18.7.13

Troedio'n Ol - Taliesyn o Eifion

Mwy o farddoniaeth gan fardd y gadair ddu wreiddiol, Taliesyn o Eifion, i gyd-fynd a cholofn rhifyn Gorffennaf y diweddar John Norman.



llun -Y Lolfa

Cwpled trist o’i gerdd at Eben Fardd ar golli dwy ferch
 Cledd a min oedd claddu merch
 Cledd deufin, claddu dwyferch.               

Ac englyn yn cydnabod iddo yntau hefyd gael colled tebyg.
 E welais innau las wyneb – merch  im
    Ym mraich oer marwoldeb,
 A’r rudd lwyd, oeraidd wleb – wedi gwywo,
 Lle gwelais yno yr holl glysineb.

Dywedir iddo lunio hon ger fynwent Llanymstwmdwy
 Yn Eifion y bu f’hynafiaid, - yno
    Hunant, hen anwyliaid;
 Wylo’r wyf, dy adael raid – fro lonydd,
 Ond tir Eifionydd yw cartre f’enaid.

Ac fe ganodd hon er cof am ei gyfaill Robert ap Gwilym Ddu o’r un plwyf.
 O, fy nhad annwyl fu’n denu – a’i gan
    Ei genedl i’w garu,
 Rhyw fodd gwnai pawb ryfeddu
 At beraidd dant y Bardd Ddu.

Ac fel hyn canodd o dan adfeilion Castell Dinas Bran.
 Englyn a thelyn a thant’ – a’r gwleddoedd
    Arglwyddawl ddarfuant;
 Lle bu bonedd Gwynedd gynt
 Adar nos a deyrnasant.

Englyn yn cyfleu pwysau pechod sydd yma
 Trwy’m buchedd y trwm bechais - gwaed yr Oen
    Gyda’i rinwedd geblais;
 Uchlaw oll, ag uchel lais,
 Iesu eilwaith groeshoeliais.

Arwydd tu allan i siop esgidiau:
 Ha! Y troed noeth, tyrd yn nes –hwde
    Esgidiau rhad cynnes!
 Rhag oer hin, eira a gwres
 Nychlyd cei dirion achles.

A dyma gwpled i’r alarch:
 Hwyliwr hardd, eiliw yr od,
 A gwsg ar fron ei gysgod.




14.7.13

Lluniau Traws

Gan fod rhifyn Gorffennaf mor orlawn, bu'n rhaid gadael llwyth o luniau allan, yn anffodus.
Dyma nhw:


Llongyfarchiadau i dîm dan 9 oed Bro Hedd Wyn Celts ar ennill pob un gêm yn y gynghrair y tymor yma.  Mae'r tîm hefyd wedi bod yn llwyddiannus mewn sawl cystadleuaeth gan gynnwys Twrnament Penrhyndeudraeth ar Fehefin 8fed.
Gerwyn Dafydd dderbyniodd y tlws am gael ei ddewis yn 'chwaraewr y gêm' amlaf yn
ystod y twrnament.  Da iawn Gerwyn a'r tîm.



Da iawn i dîm rasio ‘chariot’ y Clwb ffermwyr Ifanc, ddaeth yn drydydd. Roedd naw aelod i’r tîm, 6 aelod i dynnu’r cerbyd sef Dafydd, Casha, Guto, Llyr, Owen a Robat Sion, dau i deithio ynddo i ochor arall y cae sef Sion Lloyd a Carwyn i achub merch, Ffion Prysor cyn dychwelyd yn ôl fel tîm.  




Llongyfarchiadau mawr iawn i Elan. gafodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar y llefaru unigol i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 gyda'i dehongliad o 'Steddfod yn fy Stafell'.  



12.7.13

A47Dim!

Darn o un o erthyglau tudalen flaen rhifyn Gorffennaf. Gallwch ddarllen y cyfan yn Llafar Bro.




Ydi ffordd enwocaf Cymru- yr A470- ar fin cael ei ‘symud’?  Dyma’r hyn ddywed y cyngor tref:
Mae’n bosib y caiff y prif ffyrdd ym Mlaenau Ffestiniog a Llan eu hail-ddynodi i wella diogelwch, dibynadwyedd teithiau, a'r amgylchedd yng nghanol y dref a chymunedau cyfagos.”


Mae cynghorwyr Tref Ffestiniog wedi croesawu llythyr gan Edwina Hart, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, lle mae hi'n dweud bod ei swyddogion ar hyn o bryd yn adolygu statws y ffyrdd ac mae’n bosibl y caiff yr A470 a'r A496 eu hail-ddynodi.

"Mae Llywodraeth Cymru newydd wneud buddsoddiad sylweddol i wella canol tref y Blaenau, i greu amgylchedd cyhoeddus bywiog ac annog pobl leol ac ymwelwyr i dreulio amser ac arian yma.  
Mae'r traffig trwm trwy ganol y dref yn tanseilio’r nod o adfywio’r dref. " Y Cyng. Mandy Williams Davies.

 

10.7.13

Rhifyn Gorffennaf

Mae rhifyn Gorffennaf yn boeth o'r wasg, a chriw Clwb Ffermwyr Ifanc Traws wedi dod draw i helpu'r selogion i'w blygu.



Llwyth o erthyglau-

A47Dim!
'Symud' ffordd enwocaf Cymru, yr A470

Atomfa 20
Ugain mlynedd i'r mis ers i Magnox gyhoeddi 'cau' atomfa Traws.

Blodyn a dyfodd yn Flodeuwedd
Erthygl gan Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru

Beicio Bro
Newyddion a hanes o fyd y beics

Bwrw Golwg
Cyfres newydd am gymeriadau hanesyddol Bro Ffestiniog

Stolpia, Pigwr, Y Golofn Werdd, Antur Stiniog, chwaraeon, newyddion, cyfarchion...
...a llawer iawn mwy!

Rhiannedd

Gyda Chor Rhiannedd y Moelwyn wedi ail-ffurfio'n ddiweddar, mewn bwrlwm o ddiddordeb a brwdfrydedd, gyrrodd Marian Roberts, Manod gerddi o waith RJ Roberts (Dolanog gydag Englynion a Cherddi Eraill; 1967), atom yn canu clodydd y cor gwreiddiol, dan ofal Dora Edwards. Gallwch weld y cyfan yn rhifyn Mehefin 2013 o Llafar Bro.




Côr Rhiannedd y Moelwyn.

Côr enwog cu Rhiannedd – Y Moelwyn
A'u melys felodedd;
Ar Feirion dyry fawredd
         Swyna wlad â phersain wledd.

Dyma “Gôr Merched Dora”, - a hanes
Cynnydd ei hir yrfa;
Yn amod y cawn yma
  Felys dwf, o leisiau da.

Ha Ferch! dy gôr ardderchog – a ddringodd
I rengau byd enwog;
A thrwy bur lafur di-log
           Gwnest enw da i ganu 'Stiniog.


Cor Rhiannedd 2013