CAFNAU CERRIG
Yn ddiweddar bum yn olrhain hanes yr hen gafnau cerrig a wneid yn rhai o’n chwareli ar gyfer dal bwyd neu ddŵr i’r anifeiliaid a gedwir ar dyddynnod a ffermydd ein teidiau a’n neiniau gynt.
Yn ei gyfrol ddifyr Diwydiannau Coll (1943) dywed Bob Owen Croesor y byddai llawer o ‘hen gafnau dal bwyd moch wedi eu gwneuthur o un pisyn o garreg fawr wedi eu cafnio iddynt â chŷn a mwrthwl’.
Yn ddiau, roedd y cafnau hyn yn rhai trwm a chryf ac yn anodd eu troi drosodd gan y moch, ac o ganlyniad yn parhau llawer mwy na’r rhai a wneid yn ddiweddarach efo slabiau llechi wedi eu gosod wrth ei gilydd. Gwn am ambell enghraifft o’r ddau fath yn ardal Stiniog. Tybed a wyddoch chi am rai?
Yn ôl Bob Owen, gadawyd ambell gafn carreg ar ôl yng ngloddfa fach Coed Tyddyn y Sais, sydd o fewn rhyw hanner milltir i bentref Croesor ac nid oedd na dyfrhollt na gwynthollt ar eu cyfyl, serch iddynt gael eu cerfio a’u cafnio ers cenedlaethau lawer, meddai. Yn ôl ein cyfaill Edgar Parry Williams, y mae rhai ohonynt i’w gweld yno hyd heddiw.
Bu cryn drafodaeth am yr hen gafnau cerrig yng ngholofn Llais y Wlad ym mhapur newydd ‘Y Genedl Gymreig’ yn ystod misoedd yr haf 1926, hefyd. Cyfeirir ynddo at rai yn cael eu gwneud o garreg galch yn sir Ddinbych a rhai o lechfaen feddal yn chwareli sir Benfro. Dywedir mai gyda math o fwyell arbennig neu ‘nedda’ y byddid yn eu cafnio yng Nghilgerran a gallai gŵr profiadol wneud un cyfan mewn diwrnod.

Fel y mae hi’n digwydd, roeddwn wedi clywed Merfyn Williams, Croesor (cyn-bennaeth Plas Tan-y-Bwlch) yn sôn am hen gafn carreg wedi ei adael y tu draw i Fwlch Stwlan ac ar ymylon y marian islaw ‘Hen Wraig y Moelwyn’ a ‘Carreg y March’ ar y Moelwyn Bach. Y llynedd bum yn chwilio amdano, ond er chwilio a chwalu methais yn lân a chael hyd iddo y tro hwnnw. Beth bynnag, dyfal donc a dyrr y garreg, ynte? Ychydig wythnosau’n ôl penderfynais fynd draw yno yr eilwaith i chwilio amdano a’r tro hwn trewais arno o fewn deng munud.
Y mae hwn yn gafn sylweddol ac yn mesur rhwng 4 troedfedd a hanner (1.3716m) a 5 troedfedd ar ei hyd a rhyw 20 modfedd ar ei draws. Byddai llawer o bobl ein hoes ni yn talu arian da amdano i ddal eu blodau, oni byddent?
Ar ôl tynnu ei lun, bum yn meddwl tybed pwy oedd y ddau frawd a fu wrthi’n ddyfal yn cafnio’r garreg hon? Gresyn na fuasai Glan Gwernydd wedi eu henwi ynte? Os gwyddoch chi pwy oeddynt, cofiwch anfon gair ataf neu i Llafar.
(lluniau Steffan ab Owain)