11.2.23

Blwyddyn o eithafion tywydd

Crynodeb o dywydd Stiniog yn 2022 gan Dorothy Williams

Bu 2022 yn flwyddyn o eithafion tywydd: gwres a sychder eithriadol misoedd yr haf, stormydd fis Chwefror a thymheredd is na’r rhewbwynt ar nifer o ddyddiau yn hanner cynta’ mis Rhagfyr. 

Efallai mai nodwedd penna’r flwyddyn ar ei hyd oedd bod pob mis, ar wahân i fis Rhagfyr, â thymheredd uwch na’r cyfartaledd arferol. Yn wir, cychwynnodd y flwyddyn gyda thymheredd anarferol o uchel ar ddydd Calan 2022 gyda thymheredd o 13.6°C.

Bysedd haul. Llun- Paul W

Er y glypder yn ail hanner mis Rhagfyr, bu y flwyddyn ar ei hyd yn sychach na’r blynyddoedd diweddar. Cafwyd cyfanswm o 87.5 modfedd (2222.5mm) o law yn ystod y flwyddyn sydd yn is o gryn dipyn na’r cyfartaledd diweddar.

Yn ystod y 37 mlynedd ers imi gadw cofnod yng Nghae Clyd, ddwy flynedd yn ôl yn 2020 y cafwyd y glawiad blynyddol uchaf o ddigon, 136.8 modfedd (3,475mm). Yn wir, mae’r ffigwr ar gyfer 2022 yn torri ar dueddiad ers tua diwedd yr 1990au o lawiad cynyddol uchel.

Bu Chwefror yn fis arbennig o stormus pan gafwyd tair storm a enwyd sef Eunice, Dudley a Franklin i gyd o fewn cyfnod o wythnos. Er i Blaenau osgoi’r gwaetha o’r effeithiau, cafwyd llifogydd, colli trydan a difrod i adeiladau mewn llawer ardal. Dywed gwyddonwyr, gan fod y tymheredd byd eang yn codi, gallwn ddisgwyl i stormydd o’r fath fod y norm yn y dyfodol. 

Un o nodweddion pennaf y flwyddyn ddiwethaf oedd y sychder a gafwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst pan gafwyd 25 modfedd (628mm) o law yma yn ystod y 6 mis, hanner y flwyddyn. 

Tybed faint ohonoch aeth i olwg Tryweryn yn ystod y cyfnod a gweld olion pentref Capel Celyn? Bûm yno eleni a chofio inni ymweld â’r lle yn ystod sychder haf poeth 1989.

Llyn Celyn, 29ain Awst 2022. Llun -Paul W

Nodwedd arall o’r flwyddyn yw’r cyfartaledd tymheredd uchel a gafwyd yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Ym Mhenarlâg, ar Orffennaf 17eg, cafwyd y tymheredd uchaf erioed i’w gofnodi yng Nghymru sef 37°C. Ar yr un diwrnod, cawsom ninnau 31°C. Cawsom 2 ddiwrnod ym mis Mehefin lle ’roedd y tymheredd dros 25°C a 5 o ddyddiau ym mis Gorffennaf, a 5 eto ym mis Awst. 

Daeth Rhagfyr i mewn yn wrthgyferbyniad llwyr â gweddill y flwyddyn gyda rhew ac eira yn hanner cynta’r mis. Cawsom eira ar 9fed a'r 10fed a dangosodd Rhagfyr ei ddannedd wrth i’r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt ar 6 o ddyddiau gyda isafbwynt  -3°C ar Ragfyr y 15fed. 

Un o’r dyddiau rhyfeddaf oedd y 18fed o Ragfyr (yn ogystal â bod yn ddiwrnod ffeinal Cwpan y Byd!) gyda'r tymheredd yn codi yn drawiadol yn ystod y dydd, 1.5°C ar ei isaf i 11.5°C ar ei ucha’ a hynny mewn ychydig oriau. Dyma gyfnod y dadmer sydyn gyda llawer yn dioddef pibellau’n byrstio.
Blwyddyn Newydd dda ichi gan obeithio am ddigon o dywydd dymunol yn ystod 2023.
- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2023
 
Mwy o erthyglau am dywydd Stiniog

1 comment:

  1. Anonymous13/2/23 10:40

    Erthygl hynod o ddifyr, a phwysig yn hanes ein bro. Diolch yn fawr Dorothy.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon