11.11.14

Cofeb i gofio milwyr Cymru ar bridd tramor

Darn gan Marian Roberts a ymddangosodd gynta' yn rhifyn Medi 2014. Lluniau gan Dafydd Roberts.

Yng Ngorffennaf 1917, yn ystod 3edd Brwydr Ieper, a elwir hefyd yn Passchendale, penderfynwyd bod angen i'r Cynghreiriaid gymryd ardal a alwyd yn Cefn Pilckem ger Langemark yn Fflandrys.  Y rhai a ymgymrodd â'r dasg, ymysg eraill, oedd y Gwarchodlu Cymreig.   'Roeddynt yn llwyddiannus ond collwyd bywydau lu, gan gynnwys y bardd o'r Ysgwrn, Hedd Wyn, sydd erbyn hyn yn symbol o'n cof cenedlaethol ni am bob un o'r dynion ifanc a laddwyd yn y gyflafan.


Ond, yn wahanol i genhedloedd eraill oedd â chofebau i gofio'r bechgyn a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, nid oedd gan Gymru ei chofeb genedlaethol ei hun.  Felly, pnawn Sadwrn, Awst 16eg, yn heulwen gynnes Gwlad Belg, daeth cannoedd ynghyd i bentref Langemark ar gyfer dadorchuddio cofeb arbennig i gofio'r holl Gymry a gymerodd ran yn y Rhyfel Mawr.  Cafwyd gwasanaeth hynod deimladwy dan arweiniad Roy Noble, a cymerwyd rhan amlwg gan Gôr Rygbi Gogledd Cymru, Rhys Meirion, a'r telynor Dylan Cernyw, a darllenwyd y darn barddoniaeth “Rhyfel” o eiddo Hedd Wyn gan Isgoed Williams, Trawsfynydd.

     Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
     A Duw ar drai ar orwel pell;
     O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
     Yn codi ei awdurdod hell.



Draig goch anferth o efydd ar gromlech las yw'r gofeb.  Fe'i crewyd gan yr artist ifanc Lee Odishow, sy'n wreiddiol o Ddinbych- y- Pysgod, a rhoddwyd cerrig y gromlech gan Chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd.  Cafodd y ddraig ei bwrw yn Ffowndri Castle Fine Arts yn Llanrhaeadr-ym Mochnant.  Codwyd arian ar gyfer  Apêl y gofeb gan gannoedd o unigolion a mudiadau o fewn Cymru – yn eu mysg Tegid Roberts o'r Blaenau aeth ar daith gerdded noddedig.   Ymysg y rhai aeth i osod torch wrth droed y gofeb oedd Geraint Roberts o'r Manod ar ran Clwb y Ffiwsilwyr yma yn y  Blaenau, a cyflwynodd Alan Hicks, o Danygrisiau, ddarn o lechen a luniwyd yn arbennig ganddo i gofio yr ymweliad gan ffrindiau a chymdeithion Clwb y Ffiwsilwyr Cymreig oedd yn bresennol.


Gyda'r nos cafwyd cyngerdd gala yn Eglwys Langemark, a phnawn Sul gwasanaeth ym Mynwent Artillery Wood ble mae bedd Hedd Wyn.  I gloi'r penwythnos aethpwyd at wyth y nos i Borth Menin yn Ieper i seremoni'r Alwad Olaf a gynhelir yno bob nos o'r flwyddyn. Ar Awst 17eg 'roedd y naws yn Gymreigaidd gyda Rhys Meirion, Dylan Cernyw, a'r Côr yn cyfrannu.  'Roedd rhan amlwg hefyd gan Mike Jennings oedd yn cario baner Clwb y Blaenau, a Gary Williams osododd y dorch.

Penwythnos arbennig i gofio'r genhedlaeth goll o Gymru, gan gynnwys llawer o fechgyn ifanc o Fro Ffestiniog, na ddaeth yn ôl o'r Rhyfel Mawr 1914-1918.

     Ni ddaw gyda'r hafau melynion
     Byth mwy i'w ardal am dro;
     Cans mynwent sy'n nhiroedd yr estron
     Ac yntau ynghwsg yn ei gro.

(“Marw oddi Cartref” - Hedd Wyn)

4.11.14

Seindorf yn dathlu

Rhan o Newyddion Seindorf yr Oakeley o rifyn Hydref 2014, gan Glen Jones.

Bu arddangosfa i ddathlu pen-blwydd y band yn 150 oed, yng Nghanolfan Maenofferen am bum wythnos tan Hydref 24ain.


Dan arweiniad John Glyn Jones, agorwyd yr arddangosfa gyda’r band yn chwarae ‘Pen-blwydd Hapus’. Yna, soniodd yr arweinydd ychydig am hanes cynharaf y band. Esboniodd sut y cafodd y seindorf ei sefydlu ym 1864 a'u galw’n Fand Prês y Gwaenydd. Chwarter canrif ar ôl ei sefydlu, fe wnaeth y band gymryd rhan yn ei gystadleuaeth fawr gyntaf yn Llandudno a chafodd tua 1,500 o gefnogwyr eu cludo yno hefyd ar drên arbennig i’w cefnogi.

Ar ddiwedd yr 1890au, bu’r band yn Bencampwyr Cymru am dair blynedd yn olynol. Roedd y gwpan a enillwyd ganddynt yn yr arddangosfa gan iddynt gael yr hawl i’w chadw ar ôl eu trydedd fuddugoliaeth yn 1897.

Bu’r band yn fuddugoliaethus yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur dros y blynyddoedd yn ogystal ag eleni yn Llanelli.

Daethpwyd â’r seremoni i ben drwy gyflwyno anrheg a thusw o flodau i’r arweinydd a’i wraig Glen (archifydd y band) i ddiolch iddynt am eu gwaith caled yn paratoi a llunio’r arddangosfa. Diolchodd yr arweinydd i Gwmni Magnox am eu cymorth ariannol i allu llunio’r arddangosfa ac i staff y Llyfrgell. Diolchodd Gwilym Price i John Glyn Jones am ei gyfraniad gwerthfawr - nid yn unig i’r band, ond hefyd i dref Blaenau Ffestiniog.



31.10.14

Cymdeithasau

Newyddion o rifyn Hydref 2014


Merched y Wawr y Blaenau: 
Daeth yr aelodau ynghyd i gyfarfod cyntaf y tymor nos Lun, Medi'r 22ain yn y Ganolfan Gymdeithasol.   Cafwyd adroddiad byr o'r penwythnos preswyl yn Llanbedr Pont Steffan gan Marian, a darllenwyd rhestr testunau ar gyfer y Ffair Aeaf.
Gwraig wadd y noson oedd Geunor Roberts, Llanymawddwy - Llywydd Rhanbarth Meirion o'r Mudiad.  Bu'n garedig iawn i ddod atom ar fyr rybudd gan i'n hymweliad â “Pontio” gael ei ganslo.  'Roedd wedi paratoi cwis papur newydd ar ein cyfer, ac wedi rhannu'n dimau aethpwyd i chwilota yn y tudalennau am atebion i'r cwestiynau.

Grŵp “y pedair landeg” lwyddodd i gael y sgôr uchaf - sef Anwen, Chris, Mena a Marian.  Diolchwyd i Geunor am noson ddifyr iawn gan Megan.
Marian Roberts

Sefydliad y Merched: 
Cyfarfu'r Sefydliad nos Lun, Medi 22 dan lywyddiaeth Miss Nancy Evans. Croesawodd y llywydd yr aelodau. Penderfynwyd gwneud Llyfr Lloffion 2015 - pan  fydd y Sefydliad yn genedlaethol, yn dathlu canmlwyddiant.

Trefnwyd i’r BBC recordio  "Hawl i Holi"   Nos Lun, Hydref 6ed, yn Neuadd y Sefydliad. Croesawodd y Llywydd y wraig wadd, Catrin Elin, a rhoddodd sgwrs ddifyr ac addysgiadol iawn am deithiau cerdded a darllen map a'r difyrrwch sydd i’w gael wrth sylwi ar y tyfiant, yr adar a'r anifeiliaid gwyllt. Cawsom gyfle i flasu ei chynnyrch wedi ei wneud gyda thyfiant gwyllt. Diolchwyd iddi gan yr aelodau am noson ddifyr iawn.
Nancy Evans

Merched y Wawr Llan:
Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf o’r tymor newydd oedd yng ngofal Helen y llywydd a Wendy yr ysgrifennydd. Mae pedair aelod wedi ymgymryd â’r gwaith, sef Helen, Nan, Alwena a Wendy ac maent am wneud y swyddi am ddwy flynedd.

Ein gwraig wadd oedd Ann Powell Williams, Penmachno, a ‘Gwau Mawr’ oedd testun Ann a buan iawn y gwelsom pam! Pellenni anferth o ddafedd bob lliw wedi eu cymysgu gyda’i gilydd a gweill anferth! Gwnaeth Ken, gŵr Ann, y gweill iddi o goes brws llawr a’u llyfnu ar gyfer y gwau a gwnaeth fotymau pren anferth iddi o hen rolbrennau i gyd-fynd a’r clustogau, bagiau, sioliau, a.y.y.b.! Cafodd yr aelodau gyfle i weu gyda’r gweill mawr ond nid oedd llawer o frwdfrydedd gan eu bod yn dipyn yn anhylaw - yn enwedig i ddwylo hŷn!

Roedd Ann wedi dod ag amrywiaeth o waith llaw i’w ddangos a’i werthu ac mae’n un o 50 o grefftwyr sy’n gwerthu eu gwaith yn siop ‘Pentre Petha’ yn Llanrwst. Noson ddifyr i gychwyn y tymor a diolchwyd i Ann gan Eurwen.

Cynion ac awyr las. llun- PW

Clwb Prysor:

Croesawyd Ken Robinson atom a chawsom bnawn difyr yn ei gwmni yn gwylio sleidiau a chael hanes y trenau oedd yn mynd o Flaenau Ffestiniog i’r Bala. Diolchwyd iddo gan Hugh Glyn.

Merched y Wawr Traws: 
Croesawodd Nans Rowlands bawb i noson gyntaf y tymor. Cafwyd noson arbennig yng nghwmni Delyth Medi, Caryl a Ceri yn adrodd hanes trip cofiadwy i wlad Belg ym mis Ebrill. Daeth yr hanes i gyd yn fyw ar y sgrin pan welwyd lluniau o’r mynwentydd o gwmpas Ieper, y goflech i Hedd Wyn ar y mur yng nghroesffordd Habegos yn Langemark a’r gofeb newydd i’r Cymry a ddadorchuddiwyd yn ddiweddar. Braf oedd gweld y llechen er cof am Hedd Wyn a ddanfonwyd gan Ferched y Wawr, Trawsfynydd, yn 1977 ar y ffenest yn Eglwys Sant Siôr yn Ieper.


27.10.14

Y Doman Sgidia

Darn gan Pegi Lloyd-Williams, o rifyn Hydref 2014. Lluniau gan Paul Williams.

Mae  bron pawb o bell ag agos wedi dod i wybod am y Doman erbyn hyn, yn enwedig ar ôl y cyhoeddusrwydd yn y Daily Post y llynedd. Roedd yn ddifyr darllen y gwahanol eglurhad oedd gan rhai dros ei bodolaeth. Yr un a’m trawodd fwya’ oedd honno yn dweud bod hogiau Stiniog mor falch eu bod wedi cael dod adref yn ddiogel ar ôl bod yn Rhyfel y Crimea (1853-1856) nes iddynt bawb dynnu eu ‘sgidia a’u llosgi wrth ddod i olwg adra. Byddai pawb yn ymfalchïo fod ganddo bâr o sgidia i roi am ei draed y dyddiau hynny.



Na, roedd tunelli o sgidiau yn dod efo’r trên i Stiniog yn ystod yr Ail Ryfel Byd o’r Swyddfa Rhyfel, a byddai rhyw ddau ddwsin neu fwy yn cael eu cyflogi yn yr Hall Bach (sef y llawr gwaelod) i geisio eu rhoi yn bâr wrth bâr, ond roedd rhai mewn cyflwr ofnadwy - ôl gwaed ac anafiadau mawr. Byddid yn cymryd darnau o’r rheini i drwsio’r rhai oedd mewn cyflwr eitha’ da, ac o hyn i hyn byddai’r tomennydd o’r darnau oedd ar ôl yn cael eu cyrchu i’r darn tir roedd perchenogion Chwarel Llechwedd wedi ei gyflwyno yn ddigost at yr achos. Roedd y cyfan yn cael ei roi a’r dân ac yn wir bu’r doman yn rhyw fud losgi am rai blynyddoedd ar ôl y Rhyfel.

Bûm yn clercio i Gwmni Akett yn yr Hall yn ystod y Rhyfel, a chofion hapus gen i o weld y genod yn gweithio yn y ‘top’ yn gwneud rhwydi cuddliw (camouflage) - fframiau mawr uchel a’r merched yn dringo’r ystolion  yn plethu’r stribedi i ffurfio patrwm. Ond yn dod yn ôl at y sgidia fe ddaeth Rhys Mwyn i wybod am y domen ac fel tywysydd tripiau byddai’n stopio ac yn dangos y doman i’r ymwelwyr heb fod yn gwybod dim, medda fynta, am ei gwir hanes.  Fel y gwyddom o’i golofn yn yr Herald Gymraeg mae Rhys Mwyn yn archeolegwr hefyd, ac erbyn hyn mae yna gloddio wedi bod odditani.

Ers tro bellach mae Rhys wedi bod draw yma i gael yr hanes yn llawn, ac wedi gwneud tâp.
Mae mwy o ddiddordeb yn y domen  gan mai sgidia’ byddin yr Americanwyr oedd y rhan helaethaf, a’r gobaith yw hwyrach y bydd gan yr ymwelwyr awydd i’w pharchu yn eu ffordd eu hunain. Er clod i berchnogion Llechwedd a ninnau bobol Stiniog  mae’r fan wedi cael llonydd a pharch.

Pegi Lloyd-Williams 
    

21.10.14

O'r Archif- Trem yn ol

Pegi Lloyd Williams yn dewis pigion o’r archif. Y tro hwn, o rifyn Gorffennaf 1978.

Eglwys Sant Madryn
‘Loes calon yw clywed am ddifrod a dinistr adeiladau o ddidordeb hanesyddol arbennig.’ Dyna un o’r sylwadau a glywyd yn dilyn y tan mawr achosodd gymaint o lanast i’r eglwys hynafol ar Fehefin 14, 1978.

Dyma grynodeb allan o ‘Hanes Bro Trawsfynydd’ i’n hatgoffa o’r glendid a fu.

Dyma’r adeilad hynaf ym mhlwyf Trawsfynydd. Yn ôl traddodiad, yr oedd Madryn ac Anhun, gwas a morwyn Ednowain (un o benaethiaid pymtheg llwyth Gwynedd) yn croesi’r mynyddoedd oddeutu’r flwyddyn 560 O.C. ar bererindod i Ynys Enlli. Penderfynodd y ddau orffwys dros nos ar y llecyn lle saif yr eglwys hediw. Drannoeth, aeth y ddau i gymharu breuddwydion a chanfod iddynt gael yr un weledigaeth i adeiladu eglwys.

Llun -hawlfraint Alan Fryer, dan Drwydded Comin Creadigol, o wefan geograph

Yn ôl y traddodiad Celtaidd, adeilad o goed a chlai oedd yr addoldy cyntaf, ac am lawer cenhedlaeth Llanednowain oedd enw’r plwyf. Cysegrwyd yr eglwys i goffadwriaeth Madryn ac Anhun.

Adeiladwyd rhan o’r adeilad presennol yn y ddeuddegfed ganrif ac helaethwyd ef yn y bymthegfed ganrif. Y mae cynllun yr eglwys yn anarferol i’r rhan yma o Feirionnydd ac yn enwedig i Gwmwd Ardudwy, gan fod cangell ddwbwl ynddi.

Yn ddiweddarach daeth yr eglwys o dan ddylanwad Pabyddiaeth ac fe’i hail-gysegrwyd i’r Forwyn Fair. Yn ystod teyrnasiad Harri’r Wythfed, torrwyd i ffwrdd oddi wrth Babyddiaeth ac fel pob eglwys blwyf yng Nghymru daeth yn rhan o Eglwys Sefydledig Lloegr. O ganlyniad, cafodd enw newydd eto, sef Holy Trinity Church. Ond ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, cofrestrwyd yr eglwys fel Eglwys Sant Madryn, ac felly yr adwaenir hi heddiw, o dan adain Yr Eglwys yng Nghymru.

Y mae ‘porth y meirw’ yn un hynafol iawn gyda thyllau arbennig yn y wal. Cafodd ei ddefnyddio fel cyrchfan gêm bel droed rhwng dau blwyf yn yr hen amser (Cnapan? gol.).
Arferid cicio pel o borth un eglwys nes i’r bêl fynd drwy borth y meirw yn y plwyf arall. Y plwyf a gai’r bêl gyntaf trwy’r porth fyddai’n ennill y dydd.

Defnyddid y porth hefyd i osod troseddwyr yn y seddau a’u clymu yno fel esiampl. Yn ddiweddarach, aeth y seddau yn fan gorffwys i rai a gariai’r eirch o bellter i angladdau. Arferent eistedd i aros i’r offeiriad eu harwain i’r eglwys.