10.9.16

Y Dref Werdd- Cymuned a Chynefin


Erbyn hyn daeth y cwrs i ben ac mae criw o blant brwdfrydig a bywiog wedi cymryd rhan mewn chwe sesiwn ac wedi cael dysgu amrywiaeth o sgiliau gwahanol gan arbenigwyr lleol.

Daeth y syniad o ddatblygu’r sesiynau yma yn dilyn cwrs tebyg i oedolion cafodd ei ddatblygu gan Antur Stiniog rhai blynyddoedd yn ôl ac yn ddilyniant i’r Clwb Natur roedd Y Dref Werdd yn ei drefnu yn y gorffennol. Sesiynau llawn hwyl oedden nhw, ond wrth gael hwyl, roedd pawb yn dysgu am amrywiaeth o bynciau gwahanol fel hanes, treftadaeth, yr amgylchedd, daeareg a bywyd gwyllt.

Yn y sesiwn cyntaf, aeth Twm Elias a’r criw allan i Landecwyn ar ddiwrnod braf lle cafwyd bob math o straeon difyr am yr ardal cyn darfod y diwrnod ar draeth Llandanwg, ger Harlech.

Yr adborth gan y plant ar ddiwedd y dydd i’w rhieni oedd, “Mae Twm Elias yn ôsym, mae o’n gwbod pob dim am bob dim”!!



Sesiwn ychydig mwy anturus oedd wedyn, gydag Iwan Cynfal yn arwain y plant i ddringo ar greigiau yn Nhanygrisiau iddynt gael blas o’r cyfoeth o weithgareddau awyr agored sydd ar gael ym Mro Ffestiniog.

Mae Catrin Roberts a Iona Price wedi bod wrthi yn chwilota am fwyd gwyllt sy’n tyfu o’n cwmpas ers rhai blynyddoedd bellach ac yn mynd ati i wneud jamiau, marmalêd a llawer o bethau blasus eraill. Felly, yn y trydydd sesiwn, aeth y criw allan i ardal Cwm Cynfal i ddarganfod planhigion blasus sydd ar gael yno, gyda phob plentyn yn casglu cynhwysion gwyllt eu hunain. Pan ddaeth y glaw, aeth pawb yn ôl i’r Ganolfan Gymdeithasol i ddefnyddio cegin y Gofal Dydd, a choginio pitsas cartref efo’r planhigion bwytadwy a gasglwyd i ychwanegu blas arbennig. Er y llanast oedd yn y gegin ar y diwedd, cafodd y plant fwynhad mawr !


Mae sgiliau gwylltgrefft, neu bushcraft  yn Saesneg, wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar, felly o dan oruchwyliaeth Hefin Hamer a Megan Thorman, aeth y plant i lawr i safle Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yng Ngwaith Powdwr, Penrhyn, lle cafwyd dysgu nifer o sgiliau newydd oedd yn cynnwys defnyddio cyllell i greu darnau o gelf, cynnau tân yn ddiogel, adeiladu ‘den’ a llawer mwy. Braf oedd gweld y plant yn cael dysgu gymaint â chael hwyl gyda Hefin a Megan, sydd â chymaint o arbenigedd i’w rannu.

Yn y ddau sesiwn olaf, bu Hefin a Megan yn chwilio am olion anifeiliaid i lawr ar yr aber ac o gwmpas Bro Ffestiniog, a bu Selwyn Williams a Maia Jones, Y Dref Werdd, yn son am dreftadaeth cyn gorffen yn y Pengwern am sesiwn greadigol.

Roedd pob un o’r plant sydd wedi bod yn rhan o’r sesiynau Cynefin a Chymuned yn derbyn tystysgrif Gwobr John Muir ar y diwedd fel cydnabyddiaeth o beth maent wedi ei ddysgu ar y cwrs arbennig hwn. Gwyliwch allan hefyd am arddangosfa’r plant yn oriel Antur Stiniog yn ystod mis Medi!

Os oes plant neu blentyn gennych chi a fydd gyda diddordeb ymuno â’r hwyl, cysylltwch gyda Daniel ar 01766 830 082 neu daniel[AT]drefwerdd.cymru

8.9.16

Hanesion Hynod Anti Cein -Y Pannwr

Pennod arall o hanesion Ceinwen Roberts. Y tro hwn, hanes William Edwards (Y Pannwr), Gellilydan. 

Yn William Edwards cefais adnabod y dyn mwyaf gonest a gwreiddiol. Ar ddiwrnod ei angladd gofynnodd ei weinidog ‘Beth tybed yw gwreiddioldeb cymeriad?’ Gwyddom nad trwy addysg mo’i hanfod mewn oes fel hon, a’i phwys mawr ar werth addysg. Ceid llawer mwy o bobl wreiddiol yn yr oesoedd a fu. Pobl yn brin eu manteision addysgol oedd rhain i gyd. Un o’r dosbarth hwn oedd William Edwards, neu Y Pannwr oedd pawb yn ei adnabod yn ardal Gellilydan.

Nid oedd yn debyg i neb, na neb yn debyg iddo yntau. Pannwr ydoedd wrth ei grefft, ac felly ei daid a’i dad o’i flaen. Ganed ym Mhandy Gwylan yn y flwyddyn 1874, yma treuliodd rhan helaeth o’i oes cyn symud i fyw i Preswylfa, Gellilydan ac fe’i claddwyd ym mynwent Utica, a dyma driongl daearyddol ei fywyd.

Crib y pannwr. Llun- Paul W

Mae'r ardal lle ganwyd ef yn gyfoethog ei thraddodiadau a gwreiddiau ei diwylliant yn myned ymhell iawn yn ôl. Dyma ardal Edmwnd Prys, Lowri William, Pandy’r Ddwyryd, Huw Llwyd o Gynfal, y Twrne Llwyd o Gefn Faes a Phlas Penglannau, a’r hynod William Ellis, ac hefyd John Humphrey Gwylan, ffermdy mewn lled cae i Pandy Gwylan lle cerdda cristnogion i addoli yn y tŷ yma yn amser boreuol iawn a’r crefydd yn yr ardal yma dan arweiniad Lowri William. Hoffwn i roi enw William Edwards yn oriel yr Hen Gymeriadau yma hefyd.

Fel hyn rwyf yn cofio y Pannwr. Yr oedd yn ddyn tal, tenau a’i war yn gwywo. Roedd edrychiad ei lygaid yn dreiddgar a bywiog, roedd yn ddyn ar ben ei hun hollol, ac hefyd roedd yn ŵr eang ei ddiddordebau ag anghyffredin ei arferion. Meddai ei Dad a’i Daid rhyw gyffur cyfrin i dynnu y “Ddafad Wyllt” ac fe etifeddodd William Edwards y gyfrinach ganddynt. Ar hyd ei oes bu yn defnyddion’r cyffyr hwn i wella rhai a ddioddefai oddiwrth yr anhwylder hwn.

Pwy yn ardal Gellilydan na chlywodd am “Eli Du Pannwr”? Deuai bobl ato o bell ac agos i gael meddyginiaeth, ac ni siomwyd neb. Cefais i dynnu “Dafad Wyllt” ar un o fysedd fy llaw dde ac mi fuodd yn llwyddiant, fel pob achos arall i bob un a gafodd y driniaeth. Dywedodd wrthyf fod tri math ar hugain o’r Ddafad Wyllt, a phob un yn gofyn triniaeth wahanol. Cyn iddo rhoi yr ‘Eli Du’ ar neb roedd rhaid iddo gael gwybod rhywbeth am drefn y corff y sawl oedd am ddefnyddio’r cyffyr yma. Roedd ganddo lawer o lyfrau ar iechyd y Ddynoliaeth, ac astudiodd rhain yn ofalus iawn.

Un tro meddyliodd y gallasai wella y ‘blood poison’ gyda chyffur y ‘Ddafad Wyllt’ ac fe wnaeth arbrofion trwy dorri darn o groen ei fawd a chyllell gan dywallt gwenwyn i’r toriad. Mewn byr iawn o funudau dyma’r gwenwyn yn dechrau treiglo i fyny ei fraich - yn lein goch a dioddefodd boenau ofnadwy, yna rhoddodd yr ‘Eli Du’ ar y toriad a mawr oedd ei lawenydd fod y gwenwyn yn cilio dan ddylanwad y cyffur, felly gwelodd y gallai rhoi trinfa ar bobl a oedd wedi cael gwenwyn yn eu gwaed.

Arferai ei Daid a’i Dad dynnu dannedd hefyd, cyn bod son am anaesthetic. Ni wn beth a feddyliai deintyddion modern ein hoes ni o’u harfau hwy sef tair gefail fawr o wahanol ffurf. Rwyf yn gwybod fod William Edwards wedi defnyddio’r rhain hefyd ar aml un o’r pentref yma ac yntau wedi ei eni a’i fagu yn swn peiriant y Pandy, naturiol oedd iddo gymryd diddordeb mewn peirianneg. Gwnaeth arbrofion lawer iawn gyda’r peiriannau melinau gwlan.

Ef hefyd oedd un o’r rhai cyntaf yn y cylch yma i brynu cerbyd modur, nid am ei fod yn ariannog nac yn rhodresgar, ond oherwydd ei hoffter o bob math o beiriant. Roedd y modur hwn yn gyfleus i gludo brethynnau o’r Pandy i wahanol ffatrioedd, a gyda’r modur yr aeth i briodi heb ddweud gair wrth neb, roedd y cerbyd yn llawn o flancedi rhag i’r cymdogion amau dim. Daeth yn ôl yr un noson gyda Margiad yn wraig iddo. Roedd pawb wedi rhyfeddu ei fod wedi priodi. Dyn fel yna oedd o, yn un fedr gadw cyfrinachau iddo ei hun.

Gwelwyd ef yn flaenor yng Nghapel Maentwrog Uchaf pan oedd yn gymharol ieuanc. Roedd Pannwr yn ŵr duwiol heb fod yn sych ddywiol. Gallai fwynhau ei hun yn dysgu drama i bobl ifanc. Cefais i y profiad yma gydag ef pan oeddwn yn byw yn Llech-y-Cwm ac wedi bod mewn amryw o’i ddramau. Cael digon o hwyl yn ymarfer yn festri’r capel. Rhoes ei orau i’r ardal.

Bu'n glerc y Cyngor Plwyf am gyfnod maith, hefyd bu'n aelod o Gyngor Dosbarth Deudraeth, ac hefyd yn aelod o fwrdd llywodraethwyr ysgolion cylch Ffestiniog. Roedd yn gymwynaswr, ac ato ef y rhedai bawb mewn argyfwng. Roedd bob amser yn ddoeth ei gyngor a chadarn ei farn. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel. Rhoddwyd ef i orwedd ym mynwent Utica gyda Margiad eilun ei galon, ar Hydref 2il 1950.

----------------------------------------

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2005 sydd uchod. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

6.9.16

Colofn y Merched- Gofalu am blanhigion tŷ

Pennod arall o gyfres Annwen Jones.
 

A ydych chi wedi meddwl am brynu ychydig o blanhigion i addurno’r ty?  Neu, yn hytrach na’u prynu, ofyn i’ch ffrindiau am dorriadau bach o’u rhai hwy i chi gael eu magu?  Rhowch y torriadau mewn dŵr hyd nes bo gwreiddiau’n tyfu ac yna planwch mewn pridd addas (megis compost 1 John Innes..)



Fe fydd angen tri pheth ar y planhigyn, sef golau, dŵr ac awyrgylch heb fod yn rhy sych.  I greu lleithder o amgylch y planhigion fe ellir unai chwistrellu’r dail efo dŵr (i rai planhigion yn unig) neu osod y potyn ar gerrig bach mewn soser o ddŵr.  Rhaid gofalu bod y dŵr yn y soser o dan lefel y potyn.


Mae’n rhaid i’r planhigyn gael golau eithr cofiwch nad yw pob un yn hoffi haul uniongyrchol.  Os yw’r planhigyn yn gwywo ar silff y ffenestr yna symudwch ef i le mwy cysgodol.


Mae’n bwysig hefyd rheoli faint o ddŵr a roir i blanhigyn.  Ni ddylid cael pridd sych na phridd sy’n socian.  Yn yr haf fe fydd angen dŵr tua dwy waith yr wythnos ond bydd angen llai yn y gaeaf.  Ac fel trît achlysurol i’ch planhigion rhowch ddŵr berwi ŵy neu loewon tatws iddynt.


Byddwch yn ofalus wrth fwydo gyda baby bio neu rywbeth cyffelyb.  Darllenwch y cyfarwyddiadau’n ofalus a pheidiwch a gor-fwydo.  Nid oes angen bwyd ar blanhigion sydd mewn compost newydd gan fod digon o faeth yn y pridd.



O gael gofal iawn mae planhigion tŷ yn medru dod a ffresni a gwyrddni i ystafell a gwneud iddi edrych yn llawer mwy deniadol.

--------------------------------------

 
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Lluniau- Paul W 

 

4.9.16

Peldroed. 1977 i 1980

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau.
Parhau'r gyfres, yng ngofal Vivian Parry Williams (allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones).


1977-78
At y tymor 1977-78 penderfynodd y clwb gael tîm lleol eto gyda Billy Williams yn chwaraewr/reolwr a Glyn Jones yn gapten. Cynhaliwyd tîm wrth gefn hefyd. 

Dychwelodd Caernarfon i'r gynghrair ac ymunodd Conwy a Rhos Llandrillo, a gadawodd Bethesda.  Diweddwyd y cynllun Cynghrair Atodol.  Gwnaeth y tîm yn rhesymol dda a diweddu'r tymor ar ganol y tabl. 

Cawsant hwyl reit dda hefyd yn y cwpannau, a chyrraedd ffeinal Cwpan Alves. Rhoddwyd dwy gêm gwpan iddynt wedi canlyniadau cyfartal gan Brestatyn ac Abergele. 

Chwaraewyd cyfanrif o 40 gêm gan ennill deunaw ohonynt.  Bu Dafydd Jones, Y Bala a Steven Parry yn chwarae yn y gôl cyn i Penrhyn Jones, Llandudno ymuno am weddill y tymor.

Gareth Roberts (17), Richard Jones (18), Billy Williams (11) Glyn Davies a Carl Davies oedd y prif sgorwyr.  Chwaraeodd Steve Southall chwe gêm.


Cae Clyd. Llun- Paul W
1978-79
I raddau helaeth, yr un tîm oedd yn gweithredu ym 1978-79, gan ychwanegu David Hughes, Llandudno, (bachgen a chanddo gysylltiad â theulu Cemlyn, Stiniog), Dafydd Williams ac Ian Williams.  David Hughes, (Cemlyn) oedd y prif sgoriwr. 

Chwaraewyd 31 gêm, gan ennill deg.

1979-80
Lluchiwyd y polisi chwaraewyr lleol drwy'r ffenestr at dymor 1979-80, a'r prif chwaraewyr oedd Graham Jones, Peter Jackson, Terry Atkinson, Pete Davies, Alan Griffiths, Billy Williams (lleol), Tony Nabcurvis, Alan Wiliams, Mike McBurney a Nicky Hencher. Cafodd McBurney 26 gôl, Alan Williams 18, Billy Williams 13 a Hencher 10. 

Daeth llwyddiant y tro hwn fel huddugl i botes megis;  enillwyd y bencampwriaeth a hefyd Gwpan Alves a Chwpan Ganol Cymru.  Cyflenwyd y gamp hefyd o guro Porthmadog ddwywaith yn y Gynghrair.  Efallai y gellid dadlau nad oedd y clod arferol mewn ennill y bencampwriaeth yn y tymor hwn gan fod rhif y timau wedi gostwng i ddeg, ond ar y llaw arall, gellid hawlio bod y perfformiadau yn y cwpannau yn awgrymu y gallai tîm Graham Jones fod wedi gwneud yn dda mewn cwmni cryfach.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2007.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


2.9.16

Stolpia -Clochyddion

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain, yn parhau â'i drafodaeth am glychau.

Os cofiwch, dechreuais son ychydig am glochyddion yn gyffredinol y tro diwethaf on'd o? Wel, y tro hwn rwyf am daflu ychydig mwy o olwg ar y swydd bwysig hon ac ar rai a fu'n ei gwneud am flynyddoedd lawer.

Yn y Genedl Gymreig am fis Ionawr 1932 ceir cyfeiriad at un James Williams, clochydd Llandegai, a fu'n ôl yr hanes, yn canu cloch yr eglwys i groesawu'r flwyddyn newydd i mewn am 78 mlynedd i gyd! Tybed a oes rhywun wedi torri'r record hon?

Clochyddion y Llan
Ymhlith y clochyddion a geid yn y Llan ers talwm, roedd rhai selog iawn. Bu Thomas Jones, Tŷ'n y Maes yn glochydd yna am 36 mlynedd cyn i un arall ganu ei gloch gnul yn 1929 pan oedd yn 80 mlwydd oed. Un arall a fu'n gwneud y swydd hon am 34 o flynyddoedd oedd Joseph Jones, Tŷ'n y Maes. Bu ef farw yn 65 mlwydd oed yn 1886, ac os nad wyf yn cyfeiliorni, roedd yn un o hynafiaid Mrs Enid Roberts, Bangor [gynt o Gae Clyd].

Eglwys Sant Mihangel, Llan ffestiniog. Llun Paul W

Yn ôl carreg fedd William Roberts, gof o Benybryn, Ffestiniog, bu yntau'n glochydd yn yr eglwys am 32 mlynedd. Bu ef farw yn 1851 yn 66 mlwydd oed. Os cofiaf yn iawn, bu William Henry Jones, taid Mrs Maureen D' Aubrey Thomas yn glochydd a thorrwr bedd yn Eglwys Sant Mihangel, hefyd, ond nid wyf yn sicr am ba hyd.

Yn ddiau, bu llawer o rai eraill yn glochyddion ffyddlon i'r eglwysi yn Y Llan, y Manod, Y Blaenau a Thanygrisiau pan oeddynt yn eu bri. Yn ei ysgrifau ar hanes cymeriadau 'Stiniog a'r cylch gan Glyn Myfyr ceir y canlynol am un a lysenwid 'Yr Hen Glochydd':
‘Edward Williams, Dorfil Street, Kings Head, ar ôl hynny, a gai ei adnabod gan bawb bob amser wrth yr enw 'Yr Hen Glochydd'.
Yr oedd ef yn gymeriad, credaf na fu iddo erioed gyrraedd y gwaith erbyn caniad yn y bore. Un tro roedd yn eithriadol hwyr, a chloch yr ysgol yn canu. Sylwodd y goruchwyliwr, "Oes gen ti ddim cwilydd Clochydd yn dod at dy waith yr amser yma o'r dydd mewn difri?" "Rwan mae'r gloch yn canu", meddai'r Clochydd. "Ie, ond cloch yr ysgol yw honna", meddai' r goruchwyliwr. "Waeth i ti pa gloch wyt ti'n ei glywed", meddai yntau.’
O ddarllen y bennod 'Yr Hen Glochyddion' yng nghyfrol 'Ar Lawer Trywydd' (1973) gan Gwynfryn Richards gwelir fod amryw ohonynt â sawl swydd arall i'w wneud yn ogystal a bod yn glochydd. Er enghraifft, roedd John Jones, sef Ioan Garmon o Lanarmon yn glochydd, casglwr trethi, cerfiwr ac yn ysgolfeistr. Roedd William Roberts, Llannor yn arddwr, yn ysgolhaig ac yn rhwymwr llyfrau, a Sion Ifan, Penmachno yn llythyr-gludydd.

Clochydd Pren

Ar un adeg defnyddid math arall o glochydd i gynorthwyo gyda chaniadaeth yr eglwys mewn ambell blwyf, sef un wedi ei wneud o bren. Ei ddiben oedd helpu i yngan Amen trwy ddynwared llais dynol a gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithiol.

Math ar offeryn awtomatig oedd y clochydd hwn ac os tarai'r offeiriad ei droed ar ran ohono seiniai yntau A-men yn union fel llais dynol a gellid ei glywed yn eithaf clir drwy'r adeilad, yn ôl pob son. Arferid un o'r offerynau hyn yn Eglwys Hirnant ger Llangynog, Powys ar un adeg.

Dyrna hen rigwm amdano:
Amen, clochydd pren,
Dannedd priciau yn ei ben.
Tybed a oes un o'r dyfeisiadau hyn ar gael yn rhywle heddiw. Oes 'na un yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan neu'n ymhlith hen greiriau'r eglwys?

-------------------------

O.N.  Clychau a Chlochyddion*
Dyma un neu ddau o bethau a ddaeth i law amdanynt yn dilyn fy sylwadau blaenorol.  Yn gyntaf, diolch i’m cyfeillion yn Archifdy Meirion, Dolgellau am dynnu’n sylw at ‘Y Gloch Un’ a alwai gweithwyr ardal Dolgellau gynt yn ôl at eu gwaith wedi iddynt giniawa.  Hefyd ‘Y Gloch Naw’ a weithredai fel hwyrgloch (curfew) a chloch i alw’r morynion adref ... gan y byddai’n amod yn rhai o dai y dref iddynt gyrraedd yn ôl at 9 o’r gloch ... yr hwyr, wrth gwrs.

Cefais glywed gan Mr D. Hughes (Deio), Ffordd Wynne fod cloch wedi bod ar un adeg ar bostyn neu fur gerllaw’r Swyddfa Post (y Post Mawr).  Rhyw gof hogyn sydd ganddo ohoni, a pheth da fyddai cael cadarnhad o hyn.  Pwy a wyr, efallai bod llun ohoni’n rhywle?

Yn olaf, deuthum ar draws y cofnod canlynol tra’n chwilota am rywbeth hollol wahanol:
Ar Fai 23, 1853 bu farw Robert Jones, Clochydd Trawsfynydd.  Cymerodd ran ym medyddio 1400 o bersonau, 600 o briodasau a 1,500 o angladdau!  
Pwy all ddweud mwy o’i hanes wrthym, neu’n wir, hanes un o glochyddion eraill Bro Ffestiniog?
 -------------------------


Ymddangosodd yr erthygl uchod yn rhifyn Ebrill 1999. * Cafwyd y diweddariad wedyn yn rhifyn Mai 1999.