8.7.13

Melltan igam-ogam

Rhan o erthygl yn rhifyn Mehefin 2013 gan Tecwyn Vaughan Jones.


Mae gan Lundain ei Gherkin rhyfedd ond mae gennym ni yn Stiniog ein Cynion a’r Fellten. 


Mae’r cerflun hwn gan David Nash yn addurno’r ffordd i mewn i Flaenau Ffestiniog o gyfeiriad Rhiw ac ar ochr y ffordd mae’n destun cryn ddadlau. 

Fe wnaeth David Nash y cerflun gwreiddiol allan o bren … ac ef bellach yw prif gerflunydd sy'n gweithio gyda phren ym Mhrydain os nad y byd. Ond mae’r cerflun hwn o fellten yn taro wedi ei wneud o ddur a dros amser bydd yn ymddangos fel ei fod yn rhydu ac yn troi’n goch. 

Mae rhai hefyd yn gweld siâp y llwybr igam ogam sy'n esgyn i ben tomen yr Oakeley yn y cerflun ac mae’n hawdd cymharu gan fod y llwybr yn union du ôl i’r cerflun.

Dyma’r unig gerflun o eiddo Nash sydd yn cael ei arddangos yng Nghymru ar hyn o bryd a theilwng iawn ei fod wedi cytuno i roi y cerflun hwn i sefyll yn y dref sydd wedi bod yn gartref iddo ers bron i hanner can mlynedd. Mae’r cerflun yn un trawiadol ac mae amryw wedi teithio i Stiniog yn un swydd i gael ei weld … byddai’n wych petai mwy o’i gerfluniau yn cael lle anrhydeddus yn nhirlun Stiniog. 



Mae cymaint yn y dref hon sy’n tynnu sylw … yn wir mae llawer o olygfeydd unigryw yma. Dywedodd Falcon Hildred yn ei lyfr diweddaraf: ‘Rwy’n credu mai tref Blaenau Ffestiniog a’r dirwedd leol yw’r enghraifft gorau a mwyaf cyflawn o dirwedd ddiwydiannol  ym Mhrydain. Nid yw hwn wedi ei stwffio i ryw amgueddfa ond mae o’n cwmpas i’w weld bob dydd ‘… rhaid felly i’r ymwelydd brofi Stiniog yn hytrach na jyst gweld y dref.

Lluniau gan TVJ.


23.6.13

STOLPIA

Newid ddaeth o rod i rod.

Yn sgil y newidiadau diweddar i Stryd Fawr y Blaenau, mae colofn Steffan ab Owain yn rhifyn Mehefin, yn ein hatgoffa bod newidiadau wedi bod yn digwydd i'r dref ers ei sefydlu.



Efallai nad yw llawer o’r to ifanc, nac amryw o rai hŷn, yn ogystal,yn sylweddoli y byddai tai a siopau ar ochr y Stryd Fawr nad oes sôn amdanynt, bellach. Er enghraifft, ceid tai yn lle mae canolfan Antur Stiniog (yr hen Goparet) a Siop Clothes Line heddiw.Yn ôl un o ganeuon Robert Roberts Isallt am yr ardal yn Cymru O.M.Edwards, ceid tri tŷ o dan un to yno ar un adeg a stiward Chwarel y Diffwys yn byw yn yr un canol.


Dywed hefyd mai dim ond cae a dôl  a oedd yma cyn datblygu’r dref  a chodwyd y tŷ cyntaf ar y ddôl gan Hugh Jones, Blaen Bywydd. Chwalwyd hwn mor bell yn ôl â’r flwyddyn 1867 a chodwyd Capel Jeriwsalem ar y fan lle safai.


Tybed faint ohonoch sydd  â chof  o Siop yr Iard , sef y siop fawr a safai ar y lle y mae maes parcio Coparet heddiw ac  yn gwerthu coed a nwyddau haearn . Yn ddiweddarach, bu gan gwmni Crosville le yno am rai blynyddoedd cyn symud at safle’r hen siediau trên yng Nglan-y-pwll. Y mae hi’n bur debyg mai ychydig o bobl sy’n cofio’r siop fach a werthai  sigaréts a meinceg a fyddai tros y ffordd i swyddfeydd y Cyngor ers talwm. Ceid hysbysebion ffilmiau ein  sinemâu lleol yn ei hochr. Os ydych am weld llun ohoni, piciwch i’r arddangosfa gan ein Cymdeithas Hanes sydd y drws nesaf i’r Eglwys Gatholig.  

Gallwch ddarllen yr erthygl gyfan yn rhifyn Mehefin 2013, ac mae Steff yn gaddo mwy yn rhifyn Gorffennaf. 

[llun- PW]

14.6.13

Blodyn a Blodeuwedd

Cofiwch gefnogi actorion a cherddorion Bro Ffestiniog Nos Sadwrn a Nos Sul yn sioe BLODYN.
Os nad ydym yn cefnogi, efallai na ddaw'r Theatr Genedlaethol yn ol yma eto...


Dyma'r posteri trawiadol gan Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer Blodyn, ac ar gyfer cynhyrchiad arall yn ein bro y mis nesa'...





Coron driphlyg !

Peldroedwyr dan 12 y Blaenau yn dathlu ar ddiwedd tymor llwyddianus iawn.

llun: Gareth/Heulwen Evans
Ar ol i rifyn Mehefin Llafar Bro fynd i'r wasg, fe enillodd y criw wobr arall, ar ben Tlws y Gynghrair a Chwpan Dysynni, sef Cwpan Dwyfor.

Mae'n amlwg bod dyfodol disglair iawn ymysg y criw brwdfrydig yma. Go dda chi!
Dyma edrych ymlaen at y tymor nesa.

12.6.13

Rhifyn Mehefin

Mae rhifyn Mehefin allan!


Er gwaethaf y sgan gwael o'r clawr gen' i ar ol dod adra o'r noson blygu, mae ynddo 20 tudalen yn llawn dop o erthyglau, newyddion, cyfarchion a lluniau.





Cawn hanes mwy o bontydd y fro yn Stolpia;
gwobrau i gynllun canol y dref ac i beldroedwyr y fro; y diweddaraf o'r clybiau rygbi a golff; newyddion o'r ysgolion; troedio'n ol; ac Antur Stiniog.

Gwledd! A'r cwbl am ddim ond 40 ceiniog.





Dewch yn ol yma o dro i dro i gael blas o'r erthyglau.