4.8.24

Dymor hud a miri haf

Rhan o Golofn Olygyddol Rhifyn Gorffennaf-Awst 2024

Oes pwrpas cwyno am y tywydd? Yn sicr, byddai’n braf peidio gorfod cwyno, ond argian lle mae’r haf arni dwad?

Mi ges i’r fraint yn ddiweddar o ymweld ag un o’n merched ni dramor, a chwyno ei bod yn rhy boeth oeddwn yn fanno. Fel’na mae, a fel’na bydd hi mae’n siwr! 

Machlud ar Nyth y Gigfran ac awyr draeth dros y Moelwynion. Llun Paul W

Rhyw deimlad o fod rhwng dwy stôl ydi golygu rhifyn yr haf yn aml iawn, mae’r cymdeithasau wedi tawelu tan yr hydref, a’r pêl droed a rygbi rhwng dau dymor. Tydw i ddim yn medru adrodd ar ddigwyddiadau fel Gŵyl Car Gwyllt, hynt y Brythoniaid yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, na chanlyniadau’r Etholiad Cyffredinol gan eu bod yn digwydd tra mae’r rhifyn yn y wasg; bwlch o ychydig ddyddiau sy’n teimlo’n boenus o hir i olygydd ar ôl gweithio ar y rhifyn dros benwythnos ac i oriau mân y bore. 

Wrth yrru’r erthyglau i’r wasg, wyddwn i ddim be fydd ffawd y ddau Gymro sy’n cystadlu yn y Tour de France eleni, na helyntion ein cymdogion dros Glawdd Offa yng nghymalau olaf yr Ewros, er fy mod yn gwybod sut hoffwn i bethau fynd! 

Un o elfennau diflas yr ymgyrch etholiadol oedd gweld newyddiadurwyr a chyfryngau seisnig yn gofyn i gynrychiolwyr Cymreig os ydyn nhw’n cefnogi tîm Lloegr gan na lwyddodd Cymru i gael llwyfan. Ymgais ddiog a di-ddychymyg i greu sefyllfa ddadleuol. Bron na fedrwch chi deimlo degau o filoedd o lygaid yn rowlio o Fôn i Fynwy! Pam ar y ddaear eu bod nhw mor despret am ein cefnogaeth ni beth bynnag? Ta waeth: rhywbeth arall nad oes fawr o bwrpas colli cwsg drosto.

Oherwydd fod bob dim rhwng dau dymor, gall fod yn denau am newyddion ar gyfer rhifyn yr haf; dyddiau’r cŵn. Y silly season. Ond dwi’n falch o gyflwyno’r rhifyn yma i chi gan obeithio y gwnewch chi fwynhau’r erthyglau a’r lluniau a’r posau.

Mae rhai wythnosau cyn y rhifyn nesa ym mis Medi [dyddiad cau 30 Awst]. Be’ am fynd ati i feddwl am eitemau -hir a byr- i’w cynnig i Llafar Bro..? Tydi’n papur bro ni yn ddim byd heb eich newyddion a’ch cyfarchion a’ch erthyglau chi. Diolch bawb.

Gan obeithio y cawn ni haf o ryw fath; daliwch i gredu!
Paul

Dymor hud a miri haf
Tyrd eto i’r oed ataf,
A’th wyddfid, a’th hwyr gwridog,
A’th awel chwyth haul a chlog.
        R.Williams Parry; Yr Haf.