Showing posts with label Rhinog Fawr. Show all posts
Showing posts with label Rhinog Fawr. Show all posts

10.10.17

Cer yn Wyllt!

Eleni mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn hyrwyddo eu cylchgrawn Gwyllt!  Maen nhw’n benderfynol o symud ymlaen a dod â’n cylchgrawn i sylw cymaint o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr â phosib – ’fyddech chi’n hoffi ymuno yn y cyffro?    
        
Rydyn ni’n gwybod bod pob plentyn yn mwynhau bod allan yn yr awyr iach.  Maen nhw’n hoffi archwilio a darganfod ynghanol byd natur.  Mae ein cylchgrawn newydd yn ceisio ysbrydoli’r naturiaethwyr ifanc yma i gymryd eu camau cyntaf y tu hwnt i’r dudalen. Mae’n llawn lluniau, posau a chystadlaethau gwych, a phoster byd natur neu daflen weithgarwch am ddim ym mhob rhifyn.


Mae Bro Ffestiniog yn orlawn o safleoedd gwych i wylio natur! 

Mae gennych chi o leiaf hanner dwsin o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yn eich cynefin lleol, o fawredd garw a gwyllt y Rhinog Fawr, i gyfoeth anhygoel y goedwig law Geltaidd yn Nyffryn Maentwrog, Ceunant Cynfal, a Choed y Rhygen.

Dyma safleoedd i ymfalchïo ynddynt; gwarchodfeydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Does dim raid i bobl Bro ‘Stiniog fynd i’r trofannau na phendraw byd i werthfawrogi adar, blodau, a phryfetach godidog. Mae ein gwarchodfa ni yng Ngwaith Powdwr yn cynnig bob math o brofiadau a gweithgareddau hefyd.

Does dim raid ymweld â gwarchodfa natur hyd yn oed: gallwch wylio gweision neidr hardd ar bwll y rhandiroedd yng Nglanypwll, neu löynod byw a blodau gwyllt amrywiol ar hyd y llwybr o Dyddyn Gwyn i Benygwndwn, neu lunio rhestr hir o adar ar lannau Llyn Traws.

gwaell ddu, Glanypwll. Llun Paul W.

I dderbyn cylchgrawn Gwyllt! ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel aelodau teulu. Hefyd dywedwch wrthym ni ble gwelsoch chi’r erthygl yma [Llafar Bro, wrth gwrs!] ac fe fyddwn yn anfon pecyn pan fyddwch yn tanysgrifio.) Byddwch yn cefnogi ein gwaith dros fywyd gwyllt lleol ac yn derbyn cylchgrawn gwych ar yr un pryd – be gewch chi well?

------------------------------------------



Addaswyd o ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf.


14.9.17

Cyfres 'Mynydd' 2017

MAB Y MYNYDD YDWYF INNAU
Yn rhifyn Medi 2015 roeddwn i’n deud y drefn ar ôl i stori ddwy-a-dima*, a hollol anghywir fod yn y newyddion, yn adrodd nad oedd y Moelwyn Mawr yn fynydd! Lol botas maip, a newyddiaduraeth ddiog gan bobol oedd ddim yn deall eu testun.

Eleni, ddwy flynedd yn ddiweddarach, dwi’n falch o gael cyflwyno cyfres o erthyglau am fynyddoedd, gan awduron sy’n gwybod yn union am be maen nhw’n son. Pobol sy’n nabod eu cynefin ac yn gweld gwerth yn ein tirwedd garw, ei hanes a’i chwedlau, a’i bywyd gwyllt.

Heb i ni sylwi bron, mae’r mynyddoedd yn effeithio ar fywyd ym Mro Ffestiniog bob dydd, yn bennaf ar ffurf y tywydd rydan ni’n gael yma! Wrth gwrs, mae tref y Blaenau yn lle mae hi oherwydd y llechi gwerthfawr yn nghrombil yn mynyddoedd: ‘Fe welwch freichled o dref ar asgwrn y graig’ meddai Gwyn Thomas. Dwi’n teimlo weithiau y byddai’n well o lawer pe bai’r datblygwyr cynnar wedi adeiladu’r dref ymhellach i lawr y dyffryn i gyfeiriad Maentwrog, neu’r ochor draw i’r Crimea, ond er mor wael oedd tywydd yr haf eleni, mi ges i gnwd dda iawn o ffrwyth mwya’ blasus y byd, o’r ffriddoedd a’r llethrau eto. Chewch chi ddim hel llus ar lan y môr!

Mae lleoliad ein bro, ymhell o’r canolfannau gweinyddol yng Nghaernarfon a Dolgellau, wedi arwain at anhegwch ac anghysondebau mewn gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd ac ati, ond ar yr un pryd mae wedi cyfrannu at ein dycnwch a’n hannibyniaeth. Mae nifer o’r mentrau lleol yn cydweithio bellach dan ambarel Cwmni Bro Ffestiniog: pobl yr ardal yn cydweithio er lles eu cymuned unwaith eto, yn hytrach nag eistedd adra’n cwyno a disgwyl i rywun arall wneud o ar ein rhan!

Bu adrodd ar y newyddion ddiwedd Awst bod gormod o bobl yn ymweld â’r Wyddfa –efo lluniau yn dangos copa uchaf Cymru yn ferw o gannoedd o bobl yn plethu ymysg eu gilydd a chiwio mewn rhesi hir ar hyd y llwybrau, a tydi mynd i le felly’n apelio dim arna’ i. Mae ein mynyddoedd ni ym Mro Stiniog fel byd gwahanol, diolch i’r drefn. Efallai y gwelwch lond dwrn o gerddwyr eraill wrth dreulio ychydig oriau yn y Moelwynion neu’r Rhinogydd, ond gallwch fynd trwy’r dydd heb weld enaid byw ar gopaon eraill fel Moel Penamnen, Yr Allt Fawr, neu’r Ysgafell Wen.

Dwy o ferched y mynydd o Stiniog ar eu ffordd i ben y Rhinog Fawr ganol yr haf

Ceiriog sy’ bia’r bennawd ar ben y llith yma -mab y mynydd ydwyf innau- o’i gerdd ‘Nant y mynydd’ ac mae’r bennill yn mynd ymlaen i ddisgrifio fy nheimladau i’n union:
‘...mae nghalon yn y mynydd efo’r grug a’r adar mân.’ 
Dim pawb sy’n gwirioni ‘run fath, dwi’n gwybod, ond p’run a ydych chi’n gerddwr brwd, neu’n edmygu’r mynyddoedd o bell am eu tirlun dramatig; neu â dim awydd mentro i’r ucheldir o gwbl, dwi’n mawr obeithio y byddwch yn mwynhau’r blas mynyddig sydd yn rhifyn Medi.

Diolch felly i’r awduron gwadd am gytuno i sgwennu am eu profiadau, ac i’r artist lleol Lleucu Gwenllian am greu logo effeithiol o’r Moelwynion (uchod) i gyd-fynd â’r gyfres.

Diolch hefyd i selogion Llafar Bro am eu gwaith gwirfoddol a’u cefnogaeth ffyddlon unwaith eto.
A dyna ni fy nhro i fel golygydd ar ben tan yr haf nesa’. Hwyl am y tro, a daliwch i gredu.


-Paul

Dolenni:

Cyfres MYNYDD

* Hir Oes i'r Moelwyn Mawr o rifyn Medi 2015


Celf -Lleucu Gwenllian
Lluniau -Paul W

2.5.15

O Lech i Lwyn -Mynydda

Cyfres am yr awyr agored a bywyd gwyllt oedd 'O Lech i Lwyn' ar ddiwedd y nawdegau. Dyma erthygl o rifyn Mai 1998 gan Myfyr Tomos, Llawrplwy oedd bryd hynny yn gadeirydd Clwb Mynydda Cymru – cymdeithas a sefydlwyd ym 1979 i hyrwyddo datblygiad mynydda yng Nghymru a threfnu gweithgareddau a theithiau mynydd, trwy gyfrwng y Gymraeg. 


Faint o amser sydd ers i chi fod ar gopa’r Moelwyn, y Rhinog Fawr neu’r Cnicht?  Mis, blwyddyn, neu fwy na hynny efallai?  I lawer, mae’n siwr, maent yn lleoedd hollol ddieithr nad oes gennych awydd mynd ar eu cyfyl.

Ers blynyddoedd bellach rydw i’n crwydro mynyddoedd Eryri ac wedi cyfarfod â miloedd o bobol o bob rhan o’r byd.  Syndod i mi yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sy’n troedio’r uchelfannau gwych yma.  Ai rywbeth i ymwelwyr yn unig yw ein mynyddoedd, ac i Saeson yn arbennig?

Yn sicr, fel yna yr oedd rai blynyddoedd yn ôl, ond bellach mae nifer o glybiau mynydda a chymdeithasau cerdded Cymraeg wedi eu sefydlu.

Mae’n gyfle gwych i fwynhau awyr iach, dod i adnabod byd natur, hanes lleol, cael ychydig o ymarfer corff hyd yn oed.  Ond i mi, cael mwynhau rhai o’r golygfeydd gorau yn y byd – ie, yn y byd!  Dyna yw’r prif fwynhad.

Beth sydd well na bod ar gopa’r Rhinog Fawr, a’r haul yn machlud ar noson o haf, a Bae Porthmadog, Pen Llŷn a gweddill mynyddoedd Eryri yn gylch o’ch cwmpas.

Gan fod y mynyddoedd ar garreg ein drws ac mor gyfleus, mae’n drueni fod cyn lleied ohonom ni’r Cymry yn mynydda.  Efallai y gall ysgolion Gwynedd gynorthwyo trwy fanteisio mwy ar yr adnoddau naturiol gwych sydd yn y sir.  Mae addysg awyr agored yn gyfle gwych i gyflwynoi’r disgyblion y natur, hanes a’r tirwedd arbennig yng Ngwynedd, yr ydym mor barod i’w gymeryd yn ganiataol.

O.N.  Peidiwch dod i gyd efo’ch gilydd i ben Rhinog Fawr – ‘does dim digon o le!
Gwyliwch y golofn ddigwyddiadau am deithiau lleol y clwb.  Mae’r tâl aelodaeth [£15 y flwyddyn yn 2015] yn sicrhau gostyngiadau mewn sawl siop awyr agored. 


Gwefan Clwb Mynydda Cymru