Deall sut mae cefn gwlad yn gweithio.
Cwrs ym Mhlas Tanybwlch; Hydref 31 -Tachwedd 3ydd.
Cwrs ar gyfer arweinwyr teithiau a phawb sydd efo diddordeb.
Sut mae egluro cyfoeth treftadaeth ein tirlun i bobl eraill. Sut mae daeareg, natur, hanes, a defnydd y tir wedi dylanwadu arnom ni a'n tirlun.
I archebu lle dylid cofrestru drwy:
Ceri Cunnington, Antur Stiniog, Yr Hen Go-op, 49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd, LL41 3AA; ceri.c[at]gwynedd.gov.uk
Pris y cwrs: Noder bod Telerau Arbennig os archebir drwy Antur Stiniog
2.10.13
21.9.13
Stolpia a phrisia'
Rhan o erthygl Steffan ab Owain yn rhifyn Medi.
Prynwch gopi er mwyn darllen y gweddill, ac i gael yr hanes am ymwelydd o Batagonia.
Cofiwch, dim ond 40 ceiniog y mis ydi Llafar Bro, ac mae'r cyfarfod blynyddol yr wythnos d'wytha wedi dewis peidio codi'r pris y flwyddyn nesa' eto. Mae'n sicr ymysg y papurau bro rhataf trwy Gymru gyfan. Os nad Y rhataf!
Faint ydych chi'n dalu am eich papur dyddiol? 50c? 70c? Y dydd. Mae 40c y mis yn fargen anhygoel tydi! Beth am annog eich cymdogion a'ch ffrindiau a'ch teulu i brynu Llafar Bro!
Mae'r tanysgrifiad trwy'r post yn aros yr un faint hefyd.
Dim ond £14 y flwyddyn ym Mhrydain; £25 i gyfandir Ewrop; a £32 i weddill y byd.
Gallwch dalu unrhywbeth rhwng £20-£50 y flwyddyn am gylchgrawn ffasiwn neu arddio ac ati, a'r rheiny'n ddim byd ond hysbysebion!
Byddai tanysgrifiad blwyddyn i Llafar Bro yn anrheg Nadolig ardderchog i'ch anwyliaid. Mae'r manylion i gyd ar ein tudalen 'Llafar Bro trwy'r post'.

Taith y Pererin
Tybed faint ohonoch chi sydd yn cofio’r ddrama
lwyddiannus a lwyfannwyd gan y dramodydd a’r nofelydd John Ellis Williams, sef
Taith y Pererin o waith John Bunyan? Y mae hanes y ddrama hon wedi ei chroniclo
yn ddifyr yn ei gyfrol Inc yn fy
Ngwaed (1963) lle dywed “Rhoddwyd y perfformiadau cyntaf o’r ddrama ym
Mlaenau Ffestiniog nos Iau cyn y Groglith, nos Wener y Groglith, a nos Sadwrn y
Pasg 1934... Roedd hi mor boblogaidd yn yr ardal fel y bu’n rhaid cynnal naw o
berfformiadau yn y Blaenau”.
Actorion amatur oedd yn y ddrama i bob pwrpas a cheir llun ohonynt yn y
gyfrol a nodwyd uchod. Pa fodd bynnag, deuthum ar draws y llun canlynol mewn
llyfr Saesneg ‘North Wales Today’ ac ynddo cyfeiria at un o’r actorion a
weithiai yn y chwarel. Tybed pwy all ddweud wrthym pwy oedd yr actiwr glandeg
hwn sydd yn gwenu ar y camera ac yn dal ei gŷn a’i forthwyl?
15.9.13
Y Golofn Werdd
| llun PW |
Darn o erthygl gan Lowri Gwenllian Roberts,
un o sylfaenwyr Clwb Natur y Blaenau
-darllenwch y cyfan yn Llafar Bro Medi.
Mae bod yn rhan o ddechrau'r Clwb Natur wedi bod yn
brofiad anhygoel i mi.
Fe ddysgom lawer ar ein dyddiau allan yn cynnal arolwg
mamaliaid bychan yng Nghoed Cymerau gyda Ceri Morris, ymweliad â’r Seaquarium
yn y Rhyl a cherdded Nordig efo Catrin……yng nglaw mawr Blaenau! Mae
gymaint o brofiadau does ddim posib rhestru pob un ohonynt!
Ond mae rhai eraill
dal yn glir yn fy ngof fel ymweliad i warchodfa natur Gwaith Powdwr ym
Mhenrhyndeudraeth gyda Rhydian Morris. Mae rheswm pam rwyf yn cofio'r profiad
hwn. Aethom i gyd at lyn bach ar y safle. Yn fan hyn roddem yn chwilota yn y dŵr
am bryfetach, mamaliaid bach a llawer, llawer mwy. Wedyn aeth un hogyn bach
dros yr argae ac fe aeth pawb ar ei ôl. Roeddem i gyd yn hapus braf yn
chwilota. Yn sydyn neidias pan glywson ni sgrech a splish splash yn y dŵr
-fedrwch chi ddychmygu- roedd yr hogyn wedi trio dal llyffant ac wedi disgyn i
mewn i’r dŵr rhewllyd! Nawr rydych yn gweld pam ei fod mor glir yn fy meddwl.
Profiad anhygoel arall cafodd Saskia a finna oedd bod ar
y teledu ar raglen RhyfeddOD, S4C.
Roeddwn yn
dangos beth fedrwch chi ei ffeindio o gwmpas yr ardd, fel malwod, morgrug a
lindys.
Roeddwn wrth fy modd yno yn gwneud
ffrindiau newydd ac yn dysgu llawer am natur. Ond mae yn siom
nad yw’r clwb natur yn parhau. Hoffwn ddiolch i bawb am y profiadau melys!
5.9.13
Gorau arf, arf dysg
Awydd dysgu crefft newydd neu ddilyn diddordeb newydd? Neu'n gwybod am deulu di-Gymraeg sydd angen hwb ac anogaeth i ddysgu iaith y gymuned?
Meddwl am newid eich gyrfa efallai?
Beth am gofrestru ar un o gyrsiau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech, neu dynnu sylw teulu, ffrindiau, a chymdogion at y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael?
Dyma restr o'r cyrsiau lleol sy'n cychwyn y mis hwn neu'n fuan.
Dyma ddolen at wefan CAG Coleg Harlech.
GORAU ARF, ARF DYSG. Ewch amdani!

30.8.13
Rhamant Bro ar ddisg
Wedi colli un rhifyn arbennig?
Erbyn hyn gall bawb chwilio a phori trwy'r casgliad cyfa' o
RHAMANT BRO gan fod y gymdeithas wedi cynhyrchu disg efo pob rhifyn wedi'i sganio arno.Pob un erthygl, o bob un rhifyn, o 1983 hyd at 2012, mewn fformat hawdd i'w chyrraedd, a hawdd i'w gweld.
Credwch neu beidio, dim ond £5 yr un ydyn nhw! Maen nhw ar gael yn nosweithiau'r Gymdeithas (nesa: nos Fercher 18fed Medi, "O fewn cyrraedd" gan Dafydd Jones. Yn neuadd y WI am 7.15yh), neu gan Robin Davies y llywydd, Steffan a Vivian y golygyddion, Gareth yr ysgrifennydd -a chynhyrchydd y disgiau- ac aelodau eraill y pwyllgor.
Dyma flas o'r cynnwys:
Diolch i'r Gymdeithas Hanes a'i gwirfoddolwyr brwd am gymwynas arall.
Cofiwch y bydd rhifyn 2013 o Rhamant Bro allan ym mis Tachwedd.
Subscribe to:
Posts (Atom)