24.7.16

Bwrw Golwg -Cadwaladr Roberts

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, erthygl ddifyr a pherthnasol arall gan W. Arvon Roberts.

CADWALADR ROBERTS - PENCERDD MOELWYN

Rhaid cychwyn drwy ganu clodydd cymdogaeth y Blaenau am ei dilyniant niferus o wŷr a merched a enillodd enwogrwydd iddynt eu hunan yn ogystal a man eu genedigaeth fel cerddorion, beirdd a llenorion, yn enwedig rhwng y blynyddoedd 1836 a’r 1920au.
“Y mae rhai ohonynt a adawodd enw ar eu hôl, ond y mae eraill nad oes iddynt goffadwriaeth.” (Ecclesiasticus 44)
A pherthyn i’r dosbarth cyntaf a enwid oedd Cadwaladr Roberts (Pencerdd Moelwyn), o Danygrisiau. Ac mae’n ofidus gennyf imi golli’r cyfle y flwyddyn diwethaf i dynnu sylw’r wasg Gymraeg i nodi canmlwyddiant marwolaeth y cerddor dawnus hwnnw, un oedd mor adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt yn ei ddydd.

Ganwyd ef yn yn y flwyddyn 1854 yn Nhŷ Capel Bethsaida (A, adeiladwyd 1838), Tanygrisiau, yr hynaf o bum plentyn Robert a Jane Roberts, Aelgoch, (Jane Griffith o Dremadog gynt). Priododd ei rieni ar Fai 21, 1853.

Roedd tad Cadwaladr yn ddiacon yn Bethsaida. Bu farw’n ddisymwth o frawychus pan syrthiodd darn o graig arno yn Chwarel y Moelwyn, o gylch Llyn Stwlan. Dyma deulu a fu’n golofnau i’r achos Annibynnol yn Nhanygrisiau, yn arbennig iawn gyda cherddoriaeth a chaniadaeth y cysegr. Deuai canu ac arwain canu yn rhywbeth naturiol i’r rhieni a’u plant. Amlygodd Robert C. Roberts (Eos Moelwyn 1859-1890), sef brawd Cadwaladr, fel datganwr da hyd nes y torrwyd ef i lawr yn gynnar, ac yntau ar ganol datblygu.

Ychydig o fanteision addysg a gafodd Cadwaladr, ac er mwyn cynnal y teulu, gorfodwyd iddo fynd i weithio yn y chwarel yn bur ifanc. Cyfarfu â damwain wrth ddilyn ei orchwyl, - damwain a’i gadawodd ef yn gloff am weddill ei oes. Cafodd ei ddwyn i fyny yng Nghapel Carmel (A), Tanygrisiau (codwyd yn 1863), lle daeth yn ddiacon tua 1885.

Yn ugain oed, pan ymadawodd John W. Jones, Tŷ Newydd, am Batagonia (hynny yn 1874), dewiswyd Cadwaladr Roberts, Aelgoch (pryd hynny) yn arweinydd y gân yn ei le. Cryn beth i ddyn ifanc oedd cymryd lle gŵr o brofiad a safle William Jones. Dewiswyd Owen T. Roberts yn Is-Arweinydd a bu yntau’n gymorth effeithiol hyd nes iddo ef ymfudo i’r Unol Daleithiau. Cymerwyd ei le yntau gan William S. Roberts, brawd arall i Cadwaladr, ond gadael yr ardal fu ei hanes yntau hefyd, a dewiswyd ei frawd arall, Robert i lenwi’r swydd. Yn anffodus bu farw yn 32 mlwydd oed, ond dychwelodd William S. yn ôl o’r America i ail-afael yn ei waith.

Llafuriodd Cadwaladr Roberts yn galed a ffyddlon, a bu ei ddylanwad fel arweinydd y gân yn gymorth i ddyrchafu caniadaeth y cysegr yng Ngharmel:
‘... a’r peth cyntaf a wnaeth ar ôl dechrau arwain Côr Carmel oedd didoli’r eosiaid oddi wrth y brain. Roedd pawb eisiau bod yng Nghôr Carmel, ond nid oedd gan Cadwaladr le i bawb.’ 
medd y diweddar Ernest Jones, Blaenau Ffestiniog.

Yn Ebrill 1885, priododd Miss Maria Williams, a ddaeth i’r ardal o Fae Colwyn i wasanaethu fel prifathrawes yn Ysgol y Bwrdd (Adran y Babanod) yn Nhanygrisiau. Bu hithau yn gerddores wych ac yn fanteisiol iawn i’r canu yng Ngharmel.

Daeth Cadwaladr i fwy o amlygrwydd ar ôl iddo sefydlu Côr Meibion y Moelwyn a’r Côr Undebol cyn hynny. Enillodd gannoedd o bunnoedd mewn gwobrwyon ynghyd â dwy gadair, dwy goron, cwpanau, ffyn arwain, tlysau, a.y.y.b. mewn eisteddfodau lleol, taleithiol, a chenedlaethol.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog ym 1898, cafodd ei urddo fel ‘Pencerdd Moelwyn’. Un o’i edmygwyr mwyaf oedd Syr Osmond Williams (1849-1927) Llanfihangel-y-Traethau.

Trwyddo ef, cafodd Côr Meibion y Moelwyn ganu o flaen y Brenin Edward VII, ar fwrdd y Pleserfad Brenhinol yng Nghaergybi yn 1907, ac yna o flaen Siôr V yn Aberystwyth. Yn 1920, anturiodd Cadwaladr Roberts a’i gôr meibion dros yr Iwerydd, ar daith drwy’r Unol Daleithiau. Roedd y côr hwnnw rhwng 70 a 80 o aelodau mewn rhif, ond rhaid fu dewis ychydig dros ugain o’r lleisiau gorau.
Y flwyddyn ganlynol, teithiodd y côr i Ganada ar daith casglu arian i Gronfa Goffa Edward VII - cronfa oedd i hybu cais i ddileu’r pla gwyn. Yn ychwanegol at hynny, bu’n deyrngar iawn i Gylchwyl Gerddorol Harlech ar ôl ei hail-gychwyn yn 1910.

Gwasanaethodd mewn cannoedd o gyngherddau elusennol tuag at gynorthwyo’r tlawd a’r anghenus. Yn ‘Y Dysgedydd’ yn 1891, cwynai fod y canu cynulleidfaol mewn sefyllfa isel iawn. Dau beth oedd i gyfrif am hynny yn ei ôl ef:

(1) Esgeulusder y cantorion;
(2) Y lle israddol a roddwyd i’r canu mewn cymhariaeth â’r rhannau eraill o’r gwasanaeth – mai dim ond rhywbeth i lenwi bwlch oedd y canu.

Roedd angen cael “mwy o amrywiaeth yn y canu, yn ogystal â sefydlu cyfarfod canu cyson a rheolaidd”, yn nhyb Cadwaladr Roberts.

Tua 1908, dyrchafwyd ef yn Ynad Heddwch. O ran ei ddaliadau gwleidyddol roedd yn Rhyddfrydwr i’r carn. Bu farw o’r darfodedigaeth ar Fehefin 14, 1915, a hynny’n ei gartref - Bodlondeb, Tanygrisiau - yn dilyn cystudd maith a phoenus. Roedd yn 61 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Sant Mihangel, Ffestiniog. Canodd Côr y Moelwyn wrth ymyl y tŷ, a chanwyd ar hyd y ffordd gan Gôr Carmel. Roedd hynny’n rhywbeth oedd yn ddigon naturiol i’w wneud mewn angladd ‘Pencerdd’.
Delwedd o wefan Cymru1914. Dolen isod

Adroddir yn ‘Y Drych’ (1994), fod dwy o’i ddisgynyddion, sef ei nithoedd, y chwiorydd Jane Kimball a Blodwen Williams, yn byw yn Utica, Efrog Newydd, a’r ddwy y flwyddyn honno yn eu nawdegau. Bu iddynt ymfudo o Danygrisiau yn 1909.
---------------------------------------------

Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Mehefin 2016.

Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


Hanes angladd Pencerdd Moelwyn yn y gyfres Stolpia.

Cymru 1914


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon