27.5.25

Stolpia -Oes Gafr Eto?

Geifr Gwyllt ein Bryniau
Y mae hanes ein geifr gwyllt, neu eifr an-nof (feral) a geir ar fynyddoedd a bryniau Eryri yn ymestyn yn ôl ganrifoedd lawer a chredir bod rhai ohonynt yn ddisgynyddion i rai a oedd yno yn amser Gerallt Gymro yn y flwyddyn 1188 gan iddo gofnodi gweld rhai ar ei deithiau. Yn wir, cred rhai bod eu hil ar greigiau Eryri yn ystod Oes yr Haearn, neu‘n gynt, hyd yn oed.

Pan oeddwn yn hogyn yn yr 1950au, byddai gweld geifr hwnt ac yma ar greigiau Nyth y Gigfran, Cwmorthin a godre’r Allt Fawr yn beth gweddol gyffredin. Gyda llaw, os gwelid hwy yn crwydro i lawr i waelodion y mynydd, byddai’n arwydd o dywydd mawr i ddod ymhen ysbaid o rhyw ddiwrnod neu lai. 

Bu gostyngiad yn eu niferoedd am gyfnodau rhwng yr 1970au a’r 1990au, ond y maent i’w weld  ar gynnydd unwaith eto. Yn ddiweddar, a phan oeddwn yn mynd am dro efo Jes, fy ngast ddefaid ffyddlon, deuthum ar draws y creadur hwn yn y llun isod. Chwarae teg iddo, nid oedd yn fygythiol o gwbl, dim isho ein twlcio o gwbl, ac ar ôl imi dynnu ei lun, aethom o’n tri ar ein amryfal lwybrau. 


Ychydig ar ôl cyfarfod ein cyfaill corniog daeth i’m cof yr amser pan ddaeth rhyw hen fwch gafr i lawr o’r mynydd i’r Rhiw yn yr 1950au a dechrau crwydro o gwmpas y lle fel y byddai’r defaid a geid ar ein strydoedd gynt. Pa fodd bynnag, roedd hwn yn un digywilydd, yn drewi i’r entrychion, ac o dro i dro, byddai’n bwgwth ein twlcio efo’r cyrn mawr ar ei ben. 

Un prynhawn penderfynodd ein dilyn i fyny at siopau Market Place, ger y Neuadd, ac fel yr oedd hi’n digwydd bod, roedd yn dywydd cynnes iawn, ac roedd drws Siop Mr Penhall (tad Wyn a Melody) sef yr un agosaf at y North Western Hotel (Ring Newydd) yn llydan agored. Y mae’n rhaid ei fod wedi gweld rhywun yn dod allan o’r siop efo rhywbeth yn ei law a daeth i’w ben i edrych beth oedd i’w gael yno. Y peth nesaf a welsom oedd yr hen fwch yn mynd ar ei ben am waelod y cownter gwydr a’i dwlcio yn iawn nes yr oedd y jariau da-da a’r danteithion ar hyd y llawr. 

Y mae hi’n debygol ei fod wedi gweld adlewyrchiad ohono’i hun yn y gwydr ac wedi meddwl bod un o’i debyg eisio cwffas, ac iddo gael myll efo’r bwch dychmygol.

Wel, gallwch ddychmygu sut yr oedd Mr Penhall yn teimlo ar ôl i’r hen fwch greu llanast a gadael  drewdod yn ei siop a’i gaffi. Piciodd i nôl ei frwsh llawr a’i hel oddi yno i’r ffordd a chau’r drws yn glep arno rhag ofn iddo ddychwelyd yno. 

Os cofiaf yn iawn, bu’r hen fwch yn crwydro wedyn ger Y Cwm (Commercial Hotel) ac mae’n debyg bod rhywun wedi ei riportio i’r awdurdodau gan i Griffith Williams, Talweunydd (tad John, Rowenna, a‘r diweddar Dafydd) ddod heibio wedyn gyda'i fan a’i bacio i’w chefn a mynd a fo yn ôl i droed Moel Iwerddon, neu rywle, a dyna’r tro olaf inni ei weld.

Dywediadau am y Geifr
Y mae hi’n amlwg bod y geifr wedi bod yn ddylanwad arnom ar hyd y canrifoedd gan fod amryw o hen ddywediadau ac idiomau amdanynt yn ein hiaith. Dyma ychydig enghreifftiau.

Fel gafr ar daranau – yn llawn cyffro, neu mewn panig.
Pan ddel tro ar y geifr, yr afr gloff fydd ar y blaen.
Barf yr afr / Barf y bwch – y blodyn Tragopogon pratensis
Blew geifr - cymylau hirfain, weithiau gydag ychydig o dro arnynt - cirrus. Arwydd glaw.
Bwch dihangol (scapegoat)

- - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025




Y Wynnes Cymunedol

Mae'n debyg bod 17 menter gymunedol yn nalgylch Llafar Bro, gyda 77 o bobl ar eu byrddau ac mae'r Pengwern yn Llan Ffestiniog yn esiampl adnabyddus o sut mae mentrau cymunedol yn gallu bod yn destun llwyddiant.

Pan gaewyd y drysau yn Chwefror 2009, roedd sawl un yn ofni mai dyma'r tro olaf y gwelir tafarn yn Llan Ffestiniog. Ond, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn fuan wedyn, fe benderfynwyd datblygu menter gymunedol i'w hailagor ac yma fe anwyd Pengwern Cymunedol Cyf.

Yn dilyn ymdrechion arwrol i godi arian a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, fe brynwyd yr adeilad yn Mawrth 2011, a dros y misoedd wedyn, fe adnewyddwyd yr adeilad gan dîm ymroddgar o wirfoddolwyr. Fe agorwyd y bar a'r ystafell weithgaredd erbyn diwedd Mai 2011 ac ymhen blwyddyn wedyn, roedd y gegin a'r bwyty wedi ei hailagor. Roedd tair ystafell wely ar gael erbyn Tachwedd 2013, ble mae bellach naw ar gael. 

Mae’r weledigaeth tu ôl i'r Pengwern ar ei newydd wedd, wastad wedi bod er budd cymuned Llan Ffestiniog, ond drwy ddefnyddio adnoddau o fewn y gymuned ehangach i wella ymhellach ar y gwaith da y maent wedi ei gyflawni dros y ddegawd a mwy ddiwethaf.

Tra bod y Pengwern yn hen law bellach o fewn byd y mentrau cymunedol, mae yna adeilad hanesyddol lleol arall sydd dim ond yn cychwyn ar y daith o ailagor y drysau.

Wedi ei gofrestru fel gwesty'n wreiddiol, gwelwyd enw Y Wynnes ar Gyfrifiad 1871 (ond mae'n bosib y gall fod ychydig yn hŷn), cafodd ei gofrestru rhyw ddegawd yn ddiweddarach fel tŷ tafarn. Yn ôl yn sôn, roedd yna barchedig lleol gyda'r enw Wynne (does neb yn siŵr os mai enw cyntaf neu cyfenw ydoedd hwn) a oedd yn berchen ar nifer helaeth o lefydd yn y Manod ac felly credir mai dyma tarddiad yr enw Y Wynnes ar y dafarn hynafol hon.

Fe gaewyd drysau'r Wynnes yn 2017, ac yn ôl Nia Parri-Roberts, sydd wedi byw yn Manod ers dros dri degawd, er ei bod hi'n adeg trist iawn, roedd y trigolion "wedi meddwl y byddai rhywun arall yn ei gymryd drosodd" ac nad oeddynt byth wedi meddwl na fyddai'n agor eto. Ymhen hir a hwyr, dywedodd Nia fod y gymuned wedi "dechrau sylweddoli mai adfail oedd gena ni, a doedd o ddim yn mynd i ailagor heb i ni wneud rhywbeth am y peth."

Bellach, yn dilyn cyfarfod cychwynnol, ble fynychodd 60 o bobl a mwy a sawl un arall yn ymddiheuro na fedrant fynychu ar y noson, mae'r gefnogaeth tuag at y syniad o brynu ac ailagor adeilad oedd yn arfer bod yn nghalon cymuned Manod, rhywle oedd wastad yn brysur ofnadwy, wedi bod yn hynod galonogol ac mae trafodaethau ar y gweill i weld be ellir ei wneud i adfer yr adeilad hanesyddol yma. Pan blannwyd y syniad yma, roedd y trigolion yn ei gweld hi fel 'breuddwyd fawr', a'r frawddeg "fysa ni'n cicio'n hun os nawn ni ddim trio" i'w glywed yn aml – ond bellach, gyda chefnogaeth gref ymysg y gymuned leol, mae'n teimlo fod posib gweld dyfodol llewyrchus i'r Wynnes, fel tŷ tafarn, ond sydd a gweithredoedd eraill o fewn ei waliau yn ystod y dydd, megis siop, caffi, rhywle i bobl ifanc, hŷn, dysgwyr, crefftwyr...mae'r posibiliadau yn niferus! 

Rhoddir y gair olaf i Gwenlli Evans, un o'r bobl sy'n gweithio yn ddiflino i sicrhau dyfodol i'r adeilad - "Cadw’r hen Wynnes, a dod â lot o bethau eraill mewn iddo fo". 

Cadwch lygad dros y misoedd nesaf am unrhyw ddiweddariadau gyda'r fenter gyffrous hon ac fe ddymunwn bob lwc iddynt.
- - - - - - -

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025



Llongyfarchiadau Seren!

Braf yw cael cyhoeddi ein bod wedi ennill gwobr CLAS Cymru (Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol). Gwobr yw hon wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru am lunio gardd gymunedol ragorol gan wneud defnydd da o lefydd gwyrdd. Mae’r cydweithio rhwng Seren a’r Dref Werdd wedi bod yn arbennig er mwyn cyrraedd y safon yma.

 

Yn rhifyn Ionawr, roeddem yn sôn am greu gwlybdir yng Ngerddi ‘Stiniog gan ddefnyddio coeden fawr oedd wedi syrthio yn y gerddi yn dilyn tywydd gaeafol. Wel, os ewch heibio'r Gerddi rŵan, fe welwch fod y llyn bach yn llawn dŵr a bod y planciau wedi eu defnyddio i greu cuddfan gwylio adar. Mae ein diolch yn fawr i Hefin o'r Dref Werdd am dorri'r goeden ddisgynnodd yn blanciau ar gyfer y prosiect hwn ac roedd hi'n rhyfeddol i weld ei grefftwaith. Diolch o galon i Meg a Hefin o'r Dref Werdd am y gefnogaeth.


Bechgyn lleol yn anelu at y Brig
Yn ystod wythnos gyntaf mis Mai, bu chwe bachgen ifanc (5 ohonynt o ardal 'Stiniog) yn ceisio taclo Her 4000 Cairngorm, a hynny er mwyn codi arian i Seren. Mae'r her yn cynnwys dringo y PUM mynydd sydd dros 4000 troedfedd o fewn Parc Cenedlaethol y Cairngorm (y parc cenedlaethol mwyaf yn ynysoedd Prydain) - a hynny o fewn 24 awr! Mae'r daith o gwmpas 22 milltir o hyd, gyda tua 2400 metr o uchder ymysg golygfeydd ysblennydd a thir heriol.

Maent o'r farn bod Seren yn darparu gwasanaethau a chefnogaeth hanfodol i oedolion sydd ac anghenion arbennig, gan eu helpu i fyw bywydau cyflawn ac annibynnol.

[Erbyn hyn -diwedd Mai- mae'r apêl JustGiving wedi codi mwy na tair gwaith y nod gwreiddiol o £1000. Gwych!]

Y chwech sy'n drigo yw: Sion Jones, Chris Baker, Cybi Williams, Tomos Pugh ac Elgan a Garmon Lewis. Diolch am eu cefnogaeth! 

Cefnogaeth Cwmni ADRA – Prosiect Budd Cymdeithasol
Yn dilyn cais llwyddiannus cafodd Hefin, Gwyndaf a Gethin fynd gyda un o’n staff, Joss i dderbyn offer fel rhodd gan gwmni ADRA.    

Llinos Bracegirdle sydd yn cydlynu’r prosiect ar ran ADRA, er mwyn dangos brwdfrydedd eu cwmni i  gefnogi'r gymuned leol.

Cafwyd sawl darn gwerthfawr o offer gwerthfawr ganddynt a fydd o gymorth inni mewn sawl i leoliad o fewn Seren. Byddwn yn rhagweld eu defnyddio wrth adeiladau a thrwsio dodrefn yn Harods, gwaith Cynnal a Chadw cyffredinol ar draws holl unedau'r cwmni a hefyd gwaith bob dydd yn y Gerddi. Mae hyn yn arbed cost sylweddol inni fel cwmni bach sydd a sawl lleoliad i’w gynnal.
Mae’n rhodd werthfawr iawn a diolch o galon i gwmni ADRA am roi cefnogaeth i’n cais.

- - - - - -

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025


24.5.25

Yr Ysgwrn -cynnig arbennig!

Mae Yr Ysgwrn wedi ail-agor ac mae cynnig arbennig i ddarllenwyr Llafar Bro!

Dyma ein hoff amser yma yn yr Ysgwrn – amser ail-agor am y flwyddyn! Daeth yn amser i groesawu ymwelwyr o bell ac agos, i gael cynnau tân rheolaidd yn y ffermdy ac i’n tywyswyr gael gwared ar we pry cop y cof yn barod am dymor arall o adrodd hanes Bardd y Gadair Ddu.

Agorwyd ar Ebrill 12fed, ac mae cynnig arbennig i ddarllenwyr Llafar Bro

Os ddewch chi â rhifyn Ebrill efo chi i’r Ysgwrn, cewch docyn mynediad dau am bris un i’r ffermdy. Bydd y cynnig yn dod i ben ar Hydref 31 2025, felly cadwch eich copi'n ddiogel.

Mi fyddai’r Ysgwrn yn lle gwahanol iawn heb ewyllys da degau o bobol sydd wedi rhoi eu hamser o’u gwirfodd ers ymhell dros ganrif. Mae’r traddodiad hwnnw ddechreuodd teulu Hedd Wyn wrth i ymwelwyr ddod draw i weld y ffermdy ar ôl ei farwolaeth ym Mrwydr Passchendaele ym 1917 yn parhau, ac mae gwirfoddolwyr yn aelodau gwerthfawr o’r tîm. Beth am ymuno â nhw? Efallai eich bod chi’n mwynhau sgwrsio ac yn awyddus i rannu’r hanes? Neu awydd dod draw i helpu yn y caffi a’r oriel? Neu bosib eich bod chi eisiau magu mwy o brofiad yn y sector treftadaeth er mwyn mynd ymlaen i weithio yn y maes ar ôl graddio? Beth bynnag fo’ch rheswm dros ddod yma, mae yna ddigon o bethau allwch chi eu gwneud, megis:

•    Tywys ymwelwyr o amgylch y ffermdy
•    Gwneud paneidiau a gweini
•    Unrhyw waith twtio a glanhau yn yr Oriel a'r caffi
•    Gwaith glanhau neu glirio tu allan, megis hel dail neu roi dŵr i flodau
•    Gofalu bod y llwybrau cerdded mewn cyflwr da

Dros y Pasg, roedd gweithgareddau yma i blant yn y Beudy Llwyd, gan gynnwys:
Helfa wyau Pasg gyda cherfluniau gwiail ar hyd y daith. Dathlu’r Gwanwyn gyda’r Pethau Bychain. Ysgol Goedwig. A Gweithdy peintio wyau Gwanwyn gydag Ella Jones.

Bydd Emma Metcalfe yn dechrau Clwb Garddio yn fuan hefyd, felly cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am hynny.

At sylw athrawon a rhieni - Bydd grant trafnidiaeth o £100 ar gael i’r 20 ysgol gyntaf sy’n archebu ymweliad ar gyfer 2025/26, felly soniwch wrth eich ysgolion!
- - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

 

Y Gymdeithas Hanes -Apêl Heddwch

Daeth Iona Price, Tanygrisiau atom ym mis Mawrth i roi sgwrs hynod ddiddorol ar Apêl Heddwch Merched Cymru 1923-24

Aeth dros gan mlynedd heibio ers i ferched Cymru greu’r ymdrech arwrol hon i ddileu rhyfel, a hyn yn dilyn galanastra'r Rhyfel Mawr pan laddwyd cymaint o fechgyn ifainc Cymru yn ffosydd Ffrainc a Gwlad Belg.

Yn 1923, gydag erchyllterau’r Rhyfel Mawr wedi ysbrydoli cenhedlaeth yn erbyn gwrthdaro o’r fath, trefnodd merched Cymru ymgyrch nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen dros heddwch byd. Llofnododd 390,296 o ferched ddeiseb goffa drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn galw am ‘Gyfraith nid Rhyfel’ – i America ymuno, ag arwain Cynghrair y Cenhedloedd newydd – drwy apelio at ferched America ‘o gartref i gartref’.

Crëwyd Llyfr Coffa hyfryd mewn lledr a memrwn ac arno lythrennau aur. Fe’i cynhyrchwyd gan Wasg Gregynog, y chwiorydd Gwendoline Davies a Margaret Davies Hefyd, saernïwyd cist dderw fawr. 

Roedd yn cynnwys yr holl lofnodion i’w gyflwyno i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, a’i gadw yn yn Sefydliad y Smithsonian yn Washington. Roedd ymgyrch Deiseb Heddwch Merched 1923 yn ymdrech ryfeddol ac yn cynnwys bron pob cartref yng Nghymru, gydag ymgyrchwyr heddwch yn mynd o ddrws i ddrws, gyda chymorth trefnwyr sir a chymuned y ‘Gynghrair’. Nododd y wasg yn Efrog Newydd fod y ddeiseb derfynol a gyflwynwyd i ferched America yn fwy na 7 milltir o hyd!

Bu gwragedd yn America wrthi'n brysur yn gwneud trefniadau i roi cyhoeddusrwydd i'r ddirprwyaeth. Prawf o ddoethineb dewis Annie Hughes Griffiths, Cadeirydd Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, yn dal Cofeb Heddwch Menywod Cymru, i arwain y ddirprwyaeth oedd y derbyniad a gafodd ei hanerchiad i'r dorf: anerchiad a draddododd sawl gwaith i wahanol gymdeithasau yn ystod y daith, oherwydd nid Efrog Newydd oedd yr unig gyrchfan, gan y trefnwyd i'r gwragedd deithio wedyn i Washington, ac i'r Tŷ Gwyn, i gyfarfod â'r Arlywydd Coolidge. 

Dylid pwysleisio mai prif bwrpas y daith a'r ddeiseb oedd cysylltu menywod Cymru â menywod America. Naws anffurfiol oedd i'r cyfarfod gyda’r Arlywydd, ac yr oedd y trefnwyr yn awyddus i bwysleisio mai digwyddiad anwleidyddol ac amhleidiol ydoedd.

Teithiodd y ddirprwyaeth o Gymru i America ym mis Mawrth 1924 a chafodd gefnogaeth sefydliadau merched America oedd yn cynnwys rhagor na 20 miliwn o bobl.

Un o’r eitemau mwyaf a drysorir yn Archifau’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd yw Deiseb Heddwch y Merched, ochr yn ochr â chasgliadau gan Gynghrair y Cenhedloedd. 

Trosglwyddodd Iona y cyfarfod i Gareth Jones, Cadeirydd y Gymdeithas oedd wedi bod wrthi yn gwneud ei ymchwil ei hun i’r gefnogaeth a gafodd y Ddeiseb yn y Blaenau a’r Llan.

‘… es i chwilio ar y wefan am enwau a rhyfeddu at yr enwau a ddaeth i’r golwg ac fe heliais dipyn at ei gilydd. Roedd nifer fawr o enwau o’r Blaenau ac yn eu plith nifer o wragedd oedd yn dilyn yr arfer o ddefnyddio enwau eu gwŷr ac felly yn anodd eu hadnabod! 

Ond ceid enwau megis Miss Hughes, Yr Erw yn y Sgwâr; mam Merêd sef Charlotte Evans, Bryn Mair, Tanygrisiau; S. Lloyd, mam y Parch O.M.Lloyd a Catarina Paganuzzi (pawb yn cofio’r siop hufen iâ'r teulu ar y Stryd Fawr); Miss Brymer, Darbod, sef Siop Brymer lle mae’r Eglwys Gatholig rŵan, ac yn byw gyda hi oedd Ann Beale; Laura Davies, Siop y Gloch ac yn ddiddorol ei gŵr hi oedd yn hebrwng hogiau ifanc yr ardal i fynd i ryfel  - tybed beth oedd ef yn ei feddwl fod ei wraig wedi arwyddo'r ddeiseb hon?! Daeth dau enw o deulu Vaughan, Plas Tanymanod a hefyd Lady Newborough oedd yn byw yng nghartref y teulu ym Mryn Llywelyn.

Roedd nifer fawr o’r merched yn famau oedd wedi colli plant yn y Rhyfel Mawr ac yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth i heddwch oedd wedi costio’n ddrud iawn i’r merched hyn.
Ym Mhantllwyd, Llan roedd Jini Owen yn byw a fu unwaith yn canlyn Hedd Wyn ac fe arwyddodd hithau'r ddeiseb.’

Noson arall i’w chofio yng nghalendr y Gymdeithas a diolch i Iona am ei hymchwil trylwyr.
Tecwyn Vaughan Jones

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

Nid dim ond ymchwilio i'r hanes wnaeth Iona, ond roedd hi'n allweddol yn yr ymgyrch i ddod a'r ddeiseb yn ôl i Gymru. Diolch Iona (Gol.)