Showing posts with label Bwlch Crimea. Show all posts
Showing posts with label Bwlch Crimea. Show all posts

30.3.20

Stolpia -merlod a beics

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain, Hogiau’r Rhiw 1956-1963

Yn ddiau, y mae gan rai ohonoch gof o’r dyddiau y dechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth ddechrau plannu coed ar yr ochr draw i Fwlch Gorddinan yng ngodre gogleddol Moel Farlwyd, o bobtu’r Afon Las, ac i lawr at Hafod Gwenllian ger Roman Bridge. Credaf mai tua 1961-62 oedd hi gan fod Bill Jones yn cofio gwneud y bont tros yr afon pan weithiai i’r Comisiwn. Sut bynnag, tybed faint ohonoch sy’n cofio’r merlod a fyddai yno, ac fel y byddent yn pori ar ochr y mynydd cyn iddynt ddechrau torri’r cwysi i blannu’r coed. Gan fod neb ar eu cyfyl ar ôl tua hanner awr wedi pump o’r gloch, ac ar ôl rhyw hanner dydd ar y Sadyrnau, byddai’r hogiau–drwg, yn ôl rhai - yn mynd draw yno a cheisio cael pas ar gefn y merlod.

Cofiaf un tro, roedd rhyw dair neu bedair o ferlod wedi dod i bori i lawr at y ffens ar ochr y ffordd fawr, a dyma ni’r hogiau dros y ffens a cheisio eu denu atom gyda minciag neu rywbeth. Pa fodd bynnag, roedd un gaseg gydag ebol, ac nid oedd honno am adael inni ddod yn agos at yr un ohonynt, ac yn ddirybudd bron, ac os cofiaf yn iawn, dyma hi ar ras ar ôl un o'r criw, a rhoi brathiad iddo yn ei ben ôl nes yr oedd yn gweiddi ac yn griddfan ac yn anelu nerth ei draed yn ôl tros y ffens i’r ffordd. Y mae hi’n bur debyg mai dyna’r tro olaf inni fynd i’r fan honno ar ôl merlod mynydd!

Y ffordd yn arwain at Fwlch Gorddinan cyn dyddiau’r goedwigaeth a’i lledu ar gyfer trafnidiaeth.

Tua’r  un cyfnod, haf 1962, o bosib, a finnau wedi cael beic ar ôl ewythr imi, sef  Yncl John, gŵr Anti Meg, Bryn Tawel, i fynd yn ôl a blaen i’m gwaith yn Ffatri Metcalfe, penderfynais wneud defnydd iawn ohono un prynhawn Sadwrn a mynd am dro dros y Bwlch (Crimea) i Fetws y Coed.

Gyda llaw, Hercules oedd y beic, ac wrth gwrs, dim ond tri sbîd oedd arno, ac o ganlyniad, bu’n rhaid ei wthio i fyny rhiw Talyweunydd a rhiw Llyn Ffridd, bron yr holl ffordd at y Bwlch. Ond wedyn, dyma gael mynd, mynd fel y coblyn i lawr heibio Ffynnon Fach a chwt hogiau trwsio’r ffyrdd, ac i lawr at y gwastad lle byddai’r ffordd, os cofiwch, yn rhannol goncrit, ac wedyn i lawr y ‘tro mawr’ ar wib – ond erbyn hyn roedd y brêcs wedi poethi, ac nid oedd fawr o stop ar y beic, a dechreuodd fynd allan o reolaeth gennyf. Wel, y peth nesaf a ddigwyddodd oedd i bedal ochr chwith y beic daro y cwrb, neu’r wal ar y tro, a chymell y beic i fynd ar draws y ffordd. Tra’n ceisio ei reoli a’i unioni, yn fy nychryn, sylwais bod cwpwl ar wyliau wedi parcio ar bwt o dir ar ochr dde i’r ffordd ac yn cael picnic yno ar fwrdd bach ger eu car.

Yn y cyfamser, roedd y beic, a finnau yn dal arno, yn anelu yn syth atynt, a chofiaf  hyd heddiw fel yr edrychai’r dyn arnaf mewn braw, gyda’i geg yn agored a brechdan yn ei law, ac yn meddwl yn siwr bod gwrthdrawiad sobor am ddigwydd. Do, mi fedrais droi y beic o fewn ychydig fodfeddi i’r bwrdd bach a chael yr olwynion yn ôl ar yr iawn lwybr. Trwy ryw drugaredd nid oedd yr un cerbyd ar ei ffordd i fyny, neu dyn a ŵyr beth a fyddai fy hanes. Gyda llaw, penderfynais droi yn fy ôl am adre cyn cyrraedd Dolwyddelan!
-------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2020


18.9.19

Gwell Enw Da Na Chyfoeth

Hynod ddifyr, ond cymleth weithiau hefyd, ydi hen enwau lleoedd yn’de. Tua’r un adeg a stŵr newid enw Llechwedd, rhoddwyd erthygl o’r archif ar y wefan yn trafod enw Bwlch Gorddinan. Yn ei golofn Stolpia, yn rhifynnau Mai a Gorffennaf 1998, roedd Steffan ab Owain yn holi sut cafodd y bwlch yr enw ‘Crimea’.

Yr awgrym oedd bod y nafis oedd yn gweithio ar y twnel mawr yn galw’r dafarn ar ben y bwlch bryd hynny yn Crimea –ar ôl rhyfel y Crimea (1854-56)- oherwydd yr holl gwffio oedd yn digwydd yno!


Safle tafarn y Crimea. Ychydig iawn o olion sydd yno bellach. Llun- Paul W, Mehefin 2019
Dywed Steff mae’r Llywelyn Arms oedd enw’r dafarn a’i fod yn ddirgelwch iddo sut oedd y ddau enw mewn defnydd.

Mi gododd hyn dipyn o chwilen yn fy mhen i fynd i chwilota ar-lein, efo’r faintais fodern ei bod cymaint haws canfod gwybodaeth ar y we rwan nag oedd hi ym 1998, ac efo cymorth Vivian Parry Williams, dyma ddaeth i'r golwg ym manylion y cyfrifiadau'r gorffennol:

Does dim son am y dafarn yng nghyfrifiad 1851, ond tydi hynny ddim yn syndod; fel dywed Steffan dim ond yn 1852 gorffenwyd adeiladu’r ffordd dros y bwlch.

Erbyn cyfrifiad 1861 roedd cofnod o dan ardal ddeheuol plwyf Dolwyddelan, am deulu o naw yn byw yn y Llywelyn Arms:  Robert Williams, y pen teulu wedi’i nodi yn ‘Publican’, ei wraig Ann, pump o ferched a dau fab, efo’r ‘fenga -Robert- yn ddyflwydd.

Ddegawd wedyn yng Nghyfrifiad 1871, tydi o ddim yn dafarn mae’n debyg. Enw’r lle erbyn hynny ydi Pen-y-bwlch, efo’r teulu Penny yn preswylio yno efo morwyn a lojiwr. Y pen teulu oedd William Penny, chwarelwr, a William ydi enw un o’r meibion hefyd, yn labrwr 24 oed. 

Daeth newid eto yn 1881, efo’r cyfrifiad yn cofnodi’r lle fel y Crimea Hotel. John Roberts ydi’r ‘Hotel Keeper’, ond roedd William Penny y labrwr yn byw yno o hyd.

O symud oddi wrth fanylion y cyfrifiad at wefan hynod werthfawr ‘Papurau Newydd Cymru Arlein’, mae cofnod yn y North Wales Chronicle o 17 Medi 1881 -‘mond ‘chydig fisoedd ar ôl y cyfrifiad- ac  mae pethau wedi mynd yn fler yno!

Dywed y papur, o dan bennawd ‘Petty Sessions’, bod y llys wedi gwrthod adnewyddu trwydded y dafarn oherwydd gwrthwynebiad gan Inspector Williams a Deputy Chief Constable Hughes! Yn ddigon rhyfedd, mae’r papur yn galw’r lle yn ‘Prince Llewelyn Inn’ ond yr un lle sydd dan sylw heb os, oherwydd mae’r adroddiad yn mynd yn ei flaen i awgrymu fod perchennog chwarel gyfagos Llechwedd eisiau gweld y lle yn cau:
“Mr Greaves, one of the licensing justices, gave the house an indifferent character, and was of the opinion that there was no necessity for it, seeing that the line to Ffestiniog was now completed”. 
Diolch i Bill a Mary Jones hefyd am dynnu sylw bod papur Baner ac Amserau Cymru, ar 24 Medi 1881 yn adrodd am atal y drwydded hefyd, gan ddisgrifio’r lle fel
Gwestty Llewelyn Arms, Bwlch Gorddunant, tafarn a elwir yn iaith y wlad –iaith lysenwol y werin-bobl- ‘Crimea’...ar ben y mynydd; lle hollol ddi-nod” 
...ac yn son am chwarelwyr yn gwario eu cyflog yno, meddwi, a methu mynd adref! “Y mae wedi bod yn agored am o saith i wyth mlynedd ar hugain. Cauir ef ar ôl y 10fed o Hydref".

Mae’r un papur yn adrodd ar 29 Hydref fod apêl o flaen y llys ond bod pobl Dolwyddelan wedi cyflwyno deiseb a 500 enw yn galw am beidio ail-drwyddedu’r dafarn. Roedd hynny’n ddigon i roi diwedd ar y lle mae’n debyg.

Tydi o ddim yn ymddangos ar gyfrifiad 1891, o dan unrhyw enw!

PW


Darn o getyn glai a ganfyddwyd ar y safle gan Bill a Mary Jones, efo shamrock a'r geiriau 'HOME RULE' yn dystiolaeth bod nafis Gwyddelig wedi mynychu’r lle yn ystod tyllu’r twnel mawr.
------------------------------------


Addasiad o ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2019


26.5.19

Stolpia -Y Crimea

Detholiad allan o gyfres boblogaidd Steffan ab Owain.

Ceir llawer o enwau yn ymwneud â brwydrau a rhyfeloedd yn ein hardal. Un enghraifft yw'r enw Saesneg ar Fwlch y Gorddinan, sef Crimea Pass. Credaf i'r lle hwn gael ei enw ar ôl Rhyfel y Crimea (1854-56) ond ni fedraf hyd yn hyn, gael hyd i ddim byd i ategu fod yr enw wedi ei fabwysiadu ar y bwlch.

Nac ar y dafarn a godwyd yno -yn dilyn gorffen y ffordd yn 1852- chwaith. O beth rwyf wedi gasglu, yr enw ar y dafarn o tua 1856 ymlaen oedd Llywelyn (neu Llewelyn) Arms, ac nid y Crimea Inn fel y tybia llawer. Yn wir, methais a gweld unrhyw gyfeiriad at yr enw Crimea mewn papurau o'r 1860au a'r 1870au.

Felly sut cafwyd yr enw hwn ar y lle? Ai enw enw byrhoedlog ar y dafarn oedd 'Crimea', a'i fod wedi newid o fewn ysbaid i Llywelyn Arms? Ac efallai bod yr enw Crimea wedi aros ar dafod y werin hyd heddiw... Awgrymodd rhywun wrthyf efallai mai nafis a weithiai ar y twnel mawr a ddechreuodd ei galw wrth yr enw hwn oherwydd yr holl ymladd a fyddai yno!



Diolch i’r cyfaill Gruff Jones, Cae Clyd am fy atgoffa o lun tafarndy’r Crimea gan Francis Wynne-Finch a dynnwyd yn 1870. Hefyd, diolch i’r Br. Collwyn Jones, Ffordd Cwmbowydd am dynnu fy sylw at y bennod ar hanes y dafarn yng nghyfnod ddiweddaraf  I. Wynne Jones, ‘Gold, Frankenstein and Manure’. Cofiais innau ar ôl ysgrifennu’n strytyn uchod amdano fy mod wedi derbyn hanesyn diddorol am y lle rai blynyddoedd yn ol gan y Br. Trefor Davies, Minffordd, ac felly, chwiliais drwyddo er mwyn gweld pa enw a ddefnyddiwyd gan yr awdur gan ei fod yn dyddio o 1868, ond wedi ei ysgrifennu’n wreiddiol oddeutu 1861. Dyma fras-gyfieithiad o’r hanesyn, rwan:
‘Mae chwareli llechi, neu slabiau, yn yr ardaloedd cyfagos, ond am rai milltiroedd ni welsom ond un tŷ, - tafarn o’r enw ‘Crimea’, ac os yw’r adroddiadau amdani hi yn wir, (er nad ydynt yn gwneud pob tro) nid yw’r lle gorau am letygarwch a chroeso. Druan ohonynt! ... beth bynnag yw eu gwendidau mae’n rhaid eu hedmygu am fyw mewn ffasiwn le, yn enwedig drwy dymor y gaeaf.’
Ie, Crimea yw’r enw a ddefnyddiwyd ganddo. Felly, mae’n dal yn ddirgelwch i mi sut yr oedd y ddau enw, sef ‘Llewelyn Arms’ a ‘Crimea’ yn cael eu defnyddio am yr un lle ar yr un adeg ... os nad oedd yr enw gwreiddiol wedi ei ddiddymu ar ôl ychydig flynyddoedd, ond yn dal mewn arfer gan y werin, fel y dywedais o’r blaen. Pwy all daflu mwy o oleuni ar y mater?
--------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifynnau Mai a Gorffennaf 1998.
Dilynwch gyfres Steffan efo'r ddolen STOLPIA.
---









27.10.14

Y Doman Sgidia

Darn gan Pegi Lloyd-Williams, o rifyn Hydref 2014. Lluniau gan Paul Williams.

Mae  bron pawb o bell ag agos wedi dod i wybod am y Doman erbyn hyn, yn enwedig ar ôl y cyhoeddusrwydd yn y Daily Post y llynedd. Roedd yn ddifyr darllen y gwahanol eglurhad oedd gan rhai dros ei bodolaeth. Yr un a’m trawodd fwya’ oedd honno yn dweud bod hogiau Stiniog mor falch eu bod wedi cael dod adref yn ddiogel ar ôl bod yn Rhyfel y Crimea (1853-1856) nes iddynt bawb dynnu eu ‘sgidia a’u llosgi wrth ddod i olwg adra. Byddai pawb yn ymfalchïo fod ganddo bâr o sgidia i roi am ei draed y dyddiau hynny.



Na, roedd tunelli o sgidiau yn dod efo’r trên i Stiniog yn ystod yr Ail Ryfel Byd o’r Swyddfa Rhyfel, a byddai rhyw ddau ddwsin neu fwy yn cael eu cyflogi yn yr Hall Bach (sef y llawr gwaelod) i geisio eu rhoi yn bâr wrth bâr, ond roedd rhai mewn cyflwr ofnadwy - ôl gwaed ac anafiadau mawr. Byddid yn cymryd darnau o’r rheini i drwsio’r rhai oedd mewn cyflwr eitha’ da, ac o hyn i hyn byddai’r tomennydd o’r darnau oedd ar ôl yn cael eu cyrchu i’r darn tir roedd perchenogion Chwarel Llechwedd wedi ei gyflwyno yn ddigost at yr achos. Roedd y cyfan yn cael ei roi a’r dân ac yn wir bu’r doman yn rhyw fud losgi am rai blynyddoedd ar ôl y Rhyfel.

Bûm yn clercio i Gwmni Akett yn yr Hall yn ystod y Rhyfel, a chofion hapus gen i o weld y genod yn gweithio yn y ‘top’ yn gwneud rhwydi cuddliw (camouflage) - fframiau mawr uchel a’r merched yn dringo’r ystolion  yn plethu’r stribedi i ffurfio patrwm. Ond yn dod yn ôl at y sgidia fe ddaeth Rhys Mwyn i wybod am y domen ac fel tywysydd tripiau byddai’n stopio ac yn dangos y doman i’r ymwelwyr heb fod yn gwybod dim, medda fynta, am ei gwir hanes.  Fel y gwyddom o’i golofn yn yr Herald Gymraeg mae Rhys Mwyn yn archeolegwr hefyd, ac erbyn hyn mae yna gloddio wedi bod odditani.

Ers tro bellach mae Rhys wedi bod draw yma i gael yr hanes yn llawn, ac wedi gwneud tâp.
Mae mwy o ddiddordeb yn y domen  gan mai sgidia’ byddin yr Americanwyr oedd y rhan helaethaf, a’r gobaith yw hwyrach y bydd gan yr ymwelwyr awydd i’w pharchu yn eu ffordd eu hunain. Er clod i berchnogion Llechwedd a ninnau bobol Stiniog  mae’r fan wedi cael llonydd a pharch.

Pegi Lloyd-Williams