O gwmpas 11 y bore daeth drycin – storm o wynt a glaw difrifol. Roedd yn rhy beryglus i ollwng y plant am 11.40. Roedd rhaid i’r 36 o enethod oedd yn cael cinio ymlwybro drwy’r gwynt a’r glaw. Pan ddychwelodd y genethod am 12.25 roeddynt yn wlyb diferol. Gan fod y tywydd wedi gwella ychydig fe’u gyrrwyd adre.
20/04/43 Am ei bod yn braf aeth yr athrawes a phlant Std. 1 i lawr i’r coed am awr i gael gwers natur.
20/04/43 Aeth dosbarth 3, 4 a 5 i fyny i Gwmorthin gyda’u hathrawon.
21/04/43 Aeth Std. 1 i (felin) Pant yr Ynn lle y gwelsant edafedd yn cael ei drin a’i wehyddu. Aeth Std. 1 hefyd i lawr i’r coed am wers natur gan ddod ag enghreifftiau o flodau gwyllt ac yn y blaen. Aeth Std. 3, 4 a 5 at Lyn Ffridd gan sylwi ar y mynyddoedd a’r dirwedd.
09/07/43 Un yn dioddef gan y dwymyn goch
10/12/43 Epidemig o ffliw ac annwyd.
26/05/44 Plant wedi gwlychu’n ofnadwy yn cael mynd adre’n fuan.
22/05/44 Cyflenwad llefrith i’r ysgol. Dechreuodd y trefniant gyda Mr D. Lewis, Garfan Dairy. Y gost 1/2d – sef dime am 1/3 peint o lefrith. 109 o blant allan o 140 gymerodd fantais ar y cyfle.
10/01/45 Tywydd yn ofnadwy o oer. Trwch o eira.
11/01/45 Std. 2 – disgynnodd plentyn yn yr iard a thorri ei ddant. Cafodd sylw’n syth gan Mr Jenkins.
18/01/45 Tywydd gwyllt. Gwynt cryf a glaw di-baid.
19/01/45 Trwch o eira yn y nos. Y ffyrdd yn beryglus wedi rhewi’n ddrwg.
22/01/45 Dal i fwrw eira. Mae’r lluwch yn bur ddwfn.
25/01/45 Y tywydd yn dal yn oer iawn -y dŵr wedi rhewi yn y toiledau. Y glo wedi gorffen a’r bobl sy’n cyflenwi’r glo yn methu ei ddanfon o achos yr eira a’r rhew. Dim ysgol yfory.
29/01/45 Daeth yr athrawon a rhai o’r genethod i’r ysgol ond cafwyd caniatâd i gau’r ysgol.
31/01/45 Mae’r tanau wedi eu cynnau gan fod deg cant o lo wedi cyrraedd yr ysgol. Mae’n dechrau meirioli ac mae presenoldeb yn gwella 66% y bore, 78% pnawn.
05/02/45 Ni allai D. Lewis gyflenwi’r llefrith i’r ysgol am ei fod wedi rhewi!
22/02/45 Daeth y llefrith i’r ysgol. Rhoddwyd rhybudd ar y radio yn y prynhawn y bydd cadoediad yn Ewrop heno ac y trefnir dau ddiwrnod o wyliau i ddathlu Victory in Europe i bob un gweithiwr drwy’r wlad. Felly gwyliau 08/05/45 a 09/05/45.
05/07/45 Diwrnod lecsiwn – dim ysgol.
Bu’r llyfrau dognu yn dal i fynd tan 1954 ond erbyn diwedd y 1950au roeddynt yn dweud wrthym you’ve never had it so good.
-------------------------------
Detholiad yw'r uchod, o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod. (Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)
Llun Paul W

10.3.18
Yr Hen Go-op
Erthygl o'r archif, gan Rhiannon Jones, Tanygrisiau.
Wrth glirio tŷ fy niweddar gyfnither, Eileen, sef merch Jôs y Coop, daethom ar draws llawer o ddogfenau yn perthyn i’r hen siop, gan i’w thad, Robert Jones, fod yn rheolwr yno am flynyddoedd. Roedd yno gopi o'r llun (isod) a yrrwyd gan Dei Roberts, Cysulog, i rifyn Tachwedd 2002 Llafar Bro.
Agorwyd y siop yn Fourcrosses yn 1921, a’i ymestyn yn 1928, ac agorwyd hi ar ei newydd wedd yn 1929. Tŷ y teulu oedd rhwng yr hen siop, a siop Kate Pritchard, felly bu raid i’r teulu, sef fy ewythr a modryb ac Eileen a Ben, ei brawd, symud.
Yn Neuadd y Farchnad oedd y siop gyntaf, a dyna No. 1 Branch lle penodwyd Mr Rees yn rheolwr; wedyn No. 2 Branch yn y Manod a Mr Alun Jones yn rheolwr; No. 3 Branch yn Llan a Mr Smart yn rheolwr; No. 4 Branch ym Maentwrog a Mr Morris J. Thomas yn rheolwr; ac yn olaf No. 5 Branch yn Nolwyddelen a Mr Dauncey yn rheolwr.
Agorwyd y rhain i gyd rhwng 1921 a 1928, ac hefyd y becws yn y Sgwâr, gyda Mr Ted Thomas yn rheolwr, a’r Iard Lo yn Stesion Manod a Mr Wil Meirion Richards yn rheolwr. Wrth gwrs roedd llawer o ddynion a merched yn y gweithlu, gyda gyrrwyr faniau a loriau, tua 50-60 pan oedd pethau yn mynd ‘full swing’. Dyma lun o’r fan gyntaf brynwyd. Mi ddylwn fod wedi sôn am y ‘Drapery Department’, fel y’i gelwid i fyny’r grisiau yn Fourcrosses efo Mr J.D. Jones yn rheolwr. Yno hefyd oedd y brif swyddfa.
Pan gychwynwyd busnes y Coop, galwyd hi Y Gymdeithas Gydweithredol. Y chwarelwyr lleol a’i cychwynodd gyda phwyllgor rheoli o 12, ac fe gawsant rhyw 300 o bobol i roi punt yr un, neu fwy os gallent fforddio, felly cafwyd rhyw £300 o gyfalaf i brynu stoc. Agorwyd y siop yn Neuadd y Farchnad ar fore Gwener ac roedd y cwbwl wedi gwerthu allan erbyn p’nawn Sadwrn! Bu raid i R. Jones y rheolwr ddal trên fore dydd Llun i Fanceinion i gyfarfod â’r Prif Reolwr yno i gael caniatad i brynu ‘chwaneg o stoc, felly aeth y busnes ymlaen o nerth i nerth a chynyddodd y gwerthiant ac erbyn yr adeg yma rhyw 3,000 o aelodau, a phawb oedd am ymuno yn talu swllt, ac ar ddiwedd bob chwarter dividend yn cael ei dalu i bob aelod, rwy’n meddwl mai 1/6 y bunt oedd o, mae’n siwr fod rhai o’r hen weithwyr yn cofio’n iawn.
Sefydlwyd Robert Jones, tad Eileen, ac fy ewythr innau (brawd mam) yn Rheolwr Oruchwiliwr ar gytundeb o 5 mlynedd. Daeth yma o Lerpwl, lle bu'n rheoli siop Coop yno, ei wraig yn Saesnes o Gaer, ac fe benderfynodd hi fod raid iddi ddysgu Cymraeg os oeddynt am gael bywoliaeth yn y Blaenau, a tydwi rioed yn cofio siarad Saesneg hefo hi.
Cadeirydd cyntaf y pwyllgor oedd Mr Richard Roberts, Pengelli, a’r ail, Mr Robert John Jones, Stryd Fawr, a’r trydydd (a tybed yr olaf?) oedd Mr John Williams, Arfyn. Bu llawer o ddynion ar y pwyllgor rheoli, na alla i mo’u henwi. Mae’n siwr fod rhai o’r darllenwyr yn ‘nabod y rhai rw’i wedi sôn amdanynt.
Y Rheolwr Cynorthwyol oedd Mr Owen Jones, Manod, tad Gareth Jones, ac ef oedd y rheolwr ar ôl i Robert Jones ymddeol; bu yn y swydd am dipyn o flynyddoedd, ond bu ynglyn â’r Coop o’r dechrau.
Fe gynhelir y cyfarfod chwarter yn Festri Seion, wythnos cyn talu’r dividend ac roedd hwn yn gyfarfod ‘pwysig iawn’ a RHAID i’r staff fod yn bresenol yno, beth bynnag am yr aelodau, a ninnau yn ifanc, yn gorfod eistedd i wrando ar ystadegau sych, a bron a marw isio bod yn rhywle arall: y pictiwrs neu rhyw ddawns mae’n siwr, ond roedd gweithio yn yr hen Coop yn ddifyr iawn, dipyn gwahanol i’r ‘Supermarkets’. Roedd hi’n amser rhyfel pan oeddwn i yno, ac yn gorfod pwyso bob owns o bob peth, a chario sacheidiau o datws ac ati, a dysgu bonio bacwn (ych a fi!) gan fod y bechgyn wedi gorfod mynd i’r lluoedd arfog.
Bu’r Gymdeithas Gydweithredol a’r dividend yn help mawr i weithwyr ar gyflogau bach yn y 1920au a’r '30au.
Roedd gan bob aelod rif eu hunain, ac wrth dalu am nwyddau, yn cael slip bach, neu ‘cheque’ fel ei gelwid, a’r rhif arno a faint a wariwyd a rhain fyddai yn pennu’r dividend.
-----------------------------------------
Roedd Laura Price, Sofl y Mynydd, wedi sgwennu yn rhifyn Rhagfyr 2002 am yr Hen Goparet hefyd:
"Dydd Mawrth wedi'r pen chwarter byddai merched (rhan fwyaf) yn ciwio i aros i'r siop agor, er mwyn cael nwyddau (dillad yn bennaf) a chael talu amdanynt yn wythnosol tan ddiwedd y charter dilynol, a gwae i'r sawl oedd heb dalu eu dyledion, doedd dim diben iddynt aros yn y ciw. Mi fues i'n ciwio lawer gwaith fy hunan.
Roedd dillad siop Polecoff gyferbyn yn 'redi cash' a byddai'n galed i bobl gyffredin y Blaenau (fel fy hunan) dalu swm mawr ar y pryd.

Ymddangosodd y brif erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2003.
Wrth glirio tŷ fy niweddar gyfnither, Eileen, sef merch Jôs y Coop, daethom ar draws llawer o ddogfenau yn perthyn i’r hen siop, gan i’w thad, Robert Jones, fod yn rheolwr yno am flynyddoedd. Roedd yno gopi o'r llun (isod) a yrrwyd gan Dei Roberts, Cysulog, i rifyn Tachwedd 2002 Llafar Bro.
![]() |
| Agoriad y Coparet newydd yn y Fourcrosses, Blaenau. |

6.3.18
O’r Pwyllgor Amddiffyn -hir yw pob aros!
Addasiad o erthygl Geraint Vaughan Jones, o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2018.
Yn y golofn hon, fe gyfeiriwyd at y sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â’r ddeiseb a arwyddwyd gan 2,754 ohonoch chi yn 2014 yn galw am adfer y gwasanaethau iechyd pwysig a ddygwyd o’r ardal hon gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Cyflwynwyd y ddeiseb honno i’r Pwyllgor Deisebau yng Nghaerdydd ar 17eg Mehefin 2014 ac mae'r rheini, dros amser, wedi bod yn ystyried rhestr gynyddol o ddadleuon oddi wrth y Pwyllgor Amddiffyn.
Fe gafodd y ddeiseb ei chadw’n agored ganddynt am nad oedd aelodau’r Pwyllgor Deisebau byth yn gwbl fodlon efo ymateb swyddogion y Betsi i’r wybodaeth oedd yn cael ei chyflwyno gennym, a hynny yn fisol bron.
Yn y cyfamser, mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi bod yn pwyso am gefnogaeth o gyfeiriadau eraill hefyd wrth gwrs, megis y Cyngor Iechyd Cymunedol, Sarah Rochira y Comisiynydd Pobl Hŷn, yr Athro Marcus Longley yn ei adroddiad i’r cyn-Weinidog Iechyd, a nifer o Aelodau Cynulliad o bob plaid, ac wedi derbyn clust ffafriol gan bob un ohonynt, ac eithrio Carwyn Jones a’i Weinidog Iechyd. Maen nhw o’u dau fel pe baen nhw’n benderfynol o gefnogi gwaith y Betsi tra ar yr un pryd yn dal i gadw rheini o dan ‘special measures’.
Hynny yw, cefnogi methiant!
Yna, ar Fedi’r 4ydd llynedd - fel y bydd llond bws o’n cefnogwyr yn cofio - fe aeth cynrychiolaeth ohonom i Gaernarfon i gyflwyno’n hachos gerbron aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal yn fanno. Yno hefyd, i gyflwyno eu dadl hwythau, roedd Gary Doherty, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, a chymaint â 6 o aelodau ei dîm. Ond dadl y Pwyllgor Amddiffyn a gariodd y dydd a phenderfyniad y Pwyllgor Craffu fu argymell bod Cabinet Plaid Cymru y Sir, sef y rhai sy’n llywodraethu, yn cefnogi’r galw am Arolwg Annibynnol i’r sefyllfa sy’n bodoli yma bellach, yn Stiniog. Aeth pum mis heibio ers y cyfarfod hwnnw a hyd yma, mae’r Cabinet wedi gohirio trafod y mater ond byddant yn gwneud hynny yn ystod y mis hwn, sef Chwefror, ac mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi cyflwyno dogfen fanwl o ffeithiau iddynt eto eu hystyried. [GOL: o edrych ar raglenni a chofnodion cyfarfod y cabinet ar wefan Cyngor Gwynedd, nid oedd hyn ar agenda eu cyfarfod ar 13eg Chwefror, ac nid oes unrhyw awgrym eu bod wedi ei drafod dan unrhyw fusnes arall chwaith. Mae eu cyfarfod nesa ar y 13eg o Fawrth.]
Bellach, mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cyhoeddi ‘Crynodeb o’r drafodaeth’ mewn naw tudalen ac wedi dod i’r casgliad canlynol:-
Casgliad: “Rydym o'r farn mai'r broses graffu leol, sydd bellach yn mynd rhagddi drwy Bwyllgor Craffu Gofal Cyngor Gwynedd, yw'r ffordd fwyaf priodol o drafod y materion sy'n codi yn y ddeiseb a mynd i'r afael â hwy. Rydym yn cymeradwyo'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor hwnnw ac yn annog pawb i'w hystyried yn ofalus. Yn benodol, rydym yn cytuno mai'r ffordd orau o bosibl o ateb pryderon y gymuned leol fyddai'r argymhelliad i gomisiynu adroddiad annibynnol ynghylch y ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog.” (Ionawr 2018)
Ein gobaith yn awr yw y bydd Cabinet Plaid Cymru Gwynedd yn cefnogi’r galw am arolwg o’r fath.
GVJ
.................................
Gallwch weld hanes yr ymgyrch efo'r dolenni* isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(*Ddim i'w gweld ar fersiwn ffôn -dewiswch 'View Web Version' ar y gwaelod)

| Llun- Alwyn Jones |

2.3.18
Hanes y Bêl-droed yn y Blaenau
Dyma gyrraedd pen y daith ar atgofion Ernest am hynt a helynt y bêl-droed yn y dref gyda chrynodeb o gopi o'i ysgrif ar un o'r chwaraewyr enwocaf a ddaeth o'r Blaenau, Bob Davies, dan y pennawd 'O Offeren City i Brif Dîm Cymru'. Ysgrifenwyd yr erthygl tua'r 1950-60au cynnar, rwy'n credu.
Fe wyddoch gystal a minnau fod pethau bach, syml a chyffredin weithiau yn rhagflaenu pethau mawr. Dyna ichi baned o de er enghraifft. Mae'n rhyfedd fel y gall peth mor ddi-sylw a phaned o de newid cwrs bywyd rhywun weithiau. Mae'n siwr eich bod wedi mynd am baned o de rywdro neu'i gilydd i aros amser bws neu drên, ac y mae'n eitha tebyg na ddigwyddodd dim mawr am eich bod wedi mynd am baned o de. Ond y mae gennyf hanesyn bach am baned o de a gododd un o hogiau Stiniog i fod yn un o brif sêr peldroed Prydain Fawr, a'r bachgen hwnnw yw Bob Davies.
'Roedd Bob yn yr ysgol ar unwaith â fi, a'r adeg hynny roeddem yn ei adnabod fel Bob Davies, mab John Davies y Barbar. Erbyn hyn mae John Davies yn cael ei adnabod gan lawer fel John, tad Bob Davies, Notts Forest. Ond 'rhoswch, beth am y baned te honno…
Wel, roedd yna un o swyddogion clwb peldroed Notts Forest yn Stiniog ar ryw dydd Sadwrn gwlyb yn 1936. 'Roedd wedi mynd am baned o de i aros y trên. Peidiwch a gofyn beth oedd y brawd yn ei wneud yn Stiniog, oherwydd dydwi ddim yn gwybod. Y peth mawr yw ei fod wedi mynd am baned.
Mewn sgwrs uwchben y baned te fe gafodd y swyddog wybod fod yna gêm yn mynd ymlaen yng Nghae Haygarth, a dyna fo'n penderfynu mynd yno i gael spec. 'Roedd hi'n ddychrynllyd o oer yng nghae di-loches Haygarth, a 'doedd y gŵr boneddig o Nottingham yn malio dim botwm corn pwy oedd yn curo nac yn colli. Ond fe welodd y swyddog rywbeth ar y cae a wnaeth iddo gynhesu drwyddo, a'r rhywbeth hwnnw oedd chwarae Bob Davies.
![]() |
| Llun- Parc Heygarth, oddi ar wefan stiniog.com |
Fe ddywedodd y swyddog wrth Mr Harold Wightman y dylai ddod i weld y bachgen hwn o Stiniog, ac fe daeth hwnnw. Y canlyniad fu i Bob Davies fynd i Nottingham Forest.
Fel cysur i Stiniog ar ôl colli un o'i goreuon, cynigiodd ddod â thîm i chwarae gêm er budd clwb y Blaenau. 'Roedd Glyn Bryfdir Jones yn dal i chwarae i Stiniog yr adeg hynny, a Dugdale oedd y ceidwad, ond fe gafwyd y swm sylweddol o £55 wrth y dorau.
Ymhen ychydig ddyddiau ar ôl hynny yr oedd Bob Davies yn chwarae gydag ail dîm Notts Forest. Chwaraeodd gyda'r prif dîm am y tro cyntaf yn erbyn Newcastle. Pan gyrhaeddodd Bob yr ystafell newid y diwrnod hwnnw yr oedd yno lu o delegramau yn ei ddisgwyl, yn cynnwys rhai oddi wrth Richard Morris, Glyn Bryfdir a Dwyryd.
Cynhyddodd Bob yn gyson, ac erbyn Ionawr 1938 wedi ennill sylw prif feirniaid oherwydd ei feistriolaeth ar Jack Dodds - a oedd yn ei fri yr adeg hynny. Roedd Tommy Griffiths, canolwr tîm Cymru, yn ymddeol, a rhai oedd wrth olynydd iddo. Daeth y dydd mawr i Bob Davies chwarae dros Gymru - ac yn erbyn Lloegr, o bawb. Tîm Cymru y dydd hwnnw oedd: Sidlow, Turner, Williams, Green, Davies, Witcombe, Hopkins, Dearson, Astley, Bryn Jones a Leslie Jones. Wedi gornest fawr curodd Cymru 1-0, a sgoriwyd y gôl gan Bryn Jones. Ond er mai ef a roddodd y bêl yn y rhwyd, arwr y dydd oedd Bob Davies, y bachgen o Stiniog, a ddechreuodd chwarae gyda'r 'Thursdays' ac 'Offeren City'.
----------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2007. (Ymddiheuriadau bod y bennod olaf yma wedi bod mor hir yn ymddangos ar ôl y bennod ddwytha!). Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar ffôn).
Subscribe to:
Posts (Atom)