14.8.19

Sgotwrs Stiniog -Ceffyl Gwyn, Plu Llwyd

Pennod o gyfres Emrys Evans o'r archif:

Mi fum am dro o gwmpas y ddau Lyn Gamallt, ac yna ei chodi hi i fyny at Lyn Ceffyl Gwyn.  Dyna’i enw ar lafar, ond Llyn Bryn Du ydi’o ar y map.  Gofynnais innau pam, tybed, yr oedd o’n cael ei alw’n Llyn Ceffyl Gwyn?

Trawodd Tecwyn Fron Dirion, arnaf ychydig yn ôl a dweud iddo glywed mai y rheswm am hynny ydoedd i ryw bregethwr fod ar daith rhwng Ysbyty Ifan a Llan Ffestiniog ac yn marchogaeth ar geffyl gwyn ac iddo drwy ryw anffawd, beth bynnag a achosodd hynny, fynd i drafferthion wrth y llyn ac i’r ceffyl foddi ynddo.  Ers hynny cyfeiriwyd at y llyn ar lafar fel ‘Llyn Ceffyl Gwyn’.

Llawer o ddiolch Tecwyn.  Oes yna rywun arall a fedr roi rhywfaint mwy o fanylion ynglyn â’r digwyddiad tybed?

*********

Dro yn ôl bum yn holi am batrwm pluen, sef ‘Llwyd Corff Main’.  Gweld cyfeiriad ati hi a wneuthum
yn llyfr y diweddar Barch Griffith Parry. Ymhen ychydig derbyniais lythyr oddi wrth Eurwyn Roberts, y cawiwr plu o Ddolwyddelan, yn rhoi imi y patrwm, ac ar ben hynny yn amgau y bluen ei hun.

Dyma y mae Eurwyn yn ei ddweud yn ei lythyr am y bluen ‘Llwyd Corff Main’:
“Yr wyf wedi bod yn gwneud llawer o’r patrwm yma i gyfaill a fydd yn pysgota Llynau Mymbyr yng Nghapel Curig.  Yr wyf yn credu ei fod yn pysgota’r Afon Llugwy efo’r bluen yma hefyd.  Nid wyf yn siwr o lle daeth y patrwm, ond mae patrwm yr un fath yn y llyfrau Saesneg – ‘Blue Upright’.  Efallai fod y patrwm yma’n cael ei defnyddio ym Methesda ..”
Mi fydd hi’n rhaid imi holi rhai o ‘Hogia Bethesda’ pan ddaw cyfle gan y bu’r Parch Griffith Parry yn Weinidog yno am gyfnod yn y pumdegau. Rwy’n ddiolchgar iawn ichi am anfon ataf Eurwyn, ac hefyd yn falch o gael enghraifft o’ch gwaith yn cawio.

Dyma batrwm y bluen ‘Llwyd Corff Main’:
Bach         12
Cynffon    Fel y traed
Corff         Cwil o gynffon paun.  Dim cylchau
Traed        Llwyd-las, neu liw mwg fel y mae ambell i un yn ei ddweud am y lliw yma.
Cawio’r corff yn fain iawn, a gwneud y bluen i gyd yn ysgafn.

Crybwyllodd y Parch Griffith Parry bluen arall yn ei lyfr, sef ‘Llwyd Mawrth’.  A oes rhywun yn gwybod beth ydi patrwm honno?
--------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 1988

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon