17.2.13

Dal i aros am atebion...

Pum cant medd Golwg 360; wyth gant meddai gwefan BBC Cymru; 950 yn ol Radio Cymru;
MWY! medd rhai oedd yno...

Gwefan BBC Cymru  (dolen yn y frawddeg gynta')

Yn sicr un o'r raliau mwyaf a welwyd yn Stiniog ers tro. Diolch i'r rhai a gefnogodd, gan gynnwys cyfeillion o ymylon y dalgylch fel Dolwyddelan a Phenrhyndeudraeth, ac i ymgyrchwyr ysbytai Bryn Beryl a Llandudno a ddaeth i ddangos undod.

Dyma ddarn oddi ar dudalen flaen rhifyn Chwefror LLAFAR BRO. Ewch i chwilio am gopi i chi gael darllen y cwbl!



DAL I AROS AM ATEBION
Ia, dyna oedd pennawd tudalen flaen rhifyn Ionawr, ynghŷd â chopi o lythyr oddi wrth y Pwyllgor Amddiffyn at gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac addewid gennym hefyd i gyhoeddi atebiad y gŵr hwnnw yn y rhifyn hwn. Ond ddaeth dim atebiad, nac unrhyw atebiad i lythyr arall chwaith a gafodd ei anfon ‘recorded delivery’ iddo bythefnos yn ôl, i’w swyddfa yn Ysbyty Gwynedd; llythyr oedd yn herio penderfyniad y Bwrdd, ar Ionawr 18fed, i gau’r Ysbyty Coffa ‘o fewn yr wythnosau nesaf’.

Rhifyn Ionawr
Erbyn hyn, fe gafodd staff yr Ysbyty wybod eu tynged a hynny mewn modd cwbwl ddi-dostur ac annerbyniol. Ydi, mae pethau’n edrych yn ddu ond mae’n fwriad gan y Pwyllgor Amddiffyn i ddal ati, cyhŷd ag y gallwn ni, i herio penderfyniad y Bwrdd Iechyd a’i ddulliau twyllodrus o weithredu, trwy fynd â nhw i gyfraith os bydd raid. Wedi’r cyfan, ar wahân i ildio’n ddi-brotest, pa ddewis arall sydd gennym?

Ddydd Iau, 24 Ionawr, fe gyflwynodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Amddiffyn, y cynnig brys hwn gerbon y Cyngor  Sir –
Yn sgil penderfyniad diweddar gan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ail stwythuro'r gwasanaeth
Iechyd rwy'n cynnig:
1) Bod y Cyngor yn cael cyfarfod gyda'r Bwrdd Iechyd i drafod yr oblygiadau ariannol, disgwyliadau ar y gwasanaeth a fod dim newid yn cymryd lle hyd nes fod trafodaethau aeddfed wedi digwydd.
2) Ein bod yn gofyn i'r Cyngor Iechyd Cymunedol gyfeirio'r mater i'r gwenidog iechyd Lesley Griffiths i'w ystyried.

Da cael adrodd bod y cynnig hwnnw wedi derbyn cefnogaeth unfrydol aelodau’r Cyngor, a diolchwn i Mandy am ddwyn y fath berswâd ar ei chyd-gynghorwyr  ac am ei hymdrechion di-flino dros yr achos. Diolch yn ogystal, wrth gwrs, i’n dau gynrychiolydd arall ar y Cyngor Sir, sef Linda Wyn Jones a Paul Thomas. 

Mae eu cefnogaeth a’u cyfraniad cyson hwythau hefyd i waith y Pwyllgor Amddiffyn, heb sôn am i les yr ardal yn gyffredinol, yn rhywbeth y dylem fod yn ddiolchgar iawn amdano.



13.2.13

Rhifyn Chwefror 2013

Criw da wedi dod i blygu rhifyn Chwefror heno a'r gwaith wedi'i wneud mewn chwinciad!
Diolch i bawb am eu cymorth.

Rhifyn arall yn llawn i'r ymylon o erthyglau, newyddion, cyfarchion, llythyrau. lluniau, a barn gref iawn am ddyfodol yr ysbyty goffa yn benodol.


Bydd y dosbarthwyr neu'r postmon yn galw, a'r papur yn ymddangos yn y siopau dros y dyddiau nesa'.

Bydd ambell i ddarn yn ymddangos yma hefyd dros y mis i ddod.

11.2.13

Capel Jerusalem

Dyma ddarn o erthygl gan Gwyn Thomas ar ddiwedd pennod arall yn Stiniog.
Gallwch weld yr erthygl yn llawn yn rhifyn Ionawr. Mae ambell gopi wrth gefn gan y dosbarthwr os na chawsoch afael ar un hyd yma, a gan y trysorydd hefyd i'r rhai fyddai'n hoffi tanysgrifio am flwyddyn gyfa'. Ewch i'r dudalen tanysgrifio am fanylion pellach.

Cofiwch am noson blygu rhifyn Chwefror y nos Fercher yma yn neuadd y WI am 6.30. Croeso mawr i bawb ymuno yn yr hwyl!

Cofiwch hefyd am y rali a gynhelir y Sadwrn hwn i ddangos yn glir be' mae pobl y dalgylch yn feddwl o benderfyniad cywilyddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau'r ysbyty.





JERUSALEM YN DOD I BEN



Yn Rhifyn 31 o Rhamant Bro  y mae Robin Davies yn rhestru 39 o gapeli ac eglwysi ym mro Ffestiniog. Y mae hyn yn dystiolaeth i’r argyhoeddiad a fu yma unwaith. Pobol gyffredin, ddigon tlodaidd eu byd a dalodd, yn ddrud, am godi’r holl gapeli hyn. A oedd eu hangen nhw i gyd sy’n fater arall. Y mae’n siŵr fod yna rywfaint o falchder enwadol yn yr holl adeiladu, a’r holl adeiladau. 

Nodaf dair enghraifft o gapeli sydd wedi eu dymchwel dros y blynyddoedd diwethaf. Pan oeddwn i’n hogyn bach yn Nhanygrisiau roedd yna glamp o gapel gan y Methodistiaid yno, sef Bethel. Y mae o wedi hen fynd. Pan symudais i fyw i Wynne’s Road (fel y dywedem ni), pan oeddwn i fymryn yn hŷn, yr oedd capel anferth y Methodistiaid, sef y Tabernacl,  i’w weld o’n stryd ni. Y mae hwnnw hefyd wedi hen fynd. Pan oeddwn i’n naw oed fe fudodd ein teulu ni i Benar View, ac yng ngheg y ffordd at y fan’no roedd gan yr Annibynwyr gapel sylweddol ei faint, sef Brynbowydd. Y mae hwnnw, yntau, wedi mynd. A rŵan y mae Jerusalem, capel anferth yr Annibynwyr, a fu’n bresenoldeb amlwg yn y Stryd Fawr, yn mynd i gau.


Yr oedd ein  teulu ni’n aelodau yn Jerusalem. Rydw i’n cofio gwasanaeth dau weinidog yno, sef Brython M. Davies a John Elwyn Davies, yn bennaf – ar ddiwedd fy amser i yn y Blaenau y daeth Elwyn Jones yno.  Roedd yna ddwy oedfa bob Sul, un am ddeg y bore a’r llall am chwech yr hwyr, ac oedfa’r hwyr oedd y brif oedfa ers talwm. Am ddau y prynhawn cynhelid Ysgol Sul, un i blant yn y Festri Fawr o dan y capel, ac un i oedolion yn y capel ei hun. Bob blwyddyn, tua mis Mai, cynhelid Cymanfa Ganu, un i blant ar brynhawn Sadwrn, ac un i oedolion ar nos Sadwrn. Byddai plant Ysgolion Sul Annibynwyr y cylch yn gorymdeithio, gan gychwyn wrth ymyl capel Jerusalem, mynd i lawr Stryd Glynllifon, i lawr Wynne’s Road heibio Ysgol y Moelwyn, heibio’r Parc ac i fyny tros bont y lein heibio Neuadd y Dref (roedd honno’n ffordd fawr yr adeg honno), ac yna i fyny’r Stryd Fawr am Jerusalem eto. Byddai yna gario baneri mawr lliwgar, a byddai’r plant lleiaf yn cael eu cario mewn ceir neu lorïau wedi eu haddurno’n grand. Gwisgai hogiau Jerusalem fedalau llwyd-ddu, a gwisgai’r genethod roséts lliwgar. Byddai Jerusalem dan ei sang, a byddai canu bendigedig yno ( neu dyna’r oeddem ni’n ei feddwl), a rhannu tystysgrifau am basio arholiadau ysgrythurol. Ac wedyn byddai yna de parti joli iawn yn y Festri Fawr.
Gwyn Thomas

7.2.13

Lle maen nhw heddiw?

Cyfres reolaidd lle mae Llafar Bro yn holi rhai o blant y cylch sydd wedi gadael y fro i ennill bywoliaeth.


'Chydig o hanes Medwen Roberts, gynt o Danygrisiau, a gawn y tro hwn. Ymddangosodd yr erthygl lawn yn rhifyn Tachwedd 2012.

Beth yw eich swydd bresennol ac ym mha ran o’r wlad ydych chi’n byw ar hyn o bryd?
Cynhyrchydd a chyfarwyddydd teledu a radio ydw i. Ond dwi hefyd wrth fy modd yn gwneud ymchwil, yn enwedig ymchwil hanesyddol, ar gyfer y cyfryngau, theatr neu brosiect arall.
Dwi’n byw yn ardal Dyffryn Clwyd mewn pentre bach o’r enw Graigfechan.

Be ydi’r atgofion mwyaf pleserus sydd gennych am eich plentyndod a’ch dyddiau ysgol?
Mae’r atgofion sy gen i am fy mhlentyndod yn bleserus tu hwnt. Byw yn Nhanygrisiau, nabod pawb,  chwarae yn yr awyr agored. 
Mae gen i atgofion da o Ysgol Gynradd Tanygrisiau. Dim y gwersi sy’n aros yn y cof, gwaetha’r modd, ond yr hwyl  oedden ni’n gael – dysgu dawnsio gwerin, cael ‘eis crîm’ Taddies yn yr haf, cyngherddau Nadolig prysur yn festri Bethel, a’r ffrindiau bore oes.
Gan ein bod ni fel teulu yn byw yn Nhŷ Capel Carmel roedd gweithgareddau amrywiol y capel yn  cymryd dipyn o amser. Gobeithlu Bethel nos Lun, Carmel nos Fawrth, Ysgol Sul efo athrawon gwahanol.  Trip ysgol Sul, Parti Dolig, a’r Gymanfa Ganu. Roedd hyd yn oed steddfod yn y capel.

Beth neu pwy fu’r dylanwad(au) mwyaf arnoch pan yn ifanc?                                             
Roedd pawb yn ddylanwad gan fod cymdeithas mor glos yn Nhanygrisiau a Stiniog. Roedd tyfu i fyny mewn cymdeithas glos yn deimlad cysurus dros ben. Chydig wyddwn i mor unigryw oedd o ac na fasa fo’n para am byth. Dwi wedi byw mewn sawl dinas yng Nghymru a Lloegr ac mae gallu cerdded stryd a nabod bron pawb yn beth anghyffredin erbyn hyn.

Pa  brofiadau diddorol neu gofiadwy a gawsoch chi yn eich swydd? A fu ambell dro trwstan?
Gormod o droeon ‘trwch blewyn’ imi eu nodi! Dwi wedi teithio cryn dipyn efo’m gwaith, yng Nghymru a thu hwnt, a gweithio mewn llefydd difyr iawn, ac yn aml mae’n rhaid cael cyfieithydd i weithio efo  ni. Yn Hwngari fe ges i gyfieithydd trwy’r UNHCR ond doeddwn i ddim yn gwybod mai un o  Rwmania oedd hi a bod ei gwybodaeth o iaith Hwngari yn elfennnol iawn. Oherwydd camgyfieithu, a heb yn wybod i mi, roedd un dyn yn bygwth ein lladd ni i gyd oni bai ein bod yn talu mil o bunnau iddo!  
Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gweithio ar gyfres hanes Cymru, The Story of Wales, ar gyfer BBC Cymru. Mae’n gyffrous darganfod mwy am hanes Cymru ac, yn ffodus i mi,  dyma’r ail gyfres hanes Cymru imi weithio arni. Y gyntaf oedd The Dragon has Two Tongues, cyfres efo  dau gyflwynydd, a difyr iawn ydy cymharu’r ddwy gyfres hynny.  Mae hanes yn un arall o’r pynciau dwi’n  ymhyfrydu ynddo fo, er dwi ddim yn meddwl inni gael digon o’n hanes ni’n hunan yn yr ysgol.

A fyddwch chi’n dychwelyd weithiau i fro eich mebyd? Beth yw eich teimladau, bryd hynny?
Mi fyddaf yn dychwelyd yn aml i Stiniog a Thanygrisiau a byddaf yn amrywio’r ffordd o ddod yn y car. Weithia mi fydda i’n dod trwy Dolwyddelan – cartref gwreiddiol fy nhad. Dro arall byddaf yn dewis ffordd y Migneint, ac mae gweld y Moelwyn o Lan Ffestiniog bob amser yn gwneud i nghalon i ymlacio, fel ffitio troed i hen slipar gyfforddus. Dwi’n gwirioni ar y mynyddoedd - ond POBOL sy’n gwneud lle; a phobol Blaena ydy caffaeliad mwya’r fro. Maen nhw’n meddu ar wydnwch anhygoel.