Mae Blaenau Ffestiniog yn enwog am y tomennydd llechi. Ond mae’r tipiau ar ddwy ochr y A470 i’r gogledd o Ffestiniog yn newid. Mae mwy a mwy o Rhododendron ponticum yn ymledu drostyn nhw.
Wrth gwrs, gellid honni eu bod yn edrych yn wych ym mis Mai gyda’u blodau trawiadol piws. Ond yn anffodus, mae ‘na broblem!
Mae’r Parc Cenedlaethol wedi adnabod y Rhododendron fel un o'r rhywogaethau ymledol mwyaf trafferthus yn Eryri.
Rhaid pwysleisio, nad yw’r status quo yn opsiwn. Os na wnawn ni weithredu, nân nhw ymledu ymhellach ac ymhellach, hyd nes bod yr holl ardal yn frith o Rhododendron. Ydyn ni’n wir eisiau hynny?
Mi gafodd Rhododendron ei gyflwyno i wledydd Prydain o Iberia yn y deunawfed ganrif, fel llwyn addurniadol ond hefyd i ddarparu gorchudd ar ystadau hela. Yn anffodus, mae'n ffynnu yn hinsawdd llaith gogledd Cymru ac ers dros ganrif bellach, mae o wedi bod yn ymledu allan o reolaeth.
Mi all un planhigyn gynhyrchu hyd at filiwn o hadau bob blwyddyn.
Y broblem yw bod y planhigyn hwn yn wenwynig i fywyd gwyllt. Yn y flwyddyn 65 Cyn y Cyfnod Cyffredin, cafodd byddin Rufeinig o dan Pompey ei wenwyno fel eu bod nhw’n methu ymladd yn effeithiol, ar ôl bwyta mêl o wenyn a oedd wedi peillio planhigion Rhododendron. Heddiw mae'n lledaenu ar draws Eryri, gan ddisodli cynefinoedd brodorol sy'n cynnal cyfoeth o bryfed ac adar, fel y frân goesgoch a’r gôg, gyda chanopi trwchus na all gynnal llawer o fywyd gwyllt o gwbl.
Mae cyrff amgylcheddol megis Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Choed Cadw wedi gwario ffortiwn yn rheoli Rhododendron ponticum ar eu tir. Ond yma ar ein tomenni llechi, mae'n broblem wirioneddol. Oherwydd ansefydlogrwydd y llechi, nid yw’n hawdd mynd atyn nhw. Beth fedrwn ni ei wneud i reoli'r ffynhonnell enfawr o hadau yma, a allai ledaenu’r peryg yma i ardaloedd eraill? A fyddai modd i gyrff megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Llechwedd gydweithio i reoli’n Rhododendron? A fyddai modd plannu coed eraill, coed brodorol fel bedw yn lle?
Wrth baratoi’r erthygl hon, nes i ysgrifennu at nifer bobl a chyrff sy’n ymwneud â’r cwestiwn. Calonogol oedd derbyn neges yn ôl oddi wrth Michael Bewick, Rheolwr Gyfarwyddwr J W Greaves & Sons Ltd, sy’ biau Llechwedd yn pwysleisio ei fod o’n deall fod hyn yn fater pwysig a’i fod o’n hapus i wneud yr hyn a fedr wneud i’w ddatrys. Ychwanegodd fod profiad yn dangos fod y broblem hon yn anos i’w datrys nag y gall ymddangos ar y dechrau.
Mae Megan James, Swyddog Bioamrhywiaeth Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud:
“Credaf bydd y broblem o reoli Rhododendron ponticum yn y Parc yn cymryd sawl sefydliad ac unigolion i gyd-weithio efo'i gilydd ar les rhywogaethau brodorol Cymru.”
Ac mae hi’n ychwanegu:
“Credaf fod gobaith yma i weld newid a chynnydd yn y nifer o rywogaethau brodorol yn Eryri gan ffocysu ar waredu rhywogaethau ymledol fel Rhododendron ponticum.”
Mae Jennifer Heard o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn dweud:
“Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cydnabod bod Rhododendron ponticum yn broblem ar safleoedd ledled Gogledd Cymru... Rydym yn ymwybodol bod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwario tua £2.2 miliwn rhwng 2018 a 2024 ar ei reolaeth. Lle mae cyllid ar gael, dylid rheoli Rhododendron ponticum mewn modd strategol, gan ddefnyddio technegau arfer gorau fel y rhagnodir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Byddem yn argymell annog rhywogaethau coed brodorol i wladychu'r llethrau. Byddai bedw, fel gwladychwr cynnar, yn sicr yn briodol i ddechrau, ond efallai hefyd griafolen, collen a draenen wen. Gellid plannu rhywogaethau eraill fel derwen mes di-goes, helyg a phinwydd yr Alban lle mae amodau'n caniatáu. Fodd bynnag, efallai y byddai'n well gadael i'r rhywogaethau arloesol ymsefydlu'n gyntaf i wella amodau er mwyn ychwanegu rhywogaethau eraill yn y dyfodol. Hefyd, gan y gallai'r tir fod yn anodd ac o bosibl yn beryglus i weithio arno, efallai y byddai gwasgaru hadau yn hytrach na phlannu'n fwyaf priodol, gan adael i adfywio digwydd yn fwy naturiol. Mae rhai coed yn ymsefydlu'n naturiol (gan gynnwys rhywogaethau conwydd anfrodorol a allai fod yn annymunol) felly mae'n werth ystyried a ellir gwasgaru hadau cyflymu'r broses hon.”
Oes gennych chi, ddarlenwyr Llafar Bro, syniadau am hyn? Ydan ni eisiau’r planhigion hyn ymledu trwy’r ardal? Ac os nad ydan ni, beth ddylen ni wneud yn eu cylch?
- - - - - -
Erthygl (a llun) gan Rory Francis, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2026

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon