Testun gofid –ers degawdau- ydi tuedd pobol ifanc disglair, i adael eu cymunedau i chwilio am waith a bywyd cyffrous yn y dinasoedd. Yn ddiweddar, mae Lowri Cunnington Wynn -darlithydd yn adran Cyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth- wedi ennill gwobr am yr erthygl academaidd orau yng nghyfnodolyn Gwerddon. Mae ei hymchwil ar gael ar y we*, ond yma mae’n rhoi crynodeb o’i chanfyddiadau.
Nid datganiad newydd yw’r ffaith fod ardal Bro Ffestiniog wedi denu ambell i gymeriad diddorol dros y degawdau diwethaf. Yn wir, teg digon yw dadlau fod hanes lliwgar, diwydiannol yr ardal wedi tynnu sylw haneswyr, artistiaid ac academyddion fel ei gilydd. Un o'r rhain oedd Isabel Emmett (1978) oedd yn darogan am y ‘Blaenau Boys in the Mid Sixties’ a’i chanfyddiad hi o ‘Gymreictod.’
Bu cyfraniad Emmett i’r cysyniad hwn yn un pell gyrrhaeddol a bu’n ganolog i’r rhan fwyaf o’i gwaith hi ar Gymru. Ni ellir diystyru ei sylw proffwydol wrth iddi ddadlau fod dyfodol ansicr yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig unigryw, yn amlwg iawn i bobl gyffredin Cymru.
Nid oes llawer wedi newid yn y cyd-destun hwn, heblaw bod y sefyllfa llawer mwy dwys nac oeddwn i wedi dychmygu, gyda Chymru a’r Bröydd Cymraeg yn gyffredinol yn colli eu pobl ifanc, addysgedig ar raddfa frawychus. Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn 2011 yn ategu hyn a’r pwnc o allfudo yn un amserol wrth ystyried targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ceir gwaith ymchwil diweddar sy’n trafod allfudo pobl ifanc o Flaenau Ffestiniog a Thregaron yn ôl eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Bu’n canolbwyntio ar bobl ifanc nad oedd wedi eu geni yn y Fro, ac ymddengys fod y bobl ifanc hyn yn gadael Cymru ar raddfa bedair gwaith yn fwy na’r rhai a anwyd yma (Jones 2010). Darganfu’r ymchwil fod allfudo ymysg pobl ifanc yn ddibynnol ar nifer o ffactorau cymhleth ond ymddengys fod cysylltiad amlwg rhwng y cysyniad o Gymreictod a’r ymdeimlad o berthyn i gymuned.
Bu cryn drafodaeth ymysg pobl ifanc y Fro ar yr hyn a olygir wrth fod yn ‘Gymro/Cymraes’, yr ymdeimlad hwnnw o berthyn a graddfeydd integreiddio i’r gymuned. Roedd y term ‘cenedligrwydd’ yn gysylltiedig â’r bröydd yr oeddynt yn perthyn iddynt. Yn ogystal, roedd ‘cenedligrwydd’ yn aml yn adlewyrchu’r hyn yr oeddent yn teimlo am eu statws o fewn y gymuned honno.
Darganfuwyd, yn anochel efallai, fod agweddau rhieni yn treiddio i’w hagweddau hwy yn ddibynnol ar eu profiadau positif neu negyddol o Gymreictod. Er hynny, gellir dadlau bod cymhlethdod yn perthyn i’r sampl yn gysylltiedig â’u cefndir teuluol ac felly eu cenedligrwydd a’u statws hwythau o fewn y gymuned. Er enghraifft, ymddengys nad oedd nifer o’r pobl ifanc yn Ffestiniog wedi dewis mabwysiadu cenedligrwydd eu rhieni, ond yn hytrach wedi mabwysiadu cenedligrwydd a Chymreictod ardaloedd eu bro, gyda rhai yn ymfalchïo yn yr hyn sy’n eu gwahaniaethu oddi wrth eraill yn yr ardal.
Roedd nifer y bobl ifanc a oedd yn nodi eu bod o genedligrwydd Cymreig ym Mlaenau Ffestiniog gymaint yn uwch na Thregaron er bod eu cefndir teuluol yn ymddangos yn debyg. Rhywbeth i ymfalchïo ynddo efallai o ystyried fod graddau allfudo’r bobl ifanc yn cael ei effeithio gan eu hymdeimlad o berthyn i gymuned?
Mae’r ymchwil yn ein hatgoffa mai sgil yn unig yw’r Gymraeg ac nid yw dysgu iaith o reidrwydd yn golygu bod mewnfudwyr yn mabwysiadu hunaniaeth eu cymunedau. Teg digon yw dadlau bod angen polisïau lleol a chenedlaethol sy’n ymateb i’r tensiwn sy’n bodoli rhwng aros yng Nghymru neu fudo o’r wlad a cholli iaith. Oes le yma i ddadlau fod Bro Ffestiniog yn llwyddo i feithrin math unigryw o Gymreictod, gyda’i hanes diwydiannol a lliwgar yn fantais yn hyn?
Rhywbeth i’w ystyried yn wir.
---------------------------------------
Un o gyfres o erthyglau gwadd ar
thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
*Papur Lowri
10.11.19
6.11.19
Cadwyni Cymunedol
Mater o falchder lleol yw bod mwy o fentrau cymdeithasol y pen o’r boblogaeth ym Mro Ffestiniog nag yn unman arall yng Nghymru. Daeth pedwar ar ddeg menter cymdeithasol* at ei gilydd er mwyn cydweithio dan faner y cwmni cymunedol, Cwmni Bro Ffestiniog. Yn yr erthygl hon mae Elin Hywel yn rhoi gwaith cymunedol heddiw yng nghyd-destun ein hanes.Mae chwyldro ar droed. Ar ôl cenedlaethau o ddatgan i’r gwrthwyneb mae clustiau ein cymunedau’n dechrau clywed fod gwerth i’w gael - a hynny adra. Fel cymunedau ledled y byd mae ton o hyder i fentro drwy fusnesau cymdeithasol yn dechrau cydiad. I ni yma yng Nghymru mae’n gam hollol naturiol wrth gwrs gyda sefydliadau er budd cymunedol wedi gwreiddio yn ein hanes, o’r capeli i’r cabanau i’r Co-op. Mae gennym hefyd hanes o lwyddiant wrth fentro i fyd busnes er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau. Yma yng Ngwynedd mae’r hanes hynny yn mynd yn ôl i’r 1980au pan oedd mentrau cymdeithasol yn ddim ond egin syniad. Mae hefyd posib honni heb flewyn ar dafod fod pob un o’n busnesau bach neu micro yn fusnesau cymunedol. Fel olwyn yn troi mae busnesau bach wedi gwreiddio yn ein cymunedau, ein cymunedau ynom ni, a ni yn ein busnesau. Pob un yn sail i lwyddiant y llall. Y tristwch mawr ydi wedi hanes hir o dan-fuddsoddiad ariannol ac emosiynol mae ein cymunedau yn gwegian. Mae’r olwyn wedi’i tholcio ac mae pob agwedd ohoni felly yn dirywio.
Beth bynnag ein daliadau y gwir ydi ein bod yn byw mewn system gyfalafol. Beth bynnag fydd yr ateb hir dymor i’n problemau cyfoes heddiw rhaid creu ymateb sydd yn defnyddio’r system honno am y gorau. Gallwn fentro i dyfu busnesau sydd yn llwyddiannus yn economaidd ond sydd hefyd yn cael eu gyrru gan yr angen i ymateb i anghenion ein cymuned. Mentrau sydd yn gweld gwerth a gallu yn ein cymuned a’i phobl. A phwy well i wneud hynny ond ni ein hunain. Fel cymuned gref mae ein bro wedi ei wreiddio ynom ni. Drwy fentro i greu busnesau cymdeithasol rydym yn galluogi i bob ochr o’r olwyn gael adfywiad. Mae’n gallu bod yn broses cymhleth a dychrynllyd efallai. Mae’n aml yn ddi-ddiolch ac yn fwy aml na pheidio yn ddi-dâl. Mae gweithio ar y cyd a’n cymdogion â dim yn ein clymu ond gobaith y gellir gwell, yn aml yn botas blêr o geisio roi strwythur busnes ar ddryswch cymuned. Ond mae’n wir werth gwneud.
Er i Mam gael ei geni yn Nhraws, efo Taid yn rhedeg y Co-op yno yn y 50au hwyr a’r 60au cynnar, dydw i ddim o ‘Stiniog; hogan o Rhoslan ydw i , wedi ngeni rhwng dwy afon, bellach ag un braich yn y môr wrth wreiddiau teulu fy Nhad ym Mhwllheli. Ond fel fy Nhaid, a Nhad a Mam, dwi’n coelio’n gryf yn ein cymunedau. Fel pob cenhedlaeth o ‘mlaen, boed yn athrawon, yn flaengar yn y capeli, yn wleidyddion, neu yn gyfrifwyr rwyf wedi defnyddio’r hyn sydd ar gael i mi i atgyfnerthu, i adeiladu ac i ymateb i anghenion ein cymunedau. I geisio trwsio tolc yr olwyn. Fy nheclyn i ydi’r fenter gymdeithasol. Rwyf yn hynod lwcus i gael bod yn gweithio yma ym Mro Ffestiniog, ar flaen y gad. Rwyf yn ymwybodol hefyd fod nifer un a fydd yn darllen yr erthygl yma a phrofiadau helaeth hyd oes o weithio ac ymwneud â’r gymuned yma. Fy ngobaith yw y bydd modd camu ymlaen efo hyder i ymateb eto i anghenion a datblygiad y fro i wneud y gorau o’r dyfodol heriol sydd yn ein wynebu. Pwy well ond ni i wneud?
--------------------------------------------
Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
*Bellach mae’r rhwydwaith yn cynnwys Antur Stiniog, Dref Werdd, Trawsnewid, Ynni Cymunedol Twrog, Cyfeillion Croesor, GISDA, Ysgol Y Moelwyn, Pengwern Cymunedol, OPRA Cymru, Cyngor Tref Ffestiniog, Tan Y Maen, Caban Bach Barnados, Cellb, Deudraeth Cyf, Menter Llanfrothen, Seren.
1.11.19
Dyna oedd fy ngalwad
Mae holl waith y cartwnydd Mal Humphreys, wedi cael ei ychwanegu at gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr haf hwn; tipyn o fraint. Dros y blynyddoedd, mae Mumph wedi cyfrannu darluniau a chartŵns i nifer o bapurau newydd a chylchgronnau, ac yn dylunio mygiau a chalendrau Mugbys. Yma cawn gipolwg ar ei gefndir, a chartŵn newydd sbon yn arbennig ar gyfer Llafar Bro!
Dwi’n hynod falch mod i’n hogyn o ‘Stiniog a dwi’n hynod falch ‘mod i wedi byw a gweithio mewn tair allan o bedair cornel yn Nghymru hefyd. Mae’n brofiad sydd wedi fy elwa, cyfle i mi ddysgu am y gwahanol ardaloedd, eu pobol ac agweddau -o’r toffs yn y Fenni; y di-waith yng Nglyn Ebwy a Treherbert; i’r werin yng nghefn gwlad Gwynedd a Cheredigion.
A tra bod yr agweddau ar iaith yn amrywio o le i le, mae na un elfen sydd yn ein clymu ni i gyd gyda’n gilydd, ein cariad dros Gymru. Mae’n ffaith bod rhai yn gweiddi Wales tra bo rhai eraill yn gweiddi Cymru, ond peidiwch a gadael i’r diffyg iaith eich dallu chi o’r balchder sydd yn mudlosgi yn eu calonnau.
Wrth reswm, druan o’r unigolyn fyddai’n ddigon dewr i gerdded i mewn i’r Pengwern ar nos Sadwrn a chyhuddo trigolion y noson bod nhw ddim digon Cymraeg. Fe allai sicrhau chi, byddai union yr un ymateb mewn unrhyw dafarn yn Y Rhondda, Y Fenni a Cheredigion!
Yn fy mlynyddoedd cynnar fel plentyn yn y Blaenau (dwi mynd yn ôl i’r 60au) dwi’n cofio ambell i oedolyn ‘cyfeillgar’ yn fy nghynghori- ‘Os wyt ti am lwyddo yn y byd, tydi Cymraeg yn dda i ddim’, ac mai Saesneg oedd iaith fy nyfodol.
Mi roedd hi’n anodd iawn i mi ddadlau yn erbyn hynna. Wedi’r cyfan, roedd popeth yr oeddwn i’n ei fwynhau fel hogyn ifanc, yn yr iaith fain.
Rhaglenni teledu fel Blue Peter, Batman, a’r Top 40 ar Radio 1 ar ddydd Sul. A beth oedd gan ‘y ffordd Gymreig o fyw’ i’w gynnig? Rhaglenni fel Dechrau Canu, Dechrau Canmol neu Yr Wythnos, sef llond llaw o oedolion yn trafod digwyddiadau’r wythnos o safbwynt Cymru.
Dim bod 'na ddim byd o’i le efo Dechrau Canu Dechrau Canmol ond, nid yr adloniant ddelfrydol i hogyn yn ei arddegau cynnar, oedd eisio bod yn jyst fel Starsky and Hutch. Gyda llaw, fy ffrind o’r drws nesa’, Nicky Henshaw oedd Hutch i fi, gan fod ganddo wallt golau.
Diolch i’r drefn mae pethau wedi newid, tydwi ddim eisio bod yn Tony Curtis ddim mwy ac mae arwyr fel Gwynfor Evans, Edward H Dafis ac Yws Gwynedd wedi sicrhau bod dewis llawer mwy eang o raglenni teledu a chaneuon ar gael i bawb erbyn heddiw.
Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef bod nosweithiau gaeafol hir a thywyll yn gwylio’r teledu uniaith fain wedi dylanwadu ar yr hogyn ifanc yma o Llan. Yn Llundain oeddwn i eisio bod. Yn gweithio yn y ddinas ac yn dod adref yn fy siwt ddrud i fflat cysurus, lle roedd fy wraig yno yn disgwyl amdana i, cinio ar y bwrdd a Large Scotch on the Rocks yn ei llaw jyst fel pennod o Late Night Theatre ar Granada TV.
Nes i fyth fyw yn Llundain, yn hytrach mynd lawr i weithio ym mhrif ddinas Cymru. Yn Thomson House, prif swyddfeydd y Western Mail. Ac wedi diwrnod o waith, mynd yn ôl adref yn fy siwt rhad, i fflat wag yn Cathedral Road lle byddwn i’n cynhesu tun o datws a chicken supreme cyn ei olchi i lawr efo can o Carling!
A dyna oedd fy ngalwad. Caerdydd nid Llundain; Cymru nid Lloegr. Ac er fod y mwyafrif o’m gwaith wedi bod yn yr iaith fain, roedd gwybodaeth o’m mamiaith a’r gallu i feddwl yn Gymraeg yn hanfodol i’m llwyddiant.
Yma yn awr yng Ngheredigion, mi fyddai’n aml yn edrych ar draws y bae, ac ar ddiwrnod clir, yn gweld mynyddoedd cadarn Eryri. Y mur naturiol creigiog a rwystrodd Edward Longshanks rhag cipio’r ffordd Gymreig o fyw. Yn rhyfedd iawn, mae cadernid y mynyddoedd yn amlygu breuder yr iaith sydd y swatio o dan eu cysgod.
Byddai’n aml yn meddwl hefyd faint gwell fyddai’r byd pe tai pawb yn cael eu magu am 18 mlynedd yn ardal Blaenau Ffestiniog!
----------------------------------

28.10.19
Fy Manod
Er mod i wedi gadael fy nghartref yn Manod ers dros 40 o flynyddoedd, pan fydd pobol yn gofyn o ble dwi’n dod? Blaenau Ffestiniog ydi’r ateb, ond fydda’i wastad yn pwysleisio “o Manod, Blaenau Ffestiniog”. Yno yn 6 Tyddyn Gwyn (drws nesaf i Anti Ifans, hen gariad Hedd Wyn) ges i’n magu. Yno mae fy ngwreiddiau; ac yno roddodd sylfaen i bob dim a ddigwyddodd ar ôl hynny.
Mae Manod yn linyn hir o stryd, sy’n dechrau -i mi beth bynnag- ger tŷ Dr Evans fel y dowch chi o Llan Ffestiniog, ac yn ymestyn yr holl ffordd heibio Gwaith Sets tua Tanymanod, ac mae’r hen gytiau sinc wrth Garej Cambrian yn nodi bod rhywun wedi croesi Checkpoint Charlie ac wedi dod i ‘downtown’ Blaenau! Roedd pobol Manod wastad yn ‘mynd i fyny i Blaenau’ i neud negas ac maen nhw dal i neud siwr o fod. Nid sybyrb mo Manod -o naci- ond pentref o fewn y dre! Pentref cystal a Llan neu Tanygrisiau bob tamad!
Sy’n dod a fi yn daclus at y trwbador o Danygrisiau, Gai Toms. Mae Gai wedi llwyddo yn feistrolgar i godi Tanygrisiau i statws eiconig trwy ei ganeuon a’i eiriau coeth, wel dwi am ymladd cornel Manod am eiliad rwan a deud fod y ddau le yn ddrych o’u gilydd a rwbath sydd gan Tangrish, wel, mae gan Manod hefyd..! Dau hen bentref sydd wrth droed eu mynyddoedd – y Manod Mawr a’r Bach a’r Moelwyn Mawr a’r Bach. Mae gan Danygrisiau ysgol, llyn, rhaeadr, hen felin wlan, hen bost, cae chwarae, chwareli, ac wrth gwrs mae gan Manod rheini i gyd hefyd. Poblogaeth tebyg, tirlun a chymeriadau tebyg. SNAP!
Wrth feddwl yn ôl i´r 60’au a’r 70’au pan ges i fy magu yn Manod, roedd y lle yn frith o gantorion a cherddorion. Fy nhad, Meirion Jones, arweinydd a sefydlydd Côr y Brythoniaid, wrth gwrs oedd y dylanwad mwyaf arna i. Roedd yn godwr canu yng nghapel Hyfrydfa ac yno roedd hadyn y Brythoniaid wedi’i hau yn ei feddwl. Yn Hyfrydfa hefyd oedd John Tyddyn Gwyn yn aelod: John Llewelyn Thomas i roi ei lawn enw, un o faritoniaid gorau Cymru yn ei ddydd, a fu farw yn ddiweddar iawn a mawr fydd ei golled. Dwi’n cofio mynd lawr efo John a nhad i Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964 yn mini-fan John: dad yn y sêt passenger a mam, ‘y mrawd bach Gareth a fi, ar lawr yng nghefn y fan ar glustogau! Roedd Dad a John yn cystadlu ar yr unawd bariton ac mi gafodd y ddau lwyfan. Yn anffodus iddyn nhw, y canwr arall a gafodd lwyfan oedd Gwynne Howell - a oedd yn Llundain yn astudio canu ac a ddaeth yn seren opera enwog yn y blynyddoedd ar ôl hynny. Y fo wrth gwrs gafodd gyntaf, John yn ail, a dad yn drydydd! Fe wnaeth Manod yn reit dda y diwrnod hwnnw!
Erbyn oeddwn i’n ddeg oed, roedd dylanwad cerddorol fy nhad yn fawr arnai. Gofynodd dad i Bob Morgan, arweinydd Band yr Oakeley, a fedra fo roi gwersi corn i mi. Bob wrth gwrs yn byw yn Manod hefyd -yn Penygwndwn- ac yn ddyn arall a gafodd ddylanwad aruthrol arna i, a mawr yw fy nyled iddo fo. O fewn y flwyddyn roeddwn yn aelod o’r band ac yn chwarae 3rd cornet. Roedd Bob, fel dad ac eraill, wedi rhoi eu bywydau i gerddoriaeth ac i’r gymdeithas yn y Blaenau, ac wedi rhoi cyfle i nifer fawr o blant a phobol yr ardal i ddysgu am fiwsig a chael cyfla i ehangu eu gorwelion.
Agorodd y cornet a’r trwmped ddrysau i gyfleoedd di-ri yn fy arddegau. Bûm yn aelod o fandiau, cerddorfeydd a chorau drwy’r 70’au. Ond nid miwsig oedd pob dim chwaith! Roeddwn i wrth fy modd efo ffwtbol, ac yn chwarae efo Ieuenctid Blaenau, ac mi oedd ganddo ni dîm da hefyd. Gyrhaeddon ni ffeinal Cwpan Ieuenctid Gogledd Cymru yn 1974 yn erbyn Llandudno Swifts efo Neville Southall yn gôl iddyn nhw. Mi wnes i sgorio foli yn erbyn Southall ond mi gollon ni 2-1! Dwi wedi gwledda ar y gôl honno am flynyddoedd! Hyd heddiw pan fydda’i yn mynd am dro heibio cae ffwtbol Cae Clyd, dwi’n dal i gael wiff o linament, a chael fy atgoffa o fynd i weld tîm Blaenau, pan oedd Glyn Owen yn chwarae yn ganol cae, a daw lluniau o Glyn a’i comb-over fel Bobby Charlton a’i goesau bach cam i’m cof. Roedd o yn athro mathemateg yn Ysgol y Moelwyn am flynyddoedd i’r rhai sy’n ei gofio.
Yn 2020 bydda’ i’n dathlu 40 mlynedd o fod yn actor proffesiynol. Dwi wedi bod yn chwarae rhan Arthur Thomas yn Rownd a Rownd ers dros 10 mlynedd rwan ac wrth agosau at y dathliad mae’n braf medru edrych yn ôl a sylweddoli dylanwad bro fy mebyd ar fy mywyd. Mae arogl Capel Hyfrydfa dal yn fy ffroenau. Bydda’i dal yn mynd i Manod yn amal -er mod i wedi emigratio i Benrhyndeudraeth- i weld mam sydd dal yn byw yn y bynglo ar safle hen stesion Manod. A bydd rhyw gynhesrwydd cyfarwydd yn dod drwyddai pan fyddai yn dreifio o Ryd Sarn a gweld yr arwydd MANOD 2, “cyn troi am y Ceunant Sych unwaith eto” fel dywedodd rhyw bwt o fardd o Traws un tro wrth iddo ddyheu o bell am gariad wrth droed y Manod.
--------------------------------
Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
24.10.19
Sut mae arbed ein cymunedau gwledig?
Mae Cymru yn heneiddio ac wrth i hynny ddigwydd, rydym yn colli ein pobl ifanc. Yn y degawd diwethaf mae dros 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 mlwydd oed wedi gadael Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, tra bod 2,750 o bobl rhwng 45-64 mlwydd oed yn symud i mewn i Gymru bob blwyddyn. Mae’n bryd i ni ddechrau edrych yn ofalus iawn ar yr ystadegau hyn a gofyn paham bod hyn yn digwydd? Pam bod ein pobl ifanc ni yn gadael ein cymunedau?
| Oes raid gadael y Fro Gymraeg i gael gwaith? Llun- Paul W |
Tra bod mwy o bobl hŷn yn symud i mewn i’r ardaloedd hyn, gwelwn bod llawer iawn o heriau yn wynebu ein pobl ifanc. Rhaid dechrau trwy edrych ar ba fath o gyfleoedd sydd ar gael i’n pobl ifanc ni. Heddiw, ychydig iawn yw’r cyfleoedd sydd ar gael. Eglurwn hyn drwy’r toriadau ariannol y gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yn unig y gwelwn doriadau i wasanaethau’r ifanc, gwelwn doriadau i wasanaethau addysg.
Mae’r diffyg cyfleoedd yn arwain at ddiffyg swyddi, sy’n gadael llawer o’n pobl ifanc ni mewn swyddi o sgiliau isel gyda chyflogau isel. O ganlyniad, ni allent wireddu’r freuddwyd o brynu tŷ.
Mae bod yn berchen tŷ yn ffantasi llwyr i lawer, a’r tai yn anfforddiadwy.
Yr unig obaith o ddyfodol gwell i nifer yw gadael yr ardal. Ond, wrth i hyn ddigwydd bydd yn cael effaith eithriadol o negyddol ar ein cymunedau a’n hiaith, yn peri i ni ofyn a oes dyfodol i’n cymunedau gwledig?
Mae’n amser i ni ddechrau meddwl am y math o ddyfodol yr hoffem ei weld. Yn amser i ddechrau buddsoddi yn ôl yn ein pobl ifanc. Ein pobl ifanc ni yw’r dyfodol. Maent angen buddsoddiad er mwyn tyfu i gyrraedd eu llawn cyrhaeddiad, fel y mae hadyn angen digon o ddŵr a goleuni i dyfu.
Mae angen i ni ddechrau meddwl sut y gallwn gynorthwyo ein pobl ifanc. Beth y gallwn ei gynnig iddynt er mwyn lleddfu effaith y toriadau ariannol? Mae’n bryd i ni ddechrau meddwl sut y gallwn fuddsoddi yn ein hifanc. Rhaid gofyn beth mae ein pobl ifanc eisiau ar gyfer y dyfodol. Sut fath o gymuned hoffwn ei weld yma yn y Blaenau mewn 10 mlynedd neu hyd yn oed mewn 20 mlynedd?
Wrth ystyried yr uchod, mae gennym ni lawer iawn o gyfrifoldebau: i ddechrau mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad cyfartal i wybodaeth. Gorau po fwya’r wybodaeth sydd gan yr unigolyn. Teimlaf ein bod fel cymdeithas yn categoreiddio ein pobl ifanc yn llawer rhy fuan ac felly y dylem drin pob unigolyn yn yr un modd drwy sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg i’r un wybodaeth. O ganlyniad, rhaid sicrhau bod yr ifanc yn cael y cyfle i brofi cymaint o sectorau ag sy’n bosib boed hynny o fewn amaeth, y cyfryngau, gwleidyddiaeth neu hyd yn oed yn y byd chwaraeon.
Fel dyletswydd arall, dylem annog ein pobl ifanc i fagu rhagor o sgiliau a fyddai’n eu galluogi i ddod yn weithwyr medrus. Byddai hyn yn y pendraw yn cynyddu eu siawns o gael cyflog uchel a fyddai yn eu caniatau i brynu tŷ. Law yn llaw ag annog datblygiad o sgiliau dylem edrych ar y sgiliau mwyaf defnyddiol o fewn y byd gwaith heddiw megis yn y maes technoleg a chyfrifiadureg. Mae swyddi o fewn y meysydd hyn yn cynnig cyflogau uchel iawn ond hefyd yn cynnig y posibilrwydd o allu gweithio o adref. Felly’n uno’r freuddwyd o brynu tŷ tra’n aros yn ein cymunedau Cymreig.
Wrth edrych ar sut i arbed cymunedau heddiw, mae’n rhaid i ni fod yn arloesol a sicrhau bod ein pobl ifanc ni y cael y mynediad gorau i wybodaeth ac wrth gwrs, i gyfleoedd. O edrych ar fod yn arloesol, mae’n raid i ni ystyried y sectorau mwyaf cynyddol o fewn y byd gwaith a sicrhau bod gan ein pobl ifanc ni fynediad i’r fath sector. Ond yn fwy na dim, amser a buddsoddiad sydd ei angen ar ein pobl ifanc. Er mwyn iddynt gyraedd eu llawn cyrhaeddiad, maent angen arweiniad. Felly, meddyliwch sut fath o gymuned yr hoffech ei weld yn y dyfodol oherwydd pobl ifanc heddiw fydd yn adeiladu cymuned y dyfodol. Yr ifanc yw’r dyfodol ac os na fyddwn ni yn buddsoddi ynddynt, sut olwg y bydd ar gymunedau yfory a beth ddaw o’r Gymraeg?
------------------------------
Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
Subscribe to:
Posts (Atom)