Showing posts with label Rhys Mwyn. Show all posts
Showing posts with label Rhys Mwyn. Show all posts

27.10.14

Y Doman Sgidia

Darn gan Pegi Lloyd-Williams, o rifyn Hydref 2014. Lluniau gan Paul Williams.

Mae  bron pawb o bell ag agos wedi dod i wybod am y Doman erbyn hyn, yn enwedig ar ôl y cyhoeddusrwydd yn y Daily Post y llynedd. Roedd yn ddifyr darllen y gwahanol eglurhad oedd gan rhai dros ei bodolaeth. Yr un a’m trawodd fwya’ oedd honno yn dweud bod hogiau Stiniog mor falch eu bod wedi cael dod adref yn ddiogel ar ôl bod yn Rhyfel y Crimea (1853-1856) nes iddynt bawb dynnu eu ‘sgidia a’u llosgi wrth ddod i olwg adra. Byddai pawb yn ymfalchïo fod ganddo bâr o sgidia i roi am ei draed y dyddiau hynny.



Na, roedd tunelli o sgidiau yn dod efo’r trên i Stiniog yn ystod yr Ail Ryfel Byd o’r Swyddfa Rhyfel, a byddai rhyw ddau ddwsin neu fwy yn cael eu cyflogi yn yr Hall Bach (sef y llawr gwaelod) i geisio eu rhoi yn bâr wrth bâr, ond roedd rhai mewn cyflwr ofnadwy - ôl gwaed ac anafiadau mawr. Byddid yn cymryd darnau o’r rheini i drwsio’r rhai oedd mewn cyflwr eitha’ da, ac o hyn i hyn byddai’r tomennydd o’r darnau oedd ar ôl yn cael eu cyrchu i’r darn tir roedd perchenogion Chwarel Llechwedd wedi ei gyflwyno yn ddigost at yr achos. Roedd y cyfan yn cael ei roi a’r dân ac yn wir bu’r doman yn rhyw fud losgi am rai blynyddoedd ar ôl y Rhyfel.

Bûm yn clercio i Gwmni Akett yn yr Hall yn ystod y Rhyfel, a chofion hapus gen i o weld y genod yn gweithio yn y ‘top’ yn gwneud rhwydi cuddliw (camouflage) - fframiau mawr uchel a’r merched yn dringo’r ystolion  yn plethu’r stribedi i ffurfio patrwm. Ond yn dod yn ôl at y sgidia fe ddaeth Rhys Mwyn i wybod am y domen ac fel tywysydd tripiau byddai’n stopio ac yn dangos y doman i’r ymwelwyr heb fod yn gwybod dim, medda fynta, am ei gwir hanes.  Fel y gwyddom o’i golofn yn yr Herald Gymraeg mae Rhys Mwyn yn archeolegwr hefyd, ac erbyn hyn mae yna gloddio wedi bod odditani.

Ers tro bellach mae Rhys wedi bod draw yma i gael yr hanes yn llawn, ac wedi gwneud tâp.
Mae mwy o ddiddordeb yn y domen  gan mai sgidia’ byddin yr Americanwyr oedd y rhan helaethaf, a’r gobaith yw hwyrach y bydd gan yr ymwelwyr awydd i’w pharchu yn eu ffordd eu hunain. Er clod i berchnogion Llechwedd a ninnau bobol Stiniog  mae’r fan wedi cael llonydd a pharch.

Pegi Lloyd-Williams 
    

7.12.13

Y Fainc Sglodion a chanu pop!

Dyna ddau beth na fyddech yn gysylltu a'i gilydd fel arfer! Ond da o beth oedd gweld Cymdeithas Ddiwyllianol Bro Ffestiniog yn rhoi sylw i elfen ifancach o ddiwylliant ein cenedl.


llun o wefan (uniaith saesneg) rhysmwyn.com


Y cyn bync-rocar a'r archeolegydd, Rhys Mwyn oedd yn agor tymor newydd y Fainc Sglodion y gaeaf hwn, yn cyflwyno sgwrs ar y testun 'Cefndir a Geiriau Pop gan Gyfansoddwyr o'r Ardaloedd Llechi'.




Dyma bigion o hanes y noson gan P.Ll.W a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd LLAFAR BRO:




llun PW
Bu i lawer feddwl mai dyn y caneuon ‘pop’ yn unig oedd y darlithydd, ond erbyn heddiw ag yntau yn ‘sgwennu colofn wythnosol i’r Herald Gymraeg yn y Daily Post (pob ddydd Mercher fel y gwyddom yn dda) mae ei gefndir fel archeolegwr yn amlygu ei hun yn fwyfwy. 

Rhoddodd bwyslais fod ‘lle’ yn bwysig - y diwylliant, hanes a’r dylanwad gwahanol o fyw yn y dyffrynnoedd neu’r ucheldir. Mae ein cefndir yn bwysig i ni fel gwerin - a daw'r cofio am anawsterau a chaledi bywyd y werin bobloedd. Yn gefn i’r cwbl wrth gwrs daw ein hoffter o gerddoriaeth a chanu, gyda’r beirdd yn troi at farddoniaeth, a dyna ni  - toreth o ganeuon gwerin, ac yn yr oes fodern ganeuon ‘pop’ a llawer o’r rhain yn cario neges ddirdynnol ar adegau.


Gwyddom wrth ganu’r gân fod neges ymhob un - ‘ymlaen’ yw’r neges sylfaenol a ‘deffrown’ i anghenion ein gwerin. Daeth llawer o hanes ein brwydrau yn yr oes fodern i’r amlwg trwy ganu amdanynt - geiriau oedd angen eu dweud yn cael eu dysgu weithiau yn ddiarwybod a’r neges yn dod yn gliriach.


Bu’n cyfeirio at y grwpiau mwyaf dylanwadol - llawer ohonynt, ac yn eu plith ‘Anweledig’ i ni wrth gwrs, a chyfeiriodd yn arbennig at ‘Maffia Mr Huws’ gan ddweud y byddai canu pop Cymraeg wedi mynd oni bai iddynt ddal ati.


Be ydi'ch barn chi gyfeillion? 

Dyma restr anghyflawn o grwpiau ac unigolion o Fro Ffestiniog sydd wedi cyfrannu at y 'Sin Roc Gymreig' dros y blynyddoedd. Rhai'n fwy llwyddianus na'r lleill!


Twmffat, Anweledig, Mim Twm Llai, Gai Toms, Ffrisbi, Gwibdaith Hen Fran, Estella, Iwcs, Arwel Gruffydd, Twm Cetyn, Y Mistecs, Carreg Atab, Chwd Poeth, Y Frigad Dan, Rhech Atomig, Vates, Aeram....
 

Fedrwch chi ychwanegu at y rhestr?
Gyrwch sylwadau!

Mae'r Fainc Sglodion yn cwrdd nesa' ar Chwefror y 6ed am 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol, pan fydd yr awdur JERRY HUNTER yn rhoi sgwrs.