2.11.13

Gwyl rhif 6

Darnau o rifyn Hydref, efo hanes y band arian a'r Brythoniaid yng ngwyl gerddorol Portmeirion.

SEINDORF yr Oakely:



Ers dros chwarter canrif bellach bu’r band yn diddori ymwelwyr ym Mhortmeirion ar brynhawniau Sul trwy gydol yr haf gyda channoedd yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau eu cerddoriaeth.  Yn goron ar hynny eleni  cafwyd gwahoddiad yn ôl ddiwedd yr haf i berfformio yn y pentref hudolus hwn yng ngŵyl No.6.  


 Cafodd yr Oakeley groeso penigamp gan y gynulleidfa o filoedd yn curo dwylo a ddim am i’r band dawelu!  Ar ôl y perfformiad bu cyfle i’r aelodau ymlacio i fwynhau gweddill yr ŵyl.  Penwythnos o adloniant gwerth chweil.

Gŵyl Gelfyddydau’r Bermo: Braint arall i’r Oakeley oedd cael agor Gŵyl Gelfyddydau'r Bermo ddechrau mis Medi.  Cafwyd cyngerdd mawreddog a’r band yn brif westai yn agor yr ŵyl yn Theatr y Ddraig, Bermo.

Jazz:  Y drydedd ŵyl i’r band fod a chysylltiad â hi eleni oedd Gŵyl Jazz Abersoch ar ddiwedd mis Medi. Daeth nifer fawr i wrando ar y band yn chwarae  yng nghanol y pentref a phawb  i weld yn mwynhau a chael hwyl.

COR y BRYTHONIAID:

Roedd y croeso a gawsom yn fyddarol, yn gymysgfa wallgo o floeddio a chymeradwyo, yn ddigon i synnu hyd yn oed aelodau mwyaf profiadol y Côr - profiad bythgofiadwy! Dyma ddechrau gyda’r gân a ddaeth a’r Côr i amlygrwydd ym Mhortmeirion yn 2012, sef “Blue Monday”. Croesawyd y gân gyda bonllef wrth i’r gynulleidfa adnabod y cordiau agoriadol, ac yn fuan roedd ‘na  lawer o siglo a dawnsio egnïol - rhywbeth eithaf anghyfarwydd i’r Côr! 



Wedi’r fath ddechreuad gwych aeth y Côr o nerth i nerth, gyda phob cân yn cael derbyniad gwresog a gwrandawiad hynod werthfawrogol. I ddarfod y noson fe ganodd y Côr eu caneuon newydd a safodd y dorf are eu traed. 

Roedd y profiad yn un gorfoleddus i bob aelod o’r Côr, yn un a fydd yn aros yn y cof am gyfnod maith. 

Ar ddiwedd tri pherfformiad roedd y Côr uwchben eu digon, ac er iddynt berfformio pedair noson yn olynol ni chlywyd neb yn cwyno nag yn edliw. Dyma brofiad fydd yn aros gyda ni am hir iawn!
 

28.10.13

Antur

Darn allan o rifyn Hydref 2013 am ganolfan feicio Antur Stiniog.

A tra dwi wrthi am feicio:
Buds- llun Alwyn Jones

llongyfarchiadau mawr 
i reolwr y prosiect beicio, Adrian Bradley, ar ddod yn
bencampwr Cymru unwaith eto. Cyrhaeddodd y newyddion yn rhy hwyr ar gyfer rhifyn Hydref. Go dda Buds, dal ati!




Canolfan Feicio Lawr Allt Newydd 
Antur Stiniog


Rhai wythnosau’n ôl agorwyd adeilad newydd yn Nhalwaenydd ar gyfer y cyhoedd a beicwyr yn arbennig. 

Antur Stiniog sydd biau’r adeilad a dyma ei Ganolfan Beicio Lawr Allt … ac mae croeso i bawb ddod am baned … beiciwr ai pheidio! 


Llun Tecwyn Vaughan Jones
Ceir croeso cynnes gan Siân a Nia a hwyrach y bydd Medwyn yna hefyd …   


Llun TVJ



18.10.13

Pigo tyllau yn nadleuon y bwrdd iechyd

Mae rhifyn Hydref allan, ac yn llawn o erthyglau, newyddion, cyfarchion a lluniau eto.

Mae'r rhifyn yn rhoi lle amlwg eto i'r ymgyrch i adfer gwasanaethau llawn yn yr ysbyty coffa.

Mae'r Pwyllgor amddiffyn yn egluro ar y dudalen flaen a thu mewn, yn UNION be maen nhw'n feddwl o waith y bwrdd prosiect lleol. 

Darllenwch yn llawn yn Llafar Bro, ond dyma flas o'r erthygl:




Y pedair egwyddor bwysicaf yng ngolwg y Bwrdd Prosiect oedd y rhain --
(i)                 ‘Cael gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol yn yr un lle.Gan y gwyddom eisoes mai’r bwriad yw symud y feddygfa hefyd i’r ‘lle’ hwnnw, sef adeilad yr Ysbyty Coffa, yna rhaid gofyn beth fydd ar ôl yn y Ganolfan Iechyd bresennol a beth yw cynlluniau’r Bwrdd ar gyfer yr adeilad hwnnw? Nid ei werthu meddan nhw heddiw, ond be am fory? 
(ii)               ‘Canolbwyntio ar atal salwch a lles’: Syniad gwreiddiol yn wir, sef cael gwasanaeth iechyd a fydd yn canolbwyntio ar gadw pobol yn iach! Onid atal lles pobol yr ardal oedd gneud i ffwrdd â’r Uned Mân Anafiadau a’r Uned Pelydr-X , a gwrthod derbyn cleifion i’r Ysbyty Coffa? A sut, meddech chi, bod colli dau feddyg o’r practis lleol yn helpu i atal salwch?
[Er gwybodaeth, doctoriaid Penrhyndeudraeth a gafodd y contract o ofalu am Ysbyty Alltwen ac fe wyddom fod y practis hwnnw wedi elwa’n sylweddol ers hynny oherwydd mae gan bentref Penrhyndeudraeth, erbyn heddiw, gymaint â phump o ddoctoriaid yn cynnig eu gwasanaeth, o gymharu â dim ond dau yn y cylch hwn!]
(iii)             ‘Cynnwys uned addysg i ddatblygu sgiliau cymuned’: Be ar y ddaear mae hwnna’n feddwl, meddech chi? Ai awgrym sydd yma nad ydi’n nyrsys ni ddim wedi bod yn datblygu eu sgiliau ar hyd y blynyddoedd?
(iv)              ‘A’r potensial ar gyfer datblygu ymhellach yn y dyfodol’: Ys dywed y Sais – ‘Enough said!’
Aeth yr erthygl ymlaen wedyn i ddyfynnu Dr Bill Whitehead, Cyfarwyddwr Prosiect a Chadeirydd y Bwrdd. ‘Os bydd ein cynlluniau’n llwyddo’Os’, sylwch, nid Pan! – bydd Blaenau Ffestiniog yn dangos y ffordd ymlaen i weddill Cymru.’ Rhaid bod y dyn yma, efo gradd Rhydychen tu ôl i’w enw, yn meddwl ein bod ni’n ddiniwed ar y naw os ydi o’n disgwyl inni lyncu rhyw addewidion ac ystrydebau gwag fel’na. ‘Rhaid edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl,’ meddai. Ia, hwylus iawn, o gofio mai fo a’i debyg a fu’n gyfrifol am y sefyllfa drychinebus rydan ni ynddi, bellach.


Hefyd yn rhifyn Hydref, mae'r Pigwr yn rhoi ei farn yn berffaith glir:


Llun PW
Yn dilyn ymddiswyddiad tri o aelodau blaenllaw, bradwrus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a fu'n gyfrifol o'r penderfyniad i gau'r Ysbyty Coffa leol, daeth cwango newydd i rym.   

Ond, ddarllenwyr annwyl, os ydych yn disgwyl newidiadau syfrdanol i'r gwasanaeth iechyd, neu'n gobeithio gweld ailsefydlu rhywbeth tebyg i'r hyn a fu ar gael i gleifion yr ardal dros y blynyddoedd, meddyliwch eto. Yn lle'r hyn a ladratwyd oddi wrthym mor greulon gan y diawliaid dideimlad hynny ym mis Mawrth, cynigir rhyw destun gwawd o wasanaeth eilradd ar ein cyfer. 

Mae Gwasanaethau Hamdden Gwynedd (be wnelo'r rhain â'r gwasanaeth iechyd, dyn a ŵyr) am gynnal Dosbarth atal codymau ar b'nawniau Mercher. Ac o fis Hydref ymlaen, mi fydd rhaglen 'Bwyd Doeth' yn dechrau, unwaith yr wythnos. Hwre!! Mi fydd hynny'n siŵr o wella'r holl gleifion sy'n diodde' o amrywiol anhwyldera, ac yn disgwyl ers misoedd am wely mewn ysbyty! Be fydd cynllunia' chwyldroadol nesa'r bartneriaeth tybed? Dobarthiada' tidliwincs i'r henoed, neu glinic Bingo trwy gyfrwng y Gymraeg, fel modd i ymlacio, ac i anghofio am holl broblemau gofal iechyd ym Mlaenau Ffestiniog?