9.9.15

Mil Harddach Wyt- codi tatws a pharatoi..

Erthygl arall o golofn arddio Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin.  

Yn yr Ardd Lysiau:
Codwch eich tatws diweddar rwan a'u cadw mewn bagiau papur ar ôl iddynt sychu. 


Mae angen clirio cnydau eraill hefyd fel bod y gwelyau yn barod er mwyn cael palu yn nes ymlaen. 

Gellir hau letys gaeaf mewn tŷ gwydr oer neu ffrâm oer. 

Mae yn amser hefyd i blannu garlleg os am blanhigion da y flwyddyn nesaf. Mae rhan fwyaf o'r cwmniau hadau yn eu cadw. Un o'r mathau gorau yw y 'Long Keeper'. 

Yn yr Ardd Flodau:
Os nad ydych wedi cael bylbiau 'Hyacinth' ar gyfer y Nadolig mae yn rhaid eu gwneud yn awr neu fydd hi yn rhy hwyr i'w cael i flodeuo at yr ŵyl. 


Bydd llawer o flodau blynyddol yn dechrau edrych yn flêr rwan. Felly, codwch nhw a rhoi dipyn o wrtaith i'r pridd fel 'Gravmore’ yn barod i blannu blodau at y gwanwyn, megis pansi a briallu. Gorau po cyntaf yn y byd y plannwch y rhain er mwyn iddynt gael sefydlu cyn y gaeaf. 

Cliriwch y tŷ gwydr a'i olchi er mwyn cael dod a phlanhigion meddal megis myniawyd y bugail a Fuschia i mewn cyn y rhew.

 

------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1999.
Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.

7.9.15

Sgotwrs Stiniog -llyncu llyg

Erthygl o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Faint o sgwtwrs yr ardal sy'n edrych ac yn archwilio stumogau y pysgod y maent yn eu dal er mwyn gweld beth y maent wedi bod yn ei fwyta?

Un sy'n gwneud hynny yn o reolaidd yw yr hen gyfaill o Blas Isa, y Blaenau - Eric Thomas. Yn ôl ym mis Gorffennaf, wrth bysgota'r nos yn Llyn Conwy, daliodd bysgodyn tri-chwarter pwys. Sylwodd fod y pysgodyn yma yn bur foliog.

Wedi mynd adref glanhaodd y pysgodyn ac edrych cynnwys ei stumog er mwyn gweld beth oedd ynddi. Yn ei llenwi yr oedd gweddillion rhyw anifail. Roedd y pysgodyn wedi'i lyncu ben-yng-nghyntaf, ac roedd hanner blaen yr anifail wedi ei rannol dreulio fel nad oedd hi'n bosib dweud pa anifail ydoedd. Ond roedd ei hanner ôl yn weddol gyflawn - y blewiach llwyd-ddu, y coesau ôl a'r gynffon. Maint llygoden ydoedd. Bu Eric Thomas a finnau uwchben y gweddillion yma yn eu hedrych yn fanwl er mwyn ceisio gwybod pa anifail a oedd yn stumog y pysgodyn yma o Lyn Conwy.

Penderfynwyd yn y diwedd mai llyg ydoedd.

Roeddwn i'n arfer a meddwl fod y llyg a'r llygoden yn perthyn yn agos i'w gilydd, ond yn ôl un llyfr a edrychais nid felly y mae hi. Perthynant i ddau ddosbarth gwahanol o anifeiliaid. Yn ei lyfr diddorol 'Keeper of the Stream', mae gan y cyn-giper afon Frank Sawyer ddarn o bennod am y llyg, ac am y difrod a wna i wyau a mag y brithyll os y caiff y cyfle. Pan oedd Frank Sawyer yn magu pysgod mewn deorfa roedd yn cael colledion trwm nes iddo sylweddoli mai y llyg oedd yn gyfrifol amdanynt. Mae y llyg mor gartrefol yn y dŵr ag yw allan ohono yn ôl a ddywedir.

Fel arall y bu hi pa'r un bynnag pan drawodd y pysgodyn a ddaliodd Eric Thomas a'r llyg ar ei gilydd yn rhywle yn Llyn Conwy, ac fe'i llyncwyd yn ei grynswth ben-yng-nghyntaf.

Oes rhywun arall, wrth edrych cynnwys stumog rhyw bysgodyn neu'i gilydd, wedi canfod rhywbeth allan o'r cyffredin sydd o ddiddordeb? Gadewch inni wybod.

Mis Medi, a dyma arwyddion o'r Hydref yn dod yn fwy-fwy amlwg, a dyma hefyd dymor y brithyll yn tynnu tua'i derfyn. Mae yna ryw fis eto o dymor yr eog a'r sewin ar ôl, sydd yn ymestyn rywfaint ar hyd y tymor pysgota.

I'r rhai sydd a diddordeb mewn mynd ar ôl y sewin, cefais bluen sydd yn newdd i mi gan Eurwyn Roberts, DoIwyddelan. Mae wedi dal yn Afon Lledr, ac fe ddylai wneud hvnny hefyd yn yr afon Dwyryd fuaswn i’n tybio. Dyma’i phatrwm:

Bach –maint 6 neu 8
Cynffon –pluen felen oddi ar war ffesant euraid
Corff –arian, a rhoi cylchau o weiar arian am y corff
Traed –lliw hufen. Amrywir y patrwm trwy roi traed wedi eu llifo’n las I’r bluen
Adain –blew oddi ar bry llwyd

Diolch i Eurwyn am y patrwm, ac am ei barodrwydd imi ei gynnwys yn y golofn.
Byddai yn ddiddorol iawn cael gwybod gan rywun eu rywrai a wnaiff roi cynnig ar y bluen yma beth fu’r canlyniad.

---------------------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2003. Gallwch ddarllen erthyglau eraill Sgotwrs Stiniog gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


5.9.15

Pobl Stiniog ym Mhatagonia

Ail bennod cyfres Steffan ab Owain ar hanes pobl Blaenau Ffestiniog yn y Wladfa.

Ymhlith y rhai diwylliedig a adawodd ein bro ac ymsefydlu yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia oedd John W. Jones, Tŷ Newydd, Tanygrisiau (tŷ sydd bellach o dan Lyn Ystradau). Fel amryw o'i gyd-ardalwyr, credaf mai yn ystod yr 1870au (1874 mi gredaf) yr hwyliodd ef a'i ddau frawd, Henry a Richard drosodd yno. Dywedir fod Tanygrisiau wedi colli gŵr dawnus yn ymadawiad J.W.J o'i fro enedigol.

Yn ôl D.O.Hughes yn 'Canrif o Hanes yr Achos Methodistaidd yn Nhanygrisiau' ef oedd arweinydd y gân yng Nghapel Carmel cyn i Cadwaladr Roberts gymryd drosodd. Do, bu J.W.J yn amlwg iawn gyda cherddoriaeth yn ei henfro, ac yn ôl  beth ddywedir, roedd yn un o'r chwareuwyr offerynnau cyntaf o holl weithwyr y plwyf. Byddai hefyd yn wastad yn barod i gynorthwyo eraill yn y maes cerddorol.

Pa fodd bynnag, ar ôl iddo setlo ym Mhatagonia ni fu'n hir iawn cyn codi tŷ iddo'i hun a'i deulu. Gwnaeth hyn heb fawr o ymdrech gan ei fod yn saer celfydd ac yn gallu troi'i law at lawer gwaith. Galwodd y tyddyn yn 'Tŷ Newydd' er cof am ei hen gartref yn Nhanygrisiau. Bu'n amlwg hefyd gyda chodi adeiladau eraill yno, un ohonynt cedd Capel Moriah yn y Gaiman a adeiladwyd yn 1874.

Mae hanes J.W.Jones Tŷ Newydd yn ddiddorol iawn, ond dyma stori am ei fab rwan. Un tro pan oedd y dynion allan ar y paith yn hel gwartheg ymosododd 'piwma' (llew mynydd) ar ei gi, ac yn wir, byddai'r creadur ffyrnig wedi lladd y ci druan onibai i'r bachgen daflu ei 'laso' oddi ar gefn ei geffyl ac am wddw'r piwma .... a'i dagu. Gallai bywyd Cymry'r Wladfa fod yn dra pheryglus ar adegau a dim ond un stori o lawer yw hon.

Y Gaiman heddiw. Llun gan Beryl a Vivian Williams
Ni fu'n hir iawn cyn i J.W.Jones wneud argraff ar ei gyd-Wladfawyr fel cerddor medrus hefyd. Bu'n flaenor y gân, yn ddiacon ac yn ysgrifennydd Capel Moriah, y Gaiman, am 19 mlynedd i gyd. Pa fodd bynnag, dirywiodd ei iechyd yn yr 1890au ac roedd y brofedigaeth chwerw o golli ei wraig a dau o'i blant wedi ei lesghau. O ganlyniad, penderfynodd ddychwelyd i Gymru yn 1893 gydag un o'i ferched. Bu'n preswylio ym Mhorth y Gest wedyn .... ond am ba hyd, ni allaf ddweud. Tybed a aeth yn ôl i' r Wladfa drachefn, oherwydd roedd ganddo ferch yn byw yno, hefyd? Gyda llaw, roedd John W. Jones yn frawd i William Jones, taid y ddiweddar Miss Lelin Williams, 10 Tanrallt.

O.N. (1) Diolch i Mrs Gwenda Jones, Mr D.Hughes (Deio), Heol Wynne, a Mr Roy Jones, Cae Clyd am fy ngoleuo ynghylch hanes James Nichols. Deallaf fod J.N. wedi bod yn byw dros y ffordd i gartref Mrs Jones ar un adeg a'i fod yn gweithio yn Chwarel Maenofferen. Byddai chwarelwyr ifainc Maenofferen yn hoff iawn o'i glywed yn adrodd ei hanes fel 'gaucho' (cowboi) ar y paith ac yn defnyddio'r bolas a'r laso. Deallaf hefyd ei fod yn darlithio i wahanol gymdeithasau ar hanes y Wladfa a'r Cymry a arloesodd y wlad bellennig honno ar gyfer eu cyd-wladwyr.
(2) Diolch hefyd i Mr Roy Jones am ddweud wrthyf mai ym mynwent eglwys Betws y Coed y claddwyd Robert Jones (Ortro Law) yn ogystal a bod walet blu pysgota yr hen bererin wedi dod i’w feddiant.
------------------------



Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1995, yn y golofn Stolpia.
I'w barhau..
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Patagonia' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

3.9.15

O Lech i Lwyn- Yn y mynydd mae'r gerddinen

Pennod arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a'r awyr agored ym Mro Ffestiniog. Erthygl gan y diweddar Emrys Evans y tro hwn. 

Wrth y clawdd sy' n gwahanu Cae Garnedd, y Neuadd Ddu oddi wrth un o gaeau Tyddyn Gwyn, y Manod, mae coeden griafol, neu y gerddinen i roi ei henw cywir iddi.

Pan ddaeth yn fis Medi eleni roedd yn drwm o griafol, neu aeron fel y gelwir hwy, a'r rheini cyn goched â gwaed. Edrychai'n hynod o hardd, yn denu'r llygaid oddi ar bethau mwy unlliw, fel y coed derw sydd yn ei hymyl.

Criafol. Llun gan PW
Yna, fel y daeth yn ddyddiau olaf Medi ac yn ddechrau mis Hydref, dechreuodd cochni llachar y goeden leihau o dipyn i beth. Roedd hi fel tân yn araf farw yn y grât wedi iddo fod yn llosgi'n gynnes a braf, a'r gerddinen yn mynd mor unlliw ag unrhyw beth arall oedd o gwmpas.

Ddiwrnod ar ôl diwrnod gwelwyd ymhlith ei changhennau haid o adar yn gweledda'n hael ac yn rhad ar yr aeron. Haid o socan eira oeddent, wedi dod i lawr i'n gwlad o rywle yn y gogledd. Ryda ni yn ddigon cyfarwydd â'r wennol ac adar eraill sydd yn dod atom yn y gwanwyn fel mae ein tywydd ni yn gwella ar ôl y gaeaf, ac yna yn ymfudo oddi yma i wledydd cynhesach fel mae ein tywydd ni' n oeri yn yr hydref.

Yn wahanol i'r wennol a'r adar eraill, un o'r rhai yw y socan eira sy'n dod atom ni i dreulio y gaeaf, gan fod y gaeaf yn gymaint mwy gerwin yn eu rhan hwy o'r byd, sef gwledydd Llychlyn ac eraill fwy i'r gogledd.

Aderyn o deulu y fronfraith ydyw, ychydig yn fwy na'r fronfraith gyffredin sy'n dod i'n gerddi i chwilio am damaid. Mae y socan eira cymaint a'r math arall o fronfraith sydd yn ein gwlad, sef brych y coed. Pan oeddent yn gwledda ar yr aeron ac yn symud o gangen i gangen gan ledu eu hadennydd, ffiachiai eu ceseiliau yn olau.

Aderyn arall o deulu'r fronfraith sy'n ymfudo atom dros y gaeaf yw y coch-dan-adain. Mae hwn, hefyd yn hoff o aeron, boed yn rhai y gerddinen neu rai y ddraenen wen.

Roedd y gerddinen, yn yr amser a fu, yn cael ei hystyried yn bren lwcus, ac yn wir yn gysygredig. Dyma beth mae William Davies yn ei draethawd, sef  'Casgliad o len-gwerin Meirion' , yn ei ddweud:
Ystyrid hwn (y gerddinen) yn gysygredig, oblegid dywedid mai ohono ef y gwnaed y Groes Fendigaid, ac rnai hyn yw y rheswm fod ei ffrwythau mor debyg i ddefnynnau o waed. '
Byddai canghennau o'r gerddinen yn cael eu rhoi uwchben drysau y tŷ, y beudai, a'r stablau er mwyn cadw y drwg draw. Mewn rhai mannau yn yr Iwerddon byddai canghennau o'r gerddinen yn cael eu gwthio i'r domen dail ar noson Calan Mai er mwyn amddiffyn y ffarm. Y porthmyn, wedyn, pan fyddent yn cychwyn ar eu siwrnai hefo gyr o wartheg i Loegr, byddent yn gwisgo sbrigyn o'r gerddinen i geisio sicrhau taith dda, ddidrafferth, a llwyddiant ar y bargeinio a'r gwerthu ar ei diwedd.
Mae yna lawer mwy am y gerddinen, neu'r goeden griafol, ond dyna flas i chi o un o goed mwyaf lliwgar Cymru.


---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1997. Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Yn y mynydd mae'r gerddinen- geiriau T.Gwynn Jones.

Erthygl am wneud jeli criafol ar wefan Ar Asgwrn y Graig. Ydych chi wedi gwneud schnapps, neu bwdin neu unrhyw beth efo'r ffrwyth yma? Gadewch inni wybod. [Gol.]




1.9.15

DYDDIAU OLAF Y MAB DAROGAN

Erthygl gan Gymdeithas Owain Glyndŵr.

Eleni  byddwn yn coffáu chwechanmlwyddiant marwolaeth y Cymro mwyaf eiconig yn hanes y genedl, Owain Glyndŵr.  Ychydig a wyddom am flynyddoedd olaf Glyndŵr; serch hynny, mae ystod eang o ffynonellau yn cynnig mai ar Fedi 21, 1415 y bu farw.

Mae mwyafrif yr adroddiadau yn dewis Golden Valley yn swydd Henffordd fel y man lle treuliodd ei flynyddoedd olaf. Priododd dwy o'i ferched ŵyr o'r dyffryn. Priododd Alys (ei ferch hynaf) â John Scudamore o Kentchurch Court ac yn rhan o adeiladwaith y llys hwwnw mae Tŵr Glyndŵr.

Ym Monnington Straddel, tua 7 milltir o Kentchurch, mae mwnt sydd â thraddodiad cryf o fod y man lle claddwyd Owain.

Dafydd a Vivian yng Nghorwen, Mai 2014

Comisiynodd y Gymdeithas arolwg geoffisegol o 400 metr sgwâr o'r safle yn y flwyddyn 2000. Datgelwyd olion adeilad cerrig petryal yn mesur 10m x 6m, a'i furiau yn fetr o drwch, o dan wyneb y mwnt. Roedd aliniad yr adeilad yn ogleddol-ddeheuol.

Barn Dr Keith Ray, archeolegydd swydd Henffordd, oedd bod Owain bron yn sicr wedi'i gladdu mewn tir cysegredig, a bod o leiaf pedwar safle o fewn i'r sir lle y gallai fod yn gorwedd.

Mae Abaty Dore, Abaty Sistersaidd ynghanol y Golden Valley, yn safle tebygol, yn enwedig gan fod yr abaty yn meddu ar dir sylweddol yn y cwm. Yn ei lyfr 'The Mystery of Jack of Kent and the Fate of Owain Glyndŵr' mae Alex Gibbon yn hawlio bod corff Owain wedi'i gludo o swydd Henffordd a'i gladdu yn Eglwys Sant Gwrdaf, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin.

Mae'r offer dadansoddol ar gael i ddatgelu'r ateb i'r dirgelwch erbyn hyn; y cwestiwn llosg, wrth gwrs, yw a ddylid ceisio chwilio am yr ateb?!

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:   Dr John Hughes (Trysorydd ac Ysgrifennydd Aelodaeth), Bryn Siriol, Heol Penygreen, Llanidloes, Powys SY18 6AJ.

Gwefan: http://www.owain-glyndwr.cymru/index.html  (dim cysylltiad â Llafar Bro).

...ac wedyn yn Sycharth, flwyddyn yn ddiweddarach. (Wel, mae hi mor anodd ffeindio'r lle tydi!)        Lluniau PW.

------------------
Ymddangosodd yr erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2015.

Mae'r Gymdeithas yn trefnu gwibdaith i'r Golden Valley ar Fedi'r 5ed. Cysylltwch am fanylion.


Mae nifer o weithgareddau'n rhan o Ddathliadau Corwen ym Medi hefyd:

Dydd Owain Glyndŵr – Dydd Mercher, Medi 16eg
- Siaradwr : Gareth Vaughan Williams

Darlith Cymdeithas Hanesyddol Meirionnydd – Dydd Sadwrn, Medi 19eg
- Siaradwr : Gruffydd Aled Williams
- Lleoliad : Neuadd Goffa Owain Glyndŵr, Glyndyfrdwy
- Testun : Owain Glyndŵr yn ei gynefin

Bydd trenau Rheilffordd Llangollen yn darlledu hanes Glyndŵr
(Hefyd, Gŵyl Gerdded Corwen - Medi 5ed & 6ed)

Hefyd, mae Gŵyl Glyndŵr wedi'i drefnu ym Machynlleth ar y 19eg o Fedi, gan Ganolfan Owain Glyndŵr. Bydd cerddoriaeth a gweithgareddau plant yno o 1 o'r gloch ymlaen.