Rho ychydig o dy hanes yn y byd rygbi hyd yma.
Nesi ddechra‘r siwrna ym Mlaenau Ffestiniog, Clwb Rygbi Bro Ffestiniog!
Yna ymlaen i chwarae i glwb rygbi Dolgellau gan bod tîm y merched yn y Blaenau wedi tynnu allan o’r gynghrair. Ar ôl blwyddyn yn fanno cefais dreialon i’r Scarlets a chael fy ngweld gan dîm Cymru dan ugain a’u cynrychioli ddwy waith. Yn anffodus cefais annaf eithaf drwg i’m mhen-glin felly allan o rygbi am flwyddyn a hanner ar ôl dwy lawdriniaeth.
Pan oedd hi yn amser dod yn ôl, oedd rhaid newid clwb unwaith eto! Clwb Rygbi Caernarfon y tro hwn! Cael fy ngweld gan y Scarlets eto a dechreuais chwarae rygbi saith bob ochor. Cefais wahoddiad i dîm saith bob ochor Cymru yn 2015 a dyma lle dechreuodd yr holl drafeilio lawr yr A470!! Ac ambell drip dramor: Rwsia, Dubai, Yr Iseldiroedd...

Yn 2016 cefais fy nghap cyntaf yn erbyn yr Eidal yn ystod y Chwe Gwlad. Dwi wedi cystadlu mewn Cwpan y Byd yn 2017 ac hefyd wedi bod yn rhan o 4 cystadleuaeth Chwe Gwlad. Fues i yn y tîm merched cyntaf Cymru i gystadlu ar y “World Series Circuit” ym Mharis yn 2018. Ac hefyd dwi wedi bod yn rhan o garfan cyntaf merched RGC yn 2017 ac yn edrych ymlaen i barhau i fod yn rhan ohono ac i ddatblygu gêm y merched yn y gogledd.
Be ydi’r cynlluniau at y tymor nesa, a sut mae mynd ati i baratoi?
Dydi ymarfer i fi byth yn stopio! Byddaf yn mynychu’r gym ddwywaith neu dair yr wythnos i neud sesiwn codi pwysau ac yn cadw i fyny hefo ffitrwydd yn wythnosol. Dwi wedi dechrau ymarfer “pre-season” hefo RGC a bydd y gemau yn cael eu chwarae drwy mis Awst. Yna mi fyddai yn symud yn ôl i chwarae hefo clwb (heb arwyddo i neb eto. Mae dau opsiwn genai ac angen penderfynu).
Diwedd mis Medi byddwn yn mynd yn ôl i ymarfer efo Cymru i baratoi am gemau rhyngwladol yr hydref.
Wyt ti’n dal yn awyddus i gystadlu yn y gêm saith-bob-ochor hefyd? Be sydd ar y gweill?
Dwi’n awyddus iawn i chwarae dros fy ngwlad bob amser sydd yn bosib.
Cefais fy newis i chwarae saith bob ochor ym mis Ebrill: Yr Iseldiroedd oedd y gystadleuaeth cyntaf ac yn anffodus colli yn y gemau cyn derfynnol yn erbyn tîm o Awstralia.
Yn anffodus roedd rhaid i mi rhoi stop ar ymarfer a chwarae oherwydd roedd trio gwneud popeth (gweithio 37 awr yr wythnos; ymarfer yng Nghaerdydd ddwywaith yr wythnos ac adref x3, a chael amser efo teulu a ffrindia) yn ormod i mi. Roedd gwneud y penderfyniad yn un anodd iawn. Mae cael chwarae dros fy ngwlad yn meddwl y byd i mi, ond er lles fy hun mae cymryd amser i ffwrdd yn gwneud lles weithia.
Mae proffil rygbi merched wedi codi’n aruthrol yn y flwyddyn neu ddwy ddwytha, pa mor bwysig ydi cael sylw gan y cyfryngau a chefnogaeth dda gan gefnogwyr yn ystod gemau?
Mae’n grêt bod gêm y merched yn cael bach fwy o sylw. Mae’r merched i gyd yn gweithio’n galed iawn i gyrraedd y safon uchaf posib. Ac hefyd yn gweithio llawn amser/rhan amser neu yn astudio yn y coleg.
Trwy gael cefnogaeth gan y cefnogwyr, dyma sydd yn helpu symud y gêm ymlaen. Trwy godi ymwybyddiaeth y gêm, mae fwy o ferched ifanc yn cymryd rhan yn y gêm sydd yn golygu fwy o gystadleuthau ac hefyd yn golygu safon gwell. Gan obeithio mewn bach o flynyddoedd bydd gêm y merched yn Nghymru hefyd yn gallu bod yn broffesiynol. Bydd hyn yn gwella perfformiad y gêm oherwydd bydd fwy o amser cyswllt i ymarfer fel sgwad ac hefyd amser ymadfer sydd hefyd yn bwysig iawn. Ar hyn o bryd fy amser ymadfer i ydi teithio fyny ac i lawr yr A470!
O ran y gêm gymunedol, a dyfodol clybiau lleol fel Bro Ffestiniog, pa mor bwysig ydi datblygu rygbi ym mhob oedran ymysg merched? Sut mae dy waith di fel swyddog datblygu yn plethu i mewn i hyn?

Fedrai ddim pwysleisio pa mor bwysig i’r clybiau ydi hyn. Ia i gêm y merched, ond hefyd i’r bechgyn. Mae swyddog datblygu rygbi yn cael ei gyflogi gan URC i’r clwb ac hefyd ysgolion y fro. Mae hyn yn gyfle gwych i ddisgyblion gael blas o chwarae’r gêm. Mae wedi gwneud gwahaniaeth o fewn y flwyddyn, ac mae’r gwaith mae o yn ei wneud yn arbennig. Hefyd mae Cerys & Leigh yn neud lot o waith cymunedol hefo’r merched (Gwylliaid Meirionydd) mae’r merched wedi cael nifer o brofiadau oherwydd y ddwy yma. Mae angen fwy o bobl i wirfoddoli er mwyn i ddisgyblion y fro cael profiadau.
O ran rygbi, dwi’n cyd-weithio hefo URC ac yn mynychu digwyddiadau o amgylch gogledd Cymru ac ambell un yn y de. Dwi’n trio neud gwahaniaeth, a rhoi cyfleoedd gwahanol i blant a phobl ifanc.
Mae’r sesiynau hyfforddi merched yn yr oedrannau iau a ieuenctid i’w weld yn ffynnu yn lleol, wyt ti’n meddwl bod digon o dalent a diddordeb yma i gynnal tîm merched eto yn y dyfodol?
Mae’n grêt i weld y merched yn cael y siawns i ymarfer rygbi mor ifanc. A dwi’n gobeithio fydden nhw dal i gario ymlaen am flynyddoedd i ddod...
Dyna ydi un o fy mreuddwydion, cael gorffan fy ngyrfa rygbi yma yn Bro Ffestiniog. Nesi ddechrau yma 14 o flynyddoedd yn ôl. Felly daliwch ati ferched gan obeithio nai’i neud hi i mewn i’r garfan mewn ychydyg o flynyddoedd!!
Pwy yn y byd rygbi –yn chwaraewyr neu’n hyfforddwyr- ydi dy arwyr di?
Mae’r cwestiwn yma’n codi’n aml, does dim un person sydd yn sefyll allan i mi. Ond mae nifer o unigolion sydd wedi helpu fi gyrraedd lle ydwi heddiw. Teulu a ffrindia; hyfforddwyr a chwaraewr gwahanol yn ystod y blynyddoedd. Felly mae’n anodd dewis un person.
Oes gen’ ti uchelgais i hyfforddi ar y lefal uchaf yn y dyfodol?
Hyfforddi... Dwi heb feddwl mor bell ymlaen a hyn! Dwi dal i fwynhau chwarae felly gobeithio cael gwneud am rai blynyddoedd i ddod.
Dwi’n hyfforddi o ddydd i ddydd hefo gwaith ac hefyd yn gwirfoddoli hefo clusters yr URC. Cymryd rhan yw’r nod a chael hwyl felly mae’n hollol wahanol i hyfforddi ar lefel uchel.
Diolch Jess. Mae Llafar Bro yn falch iawn o dy lwyddiant. Pob lwc yn y dyfodol. PW
------------------------------------
Ymddangosodd fersiwn fyrrach o'r uchod yn rhifyn Gorffennaf 2019.
Cofiwch am y cyfweliadau eraill yn y gyfres. Cliciwch ar ddolen Trafod Tictacs.
(Rhaid dewis 'view web version' os yn darllen ar ffôn)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon