23.12.19

Cadw'r Dref Werdd yn Daclus!

Daeth gwirfoddolwyr ym Mlaenau Ffestiniog at ei gilydd yn ddiweddar ar gyfer diwrnod casglu sbwriel cymunedol o amgylch y dref, gan gyd-fynd â ‘Diwrnod Glanhau’r Byd’, gwnaeth 15 gwirfoddolwr - yr ieuengaf yn 2 oed! - lwyddo i gasglu dros 20 bag o sbwriel yn ystod y dydd, a'u hymdrechion yn dangos sut y gall balchder bro wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymuned.


Dywedodd un o’r gwirfoddolwyr:
“Cefais fy synnu gan gymaint y gallai ychydig o wirfoddolwyr ei godi, mewn cyn lleied o amser. A hefyd, pa mor dda oedd yr ardaloedd yn edrych ar ôl yr holl sbwriel! Gwnaeth wahaniaeth GO IAWN. Ac roeddwn i’n teimlo'n dda wedyn hefyd. Es i allan y diwrnod wedyn i wneud ychydig mwy! Rwy'n mawr obeithio y gallwn adeiladu ar y digwyddiad, a chreu ysbryd o godi sbwriel, ac o gymryd balchder gwirioneddol yn ein tref wych."
Dywedodd gwirfoddolwr arall, Kati:
"Mae newidiadau mawr yn dechrau gyda chamau bach. Gallwn ni ddechrau glanhau'r Ddaear trwy lanhau ein cymdogaethau, traethau, coedwigoedd a pharciau lleol. Efallai na fydd yn ymddangos fel llawer, ond trwy helpu'ch cymuned, bob yn dipyn, rydych chi'n dod yn rhan o rywbeth llawer mwy - dyfodol gwell i chi'ch hun a'ch teulu. Byddwch yn effeithio newid a chreu yr hyn rydych chi am ei weld yn y byd! Ymunwch â'r mudiad, mae'n teimlo'n anhygoel".
Dywedodd y Cynghorydd Annwen Jones:
“Fel cynghorydd Sir a Thref ac aelod o fwrdd Y Dref Werdd, mae gweld yr holl deuluoedd allan yna’n gwirfoddoli i gadw strydoedd Blaenau yn lân, yn ysbrydoledig iawn. Mae'n dangos pa mor gymdeithasol a chefnogol yw ardal fel Blaenau. Mae casglu sbwriel cymunedol yn gwneud llawer mwy na chael gwared â sbwriel yn unig - maen dangos bod pobl yn caru eu cymuned, a gall ysgogi ac ysbrydoli eraill. Maen helpu i addysgu pobl am lygredd plastig, ac maen rhoi cyfle i ddod â phobl y gymuned at ei gilydd, i ddod i adnabod ei gilydd a chymdeithasu. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr ac i’r Dref Werdd am eu cefnogaeth."
Mae'r grŵp hwn o wirfoddolwyr yn edrych ar gychwyn grŵp cymunedol eu hunain i drefnu sesiynau casglu sbwriel rheolaidd a digwyddiadau eraill. Os hoffech chi gymryd rhan, yna cysylltwch â’r Dref Werdd:  meg@drefwerdd.cymru  neu ffôn: 01766830082
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2019


18.12.19

Newyddion Antur!

Mae’n sâff dweud fod y misoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn i Antur! Ond, heb os na oni bai, mae’n rhaid dweud mai’r uchafbwynt i ni fel cwmni oedd agoriad swyddogol Parc Beicio Antur Stiniog! 

Alan, aelod o Fwrdd Antur Stiniog, Steve, a Medwyn, rheolwr y ganolfan. Llun- Alwyn Jones
Un o enwogion y byd beicio lawr mynydd (ac yn arwr i Buds!) Steve Pete, oedd yn arwain y miri i agor y traciau newydd - a dros ddau gant o reidwyr yn ei ddilyn! Felly, ynghanol y sbri agorwyd pedwar trac beicio mynydd newydd yn swyddogol ar ein safle ar ddiwrnod bendigedig o braf yng nghanol mis Medi. 

Roedd y digwyddiad ei hun yn hollol ddoniol - roedd y reidwyr wedi gadael eu beics ar ben y mynydd, cyn cael lifft nôl lawr gan fysus mini Antur i waelod y traciau- a'r bwriad oedd i’r beicwyr redeg i fyny’r trac, cael hyd i’w beics a rasio’n ôl i lawr-  ond heb iddyn nhw wybod os oedd y beiciau wedi cael eu symud a’u cuddio - roedd hyd yn oed gêrs rhai o’r beiciau wedi cael eu newid, ac roedd hi’n bedlam llwyr ar ben y mynydd - ond yn y modd mwyaf hwyliog bosib! Sâff dweud fod pawb wedi cyrraedd y gwaelod yn ddiogel ac yn hapus!

Mae’n rhaid dweud fod y diwrnod yn ei gyfanrwydd wedi bod yn wych, a’r awyrgylch fel parti go iawn - hapus a hwyliog. Roedd digon o adloniant yno gyda cherddoriaeth byw gan Pasta Hull a set acwstig gan Anweledig, gweithgareddau paentio i blant, y criw Baa Baa Bar hyfryd yno yn cynnig diodydd, stondinau gwerthu nwyddau beicio a digon o fwyd ar y barbaciw. Braf oedd gweld cymysgedd o bobl leol, plant o bob oedran, a reidwyr o bob cornel o Brydain yn mwynhau'r diwrnod.
Un o lwybrau newydd y Cribau. Llun- Paul W
Mae’r pedwar trac newydd yn ein galluogi i ni fel menter gymdeithasol i adeiladu ar ein llwyddiant fel un o’r canolfannau beicio gorau yn Ewrop! Am y tro cyntaf mae ganddom drac ‘gwyrdd’ - sydd yn addas ar gyfer teuluoedd - felly, mae  rhywbeth ar gyfer pob aelod o’r teulu a phob math o feiciwr yma! 

Os hoffwch fwy o fanylion am yr holl draciau sydd ar ein safle, gallwch gysylltu â ni naill ai trwy ein tudalen Facebook, e-bost:  post@anturstiniog.com  neu ffonio Parc Beicio Antur ar 01766 238 007. Croeso cynnes i bawb bob amser!

Mae'r siop yn y Stryd Fawr bellach wedi ffarwelio â chadair a choron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898. Roedd hi’n bleser ac yn fraint eu cael yn Siop a Thŷ Coffi Antur dros yr haf. Galwodd llawer iawn o bobl heibio i’w gweld, a llawer iawn ohonynt o bob cornel o’r wlad! Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Ffestiniog ar ran pawb am gael eu benthyg - ond mwy na dim, mae’n hynod o bwysig i ni ddiolch yn fawr iawn i’r criw hynod wybodus ac annwyl - y Gymdeithas Hanes - am fod mor weithgar yn yr arddangosfa hanes (ac am helpu ein staff yn y caffi i roi gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr i’r dref! Be fysa ni’n neud hebddoch chi ar adegau prysur?!).

A sôn am arddangosfa, braf oedd rhoi cartref i Ŵyl Gelf Calon Gwynedd dros yr haf hefyd, ac arddangosfa Gwilym Livingstone Evans - mae yna gyfoeth o dalent yma’n lleol a chymaint o hanes i’w arddangos a’i rannu.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn eto - fel da ni’n neud dro ar ôl tro - oes 'na fodd i ni gael Canolfan Treftadaeth bwrpasol yma yn y Blaenau? Gobeithio’n wir…

Wel, dyna ni am rwan, ond peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os hoffwch – neu'n well fyth, dowch i fyny am frecwas gwych gan Val a Siân yng nghaffi Parc Beicio Antur (dydd Iau-dydd Llun) a dowch i mewn i weld yr hyfryd Tanwen a Ronwen am banad a chacan yn ystod yr wythnos yn Siop a Thŷ Coffi Antur ar y Stryd Fawr- croeso cynnes bob amser i bawb.
 -----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2019



9.12.19

Gwaith Archaeolegol Llys Dorfil

Crynodeb o'r chwilio a chloddio gan Bill a Mary Jones.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Mr Bleddyn Thomas, Fferm Cwmbowydd, y  tirfeddianwr, am y caniatâd a’i gefnogaeth ddi-ffael gyda’r fenter, hefyd yr holl wirfoddolwyr.

Un o'r pethau cyntaf y ddaethon o hyd iddo oedd postyn, a oedd yng nghanol y safle; roedd yn arogli'n gryf o greosôt. Roeddem wedi meddwl ei symud, ond gwnaethom sylweddoli ei fod yn rhan o hanes y safle ac o herwydd hyn roedd yn rhaid ei gofnodi.
            
Ar ôl peth ymchwil, darganfuwyd ei fod yn un o'r polion trydan cynharaf a ddaeth â trydan i Flaenau ac i chwarel y Foty. Darganfuwyd hefyd ynysyddion trydanol porslen a oedd yn rhan hanfodol or broses. Ym 1889-90 adeiladodd Cwmni Pŵer Yale orsaf gynhyrchu trydan ar lan orllewinol afon Goedol sef Dolwen (SH 6940043874). Cyn hyn, nwy oedd yn goleuo’r Blaenau.

Y darganfyddiad diddorol nesaf oedd nad oedd lleoedd tân yno, yn y wal nag ar lawr. Mae'r ffaith hon, yn ogystal â darganfod wal gefell o amgylch yr adeilad dwyreiniol, a grisiau mynediad sy'n mynd trwy'r ddwy wal, yn brawf nad oeddent yn aml-gyfnod, yn awgrymu adeilad llawer hŷn.

Mae'r waliau hyn yn awgrymu eu bod wedi'u hadeiladu ar gyfer amddiffyniad yn hytrach nag yn erbyn y tywydd. Yr unig adeilad sy'n rhan o'r categori hwn, yw Tŷ Tŵr, a adeiladwyd o ddechrau'r 15fed ganrif i'r 17eg ganrif. 









Defnyddiwyd cerrig orthostat yn Llys Dorfil, a gosodwyd tua 50% o'r cerrig ar eu cyllith mewn ffos er mwyn sicrhau sefydlogrwydd.

Mewnlenwyd cerrig llai yn ogystal â chlai rhwng y ddwy garreg. Aeth y math hwn o adeiladwaith allan o ffasiwn tua'r 15fed ganrif.







Darganfwyd garreg golyn - mae hon eto'n ein galluogi i benderfynu oedran yr adeilad - mae hon yn garreg gyda soced lle symudodd colyn y drws. Cafwyd hyd i rai tebyg yn y Brochs yn yr Orkneys.



Cistfaen Llys Dorfil


Daeth yn amlwg fod tair carreg i'r gorllewin o Lys Dorfil yn anghyson ar tirwedd, yn yr ystyr eu bod yn gogwyddo o'r dwyrain i'r gorllewin ac o’r gogledd i’r de.


Fe benderfynwyd cloddio o amgylch y dair carreg, ac ar ôl ychydig darganfuwyd garreg arall i'r de, a oedd wedi syrthio o’i safle gwreiddiol, neu efallai wedi cael ei symud gan fedd-ladron. Roedd y bedair carreg yn ffurfio cist, un metr sgwâr, gyda charreg tua hanner tunnell ar ei phen. Roedd llawer o wahanol awgrymiadau am yr hyn y gallai fod. Ond penderfynwyd mai cistfaen ydoedd, a gwnaed yr holl waith archeoleg gyda hynny mewn golwg.

Codwyd y gapfaen gyda bloc a thacl. Cloddiwyd y tu mewn i’r bedd a chadwyd samplau ohono i’w ddadansoddi. Ni ddarganfwyd unrhyw arteffact, arwahân i rywfaint o fater ffibrog, du, ar ffurf esgyrn. Mae mesuriadau'r gistfaen yn awgrymu crymgladdiad: crouch burial.


Pan welwyd y mater ffibrog yn y bedd roedd rhai o'r farn mai gwreiddiau coeden ydoedd; rhagdybiaeth deg.

Pe bai'r sylw wedi bod yn gywir, mi fuasai olion y gwreiddiau yng ngweddill y safle. Ni ddarganfuwyd ddim y tu allan i’r bedd. Awgrymai hyn fod y mater ffibrog yn rhywbeth arall.

Gorchuddiwyd cistfeini fel arfer a charnedd o bridd a cherrig. Fe gliriwyd yr uwchbridd o amgylch y gistfaen, ac oddi tano roedd haen o gerrig.

Wrth i'r cloddio ddatblygu, daeth cloddiau o glai, darnau bach o lechi, graean a cherrig llyfn o’r afon gyda marciau crafu arnynt i’r golwg, roedd y rhain yn hollol annisgwyl mewn carnedd.

Hefyd, darganfuwyd wal gron wedi cwympo yn amgylchynu'r bedd. Roedd y pethau hyn yn awgrymu fod un o gytiau’r Gwyddelod wedi ei leoli yma. Mwy na thebyg yn dyddio i adeg cyn Crist.


Fe wnaethom ailfeddwl ein strategaeth, a dod i'r canlyniad mai'r hyn yr oeddem yn ei gloddio mewn gwirionedd oedd tŷ crwn a oedd â bedd ynddo.

Yna aethom ati i ehangu ein gwaith cloddio i geisio sefydlu maint y tŷ crwn. Roedd y wal gron hon yn amlwg iawn yn y gogledd, y de a'r gorllewin, ond ddim mor amlwg yn y dwyrain.



------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2019. Mae mwy o'r hanes yn rhifyn Rhagfyr.

                                                                


5.12.19

Mewn pob daioni mae gwobr

Pytiau am Eisteddfod Genedlaethol gofiadwy i rai o Fro Ffestiniog.

Ein braint ni yma yn nalgylch Llafar Bro ydi cael llongyfarch dau o breswylwyr y dref ar eu buddugoliaethau yn Adran Farddoniaeth prifwyl gofiadwy Dyffryn Conwy eleni.
Bu’n Eisteddfod gofiadwy iawn i Vivian Parry Williams am sawl rheswm.  Na, nid am lunio limrigau y daeth i’r brig y tro yma, ond am gyfansoddi chwe thriban – ‘Chwe Esgus’. Dyma’r un agoriadol:
Ar ran eich holl aeloda’
derbyniwch f’ymddiheuriada’
am fethu ffeindio’r ffordd i’r cwrdd –
mae’r hwrdd ‘di bwyta’r mapia’.
Sgiwsiwch V’ oedd ei ffug-enw gwreiddiol, ond fel ‘Ap Machno’ yr adwaenir o yn yr orsedd o hyn ymlaen.

Dafydd a Vivian efo'u tystysgrifau. Llun- PW


Am gerdd ‘wedi’i llunio o chwe phennill telyn’ dan y teitl ‘Lleisiau’ y cipiodd Dafydd Jones, Bryn Offeren wobr.
"Dyma fardd â dawn i greu darluniau byw o fywyd cefn gwlad ac sy’n gallu tynnu lluniau a’u portreadu i greu stori cymdeithas fel yn ‘Dan y Wenallt’ ...” 
meddai’r beirniad, Andrea Parry am waith ‘Twrog.’

Dyma flas un ohonyn nhw:
Haul yn machlud dros y Gelli,
Sŵn y byd yn araf dewi,
Lleisiau’r plant wrth bont Llain Mafon,
Lluchio cerrig mân i’r afon.
Cawsom fwynhau ambell gerdd gan Dafydd yn y golofn hon sawl gwaith dros y blynyddoedd.
-Iwan Morgan; Rhod y Rhigymwr, Medi 2019.
----------------------------------------

Cydnabyddiaeth deilwng i ddau o’r Fro

Llongyfarchiadau mawr i Ap Machno a Padrig o Gynfal ar gael eu hurddo i'r wisg werdd Gorsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Mae cyfraniad Vivian Parry Williams a Patrick Young i ddiwylliant yr ardal a thu hwnt, yn haeddu’r clod a ddaw efo anrhydedd pennaf cenedl y Cymry.



Gwych! Mewn pob daioni mae gwobr.






Llongyfarchiadau hefyd i Robin Jones, Trawsfynydd gynt, a dderbyniwyd i’r wisg las am gyfraniad oes i waith gwirfoddol ar lawr gwlad.
-----------------------------------

Celf
Llongyfarchiadau i Lleucu Gwenllian ar ddylunio’r lluniau i gyd yn llyfr diweddaraf Myrddin ap Dafydd, ‘Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy’.

Mae’n edrych yn wych!

Roedd yr Archdderwydd a Lleucu yn lansio’r llyfr gyda chymorth plant Ysgol Ysbyty Ifan yn Nhŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod.

Mae’r llyfr ar gael yn Siop yr Hen Bost!


(Adolygiad Bethan Gwanas)










---------------- 
Pytiau o rifyn Medi 2019



1.12.19

Wyth Ffair Llan

Erthygl o'r archif

Efo lwc a bwyd llwy, bydd ffair yn y Llan am flynyddoedd i ddod.  Ond, fel y dywedodd cyfaill wrthyf yn ddiweddar, nid yw Ffair Llan fel y bu.  Wrth i mi ysgwyd pen a chydweld ag ef gofynnodd imi pa mor bell yn ôl y cynhelid ffair yn y Llan.  Arweiniodd ei gwestiwn fi i chwilota’r gist yn y ty acw am ychydig o’i hanes.


Efallai mai’r peth cyntaf y dylid ei ddweud am Ffair Llan neu Ffair G’langaea’ (Tachwedd 13) ydyw nad hon oedd yr unig ffair a gynhelid yn Llan Ffestiniog yn y dyddiau a fu.  Na, cynhelid cymaint ag wyth ffair y flwyddyn yno ar un adeg.  Fodd bynnag, cyn dweud mwy am hynny, soniaf am hynafiaeth y ffeiriau yn gyntaf.

Synnwn i ddim nad oedd rhai o ffeiriau’r Llan yn dyddio mor bell yn ôl a’r unfed ganrif ar bymtheg – os nad ychydig cynt.  Serch hynny, nid oes gennyf gyfeiriad at gynnal ffeiriau yno cyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg.  Yn dilyn ceir rhestr o’r ffeiriau a gynhelid yno yn y flwyddyn 1699 yn ôl Almanac Thomas Jones yr Amwythig:

1)    Y Gwener ar ôl y Drindod
2)    Awst 11
3)    Medi 15.  Newidiwyd y dyddiad i Fedi 26 ar ôl y Calendr yn 1752.
4)    Hydref 8.
5)    Tachwedd 15 (yr hen G'langaeaf). Newidiwyd i Dachwedd 13 ar ôl 1752.

Erbyn 1751 roeddynt wedi ychwanegu dwy ffair at y rhai uchod, sef un ar Fai 14, a’r llall ar Fehefin 21.  Yn ôl Almanac John Prys am y flwyddyn 1755, ac ar ôl cymryd 11 o ddyddiau allan o’r Calendr, ceid y ffeiriau canlynol yn y Llan:-

1)    Mai 24.
2)    Dydd Gwener ar ôl y Drindod
3)    Gorffennaf 2
4)    Awst 22
5)    Medi 26 (Ffair wyl Grog).
6)    Hydref 19
7)    Tachwedd 13

Yn yr hyn a elwir ‘Cyfaill Distaw’ yn Almanac Caergybi am 1807 rhestrir wyth o ffeiriau o dan Llan Ffestiniog.  Rywbryd rhwng 1776 ac 1807 roeddynt wedi sefydlu ffair ar Fawrth y 9fed – a byddai’r saith uchod i’w chanlyn.

Erbyn 1834 roedd ffair Gorffennaf 2 wedi ei symud i Fehefin 20.  Ac eithrio hon, cadwodd y gweddill at yr un dyddiad am flynyddoedd lawer.  Yn ôl Almanac y Miloedd am 1930 roedd saith ffair y flwyddyn yn dal i gael eu cynnal yn Ffestiniog.  Os yw hyn yn gywir, bu farw chwech ohonynt mewn ychydig flynyddoedd felly. 

A chymryd hyn i ystyriaeth mae’n syndod bod gennym ffair o gwbl yn Llan Ffestiniog heddiw.
---------------------------------

Ymddangosodd yr erthygl yma -heb y llun- yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1986.

[Os taw chi oedd yr awdur, gadewch inni wybod, fel y gallwn gydnabod eich gwaith. 

Hefyd, holwyd am fanylion y llun uchod yn rhifyn Mawrth 2016, ond ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth. Gyrwch air os wyddwch pwy oedd y ffotograffydd, neu pwy sydd yn y llun.

Diolch, Gol.]