Showing posts with label Cofeb. Ieper. Show all posts
Showing posts with label Cofeb. Ieper. Show all posts

18.5.20

Y GADWYN DROM AR BRIDD TRAMOR

Darn gan Glyn Daniels

Collodd fy nain ei brawd ym Mrwydr Passchendaele yn Ieper, neu Ypres, Gwlad Belg, ac am flynyddoedd dywedais wrthyf fy hun bod yn rhaid i mi fynd yno un diwrnod i dalu parch. Felly archebais i fynd ym mis Mehefin 2019.

Ym mis Mai y flwyddyn honno cefais y fraint o gael fy ethol i swydd cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog, felly penderfynais y byddwn yn mynd â'r gadwyn swyddogol gyda mi i dalu teyrnged i'r holl ddynion ifanc o Gymru a gollodd eu bywydau yno.


Teimlais mor falch gan mai dyma'r tro cyntaf i gadwyn swyddogol Cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog ymweld ag unrhyw wlad dramor, heblaw am Sir Fôn efallai!?

Braint mawr oedd cael ymweld â bedd Hedd Wyn ym mynwent Coed Magnelau, Ypres, a beddi fy ewythr, a thaid Geraint Vaughan Jones, tra oeddwn yn yr ardal hefyd.

Heddwch.
Glyn Daniels
-----------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn (digidol) Ebrill 2020.
Mae'r rhifyn dal ar gael i'w lawr-lwytho am ddim!

11.11.17

Meibion Prysor yn cofio'r 'rhwyg o golli'r hogiau'

Cafodd aelodau Meibion Prysor a nifer o gyfeillion o’r ardal ymuno yn y cyfarfodydd coffa a drefnwyd yng Ngwlad Belg eleni. Dyma rai o atgofion un aelod o'r Côr fu ar y daith.

Dydd Gwener, Gorffennaf 28:
Roedd rhaid codi’n blygeiniol, neu beidio mynd i’r gwely o gwbl, gan ein bod yn cychwyn o Drawsfynydd am 03.30 y bore.  Cyrraedd Manceinion tua 05.30 a hedfan am 07.50.  Talu crocbris am frechdan bacwn yn y maes awyr!
Cyrraedd Brwsel ar amser am 10.15yb ac yna chwilio am y bws i fynd â ni i Kortrijk lle roedden ni’n aros am bedair noson.  Pnawn rhydd i ddod dros y teithio. 
Cychwyn am 6.30 yr hwyr am Ypres i gadw cyngerdd i griw o Gymry oedd wedi teithio gyda chwmni Seren Arian. Cafwyd cyngerdd llwyddiannus ac ymateb brwdfrydig wrth i blant Ysgol Sul Trawsfynydd, Elain Iorwerth ac Iwan Morus Lewis rannu’r llwyfan gyda Iona Mair, Iwan Morgan a Meibion Prysor.

Meibion Prysor a Phlant y Traws fu’n diddori’r gynulleidfa yn Ieper, Gwlad Belg

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 29:
Tywydd eli haul a dim angen ymbarel, diolch byth!  Aeth rhai o gwmpas rhai o’r mynwentydd i osod llechen bwrpasol a wnaed gan blant yr ysgol ar fedd pob milwr o Drawsfynydd a gafodd ei ladd yn y brwydro. Roedd pabi coch ar y lechen a’r geiriau ‘Mae dy fro yn dy gofio’ ar bob un.
Ymlaen â ni am Goedwig Memetz ac ardal Thiepval  lle bu peth o’r brwydro.  Yn wir, fe gollwyd oddeutu 24,000 o filwyr yma mewn un diwrnod.
Ar ôl cinio hyfryd yn nhref Albert, aethom i Beamont Hamel ac Ieper [Ypres] a chael peth amser rhydd yno.
Canwyd ‘In Flanders Fields’ a ‘Lleuad Borffor’ ar ôl y Last Post dan Borth Menin yn Ieper am
8.00pm.  Roedd rhai cannoedd o bobl yno a llawer iawn yn eu dagrau.

Dydd Sul, Gorffennaf 30:
Cychwyn am fynwent Essex Farm ac yna i fynwent Langemark.
Cawsom gyfle hefyd i alw i weld de Sportsman Pub yn Langemark lle mae’r perchennog wedi troi ei fwyty yn amgueddfa er cof am Hedd Wyn a’r milwyr o Gymru a fu farw yn yr ardal honno.  Cofiadwy iawn oedd hwn. 
Yna ymlaen â ni i seremoni dadorchuddio plac newydd i gofio Hedd Wyn, a roddwyd gan Gôr Rygbi Gogledd Cymru, oedd yn bresennol, ynghyd â Dylan Cernyw a Rhys Meirion.  Cafwyd geiriau pwrpasol gan Keith O’Brien, a dalodd deyrnged i waith y diweddar Isgoed Williams a weithiodd mor galed i gryfhau’r cysylltiad rhwng ardal Langemark a Thrawsfynydd.
Roedd cannoedd o bobl yno i wylio’r Archdderwydd, Geraint Llifon yn dadorchuddio’r plac ac yn darllen un o gerddi Hedd Wyn ‘Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng’.
Mi ganodd Meibion Prysor ‘Carol’ gan Hedd Wyn, sy’n cynnwys y llinellau dirdynnol o eironig,
Deuwch engyl eto i ganu uwch ein hen ryfelgar fyd, 
Cenwch wrtho am yr Iesu - all dawelu’r brwydrau i gyd...

Ymlaen â ni wedyn i gynnal gwasanaeth byr ar lan bedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood yng nghwmni’r plant a’r Côr.  Cafwyd gweddïau pwrpasol, canwyd emyn a chanwyd yr englynion coffa.  Cafwyd anerchiad pwrpasol hefyd gan Phil Mostert, yn sôn am ddewrder y milwyr ond hefyd yn cyfeirio at wastraff bywydau a’r camgymeriadau a wnaed gan wleidyddion, penaethiaid a chadfridogion.  Oni ddywedodd Lloyd George fod ‘Passchendaele yn un o drychinebau mawr y rhyfel.  Ni fyddai unrhyw filwr call yn amddiffyn yr ymgyrch ddisynnwyr hon.’  Dywedwyd gair am y miloedd y gorfodwyd iddyn nhw fynd i ryfela yn erbyn eu hewyllys, am y rhai na ddaeth yn ôl, a’r rhai a ddaeth yn ôl i wynebu blynyddoedd o boen corfforol a meddyliol.
Nôl yn y gwesty, gwelsom ein bod yn rhannu llety efo neb llai na’r prif weinidog, Theresa May... Plismyn arfog ym mhob man!

Dydd Llun, Gorffennaf 31:
Bore rhydd cyn cychwyn am wasanaeth Cymru’n Cofio yn Langemark am 4.  Cawsom ymuno yn y canu a phrofi balchder y Cymry yn y dorf enfawr.

Dydd Mawrth,  Awst 1:
Pnawn rhydd yn Brugge cyn hedfan adref.  Roedd yn fraint bod ar y daith.  Ond y cof mwyaf sydd gen i amdani ydi fod tua hanner miliwn wedi eu lladd yn Passchendaele - a hynny i ddim byd yn y pen draw.  Heddwch i’w llwch.
-----------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.


11.11.14

Cofeb i gofio milwyr Cymru ar bridd tramor

Darn gan Marian Roberts a ymddangosodd gynta' yn rhifyn Medi 2014. Lluniau gan Dafydd Roberts.

Yng Ngorffennaf 1917, yn ystod 3edd Brwydr Ieper, a elwir hefyd yn Passchendale, penderfynwyd bod angen i'r Cynghreiriaid gymryd ardal a alwyd yn Cefn Pilckem ger Langemark yn Fflandrys.  Y rhai a ymgymrodd â'r dasg, ymysg eraill, oedd y Gwarchodlu Cymreig.   'Roeddynt yn llwyddiannus ond collwyd bywydau lu, gan gynnwys y bardd o'r Ysgwrn, Hedd Wyn, sydd erbyn hyn yn symbol o'n cof cenedlaethol ni am bob un o'r dynion ifanc a laddwyd yn y gyflafan.


Ond, yn wahanol i genhedloedd eraill oedd â chofebau i gofio'r bechgyn a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, nid oedd gan Gymru ei chofeb genedlaethol ei hun.  Felly, pnawn Sadwrn, Awst 16eg, yn heulwen gynnes Gwlad Belg, daeth cannoedd ynghyd i bentref Langemark ar gyfer dadorchuddio cofeb arbennig i gofio'r holl Gymry a gymerodd ran yn y Rhyfel Mawr.  Cafwyd gwasanaeth hynod deimladwy dan arweiniad Roy Noble, a cymerwyd rhan amlwg gan Gôr Rygbi Gogledd Cymru, Rhys Meirion, a'r telynor Dylan Cernyw, a darllenwyd y darn barddoniaeth “Rhyfel” o eiddo Hedd Wyn gan Isgoed Williams, Trawsfynydd.

     Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
     A Duw ar drai ar orwel pell;
     O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
     Yn codi ei awdurdod hell.



Draig goch anferth o efydd ar gromlech las yw'r gofeb.  Fe'i crewyd gan yr artist ifanc Lee Odishow, sy'n wreiddiol o Ddinbych- y- Pysgod, a rhoddwyd cerrig y gromlech gan Chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd.  Cafodd y ddraig ei bwrw yn Ffowndri Castle Fine Arts yn Llanrhaeadr-ym Mochnant.  Codwyd arian ar gyfer  Apêl y gofeb gan gannoedd o unigolion a mudiadau o fewn Cymru – yn eu mysg Tegid Roberts o'r Blaenau aeth ar daith gerdded noddedig.   Ymysg y rhai aeth i osod torch wrth droed y gofeb oedd Geraint Roberts o'r Manod ar ran Clwb y Ffiwsilwyr yma yn y  Blaenau, a cyflwynodd Alan Hicks, o Danygrisiau, ddarn o lechen a luniwyd yn arbennig ganddo i gofio yr ymweliad gan ffrindiau a chymdeithion Clwb y Ffiwsilwyr Cymreig oedd yn bresennol.


Gyda'r nos cafwyd cyngerdd gala yn Eglwys Langemark, a phnawn Sul gwasanaeth ym Mynwent Artillery Wood ble mae bedd Hedd Wyn.  I gloi'r penwythnos aethpwyd at wyth y nos i Borth Menin yn Ieper i seremoni'r Alwad Olaf a gynhelir yno bob nos o'r flwyddyn. Ar Awst 17eg 'roedd y naws yn Gymreigaidd gyda Rhys Meirion, Dylan Cernyw, a'r Côr yn cyfrannu.  'Roedd rhan amlwg hefyd gan Mike Jennings oedd yn cario baner Clwb y Blaenau, a Gary Williams osododd y dorch.

Penwythnos arbennig i gofio'r genhedlaeth goll o Gymru, gan gynnwys llawer o fechgyn ifanc o Fro Ffestiniog, na ddaeth yn ôl o'r Rhyfel Mawr 1914-1918.

     Ni ddaw gyda'r hafau melynion
     Byth mwy i'w ardal am dro;
     Cans mynwent sy'n nhiroedd yr estron
     Ac yntau ynghwsg yn ei gro.

(“Marw oddi Cartref” - Hedd Wyn)