Showing posts with label Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Show all posts
Showing posts with label Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Show all posts

16.3.26

Holi Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Sgŵp ardderchog i Llafar Bro, wrth i Dei Mur holi Noel Mooney ar gyfer ein rhifyn Chwefror 2026

Mae eleni yn flwyddyn fawr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sydd yn dathlu 150 o flynyddoedd. Gobeithio hefyd y gwelan nhw ail yr Gwpan y Byd yn olynol, wrth i dîm y dynion frwydro am le yn y bencampwriaeth ddiwedd mis Mawrth. 

Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers pum mlynedd yw'r Gwyddel Noel Mooney, ac mae wedi rhoi yn hael o'i amser i gael ei gyfweld ar gyfer y papur bro. Daeth i ymweld â Chlwb Pêl-droed Ieuenctid Blaenau Ffestiniog yn 2024, ac yma mae'n ateb cwestiynau am fuddsoddiad yng nghyfleusterau'r fro, y gêm ddomestig yng Nghymru, y timau cenedlaethol a'i weledigaeth ef ar gyfer y Gymdeithas, a'r Gymraeg.

Rydych chi wedi bod yn Brif Weithredwr ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) ers 2021, gan ddathlu pum mlynedd yn y swydd eleni. Yw'r gwaith yr hyn oeddech chi yn ei ddisgwyl ac a yw'r rôl dal yn eich cyffroi?

Mae cael arwain pêl-droed Cymru ers 2021 wedi bod yn un o anrhydeddau (a chyfrifoldeb) mawr fy mywyd. Unwaith cyrhaeddais, roeddwn i yn gwybod y gallen ni lwyddo i wneud pethau mawr. Er bod nifer fawr o bethau i'w trwsio a digon o heriau, roeddwn i wir yn credu y gallen ni ail-beiriannu'r FAW a phêl-droed Cymru i fod yn well, cryfach a chyflymach. Rydyn ni wedi cyflwyno ein strategaeth bum mlynedd, 'Ein Cymru', yn llwyddiannus ac rydyn ni nawr yn symud at gam arall yn y datblygiad - rhywbeth dw i hyd yn oed yn fwy cyffrous i'w arwain. Fedar fy nghyffro na'r teimladau cadarnhaol sydd gen i tuag at bêl-droed Cymru, a beth sydd am ddigwydd yn y bennod nesaf, ddim â bod yn fwy.

 

Rŵan bod yr FAW wedi buddsoddi yng nghaeau’r ysgol, ydyn nhw yn bwriadu helpu’r timau ieuenctid i sicrhau les hirdymor am gae gwair?

Ydyn. Mae hyn yn hanfodol i’r gymuned. Mae’n rhaid i hyn ddigwydd ac mae’r FAW yn benderfynol o sicrhau bod gan bob plentyn yn Ffestiniog fynediad at gyfleusterau pêl-droed da, fe wnaethon ni fuddsoddi lot o arian yn y cae artiffisial newydd yn Ysgol y Moelwyn ond rydyn ni wir eisiau les hirdymor am gae gwair fel ei fod yn gallu cael ei ddatblygu yn iawn. Y tro diwethaf yr oeddwn i yma, roedd yn llawn dŵr ac yn amhosib chwarae yno, mae hyn yn siom fawr i’r gymuned a dw i yn synnu nad yw’r cyngor sir wedi sicrhau hyn eto. Mae e mor siomedig i’r gymuned ac rydyn ni yn galw ar y Cyngor i ymgysylltu gyda ni cyn gynted â phosib ar hyn.

Yw’r FAW yn bwriadu buddsoddi mwy o amser ac arian yn Ffestiniog?

Roedden ni yn falch iawn o fuddsoddi swm chwe ffigwr yn 2025, a nesaf rydyn ni eisiau cefnogi’r clwb a chefnogi’r datblygiad cymunedol gwych sydd yn digwydd yn hen eglwys y Llan gyda chefnogaeth bobol arbennig megis y teulu Morris, Mae Ffestiniog yn lwcus o gael pobol sydd efo diddordeb a bydd yr FAW yn cefnogi cymuned Ffestiniog i fod yn well, hapusach ac iachach dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r FAW wedi bod yn eiriolwyr cryf dros flaenoriaethu’r Gymraeg. Pa mor bwysig yw hyn i weledigaeth yr FAW ar gyfer y dyfodol ac ydych chi dal i drafod gydag UEFA ynglŷn ag ail-frandio’r tîm fel ‘Cymru’?

Rydyn ni yn credu yn gryf mewn hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw, ac wrth gwrs yng ngogledd-orllewin Cymru, y Gymraeg yw iaith gyntaf nifer ac mae hi yn rhan hanfodol o hunaniaeth. Mae’r Gymraeg a’i thwf yn rhan greiddiol o syniadaeth yr FAW, a bydd hynny o hyd yn wir. Rydyn ni yn gyfforddus yn defnyddio Cymru ac rydyn ni yn gyfforddus yn defnyddio Wales, naill ai/neu, nid dim ond un. Rydyn ni eisiau i bobol fwynhau’r iaith - dydyn ni ddim eisiau i’r heddlu iaith fod yn llym. Chwarae gyda’r iaith, cael hwyl â hi a gobeithio ei defnyddio hi - dw i yn trio fy ngorau, ond dw i yn bell o fod yn rhugl. Ond dw i wrth fy modd yn trio geiriau a gramadeg newydd bob dydd, mae hi yn iaith hyfryd. Mae’r newid ffurfiol i Cymru yn UEFA neu FIFA yn gysylltiedig â’r genedl ei hun yn newid ei henw (yn y Cenhedloedd Unedig), sydd reit gymhleth! Fodd bynnag, gadewch i ni gyd-drafod ac efallai y gallwn ni gael datrysiad da i’r dyfodol.

Fel rhywun efo profiad o weithio gyda phêl-droed Iwerddon a Chymru, pa heriau unigryw sydd yn wynebu'r FAW, a sut ydych chi yn bwriadu mynd i'r afael â nhw?

Mae yna sawl un:  1. Yng ngêm y dynion, am resymau hanesyddol, mae ein dinasoedd mwyaf yn chwarae mewn gwlad arall, gyda chanlyniadau cymysg, ond cadarnhaol ar y cyfan, i bêl-droed Cymru. Yn sgil hyn, mae'r diwydiant/mynychwyr yn gryf, ac rydyn ni yn datblygu gwell safon o chwaraewr cenedlaethol, ond mae e bendant yn hindro'r gêm ddomestig rhag cyrraedd ei llawn botensial o ran perfformiad ac elw. 

2. Roedd seilwaith pêl-droed Cymru angen gweledigaeth ac adnoddau. Roedd e'n wael. Rydyn ni wedi dechrau adeiladau stadia a chaeau ledled Cymru sydd yn caniatáu i bobol fwynhau pêl-droed dan amodau da. Mae hyn wedi bod yn her fawr, ond rydyn ni yn gwneud cynnydd enfawr. 

3. Mae’r tymor chwarae traddodiadol (Awst i Mai) wedi ei sefydlu yma, a ledled y Deyrnas Unedig, ond, yn bersonol, dw i yn hoffi model Iwerddon (Chwefror i Tachwedd) sydd yn rhoi mwy o brofiad i chwaraewyr a gweddill y staff. 

4. Mae yna ddiffyg hyder ledled Cymru mewn sawl peth, ac mae’r FAW yn trio gwneud ein rhan i newid hynny. Fe wnawn ni ddefnyddio pêl-droed i yrru Cymru fwy lwyddiannus, hyderus, modern a chynhwysol.

Beth yw eich barn bresennol am y tîm cenedlaethol a pha welliannau hoffech chi eu gweld?

O ran Tîm Cenedlaethol y Menywod, roedd cyrraedd EWRO UEFA 25 (pencampwriaeth fawr gyntaf ein menywod) yn wych. Mae Rhian Wilkinson wedi bod yn arbennig - roedd curo Gweriniaeth Iwerddon mewn dau gymal er mwyn cymhwyso ar gyfer yr Ewros yn llwyddiant eithriadol gan Rhian a’r grŵp. O ran tîm y dynion, daethon ni â Craig Bellamy mewn ac mae e wedi bod yn ffantastig - roedd y fuddugoliaeth 7-1 yna yn erbyn Gogledd Macedonia yn wefreiddiol. Fe wnaeth y tîm guro Twrci i gael dyrchafiad o gynghrair B i gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA lle byddwn ni'n wynebu timau gorau Ewrop yn yr hydref. Rydyn ni yn credu ein bod ni wedi ein paratoi yn dda i ennill y ddwy play-off ym mis Mawrth a chael lle yng Nghwpan y Byd - yr ail yn olynol ar ôl methu am 58 mlynedd! Rydyn ni yn gweithio nawr ar strategaeth Perfformiad Uchel deng mlynedd fydd yn amlinellu’r gwelliannau sydd eu hangen mewn meysydd megis adnabod talent, data a dadansoddi, a hyfforddi er mwyn sicrhau llwyddiant hirdymor cynaliadwy.

Sut ydych chi yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cymhwyso ar gyfer pencampwriaethau mawr?

Fe wnaeth cymhwyso ar gyfer y Gwpan y Byd ddiwethaf arwain at gynnydd mawr mewn adnoddau y gallon ni eu buddsoddi mewn pêl-droed lawr gwlad ledled Cymru. Pêl-droed yw’r gamp sydd yn denu’r mwyaf o ddiddordeb a chwaraewyr yn y wlad, ac mae’r FAW yn gweithio yn galed iawn mewn cymunedau ledled Cymru i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r gêm brydferth ym mha bynnag ffordd maen nhw yn ddymuno.

Beth yw eich prif flaenoriaethau i bêl-droed Cymru am y bum mlynedd nesaf a sut ydych chi yn bwriadu eu cyrraedd?

Perfformiad Uchel (llwyddiant cenedlaethol hirdymor), tyfu’r gêm ar lawr gwlad, rhoi’r cyfle gorau i’r gêm ddomestig elit lwyddo, troi’r FAW yn sefydliad effeithiol wedi ei yrru gan ddata, troi ni yn sefydliad chwaraeon world-class a defnyddio pêl-droed fel arf i wella Cymru. Dyna dw i am ganolbwyntio arno, a dyna’r meysydd y byddwn ni yn gweithio yn ddiflino arnyn nhw er mwyn cyrraedd ein potensial. Eleni byddwn yn 150 oed! Byddwn yn lansio strategaeth deng mlynedd fydd yn amlinellu ein cynlluniau mawr i sicrhau bod pêl-droed Cymru yn cyrraedd ei llawn botensial.

Mae’r Cymru Premier yn datblygu yn neis i weld, ond mae’n debyg bod cael Merthyr yn gwrthod y cytundeb mawr i ymuno wedi bod yn siom fawr. Pam ydych chi yn meddwl eu bod nhw wedi gwrthod y cytundeb a beth ellir ei wneud i ddenu timau fel Merthyr yn y dyfodol?

Roedd pobol yn dweud wrtha i yn aml ein bod ni angen Merthyr Town yn ôl yn y Cymru Premier - fydden nhw yn gallu bygwth ennill y gynghrair a chynrychioli Cymru mewn cystadlaethau UEFA fel Cynghrair y Pencampwyr (Champions League). Doedd yr FAW erioed wedi eu gwadd nhw yn ôl i Bêl-droed Cynghrair Cymreig. Roeddwn i yn hapus ein bod ni wedi gwneud ac wedi rhoi ein cynnig gorau ymlaen. Wnaethon ni ddim lobio o gwbl - dim ond rhoi cynnig deniadol iawn iddyn nhw chwarae yn y system Gymreig. Fe wnaeth eu haelodau ddewis sticio efo'r drefn bresennol, a fedra i ddweud yn bendant nad ydw i wedi meddwl am y peth ers iddyn nhw wneud y penderfyniad. Fy rôl yw gwella pêl-droed Cymru, ond nid i orfodi unrhyw un i wneud rhywbeth nad ydyn nhw eisiau ei wneud. Nes bod eu haelodau eisiau cynrychioli Cymru mewn pêl-droed Ewropeaidd, eu bod nhw eisiau chwarae yn ein gêm ddomestig, yna dyw hynny ddim yn fater i’r FAW. Mae gen i nifer o ffrindiau ym Merthyr Town, a byddwn ni yn eu cefnogi nhw ym mhopeth maen nhw yn wneud! Maen nhw yn gwneud mor dda, rydyn ni falch iawn drostyn nhw.

Pa bartneriaethau neu gynlluniau cydweithio mae’r FAW yn eu harchwilio ar gyfer gwella sylw a datblygiad y Cymru Premier?

Byddwn ni yn cyhoeddi cytundeb ddarlledu a phartneriaid newydd ar gyfer y gêm ddomestig dros y misoedd nesaf. Bydd Adran y Cymru Premier yn mynd o 12 i 16 tîm tymor nesaf, sydd yn gyffrous iawn. Rydyn ni yn gweld torfeydd enfawr - yn enwedig yng ngogledd Cymru - ac rydyn ni yn edrych ymlaen yn arw at weld y gêm ddomestig yn tyfu yn sydyn yn y blynyddoedd nesaf.

Allai Abertawe/Wrecsam/Caerdydd fyth gymhwyso ar wahân i Ewrop a pheidio cael eu lympio â thimau Lloegr?

Fe wnaethon ni weithio yn agos gyda’r clybiau y llynedd a gwneud datblygiad mawr gydag UEFA a’u tebyg ar hyn ond yn y pendraw, mae’r Gynghrair Bêl-droed Saesneg yn amgylchedd eithaf naval-gazing a dyw rhoi mantais i un clwb (neu clybiau Cymru yn yr achos yma) o ddiddordeb iddyn nhw ac felly rydyn ni wedi anghofio am y syniad. Fodd bynnag, ddylen ni gydnabod bod y rhain yn glybiau Cymreig, ac rydyn ni yn credu y dylen nhw gynrychioli Cymru mewn Cystadlaethau Ewropeaidd.

Pa bethau mae’r FAW yn eu gwneud i ddatblygu chwaraewyr ifanc Cymru a gwella safonau hyfforddi?

Rydyn ni wedi cyflwyno amrywiaeth eang o raglenni datblygu - fel ein academïau rhanbarthol - sydd yn sicrhau ein bod ni yn gweld y talent ddomestig orau. Rydyn ni hefyd wedi categoreiddio ein academïau domestig, ac maen nhw wedi datblygu chwaraewyr i’n timau cenedlaethol ieuengaf a’r clybiau yn barod. Fe wnaeth Fifa gydnabod y llwybr Merched (ac ein academïau) am eu safon uchel ac yn 2025, fe wnaethon nhw ddewis dathlu'r FAW am ei rhaglen academïau. Mae’r FAW yn enwog am ein rhaglen addysg hyfforddi world-class, ac mae hon yn mynd o nerth i nerth.

Sut ydych chi yn meddwl y gall pêl-droed Cymru gystadlu yn well gyda chenhedloedd Ewropeaidd o ran datblygu chwaraewyr ac adnabod talent?

Byddai cael Academi Categori 1 EPPP yn Wrecsam, Dinas Abertawe a Dinas Caerdydd yn gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw ac i ni. Mae’n debyg mai dyma ein blaenoriaeth bennaf yn y blynyddoedd nesaf - perswadio nhw i fynd amdani. Byddai o werth anferth iddyn nhw ac i Gymru.

Mae’r FAW yn dathlu 150 mlynedd ers ei sefydlu eleni. Oni bai am gystadlu yng Nghwpan y Byd - fyddai yn wych - pa gynlluniau / syrpreisys sydd gennych chi i gefnogwyr Cymru?

Mae gennym ni raglen enfawr o ddathliadau ar gyfer y 150 mlwyddiant, gan ddechrau gyda chyfarfod Cyngor FAW yn yr Wynnstay ar Chwefror 2ail - union 150 o flynyddoedd ers ein cyfarfod cyntaf! Byddwch yn gweld lot o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi ac yna nifer o ddigwyddiadau cyffrous ledled Cymru yr ydw i yn gobeithio y gallwch chi fod yn rhan ohonyn nhw.

Beth all ardal Ffestiniog ei wneud i hyrwyddo’r FAW?

Dylai’r gymuned gefnogi datblygiad yr eglwys yn Llan, a’r clwb pêl-droed oherwydd fe wnawn ni eich cefnogi chi i greu dyfodol llawer mwy disglair i’ch cymuned. Fe wnes i gwympo mewn cariad â Ffestiniog y tro cyntaf y gwnes i ymweld, ac mae gennym ni dîm gwych sydd yn barod i ddarparu pob math o gefnogaeth unwaith mae cymuned yn ein cefnogi ni.
DM
Diolch yn fawr iawn i Noel Mooney ar ran Llafar Bro
 

18.12.16

Breuddwyd Bordeaux -ar ôl y gêm

Pennod olaf hanes Dewi Prysor yn Ffrainc. 
Ar ôl llwyddiant y gêm gyntaf, daeth y dathlu a'r gofoleddu.
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd ar thema Ewropeaidd. 

PÊL-DROED, CYMRU A’R GYMRAEG: BYW BREUDDWYD YN BORDEAUX
Wna i fyth anghofio’r rhaeadr o grysau cochion yn llifo i lawr y grisiau o’r stadiwm ar ôl y gêm – er gwaetha’r ffaith mai ‘Don’t Take Me Home’ oedd y diwn gron oedd pawb yn ganu ar y pryd! Bydd yr olygfa honno yn aros efo fi am byth. Bythgofiadwy, hefyd, oedd gweld y rhesi o Slofaciaid ddaeth i glapio dwylo wrth i ni adael. 

Y rhaeadr goch.

Rhaid oedd wynebu’r ciw ar gyfer y trams, wedyn, ac wir i chi, tydw i ddim yn gor-ddweud – roedd o’n tua milltir o hyd. Felly wedi dal i fyny efo criw Blaenau a ffrindia erill, doedd dim amdani ond cerdded y pum milltir i ganol y ddinas, gan ddilyn tracs y tramiau i’n cadw ni ar y ffordd iawn, a pasio llwyth o lafnau ifanc ar feics padlo a mopeds yn trio gwerthu ‘gwair’ i bawb, efo’r ‘tagline’ hynod, “Gareth Bale smokes weed!

Ar ôl tair milltir o gerdded, ges i lond bol. Ro’n i’n fflagio, ac heb gael peint ers dros tair awr. Felly pan stopiodd tram gorlawn yn un stop fel ro’n i’n digwydd pasio, mi welis i fy nghyfla a stwffio i mewn i ganol y sardîns coch. Ac i ganol pwy nes i stwffio? Criw o hogia Bethesda – un yr o’n i’n ei nabod drwy bêl-droed lleol (mae’ o’n gwneud efo clwb Mynydd Llandygai), ac un arall yn byw dros ffordd i fy chwaer fach yn Llanllechid! Ia, byd bach fel’na oedd Bordeaux – a gweddill y daith drwy Ffrainc. Roedd pawb yno. Pawb!

Wedi yfad gormod i gofio pob manylyn, neu beidio, mi fydd y dathlu a’r golygfeydd rownd strydoedd Bordeaux y noson honno wedi eu serio ar fy nghôf am weddill fy nyddia. Y tafarnau gorlawn – sawl un wedi rhedeg yn sych o gwrw – a’r strydoedd tu allan yn fyw o grysau coch a baneri Cymru yn canu a dawnsio’n wyllt ac afreolus o hapus. A’r Gymraeg yn atsain rhwng muriau uchel y strydoedd cul, croesawus. Pob ‘chant’ a chân bêl-droed Cymreig, a phob cân werin Gymraeg y gellid ei chofio, yn morio ar awelon y nos.

Hen Wlad Fy Nhadau’ rhwng pob tair cân, y Ffrancwyr yn dathlu i’r eithafion efo ni (a’r Slofaciaid hefyd, er eu bod wedi colli!). Y Bordolais yn ein mysg, yn dawnsio a canu efo ni, yn cymeradwyo a bloeddio’u gwerthfawrogiad o’n hanthem. Ninnau yn ymuno yn eu hanthem hwythau, y ‘Marseillaise’ (sy’n gorfod bod yr ail anthem orau yn y byd). Pawb yn ein ffilmio ni ac yn cael lluniau efo ni. Staff y bariau yn canu a dawnsio efo ni, tafarnwyr gwên-o-glust-i-glust yn sefyll ar eu balconiau uwchlaw, yn ffilmio’r dorf goch fyrlymus, swnllyd islaw ar eu ffônau symudol...

Ia wir, profiad bendigedig oedd y gêm gyntaf, hanesyddol hon, yn Bordeaux. A dim ond dechrau’r antur oedd hi. Aeth pethau o anhygoel i well, o fythgofiadwy i anghredadwy, o hynny ’mlaen. Yn rhywle arall mae rhannu manylion gweddill fy nhaith mis crwn a bron i 6,000 milltir, trwy Ffrainc. Am y tro, mi’ch gadewaf efo’r blas uchod o’r profiad o ddechrau’r daith, a sut beth oedd bod yn gefnogwr pêl-droed Cymru oedd yn byw y freuddwyd o’r diwedd.

Ond mi oedd o’n llawer mwy na hynny. Roedd rhywun yn byw y freuddwyd fel Cymro hefyd. Dyma fy ngwlad a fy nghenedl ar eu gorau ar y llwyfan mwyaf posib, ac yno yn gyfartal â gwledydd a chenhedloedd eraill Ewrop. Ac i Gymro Cymraeg roedd o’n hyd yn oed yn fwy na hynny. Achos, trwy amlygrwydd y Gymraeg ymysg y cefnogwyr mi ddaeth y byd yn ymwybodol o’n gwir genedligrwydd. Oherwydd i filoedd o Gymry Cymraeg heidio i Ffrainc roedd pawb yn clywed ein iaith ar waith.

Yr un effaith gafodd polisi Cymdeithas Bêl-droed Cymru o roi rôl flaenllaw i’r Gymraeg yn holl ‘set-yp’ y garfan – o’u canolfan yn Dinard, Llydaw, i’r wê a’r teledu byd-eang. Felly hefyd gweledigaeth Osian Roberts ac Ian Gwyn Hughes wrth ddefnyddio’r iaith mewn cynhadleddau i’r wasg, a’r chwaraewyr yn defnyddio’r Gymraeg mewn fideos cyhoeddusrwydd – nid jesd Allen, Ramsey a Ben Davies, sy’n siarad Cymraeg, ond Gareth Bale a Chris Gunter a’r Cymry di-Gymraeg eraill yn y garfan hefyd. Y nhw oedd fwyaf brwd am y syniad, ac a fynnodd eu bod yn cael dweud brawddeg yn Gymraeg. A diolch i ymdrech y garfan i gyd (rhai gwell na’i gilydd!) i ganu’r anthem. Roedd miliynnau o bobl ar draws y byd wedi gweld Gareth Bale – y Galactico a chwaraewr drytaf y byd (tan yn ddiweddar iawn) – yn canu yn Gymraeg. Oes angen deud mwy?

Lle bynnag yr oeddan ni’n mynd yn Ffrainc, yr un oedd y stori. Doedd pobl erioed wedi meddwl am Gymru fel cenedl wahanol tan iddyn nhw ddeall fod ganddom ein iaith ein hunain. Tan hynny roeddan nhw wastad wedi meddwl mai rhyw fersiwn o Saeson oeddan ni – rhyw fath o West Britons, math o beth. Ond roedd yr iaith ar waith yn yr Ewros wedi newid popeth. Roeddan nhw bellach yn dallt!

Ac yn bwysicach fyth na bod cenhedloedd eraill yn dallt, roedd Cymry di-Gymraeg yn dallt pwysigrwydd yr iaith hefyd. Mae hi’n perthyn i bob Cymro a Chymraes, wedi’r cwbl. Mae ffans pêl-droed Cymru wastad wedi gwerthfawrogi hynny, am eu bod wedi arfer ei chlywed mewn gemau pêl-droed. Ond y gwahaniaeth y tro yma oedd fod miloedd yn fwy o Gymry (di-Gymraeg a Chymraeg) wedi glanio yn Ffrainc. Mwya sydyn roedd miloedd o Gymry’r ardaloedd di-Gymraeg yn clywed yr iaith fel iaith fyw o’u cwmpas – o bosib am y tro cyntaf yn eu bywydau – ac yn sylweddoli ei bod yn rhan naturiol o Gymreictod, yn gwerthfawrogi ei rhan bwysig yng ngwead eu hunaniaeth genedlaethol, a’i gwerth fel ased i ddatgan y Cymreictod hwnnw i’r byd.

Be darrodd fi yn Bordeaux – a gweddill Ffrainc – yn ystod y mis Mehefin hudol hwnnw, oedd bod y Cymry yn rhydd o’r caethiwed meddyliol, post-colonial yr ydym yn byw efo fo adra yng Nghymru. Yn Bordeaux mi dorrodd y Cymry yn rhydd o’r meddylfryd israddol sy’n ein cyflyrru i ystyried y Saesneg fel yr unig iaith i symud ymlaen yn y byd. I’r miloedd a brofodd y rhyddid hwn yn Ffrainc, agorwyd eu meddyliau i sylweddoli cymaint o ased ydi’r Gymraeg. Ased y dylid ei defnyddio’n ganolog wrth hyrwyddo’n diwylliant a’n hunaniaeth, ac i hybu’r economi mewn meysydd fel twristiaeth. Mae gormod o fusnesau yn dewis enw Saesneg, a defnyddio Saesneg yn unig i hysbysebu, heb sylweddoli y byddai defnyddio’r Gymraeg yn rhoi stamp a chymeriad unigryw ac atyniadol i’r busnes ac i’r fro.

Tydi pobl ddim yn dod ar eu gwyliau i ‘West Britain.’ Dod i Gymru maen nhw. Nid fersiwn Gymreig o Blackpool neu Windermere mae nhw isio, ond profiad o fod mewn gwlad arall (ac, i ymwelwyr o weddill Prydain, y profiad o fynd i wlad arall heb orfod teithio dramor!). Byddai gweld yr iaith ar waith trwy Gymru gyfan yn atgyfnerthu’r teimlad o fod mewn gwlad wahanol efo’i iaith a chymeriad – a hunaniaeth – ei hun. Mae gwyliau yng Nghymru’n syniad llawar mwy cyffrous na gwyliau yn West Britain.

Gofynnwch i bobl Bordeaux, Toulouse, Lille neu Lyon be oeddan nhw’n licio am y Cymry. Falla y cewch gyfla i’w holi yr haf nesaf, pan fyddan nhw’n heidio yma ar eu gwyliau!
---------------------------------------



Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2016.
Darllenwch y gyfres efo'r ddolen isod.
-------------

Mae llyfr newydd Dewi -Ibuprofen S'il Vous Plait- sy'n rhoi mwy o hanes ei deithiau yn dilyn Cymru,  ar werth rwan.