Pethau personol a sensitif iawn i deuluoedd ydi teyrngedau am eu hanwyliaid.
Anodd iawn felly, ydi i olygyddion gwirfoddol ein papur bro ddethol darnau allan o deyrnged sy'n rhy hir, ac mae'n hawdd iawn pechu wrth adael rhywbeth allan.
Tua 1000 o eiriau sydd ar bob tudalen yn y papur, ac ar hyn o bryd (2025) mae'n costio £54 y dudalen (un ochr) i argraffu Llafar Bro yn ogystal ag £16 y dudalen i gysodi. Byddai teyrnged 1000 o eiriau felly yn costio £70 i Llafar Bro ei chyhoeddi.
Mae'n gyfnod heriol iawn o ran dyfodol y papur oherwydd costau cynyddol a'r gwerthiant yn lleihau, ac felly yn amhosib i ni gyhoeddi pob teyrnged yn llawn, yn anffodus.
Gofynwn felly i deyrngedau fod dim hirach na 600 o eiriau; neu 500 os oes llun efo'r ysgrif.
Yr unig eithriadau fydd ambell deyrnged i hoelion wyth gwirfoddol Llafar Bro ei hun.
Ymddiheuriadau am eich siomi, a diolch am eich cydweithrediad.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon