13.3.14

Bargen y Dref Werdd

Dyma ddarn o rifyn Mawrth Llafar Bro.
Sylwer os gwelwch yn dda, bod yr erthygl yn cyfeirio at holiadur: yn anffodus doedd hi ddim yn bosib ei gynnwys efo Llafar Bro, ond os hoffech gael cyfle i ennill gwerth £250 o offer trydanol, yna galwch i mewn i Siop Martin ym Mlaenau Ffestiniog i nol un!
                                    -----------------------------------------------------------

Wedi meddwl buddsoddi 
i arbed ynni trwy’r ‘Fargen Werdd’  ?



Os felly, fe fydd Prosiect y Dref Werdd eisio siarad efo chi ym mis Mawrth!

Cynllun wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Llundain yw’r Fargen Werdd, neu’r ‘Green Deal’. Y bwriad yw annog pobl i fuddsoddi i wneud eu cartrefi’n fwy ynni-effeithlon, a thrwy hynny cadw biliau ynni o dan reolaeth ar adeg pan fydd pris tanwydd yn codi o hyd.

Yn fras, mae’r cwsmer yn benthyg arian i fuddsoddi, mewn boiler ynni effeithlon newydd neu i insiwleiddio’r ty’n well neu rywbeth tebyg, ac yn talu’r pres yn ôl wrth iddo/i arbed arian, a hynny trwy eu bil trydan neu nwy. Ond gyda chyfradd llog o ryw 7%.

Ond mae’r niferoedd sydd wedi bod yn manteisio ar y cyfle yn dorcalonus. Dim ond 24 ty yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd sydd hyd yn oed wedi cael asesiad, llai nag un ar gyfer pob mil o gartrefi. Mae hyn i’w gymharu â 15 am bob mil o gartrefi yn Nwyrain Leeds, er enghraifft. Yn waeth byth, trwy Wledydd Prydain llai na 5% o gartrefi sy’n cael asesiad sydd wedi mynd ymlaen i fanteisio ar y cyfle i fenthyg a buddsodi trwy’r Fargen Werdd. Mae hyn i gyd yn golygu, wrth gwrs, fod pobl Dwyfor Meirionnydd yn colli allan ac yn methu manteisio ar y cyfle i arbed arian ac allyriannau C02 trwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon.

I fynd i’r afael â hyn i gyd, mae Prosiect y Dref Werdd yn gwneud prosiect ymchwil i ddarganfod pan fod y Fargen Werdd ddim yn apelio at bobl yr ardal. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn talu am yr ymchwil yma, a’r gobaith yw, efallai, y bydd modd sefydlu system yng Ngwynedd lle mae pobl yn gallu benthyg arian i wella eu tai heb log, a’r arian yn cael ei ailgylchu i bobl eraill wrth iddo gael ei dalu yn ôl.

Fe fydd y gwaith ymchwil yma’n digwydd trwy gydol mis Mawrth. Fe fydd Prosiect y Dref Werdd eisio holi pobl ar y stepen drws, mewn grwpiau ffocws hefyd mewn digwyddiad arbennig yn Siop Antur ‘Stiniog rhwng 10 a 2 Dydd Gwener 21 Mawrth. Beth am ddod draw?

Os nad allwch chi aros i helpu’r ymgyrch ac eich bod chi’n barod i rannu’ch profiadau a syniadau ar y pwnc yma, allwch chi nôl holiadur o Siop Martins yn y dref, ei lenwi a’i ddychwelyd yna. Ac fe gaiff pob holiadur sy’n cael ei ddychwelyd ei roi mewn het, ac un ohonyn nhw’n ennill tocyn gwerth £250 o Siop drydanol Martins. Brysiwch felly, allech chi helpu’r ymgyrch am system well, ac ennill offer trydanol newydd allai arbed arian i chi ar yr un pryd!

Rory Francis



11.3.14

Yr Hen Gymru Lawen

Dyna destun sgwrs Arfon Gwilym yn y Pengwern yn ddiweddar.

Arfon Gwilym yn canu Gwenno Fwyn, a Sioned Webb yn cyfeilio yn y Pengwern.       Llun PW

Dyma ddywed ein gohebydd yn Llan am yr achlysur:



Er gwaethaf y tywydd garw, roedd y Pengwern yn llawn ar nos Wener, Ionawr 28ain.  Trefnwyd y noson gan Iwan Morgan, gyda’r elw’n mynd tuag at Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd fel rhan o ymgyrch codi arian y Panel Cerdd Dant.

Treuliwyd noson arbennig yng nghwmni Arfon Gwilym a Sioned Webb ac roedd rhai oedd yn bresennol wedi teithio cryn bellter i fod yno, ynghŷd â phobl lleol, a chafodd neb ei siomi.  Cychwynwyd y noson gyda bowlaid o lobsgows blasus wedi ei baratoi gan Karen a staff y Pengwern.   

Cyflwynwyd Arfon Gwilym a Sioned Webb gan Iwan a dyna ddechrau ar noson o ganu gyda’r delyn, datganiad ar y delyn deires ac ychwaneg o ganu a sgwrs am ‘yr hen Gymru lawen’.  

Noson ddiddorol dros ben a fwynhawyd yn fawr, gyda galw am noson debyg yn fuan eto yn y Pengwern.
N.E.
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
 
Isod mae clip o'r ddau yn canu 'Gwenno Fwyn' yn Y Pengwern. Yn anffodus mae'r bennill olaf ar goll, gan fod y cof ar y ffo^n wedi llenwi'n gynt na'r disgwyl.

Hon oed un o ganeuon olaf ei gyflwyniad, lle bu'n disgrifio sut y bu i ddiwygiadau crefyddol Cymru arwain at ddirywiad yn ein traddodiadau gwerin, a dinistrio'r "Hen Gymru Lawen".

Meddai Arfon Gwilym yn rhagair ei lyfr ardderchog 'Cerddoriaeth y Cymry':
"Tasg y rhai ohonom sy'n gweld gwerth yn ein tredftadaeth gerddorol yw meithrin balchder yn y dreftadaeth honno a dangos ei bod yn gwbl berthnasol i'r Gymru gyfoes - nid rhywbeth i'w hastudio yn unig ond rhybeth byw, rhywbeth i'w mwynhau, a rhywbeth sy'n rhan annatod o fywyd y genedl yn yr 21ain ganrif".

Cafwyd noson lawen yn Y Pengwern yn sicr, a phawb yn dymuno am fwy.
Mwynhewch y canu!
PW


)


7.3.14

Ffilmiau archif yn ysbrydoli actorion Stiniog

Yn dilyn noson lwyddiannus ym mis Tachwedd y llynedd [gweler ddolen isod], pryd dangoswydd ffilmiau archif am Fro Ffestiniog yn neuadd Cell, cafwyd ail noson yn cyfuno ffilmiau archif efo perfformiad byw gan griw brwd

Ar ddiwedd Chwefror, cydweithiodd Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru efo trigolion Stiniog ar berfformiad oedd yn cyfuno hen ffilmiau, barddoniaeth a cherddoriaeth.

Llun o dudalen Gweplyfr Blaenau: Heddiw, ddoe, a fory.


Canolbwynt y noson oedd nifer o ffilmiau archif o'r casgliad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys gêm bêl-droed rhwng Tanygrisiau a’r Urdd yn y 1930au ac agoriad yr Ysbyty yn 1927.

Cyn y noson, cafwyd gweithdai a nosweithiau hel atgofion yn lleol. Mae'n debyg bod cynrychiolydd Archif Sgrin a Sain Cymru wedi gweld y paratoadau'n waith caled ("dwi'n falch ei fod o drosodd!" meddai o'r llwyfan, wrth gyflwyno'r sioe), roedd y cyfansoddi a'r ymarfer wedi gweithio'n ardderchog, gyda chriw y perfformiad yn rhoi noson wych o adloniant i'r gynulleidfa.

Gwelsom dri pherson ifanc mewn capiau baseball a hwdis wedi diflasu, ac yn darganfod albwm o hen luniau lleol, a chymryd diddordeb yn hanes eu milltir sgwar. Cafwyd ychydig o gomedi gyda chanu rap da iawn a chyfeiriadau at C'mon Midffild wedi plesio'r gwrandawyr. Roedd cerddoriaeth gan Fand Bach yr Oakeley hefyd, a chanu arbennig gan Gor Rhiannedd y Moelwyn i gloi.

Band Bach yr Ocli, a ffilm archif o'r Seindorf ar y llwyfan- llun Sian Northey

Ond efallai mai uchafbwynt y noson oedd ail greu anerchiad yn seremoni agor yr Ysbyty Coffa, a ffilmiau archif o'r orymdaith a'r agoriad yn chwarae ar sgrin yng nghefn y llwyfan. Mi gyhoeddodd yr actores ifanc yn angerddol, y bydd yr ysbyty'n parhau yn fodd anrhydeddus i gofio'r bechgyn a gollodd eu bywydau yn y rhyfel mawr, pan fyddai'r boblogaeth yn nodi canmlwyddiant dechrau'r rhyfel, yn 2014.

Dwi'n siwr bod bron pawb yn y gynulleidfa dan deimlad wrth feddwl am frad creulon y bwrdd iechyd a roddodd ergyd farwol i'n 'sbyty yn 2013.

Diolch o galon i'r Archif, ac i'r criw lleol am noson werth chweil. Dyma obeithio yr aiff nifer o'r criw ifanc ymlaen i actio a pherfformio, a phrofi bod talentau Bro Ffestiniog cystal ag unman arall.
   
PW




Dolen: Noson i'w chofio


4.3.14

Y Fainc Sglodion- hael yw ei gorwelion

Bob Morris, Prifysgol Bangor, sy'n dod at Gymdeithas Y Fainc Sglodion y mis hwn.

                                                                                                                                                                                          llun PW

'Teml Fawr Diwydrwydd Dau Gymro a'r Palas Gwydr' ydi testun ei ddarlith.

Dewch draw i ystafell ddydd y Ganolfan Gymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog, am 7.30, nos Iau y 6ed o Fawrth 2014.

Croeso i bawb. Dim ond £1 yw'r gost os nad ydych wedi talu am y gyfres ymlaen llaw.


Y Fainc Sglodion

Rhoddaf glod i'r Fainc Sglodion -am ei gwaith,
      am ei gwych amcanion.
Ni ddaw taw ar lwyddiant hon,
rhy hael yw ei gorwelion.

                          Sion Gwyndaf








2.3.14

Siarad Siop -Antur Stiniog

Ar Ddydd Gwyl Dewi, agorwyd pennod newydd yn hanes menter gymunedol Antur Stiniog.

Nid gwneud y pethau bychain yn unig mae Antur Stiniog, ond gwneud gwahaniaeth go iawn i Fro Ffestiniog, trwy greu swyddi a chodi hyder yn lleol y gallwn ni'r Cymry fanteisio ar y cyfleoedd sy'n codi o fyw mewn ardal fynyddig, hardd.




Hir oes i'r Antur! Dyma hanes y fenter ddiweddaraf, o rifyn Chwefror, gan Ceri Cunnington, rheolwr Antur Stiniog.

Ar Fawrth y 1af agorodd 'Y Siop' ei drysau am y tro cyntaf, ar ol gwaith adnewyddu helaeth.  Roedd cyfle ar y diwrnod i flasu gweithgareddau awyr agored amrywiol, teithiau trefol, hyfforddiant beicio mynydd, yn ogystal a chael bargen (neu ddeg)!


Ein nod wrth ddatblygu'r hen unedau crefft ar y Stryd Fawr ydi sicrhau mai Blaenau Ffestiniog ydi canolbwynt naturiol a chyffrous y datblygiadau newydd yma ac mai busnesau a thrigolion yr ardal fydd wir yn elwa. Mae angen i ni i gyd gydweithio i’r perwyl hwn yn hytrach na chystadlu. Wedi’r cyfan, mewn undeb mae nerth.

Bydd ‘Y Siop’ yn siop fasnachol gyda chalon gymdeithasol. Ceir ynddi werthu nwyddau awyr agoed, pecynnau gweithgareddau awyr agored, a chynnyrch trawiadol Antur Stiniog. Bydd hefyd yn ganolbwynt a man gwybodaeth ar gyfer gweithgareddau a rhyfeddodau’r ardal. Ein nod ydi plethu gweithgareddau awyr agored efo’n treftadaeth a'n diwylliant cyfoethog. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn nelwedd ‘Y Siop’. Yn ogystal â hyn, bydd hefyd yn ganolfan hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc y fro sydd am ddilyn gyrfa yn y sector.

Y twr dringo a gadwodd ddwsinau o blant yn brysur a bodlon ar Ddydd Gwyl Dewi
Rydym hefyd yn dal i bwyso ar yr awdurdodau ynghylch dyfodol y rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd. Dyma wastraff llwyr o adnodd gwerthfawr! Byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus er mwyn cael rhannu syniadau a symud pethau ‘mlaen.

Dim ond rhagflas o waith Antur Stiniog sydd wedi ei nodi uchod; Os hoffech wybod mwy am ein cynlluniau neu rannu syniadau cysylltwch â ni ar 01766 832 214, neu dewch draw i’r Siop am sgwrs a phanad neu gyrrwch neges: Ceri.c@anturstiniog.com

Hanfod Antur Stiniog yw’r gymuned ac rydym yn credu’n gryf mai trwy weithio mewn partneriaeth y daw cyfle gwirioneddol i adfywio'r fro ryfeddol hon.