7.7.24

Côr y Brythoniaid yn dathlu

Bu Côr y Brythoniaid yn cynnal cyngerdd yn Lerpwl ar 13 Ebrill. Gwahoddwyd un o blant Lerpwl, DAVID WILLIAMS i fod yn Llywydd y Noson. Mae gan David [neu ‘DAI LERPWL’] fel yr adwaenwn o gysylltiadau â’r ardal. Roedd Dai a minnau’n gyd-fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin dros hanner canrif yn ôl. Trwy berthynas iddo, llwyddais i gael gafael ar ei anerchiad ar y noson. Teimlaf y byddai’r pytiau canlynol o ddiddordeb i ddarllenwyr Llafar Bro.   [Iwan M, Gol.]

Pan gysylltodd Dr Ben Rees â mi, ar ran Cymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi, yn gofyn imi a fyddwn yn barod i fod yn Llywydd y noson arbennig yma, cefais fy synnu ac roeddwn yn teimlo rhyw anrhydedd o gael fy ystyried ar gyfer y rôl.

Wel, dyma fi, ar ôl derbyn y cynnig. Sut allwn i ddim derbyn y cyfle i ddod yn ôl at fy ngwreiddiau, at fy milltir sgwâr, yma yn Penny Lane, lle cefais fy ngeni a’m magu....ac i ddweud y gwir, does na ddim llawer o bobl yn dweud ‘Na’ wrth Dr Ben.

Rwy’n teimlo’n freintiedig i fod yn llywyddu heno gyda’r côr arbennig hwn, sef Côr Meibion y Brythoniaid. Er mai hogyn o Penny Lane ydw i, mae gan fy nheulu gysylltiadau agos â Blaenau Ffestiniog, wel Tanygrisiau i ddweud y gwir. Yno yn Rhif 4, West End, Dolrhedyn cafodd fy mam ei geni a’i magu. A threuliais lawer o amser yno fel plentyn yn ymweld â fy Nain am wyliau yn yr Haf.
Tra yno, ar fy ngwyliau, byddwn yn ymweld ag Anti Jini, ail gyfnither fy mam, yn Nhŷ Capel Carmel a dyna lle des i ar draws byd y corau meibion am y tro cyntaf, gan fod Yncl Esli, gŵr Jini yn canu gyda Chôr Meibion y Moelwyn, a datblygais hoffter o gorau meibion ar ôl cael fy nhywys gan Yncl Esli i un o sesiynau ymarfer y côr.

Rwyf wedi cael cysylltiadau â chorau meibion dros y blynyddoedd oddi ar fy ymweliad â Chôr y Moelwyn, gan gynnwys tan y presennol.

Rwy’n cofio, wrth gwrs, Côr y Cymric ar Y Glannau, gyda sawl aelod o’r côr yn mynychu Capel Heathfield, fel roedd hi ar y pryd.

Roedd fy mam yn arfer cynnig llety i fyfyrwyr ac athrawon, y mwyafrif ohonynt yn dod o Gymru, a’r rhan fwyaf yn Gymry Cymraeg, ac yn eu plith roedd myfyriwr a oedd yn canu’r piano, o bryd i’w gilydd, fel cyfeilydd i Gôr Meibion Froncysyllte. Roedd un arall yn canu gyda Chôr Meibion y Rhos ac un arall oedd Dafydd, oedd yn canu gyda Chôr y Brythoniaid.

Yn fwy diweddar, roedd gen i gysylltiad gyda Chôr Meibion Prysor, gan fod ei harweinydd (ar y pryd), Iwan Morgan yn gyfaill i mi pan oedd y ddau ohonom yn fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, gydag un arall o’n cyd-fyfyrwyr yn canu efo Côr Meibion Taf.

Gan fy mod i’n byw heb fod ymhell o Lundain bellach, rwyf wedi cael y fraint o fynychu Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain, neu’r Mil o Leisiau, yn Neuadd Albert ar sawl achlysur.

Ond dyna ddigon am gorau eraill, beth am y côr sydd wedi ein diddanu yn yr hanner cyntaf heno, sef Côr Meibion y Brythoniaid? Maent yn dathlu trigain mlynedd (60) fel côr eleni, ar ôl iddynt sefydlu ym Mehefin 1964 gan Meirion Jones.


Ffurfiwyd y côr, yn anffurfiol, yn Mehefin 1964 gyda thua pymtheg o aelodau, er mwyn cystadlu mewn Eisteddfod fach leol yng Nghapel Hyfrydfa, Manod. Yn dilyn yr ymddangosiad hwnnw, aethant ati i sefydlu’r côr yn ffurfiol.

O’r cychwyn, mae cystadlu wedi chwarae rhan bwysig yng ngweithgareddau’r côr ac fe gafwyd ymddangosiad cyntaf y côr yn Eisteddfod Jiwbilî, Llan Ffestiniog yn 1965. Fe gawson nhw lwyddiant yn yr Eisteddfod honnon, ac maent wedi parhau i gystadlu o’r dydd hwnnw hyd heddiw.

Yn 1969, penderfynodd y côr gystadlu yn “yr un fawr” am y tro cyntaf, sef yr Eisteddfod Genedlaethol yn Fflint. Fe gawsant ei llwyddiant mawr cyntaf, gyda chanmoliaeth y beirniad yn destament i safon y perfformiad.

Y tro cyntaf i mi glywed y côr yn fyw oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971. Yno’r enillodd Côr Meibion y Moelwyn eu hadran ac yna, y Brythoniaid yn ennill y brif gystadleuaeth. Camp ddwbl i dref y Blaenau!

Nid cystadlu yn unig fu hanes y côr, wedi iddynt fynd ar daith lwyddiannus a hanesyddol y tu hwnt i’r ‘Llen Haearn’ gan ymweld â Hwngari. Bu iddyn nhw ymddangos o flaen panel o gerddorion mwyaf blaenllaw Hwngari a chael eu gwobrwyo â Diploma gan yr Academi Ddiwylliannol am eu perfformiad. Oddi ar y daith gyntaf hanesyddol honno, mae’r côr wedi teithio’n eang,  gan gynnwys teithio ddwy waith yn America, dwy waith yng Ngwlad Belg, dau ymweliad â Gŵyl Lorient yn ogystal â nifer o deithiau i’r Alban ac Iwerddon. Cafwyd llwyddiannau pellach yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1977, 1985, 2002, 2005 a 2016.

Mae’r côr wedi ymddangos ar y teledu nifer o weithiau ac wedi ymddangos ar lwyfan gyda rhai o berfformwyr gorau’r byd. Mae’r rhain yn cynnwys Dennis a Patricia O’Neill, Shirley Bassey a Bryn Terfel. Cyhoeddwyd nifer o recordiau a chryno ddisgiau hefyd, gyda Chwmni Recordiau Sain yn cyflwyno disg aur iddynt yn 1982 mewn cydnabyddiaeth o werthiant eu recordiau.

O’r Blaenau, tref y llechi,
Ac yn chwe deg oed eleni,
Maent wedi dod i Lannau Mersi
I ddiddanu a’n swyno ni.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024


Hanes Clwb Rygbi Bro- hydref 1994 i haf 1999

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur Gwynne Williams

Medi 1994
24ain Chwarae yng Nghwpan SWALEC an y tro 1af: Bro  28  v  Casllwchwr  29. Tîm R O Williams  / Keith Williams / Alwyn Ellis / Ken Roberts / Ian Hughes / Danny McCormick / Rob Atherton (c) / Kevin Humphreys / Ian Williams / Dick James  Dylan Jones / Dafydd Ellis / Glyn Jones / Glyn Jarrett / Gwilym James. Eillyddion- Alun Jones / Rhys Prysor / Mark Thomas / Dylad Thomas / Eurwyn Jones / Gareth Carter, (Ceisiau- Keith Williams / Ian Hughes / Ian Williams  / Ken Roberts. 4 Trosiad gan Danny) 

Hydref
Cwpan Prysg Whitbread Cymru: Harlech  20 v  Bro   12 (4 cic)

Chwefror 1995
Son am y tro 1af i symud Bro o’r Ddôl, Tanygrisiau i gaeau Dolawel

Mai
Cyfarfod  Blynyddol tymor 94-95
Trysorydd - taliadau yn fwy na derbyniadau o £14,725 / Clwb 200 £120. Cymdeithas 30 £2,681 / Costau - Taith Awstralia £25,042/ Aelodaeth -- £544 Ethol ar gyfer 1995/96       Cad Merfyn / Ysg Bryn Jones / Try Robin Davies / Tŷ Glyn/  Gemau Tony / Aelod Caradog / Ieu Michael / Cae Mike Osman /Hyff Eifion Griffiths/Eraill Dafydd Williams / Meurig Williams / John Jones / Bryan / Raymond Price / Tony Crampton.  Chwaraewr y Flwyddyn: Dafydd Jones; Chwaraewr Mwyaf Addawol: Ian Williams;  Chwaraewr Y Flwyddyn II: Elfyn Jones; Mwyaf Addawol II: Glyn Daniels; Chwaraewr Mwyaf Ymroddgar: Dafydd Ellis; Cais gorau: Alwyn Ellis; Clwbddyn: Tecs Woolway.

Mawrth 1996    
Tîm Llywydd Bro Ffestiniog 23 v Coleg George Cambell Durban 7
Dan 19vDan 19 De Affrica. Ceisiau Sion Jones / Aaron Jones / Gareth Hodson / Gari  Morris). Cyfarfod Blynydddol 95/96- Chwaraewr Y Flwyddyn: Dafydd Jones: Chwaraewr Mwyaf Addawol: Ifor Gorden Chwaraewr y Flwyddyn II: Glyn Daniels; Chwaraewr Mwyaf Addawol II: Sion Roberts; Chwaraewr Mwyaf Ymroddgar: Ken Roberts; Cais Gorau: Dewi Roberts; Clwbddyn: Tony Coleman
Trysorydd-  Derbyniadau yn fwy na taliadau o  £7567 / Aelodaeth £978 

Rhagfyr  
Dechrau gwaith ar y caeau  Brodyr Jones  (£390,000)

Ionawr 1997
Gwella Caeau Dolawel yn parhau

Mawrth
Pasg-Bro  29 v Deutscher Rugby Hannover  38. (Ceisiau Hayen / Rob Ath / Dyl Bwtch) (Danny efo cic a 2 drosiad) 

Mai
Cyfarfod Blynyddol 96/79   Capten y tîm 1af Rhys Prysor – Tymor weddol siomedig –llawer o anafiadau. Capten yr 2ail dîm Eurwyn Jones – Dim llawer o gemau am fod rhaid i chwaraewyr 2ail wedi mynd i’r tîm 1af. Hyfforddwr– Peter Jones – Dim digon yn ymarferion. Ieuenctid – Rygbi’r Ddraig yn llwyddianus – afallai bydd prifathro newydd Ysgol y Moelwyn yn fwy o gymorth. Gemau –Bryan – Gohirio llawer o gemau – bydd yn well tymor nesaf ail drefnu Cynghrair Gwynedd. Tŷ – Glyn –angen help yn yr haf gyda’r bar a rhai nosweithiau arbennig a’r golled. Aelodaeth– Dick -  111 Aelod  (£1,280) ond dim ond 18 chwaraewr. Trysorydd – Robin- Taliadau yn fwy na deryniadau o £4,060.  Cadeirydd –Merfyn –Roedd Cyngor Gwynedd eisiau ein adleoli –rhaid cryfhau y timau. Ethol 1997-98: Cad Merfyn / Is Gad Glyn C / Ysg Neville / Try Robin / Ty Glyn C/ Gemau Bryan / Aelodaeth Dick / Ieu Michael / Gwasg Gwynne / Cae Raymond. Eraill Brenin / Eurwyn / Keith Williams / Ifor Jones / Tony Crampton


Cais Swyddfa Gymreig am £1.98 miliwn -Gostwng i £1.7 miliwn. Roedd yn wreiddiol £800,000 – nawr yn £600,000 costau Clwb  Gweddill £1.1 miliwn - £390,000 caeau Dolawel – gweddill prosiectiau eraill. Barn Dŵr Cymru fod y cylferts yn addas. Chwaraewr y Flwyddyn: Rhys Prysor Williams; Clwbddyn Richard O Williams; Hyfforddwr tymor nesa- Alan Shields

Chwefror 1998
Cyngor Gareth Roberts Diffyg adnoddau –gwaith ar ei restr. Brenden Mc Conshie o Awstralia yn chwarae i Bro. 

Mai
Cinio Blynyddol- Gwesty Rhaeadr Ewynnol, Betws. Cyfarfod  Blynyddol 97/98. Trys: Taliadau yn fwy na derbyniadau o  £2112 /Aelodaeth -£1, 507. Ar gyfer tymor 1998 / 1999 Bro Cynghrair Gogledd a Canolbarth Cymru i Clybiau Iau

Hydref
Cystadleuaeth Rygbi’r Ddraig, Bro. Ennill Ysgol Hedd Wyn Traws 

Rhagfyr
Cinio Nadolig, Rhiwgoch, Trawsfynydd

Mehefin 1999
CYFARFOD BLYNYDDOL  1998-99 Trysorydd – Derbyniadau yn fwy na threiliau o £3,640/Aelodaeth - £1,361. Ethol ar gyfer 1999 / 2000 Cad Merfyn / Is Gad Alfyn Jones / Ysg Ifan Williams / Trys Neville Roberts. Tŷ Glyn / Gemau Bryan / Aelod Gwynne / Ieuenctid Michael a Graham; Cae Raymond Price / Hyff Alan Shields /Eraill Glyn Daniels / Keith Williams / Dick James / Kevin Hicks.


Y tro nesa: dechrau adeiladu’r tŷ clwb newydd ar Ddolawel.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024



6.7.24

Y Gymdeithas Hanes -mewn cymeriad

Yng nghyfarfod mis Ebrill o’r Gymdeithas Hanes, cafwyd noson wahanol! Yn hytrach na darlith am berson hanesyddol cafwyd sgwrs gan berson hanesyddol ei hun. 

Ymddangosodd Siân Roberts, Harlech fel Mrs Samuel Holland, wedi ei gwisgo yng ngwisg ganol y 19eg ganrif. Ei bwriad oedd rhoi hanes ei gŵr Samuel Holland gan gymryd rôl ei wraig. Mae cymeriadu fel hyn yn fwyfwy boblogaidd fel dull mynegi, yn enwedig i gyfleu hanes person. Mae Siân Roberts yn cymeriadu nifer o ffigyrau hanesyddol ac mae’n Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Harlech yn gweithio yn y byd twristiaeth ac wedi ei hyfforddi fel Tywysydd Bathodyn Glas Cymru. Yn hanu o Sir Y Fflint mae wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn.


Ganwyd Samuel Holland ym 1803 yn Lerpwl yn fab i Samuel a Katherine (née Menzies) Holland, a'i fedyddio yng Nghapel Presbyteraidd Paradise Street Lerpwl yn 1804. Roedd ei dad wedi buddsoddi yn helaeth yn y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion preswyl yn Lloegr a'r Almaen. 

Yn 18 oed yn 1821 fe'i danfonwyd i oruchwylio mewn chwarel lechi newydd ei dad yn Rhiw, Blaenau Ffestiniog ar dir a osodwyd ar rent gan William Oakeley, a bu fyw ym Meirionnydd am weddill ei oes. Bu’n rheoli'r chwarel hyd 1877 ac wedyn aeth y chwarel yn rhan o weithiau chwarel fawr yr Oakeley. 

Ei ail wraig oedd Anne Rose Robins (ein darlithydd ar y noson) a briododd Samuel ym 1850 yn Allesley, Coventry. Bu Samuel Holland yn aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Meirionnydd am 14 mlynedd gan ennill dwy etholiad yn gyffyrddus efo dros 60% o'r bleidlais a chael ei ethol yn ddiwrthwynebiad unwaith. Cofir am Samuel Holland yn bennaf fel un o arloeswyr y diwydiant llechi yn ardal Ffestiniog.

Bu yn un o'r prif gymhellwyr i adeiladu Rheilffordd Ffestiniog i gysylltu'r gweithfeydd llechi yn Ffestiniog a phorthladd Porthmadog. Yn ogystal bu hefyd yn un o brif gefnogwyr sefydlu Ysgol Dr Williams, ysgol fonedd i ferched yn Nolgellau gan brynu a thalu am y tir yr adeiladwyd yr ysgol arno fel rhodd i'r ymddiriedolwyr. Bu farw Rhagfyr 27 1892 yn 89 oed. 

Cofir am Samuel Holland a’i chwarel yn enw rhes o dai sydd islaw Fron Fawr sydd â golygfa wych i gyfeiriad yr hen chwarel uwchlaw tomen fawr chwarel yr Oakeley
 [TVJ]
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024


Senedd Stiniog -tai haf a baneri

Pytiau o newyddion Cyngor Tref Ffestiniog, o rifynnau Mai a Mehefin 2024

Yn dilyn llythyr ‘Cynllun Gwahardd Parcio Arfaethedig’ oddi wrth Uwch Beiriannydd Traffig Cyngor Gwynedd, daeth i’r amlwg fod cŵyn wedi ei wneud gan gwmni bws yn dweud bod trafferth mynd heibio ceir weithiau, ger y gyffordd rhwng Ffordd Glanypwll sy’n cysylltu Dinas a’r hen Ffordd Hosbitol (sy’n mynd heibio Cae Dolawel am y Gofgolofn).  Llythyr ydoedd yn gofyn os fyddai gan y Cyngor Tref unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun yn y lle cyntaf, ac os oedd unrhyw ffafriaeth neu opsiynau eraill am y sefyllfa ganddynt.  

Dywedodd Y Cyng. Peter Jones ei fod yn byw ger y gyffordd ac yn cydnabod bod problem parcio enfawr yn bodoli yno.  Dywedodd pan mae’r tai haf a’r Airbnbs cyfagos yn llawn, fod ceir wedi eu parcio ymhobman.  Y gofid mwyaf wrth gwrs ydi beth fyddai’n digwydd mewn argyfwng, ydi’r parcio yma efallai’n mynd i atal mynediad y gwasanaethau brys?  O ystyried hyn, penderfynodd y Cyngor gefnogi’r cynllun.  Mae’n beryg y bydd rhaid i’r Cyngor Sir geisio datrys y broblem – un ai drwy greu lle parcio pwrpasol fyddai’n rhedeg gyda ffens Cae Dolawel ar gyfer y tai ger y gyffordd, neu ymestyn y meysydd parcio bach wrth waelod allt Cae Baltic a Dinas dros ychydig o hen domen Rhiw.

Penderfynwyd derbyn rhodd, sef baner Llydaw gan gangen YesCymru Stiniog. Roedd y gangen wedi ei chael gan ymwelydd o Lydaw ac yn meddwl y byddai’r dref yn falch ohoni.  Roedd y Cyngor yn ddiolchgar iawn a phenderfynwyd ei chwifio ar Fai’r 19eg, er dathlu ‘Dydd Gwyl Erwan’, nawddsant ein cefndryd Celtaidd.

Baner Glyndŵr, a'r Gwenn ha Du. Diffwys, Mai 2024. Llun Paul W
 

Parhau mae’r ddadl i drawsnewid hen adeilad y Wynne’s Arms yng ngwaelod Manod. Daeth cais cynllunio arall gerbron y Cyngor gan y perchenog, Mr. J Fatimilehin (Joof Homes Ltd.) drwy ei asiant. Wedi i’r cynllun gwreiddiol gael ei wrthod, maent bellach wedi ychwanegu dogfen asesiad llifogydd at y cais ynghyd â newidiadau eraill, fel mynediad i’r safle ac ati. Nid y Cyngor Tref fydd yn penderfynu, ond Adran Cynllunio’r Cyngor Sir. Gydag unrhyw gais cynllunio, hoffai’r Cyngor Sir wybod beth yw barn y cynghorau lleol cyn symud ymlaen, ac er bod y Wynne’s bellach wedi troi’n hyllbeth, oherwydd y gwrthwynebiad i’r cynllun gan drigolion gwaelod y Manod, rhaid oedd awgrymu gwrthod y cais. Casglwyd deiseb gyda rhestr faith o enwau’n gwrthwynebu’r cynllun yno, felly rhaid oedd dilyn y dymuniad yn lleol.

Cafwyd Cyfarfod Anarferol er mwyn trafod safbwynt y Cyngor am Erthygl 4 ar gyfer ymgynghoriad Parc Cenedlaethol Eryri. Eleni, o Fedi’r cyntaf ymlaen, ni fydd yn bosib ‘newid defnydd cartref i ail gartref neu lety gwyliau tymor byr’, ‘newid ail gartref i lety gwyliau tymor byr a defnyddiau cymysg penodol’ neu ‘newid defnydd llety gwyliau tymor byr i ail gartref a defnyddiau cymysg penodol’ heb ganiatad cynllunio gan Gyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri (os bydd y Parc yn dewis ei fabwysiadu). Creu cymunedau cynaliadwy hirdymor ydi’r bwriad.

Fel y gwyddom, yn y Blaenau, mae cannoedd o dai haf ac airbnb’s yma, sy’n golygu bod prisiau tai’n aros yn uchel, ac o ganlyniad mae llawer ohonynt yn wag dros gyfnodau hir o’r flwyddyn. Maent wedi mynd yn rhemp drwy ein cymunedau. Torcalonnus yw gweld fidios wedi eu postio gan bobl ifanc ar y gwefannau cymdeithasol sy’n eu dangos o flaen y camera gyda’u pentrefi lleol yn y cefndir. Gan amlaf mae hi’n ddechrau gaeaf, yn fin nos a mae hi’n tywyllu a dim ond un neu ddau o’r tai sydd gyda golau yn ei ffenestri, y mwyafrif helaeth yn hollol dywyll a ddifywyd. Cymdeithas farw. Heb os, gall niferoedd uchel o lety gwyliau ac ail gartrefi fod yn fygythiad gwirioneddol i lewyrch cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cymunedau. Mecanwaith fyddai Erthygl 4 i alluogi gwell rheolaeth or stoc tai presennol.

Cynigodd y Cyng. Morwenna Pugh ac eiliodd y Cyng. Peter Jones bod y Cyngor yn argymell fod y Parc yn mabwysiadu Erthygl 4, a phasiwyd y cynnig yn unfrydol.

Yn y cyfarfod Mwynderau cafwyd ymateb o’r Cyngor Sir ynglyn â’r sefyllfa afiach ac anerbynniol o faw cŵn ar ein palmentydd. Roedd swyddog y Cyngor yn cydnabod fod y broblem i weld yn cynyddu yma er y patrolau Gorfodaeth Stryd rheolaidd a’r arwyddion rhybydd ayyb. Cytunai bod rhaid ceisio codi ymwybyddiaeth eto ac maent am ychwanegu at y nifer o finiau baw cwn yn yr ardal ac adnewyddu’r rhai sydd yma eisoes. Bwriedi’r hefyd cynyddu’r nifer o batrolau Gorfodaeth Stryd a threfnu i lanhau’r ardaloedd bytraf. Daw taflenni baw cŵn newydd toc hefyd fydd yn egluro bod y ddirwy am faeddu’n codi o £75 i £100.

 

7.6.24

Tocyn Unffordd i Lawenydd ac Annibyniaeth

Mwy o newyddion o gangen Bro Ffestiniog o'r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru

Roedd caffi Antur Stiniog yn llawn i’r ymylon eto ar nos Wener y 5ed o Ebrill, wrth i griw Yes Cymru Bro Ffestiniog gyflwyno’r olaf -am y tro- o’u nosweithiau o adloniant, diwylliant, a chwyldro. 

Hon oedd yr wythfed noson yng Nghyfres Caban; Gwyneth Glyn a Twm Morys oedd yn canu a diddanu’r gynulleidfa efo straeon difyr i gyflwyno pob cân, er enghraifft Tocyn Unffordd i Lawenydd a gyfansoddwyd am eu bod yn teimlo’r angen am gân hapus fel gwrthbwynt i’r caneuon gwerin trist a lleddf yn eu nosweithiau. 

Cafodd eu cân Jini dderbyniad arbennig; deuawd di-gyfeiliant yn seiliedig ar lythyr Hedd Wyn o’r ffosydd i’w gariad ym Mhantllwyd, Jini Owen. Hyfryd iawn. Yn rhoi sgwrs y tro hwn oedd yr awdur o ochrau Machynlleth, Mike Parker, yn cyflwyno syniadau difyr iawn am ffiniau ac annibyniaeth, ac yn darllen pytiau o’i lyfr diweddaraf ‘All The Wide Border’. Diolch i bawb am eu cefnogaeth eto. 

Bydd y gyfres yn ail-ddechrau ym mis Medi; gadewch i’r gweithgor lleol wybod pwy yr hoffech chi weld yn canu a sgwrsio nesaf!

Ar y 13eg o Ebrill ymunodd y gangen leol ag ymgyrch genedlaethol Yes Cymru i dynnu sylw at yr anhegwch fod yr holl incwm o diroedd y goron yng Nghymru yn mynd yn syth i drysorlys Llundain ac i deulu’r brenin, gan gynnwys incwm o gynhyrchu trydan dŵr a gwynt; pibelli dŵr a cheblau dosbarthu trydan; rhent pori, pysgota; trwyddedau i gloddio am lechi; ac yn y blaen. Mae hyn wedi ei ddatganoli i’r Alban, a senedd a phobol yr Alban sy’n cael dewis sut i fuddsoddi a gwario’r arian hwnnw! Mae cannoedd o aceri o dir y goron yn lleol; ni, pobl Cymru ddylia fod yn berchen ar y rhain, neu o leiaf yn cael elwa o’u hincwm.


Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol cyflym ac wedyn cwis hwyliog dan ofal Idris Morris Jones yn y Pengwern ar nos Iau y 9fed o Fai. 

 Mae’r faner a gawsom gan ymgyrch annibyniaeth Llydaw yn noson Caban Chwefror, bellach wedi ei throsglwyddo i’r Cyngor Tref i’w hychwanegu at eu casgliad rhagorol o faneri. 

Bu'r ‘Gwenn ha Du’ yn cyhwfan dros Sgwâr Diffwys am gyfnod o Ddydd Gŵyl Erwan ar y 19eg o Fai.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Mai 2024