Showing posts with label Tŷ Crwn. Show all posts
Showing posts with label Tŷ Crwn. Show all posts

13.12.21

Gwresogydd Tŷ Crwn Llys Dorfil

Ni ddaeth y cloddio o hyd i unrhyw dystiolaeth fod yna le tân yn y tŷ crwn yn Llys Dorfil.  Nid yw tân yn hanfodol i gynhesu tŷ crwn, ond mae’n rhaid cael gwres.  Yn y canol roedd pant crwn wedi ei suddo yn y llawr a'i leinio â chlai, a tybir mai hwn oedd safle'r gwresogydd. 

Ein rhagdybiaeth ni yw bod gwres wedi'i drosglwyddo o dân allanol trwy ddefnyddio cerrig berwi i'r pant crwn ar lawr y tŷ crwn. Byddai'r math hwn o wres yn ddigon i gadw'r oerni draw. Hefyd ni fyddai unrhyw fwg gwenwynig yno i amharu ar y bobol na’r anifeiliaid.   


Mae cerrig berwi yn gerrig sydd yn pwyso rhwng dau a thri phwys yr un.  Rydych chi'n eu rhoi yn uniongyrchol mewn tân nes eu bod yn chwilboeth.  Yna, eu tynnu allan a'u rhoi mewn cynhwysydd sy'n llawn o ddŵr. Mae'r garreg yn oeri yn sydyn ac mae'r dŵr yn cynhesu. Daliwch ati i wneud hyn ac mae gennych ddŵr cynnes i ymolchi neu ddŵr berwedig i goginio ynddo.  

Cynhaliodd Mr Wilfred L. Bullows dreial mewn twll bach wedi'i leinio â chroen dafad, a darganfu y gallai pedwar galwyn o ddŵr gael ei ferwi gyda cherrig berwi wedi'u cynhesu mewn tua deugain munud.   

Rwy'n cofio ar nosweithiau gaeafol oer, byddai fy nain yn rhoi bricsen yn y popty i gynhesu, ac yna ei lapio mewn tywel a'i osod yn fy ngwely, roedd hwn yn foethusrwydd dros ben.   

Yr oedd yr un peth yn cael ei wneud miloedd o flynyddoedd yn ôl yn Oes yr Haearn yn y tŷ crwn yn Llys Dorfil i gadw'n gynnes. Rhoddwyd y cerrig berwi  mewn pant wedi'i leinio â chlai yng nghanol y tŷ crwn, gyda chrwyn anifeiliaid drosto a oedd yn ffurfio troed i’r man cysgu.  

Roedd cylch mewnol o byst yn dal y to i fyny, a rhyngddynt roedd plethwaith a dwb.  Hon oedd y stafell fyw a chysgu, a rhwng yr ystafell fewnol a'r wal allanol yma y cadwyd yr anifeiliaid.  

Byddai'r math hwn o wres, heb orfod dygymod a'r mwg gwenwynig, yn caniatáu i'r bobol ddewis deunydd llawer mwy diddos na gwellt, fel plethwaith a chlai ar gyfer y to, a hefyd anogwyd glaswellt i dyfu arno. Nid oedd rhaid i do clai fod ar 45° fel to gwellt ond ar raddfa lai a oedd yn llawer hawddach i’w gynnal a'i gadw.  Sawl tŷ crwn arall a gynheswyd fel hyn tybed? 


Bill a Mary Jones, Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021

Ar  ddechrau Hydref, bu Aled Hughes, Radio Cymru ar safle Llys Dorfil, yn holi Bill a Mary Jones, yn ogystal â Dafydd Roberts, a rhai o selogion eraill y cloddio.

Mae'r darn a ddarlledwyd ar raglen Aled, bellach ar gael ar wefan Sounds y BBC 'am fwy na blwyddyn'. 

Dyma ddolen.

 

Dafydd Roberts, Bill Jones, ac Aled Hughes, yn Llys Dorfil



6.7.19

Enwau Lleoedd yn Chwarel Llechwedd

Pennod cyntaf cyfres o erthyglau o'r archif.
Yn dilyn y stŵr diweddar dros enw Llechwedd, mae cyfres Steffan ab Owain dal yn berthnasol iawn heddiw.

Yn gyntaf oll, hoffwn eich atgoffa mai’r hen enw ar y chwarel oedd Llechwedd Cyd, neu Llechwedd y Cyd (gweler y map). 

Mae’r enw hwn yn un diddorol, a dyma beth yw esboniad G.J. Williams arno yn ei gyfrol ‘Hanes Plwyf Ffestiniog' (1882):

Credai yr hen bobl fod llechau yn y fan hon, a defnyddient rai o geunant y Cribau i doi, fel y sylwyd.  Ond yr oedd anhawsder i gael agor chwarel yma, gan y perthynai Ffridd y Llechwedd i amryw o foneddigion, a gelwid hi o’r herwydd ‘Ffridd y Llechwedd Cyd’. Fodd bynnag, cymerwyd prydles ar y lle gan J.W. Greaves, Ysw., yn y flwyddyn 1846, ac agorodd y chwarel, (a, Yr oedd gan Mrs Oakeley hawl i gadw 19 o wartheg yn y Llechwedd Cyd, Arglwydd Newborough 7, a chynrychiolwyr R. Parry, ysw, (Ystad Glan y Pwll i. – Tithe Schedule).

Gyda llaw, byddai lle arall yn yr ardal yn cynnwys y gair ‘cyd’ ynddo hefyd, sef Rhos y Cyd (neu Rhos y Gyd, weithiau) ar dir hen Stad Cefn Bychan.

A dod yn ôl rwan at Chwarel Llechwedd.  Efallai y dylwn grybwyll hefyd bod o leiaf dwy ffridd arall ar ei thir, sef Ffridd Blaen Llechwedd a Ffridd Ddu.

Heb os nac onibai, gellir dweud mai un o’r pethau mwyaf ysblennydd yn perthyn i’r chwarel ydyw Plas Waenydd.  Sut bynnag, cyn i J.W. Greaves, perchennog cyntaf y chwarel adeiladu’r plas hwn yn 1869 bwthyn bach crwn oedd yn sefyll ar y man a’r lle.  Mae’n resyn o’r mwyaf ei fod wedi cael ei chwalu, oherwydd yn ôl ein haneswyr gwnaed ef o hen gorlan gron a muriau cryf iddi hi, ac roedd corn simdde yn ei ganol.  Oherwydd ei ffurf galwyd ef yn Tŷ Crwn.  Sylwais ar yr enw wrth fynd trwy Gyfrifiad 1851 rai blynyddoedd yn ôl, ac yn ôl hwnnw Richard Morris (gof), ei wraig Mary, a’u plant David, Jane, Richard a Mary oedd yn preswylio ynddo y pryd hynny.  Roeddynt i gyd yn enedigol o blwyf Llandwrog ac eithrio Mary a anwyd yma ym mhlwyf Ffestinog.

Gyda llaw, i Dŷ Crwn, a hynny ar noson stormus iawn, y daeth y Wyddeles Mrs Lerry, y ceir ei hanes yn Y Fainc ‘Sglodion, J.W.J. i ymofyn llety yn gyntaf yn ein bro.  Ac wedi iddi gael aros yno dros nos, a gweld yr ardal ar ôl i’r storm dawelu a’r haul ddechrau gwenu y syrthiodd mewn cariad a Thalywaenydd.  Ychydig wedyn ymsefydlodd yn un o dai Talywaenydd Isaf, a ddifrodwyd yn yfflon ar ôl toriad argae Llyn Ffridd yn 1874.  Ar ôl y rhyferthwy hwnnw, fodd bynnag, penderfynodd adael yr ardal am byth a dychwelyd i fyw i Iwerddon.
-------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1988, mewn cyfres o'r enw Llên Gwerin.