30.7.16

Stolpia -Llyn Stwlan

Pytiau o golofn reolaidd Steffan ab Owain.

Bum i fyny at Lyn Stwlan yn ddiweddar ac eisteddais ar lan y llyn, a thra yno, crwydrodd fy meddwl yn ôl i'r amser pan fyddai'r hen bysgotwyr yn adrodd storïau am bysgod efo pennau mawr a chyrff tenau ym mherfeddion y llyn.

Roedd sôn hefyd mewn un papur newydd, oddeutu can mlynedd yn ôl, bod brithyll o'r Alban wedi eu rhoi yn y llyn fel mâg. Ond, yn ôl pysgotwyr lleol, rhai Cymreig oeddynt o'u pennau i'w cynffonau.

Eto i gyd, nid oes gennyf gof gweld neb yn pysgota yno cyn iddynt ddechrau ar y gwaith trydan-dŵr.

Oes pysgod ynddo heddiw tybed?

Stwlan o'r Graig Ysgafn, gan Barry Hunter. Dolen isod*

* * * * *

Llyn Stwlan eto:

Atgoffwyd fi gan Peter Humphreys, Neuadd Ddu ar ȏl imi ysgrifennu’r pwt am Lyn Stwlan yn rhifyn Mai mai  hen enw’r llyn oedd ‘Llyn Trwstyllog’. Dyna a geir yng nghyfrol Hanes Plwyf  Ffestiniog (1882) gan G.J.Williams, yn ogystal ag ar ambell fap.

Yn wir, ceir enghreifftiau eraill ac weithiau esboniad gwahanol o’r enw hefyd, megis Llyn Trwstyllon gan Thomas Pennant  yn ei ail gyfrol Tours in Wales (1773).

Yna,‘Llyn Trwst y llan’ a ddywed  Wm.Jones yn hanes Ffestiniog yn y gyfrol gyntaf Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraffyddol gan Owen Jones (1871-1875).

‘Llyn Trwstyllon’ a gawn eto gan Samuel Lewis yn ei gyfrol  A Topographical Dictionary of Wales (1833) a chynnig William Jones (Ffestinfab) yw ‘Llyn dwys-du-lyn' yn Hanes Plwyf Ffestiniog (1879).

Diolch iti, Pitar, am dynnu fy sylw at yr hen enw ar ‘Stwlan’.
---------------------------------

*Llun trwy drwydded Comin Creadigol o dudalen Llyn Stwlan ar Wicipedia.

Ymddangosodd y darnau uchod yn rhifynnau Mai a Mehefin 2016.
Gallwch ddilyn cyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


28.7.16

Rhod y Rhigymwr -cerddi cymdeithasol

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Mehefin 2016

Mae cerddi cymdeithasol a luniwyd ar achlysuron arbennig ym mywydau aelodau o’n cymuned yn gofnodion hynod bwysig. Yn aml iawn, os ydy rhywun yn cael ei ystyried yn dipyn o rigymwr, gall ceisiadau i lunio penillion i gyfarch rhywun ar ben-blwydd arbennig, priodas, pen-blwydd priodas, ar achlysur ymddeol, er cof ac yn y blaen fod yn niferus. Cofnodir yn aml hefyd ddisgrifiadau o lefydd diddorol mewn ardal, hanes digwyddiadau arbennig neu droeon trwstan.

Mae nifer o rai’n nalgylch ‘Llafar’ sy’n dipyn o arbenigwyr ar lunio penillion o’r fath. Un o’r rheiny ydy’n trefnydd hysbysebion gweithgar, Gwilym Price, Dolawel. Dathlodd Iola Mai Williams, Llan ei ‘phen-blwydd arbennig’ yn 70 oed ar y 5ed o Fai (diwrnod Etholiad y Cynulliad). Mewn parti bychan yn y Pengwern, dyma ddetholiad o'r gyfres benillion a gyflwynwyd gan Wil:

Mae heddiw’n ddiwrnod lecsiwn -
Dydd pwysig meddai rhai,
Ond llawer iawn pwysicach
Yw pen-blwydd Iola Mai.
Wel dyma eneth weithgar
Ers safodd ar ei thraed,
Nid oes un asgwrn segur
Na diogi yn ei gwaed.


Mae’n brysur yn y Capel
Pob Sul yn gwneud ei rhan,
Yn selog yn y Neuadd
A Merched Gwawr y Llan.
Bro Cynfal sydd yn agos
I’w chalon, heb ddim pall,
Mae’n wastad ar ei gorau
Yn helpu hwn a’r llall.


Wel diolch i ti, Iola,
Cenhades dda y Llan,
Cymera egwyl bellach,
Rwyt wedi gwneud dy ran.
Mwynha y dathlu heddiw,
‘Saith deg’ wyt, medda rhai,
A’r gwydra’n taro naill a’r llall
Ar benblwydd Iola Mai.


Dros ugain mlynedd yn ôl, dwn i ddim a ydy o’n cofio, fe ges i ‘fenthyg’ nifer o hen gyfrolau o’r ‘Cymru Coch’ (golygydd O.M. Edwards) gan Wil. Mae nhw’n dal yn saff ar fy silffoedd! Ymysg y rhain, roedd llyfr nodiadau clawr caled o’r eiddo ‘John Thomas, 88, High Street, Blaenau Ffestiniog (1894)’. Mae hwn yn llawn o farddoniaeth a phytiau o ysgrifau difyr yn llawysgrifen daclus y perchennog.

Edrychais ar gyfrifiad 1901, a dod ar draws y manylion canlynol:
‘John Thomas, Chwarelwr 31 oed a aned yn Ffestiniog
Margaret, ei wraig, 31 oed a aned ym Meddgelert
Dau o blant: Gladwen (2 oed) a Thomas John (11 mis)
Tybed a ŵyr rhai ohonoch chi’r darllenwyr rywbeth amdano?

Gan mai sôn am gerddi cymdeithasol a wnaf y mis hwn, dyma flas o gynnwys casgliad J.T.

Pont Maentwrog. Llun Paul W

Englynion i’r Mri. David Roberts, Glan yr Afon a Henry Jones, Dolymoch wrth edrych ar bont ododog a godwyd gan y ddau dros Afon Dwyryd, yr hon sydd gampwaith celfyddydol y ganrif hon ...

Rhyw bont hynod ar bentanau – godwyd
Dan grogedig didau;
Ei phreiffion, dynion gadwynau,
A ‘screw’ o’i hôl i’w sicrhau.


Hir rodfa, trigain troedfedd – o gyrraedd
Y garwyllt li’ llwydwedd,
A di-syfl, gwawdia o’i sedd
Y ‘Ddwyryd’ a’i chynddaredd.


Pont ‘Harri,’ pa anturiaeth – a luniwyd,
A lanwa’r gwasanaeth?
Ei nerth, ei phris, ni thraetha ffraeth
Huawdledd naw cenhedlaeth.


Athrylith Harri welaf, - a dyfais
Dafydd ar ei heithaf,
Yn y dernyn cadarnaf
O berffaith gampwaith a gaf.


Yr awdur oedd un a alwai’i hun yn ‘UN O’R MAEN’. Prydydd lleol, a chynganeddwr sicr ei grefft - o Faentwrog o bosib?

Mewn Talwrn, rhyw bymtheng mlynedd yn ôl, cofiaf weithio’r englyn canlynol:

CRAIG - Pulpud Huw Llwyd yn Afon Cynfal, islaw fy nghartref
Arhosaist drwy yr oesau - i herio
Cerrynt y rhaeadrau;
Onid brych yw mywyd brau
Ar haen un o’th ronynnau?
Pulpud Huw Llwyd ynghanol llif Afon Cynfal. Llun Tecwyn V Jones

Yn llyfr nodiadau J.T., deuthum ar draws yr englynion canlynol i’r Pulpud gan brydydd a alwai ei hun yn ‘PEDR DULAS’ – nad ydy lawn cystal cynganeddwr â’r bardd a ganodd i Bont Maentwrog:

Areithfa o raddfa oer ryfedd – o graig,
Un ddi-gryn a llyfnwedd,
Mewn ceunant certh a serthedd
Yn groes i far, ungris ni fedd.


Y bardd uwch aig ar y graig fu – yn aros
Am oriau heb gysgu,
Trwy’r nos heb un diddos dŷ,
Brwd awydd i brydyddu.


Y Saeson, lu hylon ddaw – gan nythu
Ar areithfa islaw;
Dibyn a’i frochlyn sy’n fraw,
Yna’i genlli ddiganllaw.


Pur eglur mai peryglus – yw rhodio
Ar hyd llechwedd echrys,
A rhai’n dod ar ormod brys
I’w boddi, mae’n wybyddus.


Gwyliwch nad ewch i’r gwaelod! – Y crochlyn
Crychlas sydd mewn cysgod
Serth lithrig, mae’n beryg bod
Rhai’n welw yn ei waelod.


-----------------------------------------------------

Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

26.7.16

Blwyddyn gyda’r Dref Werdd

Gwydion ap Wynn, Rheolwr Prosiect y Dref Werdd, yn edrych yn ôl ar flwyddyn gyffrous.

Mae’n anodd coelio fod blwyddyn wedi gwibio heibio ers i brosiect Y Dref Werdd ail-gychwyn eto, ond hefyd gall rhywun ddeall pam wrth ystyried y holl waith sydd wedi cael ei wneud yn datblygu'r cynllun sydd wedi cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr i “Ddatblygu Tref Werdd Ddyfeisgar”.

Mae cymaint wedi digwydd gyda phob prosiect rydan ni’n gweithio arno, gyda nifer dda o bobl Bro Ffestiniog wedi derbyn cymorth gyda’r gwaith ynni, cyfleoedd gwirfoddoli a llawer o blant y Fro yn cymryd rhan mewn sesiynau addysg, a chyda’n cwrs newydd, Cynefin a Chymuned.

Dros y flwyddyn, rydan ni wedi bod  yn ceisio lleihau biliau ynni  yn yr ardal ynghyd ag allyriadau CO2.

 Mae nifer o dechnegau gwahanol wedi cael eu cyflwyno i helpu arbed arian yn eich cartrefi:
·         Gosod amseryddion cawod i leihau'r amser rydych yn treulio ynddi
·         Cyfnewid eich bylbiau arferol am rai LED, a
·         Gosod ffoil arbennig tu cefn i reiddiaduron.

Un o’r pethau mwyaf llwyddiannus oedd  y gwaith hwyluso a hyrwyddo ceisiadau am  y ‘Warm Home Discount’, sydd yn ad-daliad o £140 oddi  ar y biliau trydan. Mae’r Dref Werdd wedi helpu bron i 100 o bobl ym Mro Ffestiniog gyda’r cynllun yma sydd yn gwneud arbedion o bron i £14,000!

Mae dros 30 o denantiaid a pherchnogion tai wedi cael eu cyfeirio at gynllun Nyth/Nest – rhai wedi cael system wresogi newydd sbon danlli am ddim!


Ar ochr amgylcheddol y cynllun, rydan ni wedi bod yn brysur yn sicrhau ein bod yn parhau gyda’r gwaith o oruchwylio ein hafonydd gwerthfawr gyda diwrnodau yn glanhau sbwriel o Afon Barlwyd a’r Dubach. Anodd coelio bod 'na gymaint o wastraff yn ymgasglu’n y dyfroedd yma, ond diolch i waith caled ein gwirfoddolwyr a’n partneriaid, mae’r ddwy afon yma yn edrych yn llawer glanach heddiw.

Yn ogystal â’r diwrnodau glanhau, rydan hefyd yn brysur yn cynllunio ein brwydr yn erbyn clymog Siapan, neu llysiau’r diafol (Japanese knotweed) sy’n tagu rhai o’n hafonydd a mannau eraill. Mae’r planhigyn yma yn achosi niwed mawr i blanhigion brodorol Bro Ffestiniog a hefyd yn gallu bod yn broblem fawr os ydi o’n tyfu yn eich gardd. Ein bwriad yw hyfforddi ac achredu ein gwirfoddolwyr i ddelio â’r planhigion hyn. Felly, os oes gennych broblem gyda llysiau’r diafol, dewch i gysylltiad â’r Dref Werdd!

Planhigyn arall sydd ddim yn perthyn i’r ardal yw’r Rhododendron ponticum. Er ei fod yn hardd dros ben ym Mehefin, yn ei flodau pinc, dim ond am ryw fis mae o’n para. Mae’r rhywogaeth ymledol yma yn dangos ei wir liwiau drwy gydol y flwyddyn wrth amddifadu'r tirwedd o faeth gwerthfawr.  Unwaith eto, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr gwerthfawr, rydan wedi cychwyn ei reoli ar safle yn Nhanygrisiau - ger y Hen Felin - wrth dorri a chlirio, ac wedi cyflogi swyddogion o Cadw Cymru’n Daclus i drin y planhigion yn gywir drwy eu chwistrellu a thrin y stympiau. Rydan wedi clirio bron i 3 acer o dir erbyn heddiw - sydd yn llwyddiant mawr.Yn ail flwyddyn dau y Dref Werdd Newydd, rydan ni mewn trafodaethau gyda Llechwedd i ddelio â’r Rhododendron ar eu tir nhw.

Llwyddiant arall yw’r sesiynau Cynefin a Chymuned i blant y Fro. Dros gyfnod o dri mis, bu 15 o blant yn cael cyfle i ddysgu am amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys bywyd gwyllt, hanes, treftadaeth a daeareg, a hynny trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored megis sesiynau ‘ysgol-goedwig’, chwilota am a choginio bwyd gwyllt, dringo, a theithiau cerdded gydag arbenigwyr lleol. Bydd arddangosfa o wahanol luniau’r plant yn Siop Antur Stiniog ym mis Medi.

Cewch glywed am holl weithgaredd Y Dref Werdd yn Llafar Bro trwy gydol ail flwyddyn y prosiect.
---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2016.
Dilynwch hanes y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



24.7.16

Bwrw Golwg -Cadwaladr Roberts

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, erthygl ddifyr a pherthnasol arall gan W. Arvon Roberts.

CADWALADR ROBERTS - PENCERDD MOELWYN

Rhaid cychwyn drwy ganu clodydd cymdogaeth y Blaenau am ei dilyniant niferus o wŷr a merched a enillodd enwogrwydd iddynt eu hunan yn ogystal a man eu genedigaeth fel cerddorion, beirdd a llenorion, yn enwedig rhwng y blynyddoedd 1836 a’r 1920au.
“Y mae rhai ohonynt a adawodd enw ar eu hôl, ond y mae eraill nad oes iddynt goffadwriaeth.” (Ecclesiasticus 44)
A pherthyn i’r dosbarth cyntaf a enwid oedd Cadwaladr Roberts (Pencerdd Moelwyn), o Danygrisiau. Ac mae’n ofidus gennyf imi golli’r cyfle y flwyddyn diwethaf i dynnu sylw’r wasg Gymraeg i nodi canmlwyddiant marwolaeth y cerddor dawnus hwnnw, un oedd mor adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt yn ei ddydd.

Ganwyd ef yn yn y flwyddyn 1854 yn Nhŷ Capel Bethsaida (A, adeiladwyd 1838), Tanygrisiau, yr hynaf o bum plentyn Robert a Jane Roberts, Aelgoch, (Jane Griffith o Dremadog gynt). Priododd ei rieni ar Fai 21, 1853.

Roedd tad Cadwaladr yn ddiacon yn Bethsaida. Bu farw’n ddisymwth o frawychus pan syrthiodd darn o graig arno yn Chwarel y Moelwyn, o gylch Llyn Stwlan. Dyma deulu a fu’n golofnau i’r achos Annibynnol yn Nhanygrisiau, yn arbennig iawn gyda cherddoriaeth a chaniadaeth y cysegr. Deuai canu ac arwain canu yn rhywbeth naturiol i’r rhieni a’u plant. Amlygodd Robert C. Roberts (Eos Moelwyn 1859-1890), sef brawd Cadwaladr, fel datganwr da hyd nes y torrwyd ef i lawr yn gynnar, ac yntau ar ganol datblygu.

Ychydig o fanteision addysg a gafodd Cadwaladr, ac er mwyn cynnal y teulu, gorfodwyd iddo fynd i weithio yn y chwarel yn bur ifanc. Cyfarfu â damwain wrth ddilyn ei orchwyl, - damwain a’i gadawodd ef yn gloff am weddill ei oes. Cafodd ei ddwyn i fyny yng Nghapel Carmel (A), Tanygrisiau (codwyd yn 1863), lle daeth yn ddiacon tua 1885.

Yn ugain oed, pan ymadawodd John W. Jones, Tŷ Newydd, am Batagonia (hynny yn 1874), dewiswyd Cadwaladr Roberts, Aelgoch (pryd hynny) yn arweinydd y gân yn ei le. Cryn beth i ddyn ifanc oedd cymryd lle gŵr o brofiad a safle William Jones. Dewiswyd Owen T. Roberts yn Is-Arweinydd a bu yntau’n gymorth effeithiol hyd nes iddo ef ymfudo i’r Unol Daleithiau. Cymerwyd ei le yntau gan William S. Roberts, brawd arall i Cadwaladr, ond gadael yr ardal fu ei hanes yntau hefyd, a dewiswyd ei frawd arall, Robert i lenwi’r swydd. Yn anffodus bu farw yn 32 mlwydd oed, ond dychwelodd William S. yn ôl o’r America i ail-afael yn ei waith.

Llafuriodd Cadwaladr Roberts yn galed a ffyddlon, a bu ei ddylanwad fel arweinydd y gân yn gymorth i ddyrchafu caniadaeth y cysegr yng Ngharmel:
‘... a’r peth cyntaf a wnaeth ar ôl dechrau arwain Côr Carmel oedd didoli’r eosiaid oddi wrth y brain. Roedd pawb eisiau bod yng Nghôr Carmel, ond nid oedd gan Cadwaladr le i bawb.’ 
medd y diweddar Ernest Jones, Blaenau Ffestiniog.

Yn Ebrill 1885, priododd Miss Maria Williams, a ddaeth i’r ardal o Fae Colwyn i wasanaethu fel prifathrawes yn Ysgol y Bwrdd (Adran y Babanod) yn Nhanygrisiau. Bu hithau yn gerddores wych ac yn fanteisiol iawn i’r canu yng Ngharmel.

Daeth Cadwaladr i fwy o amlygrwydd ar ôl iddo sefydlu Côr Meibion y Moelwyn a’r Côr Undebol cyn hynny. Enillodd gannoedd o bunnoedd mewn gwobrwyon ynghyd â dwy gadair, dwy goron, cwpanau, ffyn arwain, tlysau, a.y.y.b. mewn eisteddfodau lleol, taleithiol, a chenedlaethol.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog ym 1898, cafodd ei urddo fel ‘Pencerdd Moelwyn’. Un o’i edmygwyr mwyaf oedd Syr Osmond Williams (1849-1927) Llanfihangel-y-Traethau.

Trwyddo ef, cafodd Côr Meibion y Moelwyn ganu o flaen y Brenin Edward VII, ar fwrdd y Pleserfad Brenhinol yng Nghaergybi yn 1907, ac yna o flaen Siôr V yn Aberystwyth. Yn 1920, anturiodd Cadwaladr Roberts a’i gôr meibion dros yr Iwerydd, ar daith drwy’r Unol Daleithiau. Roedd y côr hwnnw rhwng 70 a 80 o aelodau mewn rhif, ond rhaid fu dewis ychydig dros ugain o’r lleisiau gorau.
Y flwyddyn ganlynol, teithiodd y côr i Ganada ar daith casglu arian i Gronfa Goffa Edward VII - cronfa oedd i hybu cais i ddileu’r pla gwyn. Yn ychwanegol at hynny, bu’n deyrngar iawn i Gylchwyl Gerddorol Harlech ar ôl ei hail-gychwyn yn 1910.

Gwasanaethodd mewn cannoedd o gyngherddau elusennol tuag at gynorthwyo’r tlawd a’r anghenus. Yn ‘Y Dysgedydd’ yn 1891, cwynai fod y canu cynulleidfaol mewn sefyllfa isel iawn. Dau beth oedd i gyfrif am hynny yn ei ôl ef:

(1) Esgeulusder y cantorion;
(2) Y lle israddol a roddwyd i’r canu mewn cymhariaeth â’r rhannau eraill o’r gwasanaeth – mai dim ond rhywbeth i lenwi bwlch oedd y canu.

Roedd angen cael “mwy o amrywiaeth yn y canu, yn ogystal â sefydlu cyfarfod canu cyson a rheolaidd”, yn nhyb Cadwaladr Roberts.

Tua 1908, dyrchafwyd ef yn Ynad Heddwch. O ran ei ddaliadau gwleidyddol roedd yn Rhyddfrydwr i’r carn. Bu farw o’r darfodedigaeth ar Fehefin 14, 1915, a hynny’n ei gartref - Bodlondeb, Tanygrisiau - yn dilyn cystudd maith a phoenus. Roedd yn 61 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Sant Mihangel, Ffestiniog. Canodd Côr y Moelwyn wrth ymyl y tŷ, a chanwyd ar hyd y ffordd gan Gôr Carmel. Roedd hynny’n rhywbeth oedd yn ddigon naturiol i’w wneud mewn angladd ‘Pencerdd’.
Delwedd o wefan Cymru1914. Dolen isod

Adroddir yn ‘Y Drych’ (1994), fod dwy o’i ddisgynyddion, sef ei nithoedd, y chwiorydd Jane Kimball a Blodwen Williams, yn byw yn Utica, Efrog Newydd, a’r ddwy y flwyddyn honno yn eu nawdegau. Bu iddynt ymfudo o Danygrisiau yn 1909.
---------------------------------------------

Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Mehefin 2016.

Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


Hanes angladd Pencerdd Moelwyn yn y gyfres Stolpia.

Cymru 1914


22.7.16

Tiwnio'r Tannau

Hanes gwahodd yr Ŵyl Cerdd Dant i Stiniog, gan Iwan Morgan

Ym mis Mai, galwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Ysgol y Moelwyn gan John Eifion, trefnydd y Gwyliau Cerdd Dant. Daeth criw bychan at ei gilydd a phenderfynwyd yn unfrydol i wahodd yr Ŵyl i’r dref yn 2018.

Mae Gŵyl Cerdd Dant Cymru yn un o wyliau ‘un diwrnod’ mwyaf Prydain os nad Ewrop, a theimlad llawer ohonom ydy ei bod hi’n fraint ac anrhydedd cael ei gwahodd yma am y tro cyntaf yn ei hanes. Tuedd yr Eisteddfod Genedlaethol a Phrifwyl yr Urdd, pan gaiff ei gwahodd gennym ni’r Meirionwyr, ydy dewis y Bala neu Ddolgellau fel lleoliad. Dyma gyfle i ni, garwyr ‘Y Pethe’ estyn croeso ‘Stiniog i Ŵyl genedlaethol mor safonol.

Iwan a Chôr Cerdd Dant LLIAWS PRYSOR

Pan oeddwn yn olygydd Llafar Bro o Fedi 1988 hyd Fehefin 1990, erthygl a gyflwynais ar dudalen flaen Rhifyn 146 (Hydref 1988) oedd un am ‘Ŵyl y Cerdd Dantwyr’. Roedd honno ar fin cymryd lle ym Mhwllheli ymhen y mis. I’r dref honno yr aiff ym mis Tachwedd eleni:
“Bydd Gŵyl Cerdd Dant Genedlaethol Cymru yn cymryd lle ym Mhwllheli ... a bydd nifer o selogion cerdd dant a chanu gwerin o Gymru benbaladr yn tyrru yno. Tro’r De fydd hi’r flwyddyn nesaf (1989), a Phontrhydfendigaid fydd y gyrchfan, yna, fe fydd hi’n dro i’r Gogledd i wahodd drachefn.
Beth yw barn darllenwyr
Llafar Bro tybed am ei gwahodd hi i’r Blaenau ym 1990?

Yn sicr, fe fu’r ardal yn un o gadarnleoedd y grefft ar hyd y blynyddoedd. Onid yn y fro hon y rhoddwyd bri ar ganu gyda’r tannau’n y dyddiau cynnar? Daw enw sawl arloeswr i’r cof –
David Francis, y telynor dall, Dewi Mai o Feirion, William Morris Williams, Ioan Dwyryd, J.E.Jones, Maentwrog – i enwi ond ychydig. Rhoes Gwenllian Dwyryd oes o wasanaeth i’r grefft, ac mae’n dal i’w hybu o hyd. Mae Mona Meirion ac Einir Wyn Davies – dwy sy’n enedigol o’r Llan – ymhlith cyfeilyddion enwoca’r genedl – ac mae eu henwau i’w gweled fel telynoresau yn rhestrau testunau’r naill ŵyl genedlaethol ar ôl y llall ..... Beth amdani felly?”
[‘Llafar Bro’. Rhifyn 146 ... Hydref 1988]

Ddaeth hi ddim i’r Blaenau ym 1990. Fe aeth yn hytrach i Fangor. Cofiaf drafod y mater efo’r cyn-Drefnydd, Dewi Prys Jones, Llangwm, a doedd o ddim yn teimlo fod ei lleoli’n y Blaenau’n addas y pryd hwnnw.

Bellach, mae amgylchiadau wedi newid, a gallwn, mi allwn ei chynnal yma ar gampws Ysgol y Moelwyn.

Estynnwn wahoddiad i gymaint ohonoch ag a fedr ddod ynghyd i’r cyfarfod nesaf [gweler isod].

Does dim rhaid i chi fod yn gerdd dantwyr, yn delynorion, yn gantorion gwerin, yn llefarwyr nac yn ddawnswyr gwerin.

Os ydych yn caru pethau gorau’r diwylliant Cymreig ac yn fodlon gweithio dros eu hybu, neu os oes gennych awgrymiadau am ddulliau codi arian neu ddiddordeb mewn stiwardio, apeliwn yn daer am eich cefnogaeth.

Rydw i’n siŵr na fyddwch chi’n difaru cael bod yn rhan o dîm lleol fydd yn fodd i roi statws cenedlaethol i’r hen dre unwaith eto ac i ddod ag atgyfnerthiad bychan i’r economi leol.

**********************
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Mehefin 2016.
A'r diweddariad isod yn rhifyn Gorffennaf 2016.

Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a’r Cyffiniau 2018

Mae’r dyddiad wedi’i osod a’r pwyllgor gwaith wedi dechrau ar y trefnu sylweddol sydd o’u blaen. Cynhelir gŵyl undydd mwyaf Cymru yn Ysgol y Moelwyn ar ddydd Sadwrn y 10fed o Dachwedd, 2018.

Penodwyd Iwan Morgan yn gadeirydd, a fo fydd yn llywio’r gwaith cynllunio, ochr yn ochr â threfnydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, John Eifion.

Cytunodd pawb oedd yn y cyfarfod ar yr 22ain o Fehefin i wasanaethu ar un o’r chwech is-bwyllgor:
cerdd dant; 
canu gwerin; 
dawns werin; 
telyn; 
llefaru; 
cyllid a chyhoeddusrwydd, 
ond mae angen mwy o enwau i sicrhau llwyddiant y trefniadau. Byddwn angen cymorth pawb yn y gwaith hwyliog o gasglu arian a threfnu gŵyl lwyddiannus.

Be’ amdani gyfeillion, ydych chi’n fodlon cefnogi? 

Bydd y cyfarfod nesa’ ar Nos Fawrth, y 27ain o Fedi eleni, am 7.30 o’r gloch, yn Ysgol y Moelwyn.

Dewch draw, mae croeso i bawb. Nid oes angen i chi fod yn gerdd-dantiwrs; yn gerddorion; nac yn ddawnswyr gwerin! Os oes gennych ddiddordeb yn nhraddodiadau Cymru, ac eisiau gweld Bro Ffestiniog yn cael sylw haeddianol yn y cyfryngau, dewch i gyfrannu. Diolch. -PW