Showing posts with label Gaiman. Show all posts
Showing posts with label Gaiman. Show all posts

13.5.18

Dathlu Dau Ddiwylliant


Wrth fynd i Batagonia, fe ddysgodd Elin Roberts -enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Tref Ffestiniog 2017- lawer: o’r wleidyddiaeth i’r ieithoedd ac o’r hanes i’r ffordd o fyw. Yma cawn ychydig o'i hanes.

Roedd yn brofiad bythgofiadwy, yn enwedig fy mod wedi teithio yno ar fy mhen fy hun: o Landudno i Lundain; o Lundain i Rufain; o Rufain i Buenos Aires ac o Buenos Aires i Drelew. Roedd hefyd yn gyfle i gwrdd ac eraill a chreu ffrindiau oes. Drwy aros gyda theulu Billy a Gladys yn y Gaiman, cefais y cyfle i integreiddio fy hun yn y gymuned Gymreig a’r gymuned Castillano (Sbaeneg) hefyd.



Cefais gyfle i ymweld â Choleg Camwy yn y Gaiman, ysgol ar gyfer myfyrwyr 11-18 mlwydd oed. Dyma’r unig ysgol uwchradd yn y Wladfa ble mae yno gyfle i ddysgu’r Gymraeg. Yn ystod fy ymweliad yno cefais roi cyflwyniad yn ystod gwers Gymraeg i flwyddyn 9. Roedd yn gyfle i mi rannu gwybodaeth am y Blaenau a’i diwylliant yn ogystal â’r diwylliant Gymraeg. Roedd y plant yma yn dysgu Cymraeg, felly roedd hanner y cyflwyniad yn y Gymraeg a’r hanner arall yn Castillano. Wrth drafod gyda’r plant yn y dosbarth hwn a’r plant ym mlwyddyn 12, fe ddysgais cymaint am y gyfundrefn addysg yno. Yno mae’r flwyddyn ysgol yn dechrau yn mis Chwefror hyd mis Rhagfyr. Hefyd yn wahanol i Gymru, mae 2 dewis ar gyfer eu hastudiaethau lefel A: y Dyniaethau neu’r Gwyddorau.

Roedd fy mhrofiad o ymweld â Choleg Camwy yn wahanol i fy mhrofiad o ymweld ag Escuela 28 de Julio yn Nhir Halen oherwydd roedd yr ysgol yn Nhir Halen yn hollol Sbaeneg.  Nid oedd y myfyrwyr yn medru’r Gymraeg, ond roedd ganddynt y balchder mwyaf am fod ganddynt gyfenw Cymraeg a’u bod yn ddisgynyddion Cymreig. Daeth hyn drosodd yn glir wrth gael sesiwn trafod gyda’r myfyrwyr.

Elin efo aelodau Comisión de Amigos de la Cultura Galesa, y tu allan i Gapel Berwyn, Rawson.
Teimlaf bod y syniad o falchder i’w weld yn gryf yn y Wladfa; roedd i’w weld yn glir yn yr Eisteddfod. Roedd yr Eisteddfod yn ddathliad o’r diwylliant Cymraeg yn ogystal â’r diwylliant Sbaeneg; fe agorwyd yr Eisteddfod gydag anthem genedlaethol yr Ariannin a'i chloi gydag anthem Cymru. Wrth ddathlu’r ddau ddiwylliant gyda’i gilydd, roedd y ddau yn cael eu parchu’n gyfartal.

Wrth fynd draw i Rawson, roedd yr ymdeimlad o falchder a pharch i’w weld eto. Cefais y cyfle i gwrdd â Chyfeillion Diwylliant Cymreig, Rawson (Comisión de Amigos de la Cultura Galesa - Rawson) ac ymweld a’r Museo Salesiano sef amgueddfa am hanes y Cymry cynharaf yn y Wladfa. Yno roedd gwahanol arteffactau o’r Cymry cyntaf: esgidiau, llyfrau a dillad. Roedd yn ddiddorol cael mynychu Capel Berwyn yn Rawson oherwydd fe ddysgais am bwysigrwydd crefydd o fewn yr iaith Gymraeg yno. Roedd hyn hefyd yn amlwg wrth i mi fynychu Oedfa yng Nghapel Bethel yn y Gaiman.

Wrth ddysgu am hanes y Wladfa, roeddwn yn ysu i gael dysgu mwy am wleidyddiaeth yr Ariannin. Cefais y cyfle i gymharu cyfundrefn wleidyddol Cymru â chyfundrefn wleidyddol yr Ariannin wrth gwrdd â Mariano García, El Intendente de Gaiman (Maer y Gaiman). Roedd yn ddiddorol cymharu gweithredoedd eu cyngor tref nhw gyda chynghorau tref yng Nghymru. Yno, mae’r cynghorau tref yn debycach i’n cynghorau sir ni gan fod ganddynt gyfrifoldebau megis addysg, priffyrdd a’r amgylchedd. Roedd hefyd yn ddiddorol bod bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yn gallu pleidleisio yno a’i fod yn orfodol i unigolion 18 mlwydd oed a throsodd i bleidleisio. Mae hyn yn wahanol i’r drefn yma.

Roedd parch tuag at y ddau ddiwylliant i’w weld o fewn yr agwedd tuag at ddysgwyr Cymraeg a Sbaeneg.  Roedd trigolion y Wladfa yn rhoi cymaint o amser iddynt; yn rhoi amser i wrando ac amser i sgwrsio. Roeddwn yn gweld hyn gyda’r dysgwyr Cymraeg o brifysgolion o America ac o’r Almaen. Cefais y profiad o hyn wrth ymarfer fy Sbaeneg; roedd y bobl yn barod i roi amser i mi ac yn barod i fy nghynorthwyo i gael hyder yn yr iaith. Teimlaf bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni fel Cymy ymarfer a gwella arno, sef, rhoi amser i ddygwyr y Gymraeg. Rhoi amser i wrando. Rhoi amser i sgwrsio. Rhoi hyder i bobl yn eu Cymraeg.

Hoffwn i ddiolch i’r Cyngor Tref am eu hysgoloriaeth hael. Hoffwn i hefyd ddiolch i Billy a Gladys am eu parodrwydd i fy nghroesawu fel aelod o’u teulu. Hoffwn hefyd ddiolch i Patricia Alejandra Lorenzo Harris a Nanci Jones (Comisión de Amigos de la Cultura Galesa), Mariano García (Maer Gaiman), Patricia Ramos (Escuela 28 de Julio) a Gabriel Restucha (Coleg Camwy).
---------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018

5.10.15

Pobl Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 3 yng nghyfres Steffan ab Owain ar hanes pobl Blaenau Ffestiniog yn y Wladfa.

Er nad oedd Griffith Griffiths (Gutyn Ebrill) yn enedigol o ‘Stiniog bu’n byw yn ein cymdogaeth am nifer o flynyddoedd cyn ymfudo i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Un o gyffiniau Dolgellau ydoedd yn wreiddiol a chredaf iddo gael ei eni yn nhafarn Cross Foxes, nid nepell o’r Brithdir, yn y flwyddyn 1828.

Pan yn ddyn ifanc prentiswyd ef yn asiedydd coed a daeth yn grefftwr medrus yn y gwaith hwn. Roedd hefyd yn fardd pur dda ac yn llythyrwr cyson yn y newyddiaduron Cymreig. Credaf mai yn 1862 y symudodd ef a’r teulu i fyw i Bant yr Ynn yn ‘Stiniog yma. Cyn hynny, buont yn preswylio’n Brithdir, Lerpwl a Threffynnon. Oddeutu 1865 penodwyd Gutyn Ebrill yn oruchwyliwr ar Chwarel y Foelgron ar y Migneint a symudasont fel teulu i fyw i dŷ o’r enw Glan Dubach a safai gynt wrth lan deheuol Llyn Dubach y Bont.

Yn ystod y cyfnod y bu’n byw yno dechreuodd gadw Ysgol Sul yn ei gartref yng Nglan Dubach. Traddodwyd y bregeth gyntaf yno gan y Parchedig Michael D. Jones, y Bala, a’r adeg honno byddai’r naill a’r llall yn ymweld â’i gilydd i drafod a sgwrsio am y Wladfa. A serch fod y bardd yn gefnogwr eiddgar i’r Mudiad Gwladfaol o’r cychwyn cyntaf, yn 1881 y penderfynodd ymfudo i Batagonia. Yn dilyn y newyddion am ei fwriad, gwnaed tysteb iddo gan ei gyfeillion ac ar ddiwedd y flwyddyn hwyliodd ef a’i deulu drosodd i’r Wladfa er chwithdod mawr i’r ardal ar eu holau.

Pan laniwyd yr ochr arall i’r byd, cafodd brofiad chwerw ym marwolaeth ei ferch ieuengaf, Nest, yn chwech oed, ar ôl wythnosau o gystudd blin. Roeddynt eisoes wedi colli Elen eu merch tra yn byw yn y Foelgron. Dyma sut y canodd ar ei hôl hi.

   Ein gweld gyda’n dilydd – mewn iach hwyl
     Ni cheir ym mhen mynydd,
   Byth eto’n rhodio’n rhydd
   Ar ran o hen Feirionnydd.’


Wedi ymsefydlu yn y Wladfa, buan y daeth yr ymsefydlwyr i wybod amdano drwy ei gymwynasau a’i weithgareddau. Ychydig cyn iddo fynd drosodd i Batagonia cafodd femrwn seliedig gan Gwilym Cowlyd yn rhoi hawl iddo gynnal Gorsedd y Beirdd yno. Gwnaed hynny ganddo, ac o’r diwrnod hwnnw hyd ei farw, ef oedd Archdderwydd y Wladfa. Yn wir bu’n eisteddfodwr selog ar hyd ei oes, a bu’n arwain nifer o eisteddfodau yng Nghymru yn ogystal a rhai drosodd yn y Wladfa.

Llun- Paul W


Fel y dywedwyd eisoes, roedd yn saer celfydd iawn a phan oedd y Cymry’n sefydlu tref newydd yn Sance Corto adeiladodd lawer o dai iddynt yno, a chododd bont gadarn o goed dros y Gamwy. 

 

Dywedir fod amryw o’r adeiladau a gododd yn y Wladfa yn aros yn addurn iddo hyd heddiw. Pan yn hen ŵr cafodd flasu’r melys a’r chwerw mewn bywyd oherwydd daeth ei fab, y bonwr H. Griffith, yn ŵr blaenllaw iawn yn y Wladfa ond agorwyd y graith yn ei galon y trydydd tro pan fu farw ei ferch Gwladus Gruffydd Edwards.


Bu Gutyn yntau farw yn ei gartref, Llwyn Ebrill, ar Fedi 9, 1909 yn 81 mlwydd oed. Claddwyd ef ym Mynwent y Gaiman, ac yn ôl pob son, cafodd un o’r angladdau mwyaf a welwyd yn y Wladfa Gymreig.

Dyma’r englyn -gan Bryfdir- sydd ar ei garreg fedd:

   O’i Walia hoff ar wely hedd - obry
        Gutyn Ebrill orwedd;
  Â briw gân myn bro Gwynedd
  A’i Wladfa wylied ei fedd.

 
------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1995, yn y golofn Stolpia.
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Patagonia' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

5.9.15

Pobl Stiniog ym Mhatagonia

Ail bennod cyfres Steffan ab Owain ar hanes pobl Blaenau Ffestiniog yn y Wladfa.

Ymhlith y rhai diwylliedig a adawodd ein bro ac ymsefydlu yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia oedd John W. Jones, Tŷ Newydd, Tanygrisiau (tŷ sydd bellach o dan Lyn Ystradau). Fel amryw o'i gyd-ardalwyr, credaf mai yn ystod yr 1870au (1874 mi gredaf) yr hwyliodd ef a'i ddau frawd, Henry a Richard drosodd yno. Dywedir fod Tanygrisiau wedi colli gŵr dawnus yn ymadawiad J.W.J o'i fro enedigol.

Yn ôl D.O.Hughes yn 'Canrif o Hanes yr Achos Methodistaidd yn Nhanygrisiau' ef oedd arweinydd y gân yng Nghapel Carmel cyn i Cadwaladr Roberts gymryd drosodd. Do, bu J.W.J yn amlwg iawn gyda cherddoriaeth yn ei henfro, ac yn ôl  beth ddywedir, roedd yn un o'r chwareuwyr offerynnau cyntaf o holl weithwyr y plwyf. Byddai hefyd yn wastad yn barod i gynorthwyo eraill yn y maes cerddorol.

Pa fodd bynnag, ar ôl iddo setlo ym Mhatagonia ni fu'n hir iawn cyn codi tŷ iddo'i hun a'i deulu. Gwnaeth hyn heb fawr o ymdrech gan ei fod yn saer celfydd ac yn gallu troi'i law at lawer gwaith. Galwodd y tyddyn yn 'Tŷ Newydd' er cof am ei hen gartref yn Nhanygrisiau. Bu'n amlwg hefyd gyda chodi adeiladau eraill yno, un ohonynt cedd Capel Moriah yn y Gaiman a adeiladwyd yn 1874.

Mae hanes J.W.Jones Tŷ Newydd yn ddiddorol iawn, ond dyma stori am ei fab rwan. Un tro pan oedd y dynion allan ar y paith yn hel gwartheg ymosododd 'piwma' (llew mynydd) ar ei gi, ac yn wir, byddai'r creadur ffyrnig wedi lladd y ci druan onibai i'r bachgen daflu ei 'laso' oddi ar gefn ei geffyl ac am wddw'r piwma .... a'i dagu. Gallai bywyd Cymry'r Wladfa fod yn dra pheryglus ar adegau a dim ond un stori o lawer yw hon.

Y Gaiman heddiw. Llun gan Beryl a Vivian Williams
Ni fu'n hir iawn cyn i J.W.Jones wneud argraff ar ei gyd-Wladfawyr fel cerddor medrus hefyd. Bu'n flaenor y gân, yn ddiacon ac yn ysgrifennydd Capel Moriah, y Gaiman, am 19 mlynedd i gyd. Pa fodd bynnag, dirywiodd ei iechyd yn yr 1890au ac roedd y brofedigaeth chwerw o golli ei wraig a dau o'i blant wedi ei lesghau. O ganlyniad, penderfynodd ddychwelyd i Gymru yn 1893 gydag un o'i ferched. Bu'n preswylio ym Mhorth y Gest wedyn .... ond am ba hyd, ni allaf ddweud. Tybed a aeth yn ôl i' r Wladfa drachefn, oherwydd roedd ganddo ferch yn byw yno, hefyd? Gyda llaw, roedd John W. Jones yn frawd i William Jones, taid y ddiweddar Miss Lelin Williams, 10 Tanrallt.

O.N. (1) Diolch i Mrs Gwenda Jones, Mr D.Hughes (Deio), Heol Wynne, a Mr Roy Jones, Cae Clyd am fy ngoleuo ynghylch hanes James Nichols. Deallaf fod J.N. wedi bod yn byw dros y ffordd i gartref Mrs Jones ar un adeg a'i fod yn gweithio yn Chwarel Maenofferen. Byddai chwarelwyr ifainc Maenofferen yn hoff iawn o'i glywed yn adrodd ei hanes fel 'gaucho' (cowboi) ar y paith ac yn defnyddio'r bolas a'r laso. Deallaf hefyd ei fod yn darlithio i wahanol gymdeithasau ar hanes y Wladfa a'r Cymry a arloesodd y wlad bellennig honno ar gyfer eu cyd-wladwyr.
(2) Diolch hefyd i Mr Roy Jones am ddweud wrthyf mai ym mynwent eglwys Betws y Coed y claddwyd Robert Jones (Ortro Law) yn ogystal a bod walet blu pysgota yr hen bererin wedi dod i’w feddiant.
------------------------



Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1995, yn y golofn Stolpia.
I'w barhau..
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Patagonia' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.