20.3.13

Stolpia -Llechi crynion eto

Darn o golofn reolaidd Steffan ab Owain.
Gallwch ddarllen ei erthygl yn llawn yn rhifyn Mawrth 2013.




Soniais ychydig am y rhain yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2012.Dyma air bach amdanynt unwaith yn rhagor.

Cael cosb am fynd a llechen gron adref
    Yn y flwyddyn 1893 aeth pethau yn ddrwg yn Chwarel Llechwedd a bu streic yno am 5 mis. Dyma beth ddywed un gohebydd  mewn adroddiad yn Y Genedl Gymreig, Mai 23, am rai agweddau parthed y sefyllfa yno –

Cwyna’r dynion fod y ddisgyblaeth ryfeddaf fu erioed yn cael ei harfer yn y Llechwedd. Caiff dynion eu reportio am y pethau lleiaf, megis aros adref i fod yng nghynhebrwng cyfaill o chwarelwr, cychwyn adref funud cyn i’r gloch ganu –dywedir ddarfod i un dyn gael ei alw i gyfrif  am ddim ond  dweud fod y gloch yn canu.

Mae yn arferiad ym mhob chwarel i weithiwr gael mynd a llechen gron gydag ef.

Y dydd o’r blaen aeth Griffith Roberts, Bethania ag un adref i’w wraig. Hysbyswyd hynny i’r awdurdodau, a rhybuddiwyd ef i aros adref o’r chwarel am wythnos. Ond deallwn iddo gael maddeuant am ei drosedd anferth ymhen tri diwrnod, ac nid wyf yn sicr na fu raid iddo dalu chwe cheiniog am y llechen cyn cael hynny.

  Pwy a fuasai’n meddwl y deuai stori  am y lechen gron i mewn i hanes yr  anghydfod diwydiannol hwn, ynte ?

Llechen gron a Llafar Bro. Llun PW



Mae Steff yn adrodd hanesyn arall am lechen gron a helyntion chwarel yn yr erthygl hefyd. Sef sut oedd gweithwyr Chwarel y Penrhyn yn rhoi eu henwau ar lechen gron er mwyn galw cyfarfod i drafod anghydfod, rhag i’r rheolwyr weld pwy oedd wedi llofnodi gyntaf a chodi stwr!

 

18.3.13

Troedio'n ol- Llew Glyn

Mae John Norman yn cynnal cyfres ddifyr a phersonol o erthyglau ar hanes Trawsfynydd, bob mis yn selog yn Llafar Bro.

Dyma ddarn o'i golofn yn rhifyn Mawrth 2013 sydd yn y siopau erbyn hyn.




Mis diwethaf ysgrifenais am Ysgol Traws. Meddyliais wedyn am addysg ag ysgolion yn gyffredinol. Yr ydym pob un yn cofio’n ddwys am un athro, o leiaf, a’i effaith yn ddwfn arnom. Un felly oedd Llew Glyn Davies.

Llew Glyn oedd athro dosbarth y sgolarship ac ef a gymerodd holl waith ei gyd-athrawon a’u sgleinio fel bo’r gofyn. Dyn ifanc golygus oedd a’i lygaid yn byrlymu gyda chyfrinachau bywyd a’i wyneb a gwen siriol ar ddechreu pob dydd. Athro oedd yn cael ei addoli gan y plant wrth eu harwain trwy lwybrau troellog addysg. Byddem yn dotio at ei allu i ‘sgwennu ar y bwrdd du gyda llaw dde neu chwith a gwyliem ei ddawn i daflu darn bach o sialc yn unionsyth gyda unrhyw law hefyd.

Ysgol Bro Hedd Wyn- hawlfraint y llun Alan Fryer, trwydded 'creative commons', o wefan Geograph
Er ein bod mewn hen ddesgiau cyfyng ac yn gweithio ar lechen glas ac ychydig o adnoddau ni theimlem unrhyw anfantais ac roedd amser gyda Llew Glyn yn  hudolus.  Gyda’i lais ystwyth aeth a ni i fyd chwedloniaeth ac hanes gan drosi’r neges i’n bywyd dyddiol. Aeth a ni allan i fyd natur a chredaf bod  lluniau ar gael yn y Traws am ddiwrnod arbennig ar y Grisiau Rhufeinig yn hel llus.

Cefais y fraint o gysylltu ag Ysgol Traws  a Llew Glyn eto ar ddiwedd y rhyfel. Roedd yn rhaid i mi wneud ymarfer dysgu deg wythnos cyn mynychu’r coleg ym Mangor. Byddai Cyngor Meirionnydd yn talu ffioedd dysgu a llety eu myfyrwyr lleol ar yr amod o wasanaeth o’r fath. Ar y diwrnod cyntaf pwy oedd yno i’m derbyn ond fy hen athro Llew Glyn Davies, wedi dychwelyd o’r rhyfel. Yntau yn  taro sym hirfaith ‘long division of money’ ar y bwrdd du ac yna cerdded allan o’r dosbarth gan ddweud “Chdi biau nhw rwan !” ‘Roedd yn garedig iawn ac yn ymfalchio fy mod am yrfa dysgu.

Bu Gwasanaeth Coffa fawr bu iddo yn y Bala, a chwalwyd ei lwch yn Eglwys Cerrigydrudion. Mae fy Hen Daid a Hen Nain wedi eu claddu wrth ddrws yr Eglwys hon. Pan alwaf yno wrth fynd heibio Cerrig cofiaf am ddyn ag athro fu’n ddylanwad ar gymaint o blant Meirion.
                                                                       John Norman
                                          



  

13.3.13

Rhifyn Mawrth 2013

Mae rhifyn Mawrth wedi ei blygu, ac ar ei ffordd atoch chi, ac i'r siopau.
Brysiwch da chi i gael copi!


8.3.13

Paneli dehongli

Mae hanner dwsin o baneli newydd wedi ymddangos ar hyd Stryd yr Eglwys a'r Stryd Fawr, efo gwybodaeth ddifyr am hanes a diwylliant ein bro.

Mae un hefyd wedi ei osod ar Ben Carreg Defaid hefyd, rhwng ysgol y Moelwyn a'r Ysbyty Coffa.


Maen nhw'n arbennig o dda, a'r awduron, sef colofnwyr rheolaidd LLAFAR BRO, a golygyddion cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, RHAMANT BRO: Vivian Parry Williams a Steffan ab Owain- wedi cael hwyl garw ar roi manylion difyr a chryno ar bob un, a chynnwys lluniau arbennig o ddifyr hefyd; lluniau y bydd nifer o drigolion heb eu gweld o'r blaen dwi'n siwr.

Mae'r paneli yn rhoi gwybodaeth werthfawr iawn i bobl y fro yn ogystal a phobl ddiarth, ac yn ychwanegu dyfnder i'r gwaith arbennig a wnaed efo'r dywediadau yn y palmentydd, a'r cerfluniau a'r celf yng nghanol y dref dros y gaeaf.



Un o'r lluniau ar banel Carreg Defaid; arbennig o berthnasol i'r Ysbyty Coffa heddiw.
I GADW'N FYW. Gallwn ond gobeithio....


2.3.13

Troedio'n ol: y twll!

Dyma ddarn o erthygl John Norman, o rifyn Chwefror 2013. Mae rhai copiau o LLAFAR BRO ar gael yn y siopau o hyd, i chi gael mwynhau'r erthygl yn llawn.



Wrth deithio adref penderfynais fynd yn araf trwy bentref Traws ac fe lifodd yr atgofion yn ôl. Gwelais ddau beth sy’n siwr o dynnu gair eto. Yn gyntaf, hen bont y Llan sy’n dal ein hanes. Yn ail, Bryn y Gofeb ar y gorwel. 

Ond y tro yma yr ysgol a gymerodd fy sylw gyda’i muriau cerrig yn dal gobeithion plant heddiw ac atgofion ei chyn-ddisgyblion. Yn ein dyddiau ni nid oedd y safle’n un mor agored gan y safai Capel Ebenezer a Thŷ’r Capel o’i blaen. Heddiw, a’r Capel wedi ei ddymchwel, mae’r ysgol i’w gweld yn glir trwy fynediad llydan. Ond mae’r iardau sy’n amgylchu’r adeilad yn union fel yr oeddynt ac yn amlwg mewn cyflwr da. 
Mae’r iard gyffredin tu allan i’r brif fynedfa wedi ei marcio ar gyfer chwarae pêl rwyd. I’r dde roedd iard y bechgyn yn codi’n serth tu ôl i gefnau tai Fronwynion at doiledau’r bechgyn ar y pen pellaf ond erbyn heddiw nid yw yn greigiog fel cynt ac mae wedi ei marcio’n dwt ar gyfer gwahanol gemau. 
Yma, byddem yn chwarae ein fersiwn ni o bêl rwyd gan anelu i daflu’r bêl i ddwylo’r gôlgeidwad. Gem digon peryglus ar dir mor greigiog. Ar y ochr arall safai’r ystafell gwaith coed a iard y merched, a thu cefn i honno safai toiledai’r merched, gefn yn gefn â rhai’r bechgyn. Doedd moethusrwydd mewn tai bach ddim yn bod yn y pedwar degau!

Rhwng y ddwy iard yma, cuddiai iard fechan unigryw wedi ei hamgylchu gan waliau uchel. Dyma ‘Y Twll’, lle byddem ni’r bechgyn yn cael llonydd a chysgod i chwarae marblis, i daro concyrs a thaflu cardiau. Roedd angen sgiliau medrus bys a bawd i chwarae marblis a’r farblen y byddai pawb yn ei chwechynu oedd y ‘Tommy Twenty’ fawr, liwgar, oedd yn feistr corn bob amser ar y marblis llai. 


Byddai pob gweithgaredd yn darfod a distewi pan oedd ‘Ffeit!’ yn cychwyn, a dyna, mae’n debyg, oedd prif atyniad y Twll. Yn aml, yn ystod amser chwarae neu awr ginio clywid gwaedd ‘Ffeit! Ffeit!’ a merched a bechgyn yn tyrru at y Twll i wylio.   


Ydi, mae plant yn dangos parodrwydd yn ifanc iawn i godi dwrn a tharo’n ôl ac, yn hynny o beth, roedd y ‘Twll’ yn ein dyddiau ni yn ‘feicrocosm’ o’r byd yr ydym yn rhan ohono heddiw.