6.4.26

Gwneud y Pethau Bychain

Wrth ddweud ei bod yn braf cael ymuno yng Nghyfres Caban YesCymru Bro Ffestiniog, soniodd y canwr Arfon Wyn am ei obaith i efelychu’r gyfres a chynnal digwyddiadau tebyg ym Môn hefyd. Mae mor bwysig ‘gwneud y pethau bychain’ meddai, a hithau’n benwythnos Gŵyl Ddewi, i ddod at ein gilydd i ganu a thrafod. Dathlu ein treftadaeth a’n traddodiadau, a chadw’r ymgyrch am annibyniaeth i Gymru yn amlwg ym meddyliau pobl.

Hon oedd ail-noson-ar-bymtheg y gyfres, yn awyrgylch hyfryd Tŷ Coffi Antur Stiniog, ac yn ôl yr arfer, mi gawsom sét fer o ganeuon gan y cyfansoddwr-ganwr i ddechrau, ac un arall i gloi’r noson. “Rhywbeth hwyliog i gychwyn” meddai, “er mwyn cael c’nesu efo chydig o gyd-ganu”, a bwrw iddi efo Ar Lan y Môr. Bu chwerthin yn y gynulleidfa wrth iddo egluro ei fod wedi ychwanegu pennill am ysgariad -difôrs- i adlewyrchu’r byd modern!

Mi gawsom lawer o’i glasuron -rhai wedi bod yn llwyddianus yng nghystadleuaeth Cân i Gymru dros y blynyddoedd, fel Cae o Ŷd (2000) a geiriau’r gytgan dal yn berthnasol heddiw efo’r hil-laddiad erchyll ym Mhalesteina: ‘Mae sŵn y gynnau’n tanio/Dal i’w clywed yn y nos...’ 

Harbwr Diogel (2002) yn un arall adnabyddus; ond cafwyd ambell un llai cyfarwydd hefyd, fel Ni Welaf yr Haf, a ddaeth i’r brig ym 1979 pan oedd yn aelod o’r grŵp Pererin. Difyr oedd clywed ei brofiadau yn y byd cerddorol, a hanesion difyr a digri, wrth gyflwyno’r caneuon.

Yn dilyn egwyl fer, mi gawsom sgwrs ddifyr tu hwnt gan y bardd a’r awdur Haf Llewelyn. Un a fagwyd ar fferm Graig Isaf ym mhen uchaf Cwm Nantcol, dafliad carreg o Fwlch Drws Ardudwy a dalgylch Llafar Bro. 

Mae gen’ i feddwl y byd o Stiniog” meddai, o’r dyddiau pan oedd yn dod i weld ‘y dyn llygaid’ yma. Soniodd Haf am gefndir hirhoedlog ei theulu yng Nhwm Nantcol, a’r newid enfawr sydd wedi dod i Ardudwy ers ei phlentyndod. Mae’n cofio’r plentyn di-Gymraeg cyntaf yn cyrraedd Ysgol Llanbedr, sy’n anodd credu erbyn heddiw tydi, ac yn gwaredu na chafodd unrhyw air o hanes Owain Glyndŵr, tra oedd yn Ysgol Ardudwy. Ysgol sydd yng nghysgod Castell Harlech fu’n gartref a phencadlys yr arwr a’i deulu am gyfnod yn ystod ei wrthryfel. 

Erbyn hyn mae hanes a threftadaeth yn agos iawn at ei chalon a’i hangerdd yn pefrio trwy ei gwaith- mae’n awdur nifer fawr o lyfrau plant, a nofelau i oedolion.

 

Mi enillodd ei nofel hanesyddol am Hedd Wyn -Diffodd y Sêr- wobr Tir Na N-og yn 2014. Darllenodd ambell gerdd deimladwy iawn o’i chyfrol o farddoniaeth, fel Llwybr y Pererin (ger Gellfechan, Ardudwy), sy’n dechrau fel hyn: 

Unwaith ar y llwybr hwn bu’r brodyr, ac eithin melyn Mai 
yn cydio ym mhlygiadau eu brethyn llwyd; a thybiais imi eu gweld
yn datod rywfodd rubanau’r niwl dros y Sarn, gan adael
Enlli’n gryndod yn y gwres – a’r môr cyn lased medden nhw,
A mantell sidan Branwen gynt.

Noson arbennig arall o adloniant, diwylliant, chwyldro! Dim ond un arall sydd i ddod yn y gyfres yma, a hynny ar nos Wener olaf mis Mawrth (27ain). Mae hanes yr actor/canwr/cyfarwyddwr theatr Arwel Gruffydd yn ein diddanu efo ambell gân a darlleniad, ac yn cael ei holi gan Ffion Dafis yn rhifyn Ebrill. 

PW
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026