Y Gymdeithas Hanes
Daeth y Dr Dafydd Gwyn atom ar 25ain Chwefror i roi darlith ar ‘Chwareli Llechi y tu allan i Brydain’. Rydym yn byw mewn ardal sydd wedi bod yn ganolog i hanes cloddio llechi’r byd ac fe gynhyrchodd chwareli llechi Cymru 40% o’r llechi hynny! Mae cysgod y chwareli wedi bod yn drwm ar hanes Stiniog a thebyg na fyddai tref yma o gwbl oni bai am y diwydiant llechi.
Crëwyd cymunedau unigryw, uniaith Gymraeg, yn yr ardaloedd llechi yng ngogledd Cymru nas gwelwyd erioed o’r blaen ac mae’r cymunedau hyn bellach yn waddol i’r diwydiant hwn…. Mae’r trefi wedi crebachu o ran poblogaeth ond rydym yma o hyd ac wedi addasu yn gymunedau ôl-ddiwydiannol.
Roedd ein darlithydd yn arbenigwr ar chwareli llechi a hefyd y rheilffyrdd a’r tramiau oedd wedi eu creu i hwyluso symud llechi a gwastraff, ac roedd gwastraff mawr yn y diwydiant hwn fel mae’r holl domennydd yn ei ddatgelu!
Roedd Dr Dafydd Gwyn yn aelod o Fwrdd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog rhwng 2006 a 2016, gyda chyfrifoldeb am gyswllt â Chymdeithas Rheilffyrdd Ucheldir Cymru. Yn 2016 fe'i penodwyd yn Ymddiriedolwr Cwmni Rheilffordd Ffestiniog.
Fe'i ganed a'i fagu'n rhannol ym Methesda, ac mae'n raddedig o Brifysgolion Caergrawnt a Choleg y Drindod, Dulyn. Mae'n byw ym Mhen-y-groes, ac yn ennill ei fywoliaeth fel archeolegydd annibynnol ac ymgynghorydd treftadaeth. Mae'n awdur sawl astudiaeth mewn archaeoleg o'r oes ddiwydiannol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn hanes ac archaeoleg rheilffyrdd cyn 1840.
Mae hefyd yn Gadeirydd Rheilffordd Llyn Tegid a bu’n un o’r arbenigwyr fu yn dadlau dros gael cydnabod ardaloedd llechi Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ac fel rhan o’r ymgyrch cyhoeddwyd, yn 2015, lyfr arloesol Dafydd Gwyn sef Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes (ceir fersiwn Saesneg o’r llyfr yn ogystal) gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Mae’r llyfr yn sôn am dirwedd llechi gogledd orllewin Cymru ac yn y llyfr mae modd i chi weld, darllen a deall pob cam o’r diwydiant cloddio yn well na mewn unrhyw fan arall o’r byd. Y chwareli enfawr, pyllau dwfn, ceudyllau a thomennydd anferthol; melinau prosesu; systemau trafnidiaeth yn cynnwys inclêns serth, ffyrdd, rheilffyrdd a phorthladdoedd; cymunedau wedi eu creu ar gyfer y gweithlu a thai crand y perchnogion; defnydd o’r cynnyrch terfynol o’n cwmpas ym mhob man.
Ar y noson, cawson glywed am ei ymchwil i ardaloedd cynhyrchu llechi led led Ewrop a’r Unol Daleithiau. Soniodd am leoliadau'r chwareli hyn ac roedd cysylltiadau agos wedi bod a rhai o chwareli gogledd Cymru ac ardaloedd cloddio llechi gogledd America megis Granville ar y ffin rhwng taleithiau Efrog Newydd a Vermont. Dangosodd luniau o’r chwareli hyn a sôn am y gwahanol dechnoleg oedd gan yr ardaloedd hyn i gloddio a thrin y llechi a sut o oedd y llechi yn cael eu symud a’u gwerthu. Ac roedd y prosesau hyn yn amrywio. Roedd ei wybodaeth yn llifo ac yn diddori ac roedd yn bleser gwrando arno. Noson lwyddiannus arall i’r Gymdeithas.
-
Heno cyhoeddwyd fod 'Cymdeithas Bro Ffestiniog' wedi darfod. Bu’n weithgar yn yr ardal hyd at ddyddiau Cofid pan ddaeth y gweithgareddau i ben a methwyd a’i hatgyfodi ar ôl saib o rai blynyddoedd. Mabwysiadodd y Gymdeithas hon enw’r Gymdeithas Gymraeg a ddaeth i ben rai blynyddoedd yn ôl a chynnig darlithoedd a nosweithiau yn Saesneg. Mae wedi gadael gwaddol ariannol a phenderfynodd pwyllgor y Gymdeithas gyfrannu £200 i’r Gymdeithas Hanes … ynghyd â rhoddion i rai cymdeithasau eraill, a Llafar Bro. Mynegodd ysgrifennydd y Gymdeithas Hanes, Gareth Tudor Jones, ei ddiolch i Gymdeithas Bro Ffestiniog am eu rhodd.
TVJ.
- - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026
.jpg)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon