15.12.14

Y Rhyfel Mawr a Bro Ffestiniog

Rhan o gyfres o erthyglau gan Vivian Parry Williams yn cofnodi canmlwyddiant dechrau'r rhyfel mawr. Ymddangosodd y darn yma'n wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2014.

Er na chofnodwyd dim yn y papur lleol, Y Rhedegydd  am y digwyddiad, cafwyd hanes gwraig un o weinidogion yr ardal yng ngholofn newyddion Ffestiniog yn Y Genedl Gymreig ar 18 Awst 1914. Meddai'r erthygl: 'O Wlad y Gelyn: Bu Mrs Silyn Roberts, gynt o'r fro hon, ar ei hymweliad blynyddol a Germani, ond oherwydd y rhyfel, bu raid iddi ddychwel ar unwaith neu newynu a chael ei charcharu.'

Ychydig dros bythefnos wedi i Brydain ymuno â’r rhyfel, ar 22 Awst 1914 cynhwysid hysbyseb gan Ddirprwywyr Yswiriant Cymreig yn Y Rhedegydd oedd yn datgan na fyddai raid i rai oedd wedi cael eu galw i’r fyddin dalu ôl-ddyledion eu cyfraniadau. Petai gorchymyn i dalu yn cyrraedd y milwyr, neu’r teulu, fe’i cynghorwyd i anfon y llythyr yn ôl, gyda’r geiriau "Called-up" ynddo.

O’r cyfnod hwn ymlaen, fe ymddangosodd rhybudd arall yn rheolaidd, i'r holl ddynion o Feirionnydd a Threfaldwyn oedd wedi gwasanaethu yn unrhyw un o 'His Majesty’s Forces, Regular and Auxilliary', fynd i gofrestru ar gyfer y Fyddin Wrth-Gefn, (National Reserve). Gofynnwyd iddynt gysylltu â’u district commandant yn y gwahanol drefi yn y siroedd. I’r perwyl hwnnw, pen capten ‘Stiniog oedd y Dr Richard Jones, Isallt, a gydag ef, neu yn y Drill Hall yn y Blaenau y byddai’r dynion hynny yn ymrestru.

Roedd yr argyfwng yn achosi trafferthion mawr i’r chwareli, a’r oriau gweithio’n cael eu cwtogi ym mhob un ohonynt. Erbyn diwedd Awst, yr oedd wythnos waith Chwarel yr Oakeley i lawr i dridiau. Oherwydd hyn, roedd rheolwyr y chwarel yn annog y gweithwyr ifainc i chwilio am waith arall, neu i ymuno â’r fyddin neu Frigâd yr Ambiwlans. Fel y dywedodd gohebydd y Rhedegydd ar y pryd yn ei adroddiad ‘Effeithiau’r Rhyfel’, yn ieithwedd y dydd:
"...Parodd hynny don o brudd-der mawr trwy'r ardal a’r cylch, gan fod hon yn un o brif chwarelau lle y gweithia o 700 i 800, ac ofnir mai dyna fydd hanes rhai eraill o’r chwarelau, a hynny yn fuan."

(I'w Barhau)

Gwaith celf gan Lleucu Gwenllian.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon