Showing posts with label Ysgol Glanypwll. Show all posts
Showing posts with label Ysgol Glanypwll. Show all posts

23.2.20

Stolpia- castiau

Pennod arall o gyfres Hogiau’r Rhiw 1956-63, gan Steffan ab Owain

Y mae hi’n gofyn imi gamu’n ôl ychydig ymhellach na’r flwyddyn 1958 er mwyn adrodd yr atgofion nesaf gan mai yn Ysgol Glan-y-pwll y digwyddodd rhai o’r pethau hyn a groesodd fy meddwl yn ddiweddar. Os cofiaf yn iawn, gadewais yr ysgol gynradd tua 1957. Un o’r pethau hyn a ddaeth i’m cof wrth fynd am dro yn ddiweddar oedd gweld llwyni rhosod gwyllt a’r aeron coch arnynt, sef egroes, neu ‘mwcog’, fel y’i gelwir gan rai ohonom. Gelwid hwy  hefyd wrth yr enw ‘cig y brain’ mewn ambell ardal, gynt.

Llun- Paul W
Yn ddiau, bydd rhai ohonoch yn pendroni pam yr wyf yn sôn am y rhain mewn cysylltiad â’r ysgol. Wel, byddai amryw o’r plant yn hel mwcog ac yn eu hagor er mwyn cael yr hadau ohonynt, ac yna eu defnyddio fel powdwr cosi. Cofiaf i amryw o’r plant gael rhai i lawr eu cefnau gan yr hogiau mawr heb feddwl dim amdanynt nes iddynt ddechrau gwneud eu gwaith! Digwyddai hynny yn ystod y gwersi yn aml a’r athro yn methu a deall pam yr oeddynt i gyd yn gwingo, ac yn ceisio crafu eu cefnau. Do, mi gefais innau rai i lawr fy nghefn, hefyd.

Byddai ambell hogyn drwg yn rhoi pin bawd ar sedd ambell eneth a byddid yn clywed coblyn o sgrech dros y ‘stafell ddosbarth, ond gwae hwnnw os cai yr athro wybod pwy ydoedd.  Cofiaf un hogyn yn dod â bom ddrewi (stink bomb) i gowt yr ysgol un tro, ond ar ôl i’r prifathro John Ellis Williams glywed am y peth, a chael llond ffroen o’r oglau, ni fu yr un yno wedyn. Ymhlith rhai o gastiau drwg, neu driciau budur gan rai o’r hogiau, oedd rhai yn  rhedeg ar eich ôl a rhoi ‘coes fach’ ichi, sef cic pen-glin yn eich clun. Roedd hon yn gic boenus iawn i rai o’r hogiau llai. Hen dric sâl hefyd oedd dweud wrth un am afael yn ei botel lefrith a oedd yn dadmer ar y stof yn y gaeaf pan oedd gwaelod honno yn boeth. Yn ddiau, ceid llawer mwy o gastiau drwg ymhlith yr hogiau a’r merched y pryd hwnnw.

Pethau eraill y byddai rhai plant drwg yn ei wneud oedd chwarae triwant, a gwn am un achlysur lle gallasai hynny wedi bod yn dyngedfennol i dri o hogiau. Cofiwch, rwyf yn neidio’r blynyddoedd yn y rhan hon, ac i aeaf 1963. Roeddwn yn gweithio yn Ffatri Metcalfe y pryd hynny a phan glywais hanes y tri, ni fedrwn gredu’r stori. Fel eu bod o olwg pawb, anelodd y tri, sef TC a’r ddau gyfaill, BO a CT i fyny i Gwm Orthin a hithau yn rhew ac yn eira mawr. Wedi cyrraedd yno a threulio amser yn rhyfeddu at yr ysblander eiraog yn gorchuddio yr holl gwm, penderfynodd y tri gerdded ar draws hyd y llyn rhewedig o un pen i’r llall, ac nid hynny yn unig, bu’r tri yn neidio ar y rhew ynghanol y llyn.

Llun- Edward W. Roberts

Diolch i ragluniaeth fawr y nef na ddarfu’r rhew dorri oddi tanynt neu mi fyddai wedi bod yn amen ar y tri ac ni fyddai neb ag amcan daear ymhle i chwilio amdanynt. Y mae dau o’r hogiau hyn yn dal i fyw yn yr ardal ond y mae’r olaf wedi gadael y fuchedd hon ers sawl blwyddyn bellach. Chwithdod mawr ar ôl yr hen gyfaill. Ceisiwch ddyfalu pwy oedd y tri ?
-------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2020.


3.7.15

Bwrw Golwg -Ysgol Glanypwll

Erthygl arall o'r gyfres achlysurol sy'n edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, blynyddoedd cynnar un o hen ysgolion y fro, gan W. Arvon Roberts.

Dyma lun o ddosbarth o blant yn Ysgol Glan y Pwll, a dynnwyd yn 1894. Fel y gwyr y cyfarwydd saif yr ysgol brydferth hon mewn llecyn rhamantus iawn, uwchben Dyffryn Ffestiniog, ac yng ngolwg y chwareli.

Adeiladwyd hi yn 1878, ac agorwyd hi y flwyddyn ganlynol gan Mr Richards, curad Rhostryfan, Arfon yn ddiweddarach. Yn 1880 daeth G.J.Williams, arolygydd chwareli dan y llywodraeth, ac ysgrifennydd diddorol ar ddaeareg, ac ar Ffestiniog, i’w olynu. Y prifathro yn 1883 oedd E. Griffiths.


Yn 1894 pan dynnwyd y llun, ‘roedd yna dros 600 o blant ar gofrestr yr ysgol, 200 yn adran y bechgyn.

Cyfrifwyd Bwrdd Ysgol Ffestiniog yn un o’r goreuon yn y wlad bryd hynny. Rhoddai W.E.Oakeley, un o berchenogion y chwareli, £10 bob blwyddyn, yn symiau o £5; £3; a £2, i fechgyn a genethod ysgolion yr ardal.

Rhwng 1886 a 1894 enillwyd saith o bob deg o’r ysgoloriaethau gan fechgyn Glan y Pwll. Yn 1894, fel ar dri tro arall, enillont bob un. Plant y bumed dosbarth yn unig fyddai’n ymgeisio amdanynt. Yn ôl un gohebydd o’r wags:
“Roedd plant Ffestiniog yn rhai cyflym a deallus. Dysgwyd hwy i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg”.

Ysgol Glanypwll. Mehefin 2015; llun PW


------------------

Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Medi 2014. Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg trwy wthio'r ddolen isod.