12.7.25

Llwyddiannau Eisteddfodol!

CADAIR PANTYFEDWEN 

Llongyfarchiadau gwresog iawn i Iwan Morgan, awdur ein colofn fisol ‘Rhod y Rhigymwr’ - a golygydd rhifynnau Mai a Mehefin o Llafar - ar ei lwyddiant arbennig yn ennill cystadleuaeth y Gadair yn eisteddfod fawr Pontrhydfendigaid eleni. 

‘Ynys’ oedd y testun a dewis Iwan fu llunio cyfres o gerddi yn hel atgofion - y dwys a’r digri - am ei ymweliadau â’r Ynys Werdd, a hynny dros sawl blwyddyn bellach, a’r cymeriadau hynod y bu iddo fo a’i gyfeillion eu cwarfod yno. Dyma fel mae’n cychwyn -

     Ynys Werdd y gerdd a’r gân,
     hi yw’n nefoedd a’n hafan,
     Yno dychwelwn ninnau – at griw ffraeth
     a miri odiaeth hen gymeriadau. 

 

Mae Iwan yn cynganeddu’n hynod o rwydd a llithrig; hyd yn oed yr enwau Gwyddelig! Fel ag yn y llinell hon, er enghraifft -‘Am Dun Laoghaire o Gaergybi ar gwch’  - a derbyniodd glod haeddiannol am ei gamp gan y prifardd Twm Morys yn y feirniadaeth o’r llwyfan! Does ond gobeithio y caiff darllenwyr Llafar Bro gyfle buan i ddarllen mwy na’r pigion byr sydd yma. 

Iwan hefyd a enillodd gystadleuaeth yr englyn, ar y testun ‘Cwrdd Gweddi’, a dwi’n cymryd yr hyfrdra o ddyfynnu hwnnw’n ogystal –

Yn wylaidd, ymdawelu - yma wnawn
Mewn hwyl i gysylltu,
A deialwn yn deulu
I alw’n Tad ar lein y Tŷ.

Ia, tipyn o gamp!
Geraint Vaughan Jones
- - - - - - - 

TLWS YR IFANC EISTEDDFOD MÔN
Mae’n fraint eto’r mis yma cael llongyfarch y ferch ifanc amryddawn o Drawsfynydd - Elain Rhys Iorwerth. Ei champ lenyddol ddiweddara oedd ennill Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Môn, Bro Seiriol a gynhaliwyd yn ddiweddar. 

Y dasg a osodwyd i’r llenorion ifanc oedd cyflwyno dau ddarn o waith creadigol yn cynnwys y ffurfiau canlynol - stori fer, dyddiadur, cerdd, portread, monolog, ymson neu bennod gyntaf o nofel.

Dyma ddwedodd y beirniad, Nia Haf, wrth ddyfarnu’r Tlws i  Elain am y ddau ddarn llenyddol a gyflwynodd i’r gystadleuaeth - Byw yn y Gorffennol a Llanw:

‘Dyma dwi am eu gwobrwyo yma - storïau sy’n teimlo fel ffrind yn siarad hefo fi, storïau go iawn, yn iaith pob dydd pobl arbennig ein hardal ni. Yng nghasgliad Myfi Aran dwi’n teimlo’r bywyd go iawn ‘na, yr awch i rannu syniadau go iawn am y byd hefo fi, a mae’r ddawn o wneud hyn, yn fy marn i, yn cyffwrdd yn fwy nag unrhyw stori ffantasi gymhleth’. 

Yn ogystal â llenydda, mae Elain wedi ennill nifer fawr o wobrau fel cantores hefyd. Mae hi bellach yn adnabyddus yn genedlaethol fel cerdd dantiwr, cyflwynydd caneuon gwerin a chaneuon allan o sioeau cerdd. Hi hefyd ydy prif leisydd y grŵp ‘Mynadd’. 
Rhydian Morgan

- - - - - - -
ANRHYDEDDAU’R ORSEDD, WRECSAM
 Llafar Bro Mehefin ar fin mynd i’r cysodydd, cyhoeddwyd Anrhydeddau’r Orsedd 2025. Bydd dau sy’n gysylltiedig â’r ardal yn cael eu hurddo yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddechrau Awst. 

Dyma fel y cyflwynir nhw ar wefan Cymru Fyw:


 Y wisg werdd i Rhys Cell

“Does neb fel Rhys Roberts, Blaenau Ffestiniog am hyrwyddo ac atgyfnerthu'r celfyddydau ymysg pobl ifanc yn ei gymuned leol. Mae'r plant sy'n dod drwy raglenni Rhys yn cael eu hymbweru i deimlo balchder yn eu bro, ac mae'n cynnig cefnogaeth a chyfeiriad iddynt – ac yn credu yn eu potensial nhw. Mae hefyd yn aelod o'r band, Anweledig, sydd wedi ail-ffurfio i chwarae yn yr Eisteddfod eleni”.

Y wisg las i Llinos Gwefus

“Does neb wedi gwneud mwy i gefnogi cymunedau Croesor, Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth na Llinos Griffin. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am greu Hwb Croesor, sydd bellach yn grŵp o dros 30 o wirfoddolwyr, ac mae hi hefyd yn athrawes Gymraeg uchel ei pharch sy'n ysbrydoli ei dysgwyr gan sicrhau eu bod yn credu fod ganddynt gyfraniad gwerthfawr i'w wneud i'r Gymraeg a'n diwylliant”. 

Llongyfarchiadau gwresog i’r ddau! Haeddiannol iawn yn wir!



Stolpia -Tafarn y Wynnes Arms

Pennod arall o golofn reolaidd Steffan ab Owain

Sylwi yn Llafar Bro mis Ebrill bod menter cymunedol yn anelu i brynu ac adfer yr hen dafarn. Efallai y byddai un ddau o eiriau am ei hanes o ddiddordeb i rai ohonoch. 

Credaf mai yn y flwyddyn 1867 yr agorwyd y dafarn gan David Williams, Tyddyn Gwyn; cyn-chwarelwr a ffermwr. Bu ef a’r teulu yn ei chadw am flynyddoedd a dilynwyd hwy gan deulu Hughes. Daeth yr enw Wynne/Wynnes ar y dafarn ar ôl perchennog stâd Pengwern, sef Fletcher Wynn/Wynne. 

Gyda llaw,  cyfeirid ati fel ‘Y Ring’ gan yr hen bobol, fel y byddid yn galw North Western Hotel yn ‘Ring Newydd’. Tarddiad y gair Ring yw ‘Yr Inn’. Enghraifft arall yw’r gair bin a drodd yn ‘bing’ ar lafar gan y ffermwyr am alai, neu rodfa mewn beudy.

Tybed ai David Williams yw’r gŵr yn nrws y gwesty?


Bu amryw o dafarnwyr yn cadw’r Wynnes tros y blynyddoedd ac erbyn yr 1940au, neu ychydig yn  ddiweddarach, cedwid hi gan Mr a Mrs Bryan Bell fel y gwelir ar yr hysbyseb canlynol. Tybed a oes rhywun yn eu cofio yno?

Nid ymhell oddi wrth y gwesty yn y 19 ganrif ac ar y gongl lle byddai siop Dei Gruff, ceid tollborth bach a chlwyd (giât) ar draws y briffordd lle byddid yn gorfod talu i fynd drwyddi. Diddymwyd y tollbyrth yn lleol yn yr 1880au ac aed â’r giat oddi yno. Sylwodd rhywun ymhen blynyddoedd wedyn, sef rhyw dro yn y 1970au, os cofiaf yn iawn, bod y giât ar dir y Wynnes Arms a hysbyswyd y tafarnwyr a oedd yno y pryd hwnnw ei bod o werth hanesyddol. 

Gwerthwyd y giat i rywun o gyffiniau Ironbridge, ac ar ôl gwneud ychydig o waith ymchwil, deuthum i wybod ei bod yn Amgueddfa Blists Hill. Bum yno yn y 1990au a holais amdani hi,  a thynnais ei llun gan ei bod wedi ei gosod ger hen dollborth a  ddaeth o ran arall y wlad. Os cofiaf yn iawn, dyma lun ohoni yn ôl y swyddogion yno.

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025



Dyfodol Sgotwrs Stiniog

PRYDER AM DDYFODOL CYMDEITHAS ENWEIRIOL Y CAMBRIAN

Cymdeithas Enweiriol y Cambrian yma’n y Blaenau ydy un o glybiau pysgota hynaf Cymru. 
Mae'r clwb yn dweud fod angen gwario hyd at £100,000 i uwchraddio'r argae ar Lyn Ffridd y Bwlch ger y dref oherwydd rheolau newydd a ddaeth i rym yn 2017 - ond does ganddyn nhw ddim yr arian i wneud hynny. Maen nhw’n honni mai’r llyn yn unig sy’n eiddo i’r Gymdeithas, ac mai Cwmni Breedon ddylai fod yn gyfrifol am yr argae.

Mewn ymateb dywedodd Breedon: 

"Yn dilyn cyfarfod efo'r clwb pysgota dros ddeunaw mis yn ôl, mae safbwynt Breedon yn parhau i fod nad oes gennym ni unrhyw berchnogaeth na rheolaeth o'r llyn."
Gofynnwyd ond ni chafwyd ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â Llyn Ffridd y Bwlch.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai ‘Nod Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yw amddiffyn pobl rhag rhyddhau dŵr heb ei reoli o gronfeydd dŵr uchel.’

Mae'r traddodiad o bysgota yn mynd yn ôl yn bell iawn yn hanes Blaenau Ffestiniog a'r ardal - fe sefydlwyd y gymdeithas 147 o flynyddoedd yn ôl. Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw dros gant a hanner o aelodau o bob oed ac mae'r clwb yn cynnig pob math o ddyfroedd i'w haelodau bysgota.

Roedd Llyn Ffridd yn arfer bod yn rhan o waith chwarel y Gloddfa Ganol, ond fe brynwyd y llyn gan y gymdeithas yn saithdegau'r ganrif ddwetha. Mae Cymdeithas Enweiriol y Cambrian eisoes wedi gwario £11,000 ar adroddiad cychwynnol i gyflwr yr argae. Yn ôl Darren Williams, ysgrifennydd y clwb pysgota, fel rhan o'r rheolau newydd, bydd angen lleihau dyfnder y llyn ac uwchraddio'r argae ei hun.

Mae Mabon ab Gwynfor, Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor a Meirionnydd, wedi bod yn gweithio'n agos efo'r Gymdeithas ar y mater. Dywedodd ei fod yn hynod o bryderus am ddyfodol y clwb pysgota.

Ychwanegodd nad eiddo'r clwb pysgota ydy'r argae, ac mai cyfrifoldeb dros y llyn a'r dŵr sydd ynddo sydd ganddynt - ac nid dros yr argae.

"Felly mae'n rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb dros yr argae ei hunan a gwneud yn siŵr ei fod o'n cael ei ddiogelu - boed hynna'n y chwarel neu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu allan. Ond mae'n rhaid sicrhau parhad y clwb pysgota."
Dywed y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn, sy’n cynrychioli ward Bowydd a Rhiw ar Gyngor Gwynedd ei fod yn credu’n gryf mai dyletswydd Llywodraeth Cymru ydy cynorthwyo i dalu am y gwaith sydd angen ei wneud ar yr argae.

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025


11.7.25

Edrych Tuag at Borth Madryn

ENILLYDD YSGOLORIAETH PATAGONIA 2025

Nos Fawrth, Ebrill 1af, yn siambr y cyngor yn Y Ganolfan, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Rawson Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog i Cadi Dafydd. 

Mae Cadi wedi ei geni a’i magu yng Nghwm Teigl ac mae’n dal i fyw yn lleol. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Bro Cynfal, Llan Ffestiniog ac yn Ysgol y Moelwyn. Ar ôl treulio tair blynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio B.A. mewn Llenyddiaeth a Hanes Cymru, a derbyn gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, penderfynodd fynd ymlaen i gyflawni M.A. mewn Hanes Cymru gan ganolbwyntio yn ei thraethawd hir ar salwch meddwl a hunanladdiadau yn ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru rhwng c.1860 a 1914, gyda chryn sylw yn cael ei roi i brofiadau merched dyffrynnoedd Peris, Nantlle ac Ogwen, a bro Ffestiniog. 

Cadi Dafydd (canol y llun) ynghyd â’r Cynghorydd Rory Francis a’r pedwar beirniad, Ceinwen Humphreys, Anwen Jones, Nans Rowlands a Tecwyn Vaughan Jones

Ers pum mlynedd bu Cadi yn gweithio fel golygydd cyffredinol i’r cylchgrawn Cymraeg poblogaidd Golwg ac mae pob rhifyn wythnosol yn cynnwys erthyglau swmpus ganddi ar sawl pwnc. Y dyddiau hyn, yn ogystal, mae’n gweithio tridiau’r wythnos yn Siop Lyfrau’r Hen Bost ar y Stryd Fawr. Mae hefyd yn olygydd misoedd Ionawr a Chwefror Llafar Bro. 

Bydd Cadi yn teithio i Batagonia yn ystod eleni ac mae ei sgiliau newyddiadurol yn cyflwyno cyd-destun newydd i’r ysgoloriaeth hon. 

Pob lwc i Cadi yn Y Wladfa ac yn sicr bydd lluniau yn cyrraedd yn y man i ni eu cynnwys yn Llafar.
Tecwyn Vaughan Jones

 - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025

  

Un o Gapeli'r A470

Roedd Capel Peniel (MC), Ffestiniog (gradd II Cadw) yn rhan o’m magwraeth.

Yn ôl Coflein (cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cymru) codwyd yr adeilad gwreiddiol yn 1839; ychwanegwyd y galeri yn 1859; ac fe’i helaethwyd i’w ffurf bresennol yn 1879 gan y pensaer Richard Owen, Lerpwl (brodor o’r Ffôr). 

Dyluniodd Owen dros 250 o gapeli Cymraeg yng Nghymru a Lloegr a thros 10,000 o dai teras yn Lerpwl (gan gynnwys y ‘Welsh Streets’ yn Everton, wedi’u henwi ar ôl amryw o llefydd yng Nghymru). Bu farw yn 1891 ac, yn ôl Y Cymro, ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn ei angladd roedd ei fab-yng-nghyfraith, y Dr. W. Vaughan Roberts o Flaenau Ffestiniog.

Rwy’n cofio sôn am ddathlu canmlwyddiant Peniel yn 1939. A phan glywais yn 1998 fod gan Cefyn Burgess arddangosfa o’r capeli ar hyd priffordd yr A470 edrychais ymlaen at ei gweld, gan obeithio byddai un o gapeli Llan yno. Mewn neges ebost ddiweddar dywedodd Cefyn fod yr arddangosfa yn gofnod o deithiau wythnosol rhwng Penmaenmawr a Phenarth, gan roi sylw i ddefnyddiau crai’r adeiladau, eu lliwiau a hanes y twf diwydiannol ac amaethyddol sy’n cael ei ddehongli yn eu steil pensaernïol.

Gan ein bod yn byw yn Yr Wyddgrug, Canolfan Grefftau Rhuthun oedd y man mwyaf cyfleus imi gael cyfle i weld yr arddangosfa. Nid casgliad o ddarluniau confensiyol oedd ynddi ond rhai ar ffurf montage papur, gan gynnwys Peniel. 

Siom imi oedd gweld cylch bach coch ar ei ffram i ddynodi ei fod wedi’i werthu. Ond cytunodd Cefyn i lunio un arall imi. Dyna sydd gennym yn ein cartref, a chyhoeddir y ffotograff ohono yn Llafar Bro gyda’i ganiatâd. Byddai’n dda cael gwybod pwy brynodd yr un oedd yn yr arddangosfa. Efallai bod y person hwnnw yn derbyn Llafar Bro?

Stiwdio 1, Canolfan Grefftau Rhuthun yw cyfeiriad gwaith Cefyn Burgess.

Lisa Lloyd, Yr Wyddgrug 

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025

 

10.7.25

Clwb Camera

Daeth tymor 2024/2025 i ben ddechrau mis Ebrill gyda chystadleuaeth cwpan y flwyddyn a chyda’r cyfarfod blynyddol yn cloi gweithgareddau.

Chris Parry o Benrhyndeudraeth oedd beirniad y gystadleuath ac yn gosod Rory Trappe yn gyntaf yn adran y printiadau a Dewi Moelwyn yn gyntaf yn yr adran ddigidol.  Dyfarnwyd llun Rory o Lyn Cwmorthin yn llun y flwyddyn.

 

Yn y cyfarfod blynyddol, etholwyd Dewi M. Williams yn gadeirydd, Patricia Cordney yn is- gadeirydd, Helen Kelly yn ysgrifennydd a Rory Trappe yn drysorydd.

Cyflwynwyd tlws ffotograffydd y flwyddyn i Stan Jones.

Hoffai'r clwb diolch i Gwmni ENGIE/FIRST HYDRO am ei haelioni’n darparu cymorth i gael offer cyfrifiadurol a thaflunydd digidol newydd i'r clwb.

Mewn cystadleuath print rhwng clybiau Cymdeithas Ffotograffiaeth Gogledd Cymru a gynhalwyd ganol Ebrill, daeth y clwb yn bedwerydd allan o bedwar-ar-ddeg.

Bydd y tymor newydd yn dechrau ar 17 Medi yn y Ganolfan Gymdeithasol. Croeso i aelodau newydd.

Dewi Williams

LLUN - Llyn Cwmorthin Rory Trappe
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025

 

Cymdeithas Hanes -Atgofion a Chymeriadau!

Dwy noson ddifyr yn cau rhaglen 2024-25 Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog 

Cyfarfu’r Gymdeithas ar nos Fercher, Ebrill 9fed i wrando ar sgwrs ddifyr gan Steffan ab Owain, un o’n haneswyr lleol, ar y testun  Ddoe ni ddaw yn ôl? 

Roedd wedi paratoi cyflwyniad yn llawn o hen luniau'r ardal, lluniau oeddynt yn amlwg yn goglais cof y mwyafrif yn y gynulleidfa ac oedd yn fwy na pharod i wneud sylw a rhoi eu barn wrth ateb gofynion Steffan am eu cof o sawl llun. Noson felly o ddwyn ar gof ac yn ôl Steffan, cwestiwn ydy testun y sgwrs ac nid gosodiad, gan fod y ‘ddoe’ oedd yn y lluniau a ddangoswyd yn dychwelyd yn bur aml yng nghof pawb.  

Aeth Steffan â ni ar daith gan nodi'r hyn a gofiai ar hyn a wnaeth yn blentyn, fel chwarae rowlio teiars i lawr Rhiw Dolwen neu wrth ‘sledjo’ yn Nhalweunydd. Aeth â ni o Ddolwen i fyny i Danygrisiau ac yna nodi atgofion o’r cymunedau a’r strydoedd oedd rhwng post Tanygrisiau a safle’r hen gae ffwtbol lle mae ffatri Metcalfe ers canol 1950au. O ble daeth yr enw crand Haygarth Park tybed?

Chwarel yr Oakeley. Roedd gan Steffan atgofion o chwarae a gweithio yn y cylch fel nifer yn y gynulleidfa yn amlwg. Roedd Steffan wedi cael llawer o’i wybodaeth o’r traddodiad llafar trwy sgwrsio â phobl hŷn ac roedd ganddo gof rhyfeddol am bwy oedd yn byw ac yn ble.

Noson gartrefol a lluniau diddorol oedd yn rhoi cyfle i bawb lynu efo’r testun. 

Diolch i Steffan, mae ganddo wybodaeth anhygoel am ein hardal ac yn wir mae’n gyfeiriadydd penigamp i’r ardal ac yn amlwg wrth ei fodd yn rhannu ei wybodaeth. Ac mae’r nifer sy’n dilyn ac yn amlwg yn mwynhau, ei golofn fisol yn Llafar Bro, sef ‘Stolpia’, wedi dysgu dipyn am yr ardal dros y blynyddoedd. Diolch iddo felly am noson ddiddorol a gwerth chweil.

Nos Fercher, 21 Mai, traddodwyd sgwrs olaf tymor 2024-25 pan ddaeth un o'n haneswyr lleol gorau,
Vivian Parry Williams, i draddodi ar destun gogleisiol, sef Hogia'r Cwt Letrig - y bu ef ei hun yn un ohonynt am y rhan fwyaf o'i yrfa - o 1967 hyd at tua 1991. 

Roedd hynny cyn iddo fynd i Goleg Harlech ac ymlaen i'r Brifysgol ym Mangor ac ennill gradd mewn Hanes.

Y Cwt Letrig yn fan hyn oedd Pwerdy Tanygrisiau a agorwyd yn 1963 ac a newidiodd fywyd rhai o bobl ifanc y fro trwy gynnig cyflogaeth dda a lleol. Yr ‘hogia’ yma oedd ei gyd-weithwyr ... ac fel pob grŵp o weithwyr, ceid cymeriadau ffraeth a doniol gyda'u dywediadau slic, a'r holl gampau a thriciau oedd yn perthyn i'r fath o grŵp o gyd-weithwyr clos! 

Ymysg y grwpiau hynny’r oedd y chwarelwyr, hogia'r post a hogia Crosville - i enwi ond rhai yn Siniog.

Roedd creu llys-enwau weithiau yn grefft ac yn digwydd mewn chwinciad gyda ffraethineb y grwpiau gwaith hyn. Soniodd Vivian am nifer o gymeriadau ac roedd llun ganddo ar y sgrîn trwy gydol y ddarlith i ni gael gweld at bwy yr oedd yn cyfeirio ... llun a dynnwyd tua dechrau'r 1970au. Rhestrodd rai o'r campau a'r doniolwch, ond hefyd, roedd yn talu teyrnged i'r cymeriadau hynny fu'n rhan bwysig o'i fywyd - a chymeriadau yr oedd y mwyafrif yn y gynulleidfa yn eu hadnabod. 

Tua diwedd y sgwrs, talodd deyrnged i Goronwy Owen Davies (Goronwy Post), fel un o'r cymeriadau a ddylanwadodd arno fwyaf yn ystod ei gyfnod yn y Cwt Letrig. Noson ddifyr iawn.

Cyhoeddwyd ar y diwedd fod y tymor drosodd a thalwyd terynged i'r holl siaradwyr am roi i ni dymor mor amrywiol, addysgiadol a difyr. Apeliwyd am siaradwyr ar gyfer y tymor nesaf ... rhoddir gwybodaeth yn Llafar Bro tua mis Medi am amserlen Tymor 2025-26 ...rhowch eich bryd ar ymuno efo ni y tymor nesaf a bydd croeso i bawb wrth gwrs ... hen a newydd. T

Tecwyn Vaughan Jones

- - - - - -

Dwy erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Mai a Mehefin 2025

Campus!

Dathliadau lleol a llwyddiant i’r timau pêl-droed a rygbi.

Llongyfarchiadau enfawr i Glwb Rygbi Bro Ffestiniog a Chlwb Pêl-droed Amaturiaid Blaenau Ffestiniog ar ddod yn bencampwyr yn eu hadrannau eleni, a sicrhau dyrchafiad i chwarae yn yr haen nesaf i fyny y tymor nesa!

Daeth Bro yn bencampwyr Adran 3 y gogledd-orllewin trwy guro Bangor, ar Gae Dolawel, ar y 5ed o Ebrill. Y sgôr terfynol oedd 29 – 17, efo Dyfan Daniels, Math Churm, Sion Hughes, a Ioan Hughes yn cael cais bob un. Llwyddod Huw Evens i drosi derigwaith, ac mi giciodd Moses Rhys gic cosb yn llwyddianus hefyd. Carwyn Jones oedd seren y gêm.

Roedd yn ddiwrnod braf, a thorf dda wedi troi allan i genfogi, ac aelodau o dimau plant y clwb wedi rhoi dechrau da i awyrgylch y pnawn trwy groesawu’r chwaraewyr i’r maes trwy dwnel o faneri gwyrddion! Gwych bawb; llongyfarchiadau eto. Bydd edrych ymlaen garw at gael chwarae yn Adran 2 eto.

Daeth criw da o chwarewyr, hyfforddwyr, swyddogion a chefnogwyr i’r clwb ganol mis Mai ar gyfer y cinio blynyddol, a chroesawyd bawb i’r noson gan Sion Arwel Jones a’r cadeirydd Glyn Daniels. 

Darllenodd Rhian neges gan y llywydd, Gerallt Rhun, a diolchodd Huw James i’r chwaraewyr, y noddwyr, yr hyfforddwyr, y gwirfoddolwyr, y cefnogwyr a’r pwyllgor am eu cefnogaeth i’r Clwb ar hyd y tymor. Diolchwyd hefyd i’r staff am y bwyd blasus. 

Daeth Mr Alun Roberts o Undeb Rygbi Cymru draw i gyflwyno’r tlws i’r tîm a’u llongyfarch am fod yn bencampwyr Adran 3. Pob hwyl yn Adran 2 flwyddyn nesaf hogia’.

GWOBRAU: 
Chwaraewr y chwaraewyr: Huw Parry
Chwaraewr yr hyfforddwyr: Ioan Hughes
Chwaraewr y cefnogwyr: Huw Parry
Chwaraewr mwyaf addawol: Llion Jones
Cynnydd mwyaf: Ben Buckley
Clwbddyn: Callum Evans

Diolchodd capten y tîm Huw Parry i’r hyfforddwyr i gyd sef Huw, Sion, ac Elfyn am eu hymroddiad di-flino unwaith eto i’r Clwb. Cafwyd noson lwyddiannus a hwyliog iawn.


Ar ben arall y dref, daeth yr Amaturiaid yn bencampwyr adran 1 y gorllewin, Cynghrair Arfordir y Gogledd. 

Dim ond pwynt oedd y Blaenau ei angen i sicrhau eu lle ar frig yr adran erbyn canol Ebrill, ond bu’n rhaid gohirio’r dathliadau llawn, am nad oedd yn bosib chwarae yn erbyn y Mountain Rangers ar nos Fercher yr 16eg, oherwydd y glaw trwm. Ond daeth newyddion fod Caergybi -yn yr ail safle- wedi colli eu gêm hwythau, ac nad oedd felly yn bosib i neb gael mwy o bwyntiau na’r Chwarelwyr. 

Bu hen ddathlu yn nhafarn y Manod pan ddaeth yn amlwg eu bod yn bencampwyr! 

Ar y nos Fercher ganlynol, safodd chwaraewyr Bethesda Rovers mewn dwy res i groesawu’r Amaturiaid i’r cae a’u cymeradwyo fel pencampwyr, a chyflwynwyd tlws y gynghrair i’r tîm ar ôl y gêm yng Nghae Clyd yn erbyn CPD Mountain Rangers ar Ddydd Sadwrn, Mai 17eg.

Enillodd y Blaenau y gêm yn erbyn Pesda o ddwy gôl i ddim, a chyn hynny, ar y 21ain, roedden nhw wedi chwipio 6 heibio’r Fali. Sior Jones oedd seren y gêm honno, ar ôl rhoi 2 yn y rhwyd. Iwan Jones oedd seren gêm Pesda. Enillodd y Blaenau eu dwy gêm arall yn ystod y mis hefyd: 2-0 yn erbyn Caergybi ar y 5ed a 2-7 yn y Gaerwen.

Pob lwc i chi yn Uwchadran Cynghrair Arfordir y Gogledd hogia, mae’n amlwg eich bod yn haeddu eich lle yno!

Ar ôl llongyfarch y clwb ar ddod yn bencampwyr eu hadran, mae’n braf cael dathlu eto, a’u llongyfarch ar ennill Cwpan Her Sgaffaldiau Mabon yn Llangefni. Gwych!

Mae hen edrych ymlaen rwan am y tymor newydd; gwyliwch y cyfryngau cymdeithasol am fanylion gemau cyfeillgar cyn hynny.

Noson Wobrwyo'r clwb:
Chwaraewr y Rheolwyr - Cai Price 
Chwaraewr Ifanc y Rheolwyr - Sion Roberts 
Chwaraewr y Chwaraewyr - Iwan Jones 
Chwaraewr y Flwyddyn - Owain Jones-Owen
Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn - Sion Roberts 
Datblygiad Mwyaf - Elis Jones 
Chwaraewr y Cefnogwyr - Iwan Jones 
Prif Sgoriwr - Sion Roberts 
Clwbddyn y flwyddyn - Gary Flats
Maneg Aur - Bradley Roberts 
Diolch i Dei Wyn a Tom Woolway am greu’r gwobrau.



Mewn newyddion o’r Cymru Premier, llongyfarchiadau anferthol i Sion Bradley o’r Manod, ar ennill yr uwch gynghrair genedlaethol efo’r Seintiau Newydd, wedi iddo sgorio o’r smotyn yn eu buddugoliaeth diweddar yn erbyn y Bala. Gwych Sion!
- - - - - - - - - 


Addasiad o erthyglau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Mai a Mehefin 2025

Geiriau- PaulW. Lluniau o dudalennau facebook y ddau glwb.