14.4.26

Cyfrin-bethau Allt y Ceffylau

Pennod o gyfres STOLPIA, gan Steffan ab Owain

Yn ddiweddar, derbyniais nifer o luniau diddorol o hen strwythurau a godwyd ar lethr Allt y Ceffylau, Cwm Orthin oddi wrth Ray G. Jones (Ray Gwyn), Manod. Y mae’r ddau ohonom wedi bod yn pendroni braidd  beth ar y ddaear oedd eu diben. Bum yn meddwl tybed ai lloches bugeiliaid oeddynt yn y dyddiau gynt pan oedd ffermydd Cwm Orthin yn eu bri?


Gan fod Llyn Conglog ychydig uwchlaw yr hen adeiladau hyn, tybed ai lle ymochel i weithwyr a gododd yr argae oedd y rhain? 

 

Ond wedyn, oni byddai wedi bod yn llawer haws codi lle priodol yn nes at eu gwaith. 

 

Ysgwn i os mai corlannau cynefino oeddynt, sef corlan fach gyfyng a lle i roi defaid dieithr am ysbaid fel iddynt arfer a’u cynefin newydd, neu ai lle ar gyfer cynefino defaid a oedd wedi colli eu hŵyn ac iddynt dderbyn ŵyn amddifaid fel rai eu hunain oeddynt ?

Fel y dywedais, efallai mai lloches ar gyfer  bugeiliaid oeddynt.  

Gwn am un enghraifft o gaban bugail a geid nid ymhell oddi wrth Inclên Uchaf Rhiwbach. Defnyddid hwn gan fugeiliaid fferm Cwm Bowydd, sef Ellis Jones a Thomas Jones (Twm Cakes). Dyma lun ohonynt yn cneifio gyda Lewis Thomas, Cwm Bowydd ar y dde a Chaban y Bugail islaw.


Byddai’n braf cael clywed oddi wrth y darllenwyr  os ydynt ag esboniad gwahanol i’r rhai a nodir yn fy strytyn.

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 



13.4.26

Blaenau ar y Sgrîn Fawr

Bydd ffilm hir yn yr iaith Gymraeg, gan S4C o’r enw Effi o Blaenau yn cael ei ryddhau mewn sinemâu ledled Cymru yr haf hwn.

Wedi ei gyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy law Cymru Greadigol, bu premiere byd y ffilm ar ddechrau mis Mawrth yng Ngŵyl Ffilm Glasgow, a bydd premiere Croeso’n Ôl yn caei ei gynnal ym Mlaenau ychydig cyn rhyddhau’r ffilm.

Bydd Effi o Blaenau yn cael ei ryddhau mewn sinemâu ledled Cymru ar Fehefin 19, cyn cael ei ddarlledu ar S4C, Clic ac iPlayer cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r ffilm yn addasiad o gynhyrchiad llwyfan hynod lwyddiannus Gary Owen, Iphigenia in Splott – ond, wedi ei adleoli i dirwedd mynyddog, agored Parc Cenedlaethol Eryri. Caiff ei gyfarwyddo gan Marc Evans (Mr Burton) a’i gynhyrchu gan Branwen Cennard (Tarian) yn ei ffilm hir gyntaf. 

 

Dilyna'r ffilm Effi, gyda pherfformiad caboledig yn y rôl deitl gan Leisa Gwenllian yr actores ifanc, sy’n prysur gwneud enw i hi ei hun. Yn brwydro yn erbyn y diweithdra wythnosol, clybio a’r pen mawr, mae'n cyfarfod milwr wedi ei anafu o’r enw Lee mewn clwb nos yn Llandudno ac mae o’n cilagor drws i rywbeth gwell. Am foment, caiff Effi gipolwg ar fywyd y gwnaeth hi erioed ddychmygu, ond mae’r realiti yn llawer anoddach.

Yn niwrnod rhagolwg Canolfan Ffilm Cymru, cafodd y ffilm adolygiadau positif, gydag aelodau o’r gynulleidfa yn ei ddisgrifio fel ‘atmosfferig’, ‘ffantastig’ ac ‘wedi ei seilio yn ei gymuned’ – fe wnaeth rhywun arall ganmol ei ‘stori rymus a chymeriadau realistig’

Dywedodd Pennaeth Ffilm a Drama S4C, Gwenllian Gravelle: “Mae S4C yn falch o gefnogi Effi o Blaenau ac yn werthfawrogol i’r tîm cynhyrchu ac i Cymru Greadigol am helpu ddod a’r ffilm i’r sgrin fawr yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r ffilm yn brofiad sinematig sy’n hanu o fan penodol, ond yn atseinio’n emosiynol ymhobman. Wedi ei siapio gan dirlun cryf a manylion bywyd bob dydd, mae’r ffilm yma’n trawsffurfio y cyfarwydd i rywbeth dirdynnol ac epig”

Fe ychwanegodd MetFilm Distribution: “Rydym yn ymfalchïo i fod ar flaen y gad wrth gynorthwyo i ryddhau Effi o Blaenau ar draws Prydain. Mae’r tîm wedi creu addasiad hynod sinematig a ffyddlon i’r cynhyrchiad llwyfan gwreiddiol o waith Gary Owen, wedi ei angori gan berfformiad electrig gan Leisa Gwenllian. Gallwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd ymhobman gwrdd ac Effi!”

- -

Wedi ei ffilmio yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn bennaf yn Llangollen, Bethesda a Blaenau Ffestiniog, mae Tanau’r Lloer o waith y cwmni lleol, Opra Cymru yn creu hanes, wrth iddo dorri tir newydd gan fod y cynhyrchiad cyntaf i fod yn ‘simulcast’ (sef y term technolegol am raglen sy’n cael ei ddarlledu ar ddwy sianel yr un pryd) rhwng S4C a Channel 4. Wedi ei ysbrydoli’n fras gan un o’r nofelau sy’n aml yn cael ei weld fel un o oreuon yr iaith Gymraeg, Un Nos Ola Leuad o waith Caradog Pritchard, cyfunir sgôr Gareth Glyn, wedi ei berfformio gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a libreto Patrick Young ac Iwan Teifion Davies.

Golygfa yng Nghwmorthin

Mewn un erthygl, fe ysgrifennodd James Ellis, sy’n arbenigo mewn ysgrifennu ar gerddoriaeth glasurol, opera a chynyrchiadau theatr, “mae opera ar ffilm yn beth prin. Bu’r oes aur yn y 1980au, gyda La Traviata, Parsifal a Carmen yn cael fersiynau sinema wedi eu creu". Aeth ymlaen i ofyn os oedd yn parhau i weithio o’i gymharu a’i 400 mlynedd ar lwyfan ac oedd ffilm opera drwy gyfrwng y Gymraeg mewn du a gwyn yn anodd i’w werthu?

Yn dilyn y premiere byd yng Ngŵyl Ffilm Caeredin, a dangosiadau mewn sawl sinema ar draws Cymru llynedd, cafodd ei ddarlledu ar S4C a Channel 4 ar Ddydd Gŵyl Dewi ac mae’n deg dweud fod yna ateb wedi ei gael i’r cwestiwn a ofynnwyd yn yr erthygl a soniwyd am uchod, sef Ydi – mae’n gweithio ar ffilm o’i gymharu ac ar lwyfan a Na – bu hi ddim yn anodd i’w gwerthu. Mae’r ffilm yn wreiddiol ac yn ffres.

Roedd hi’n hynod braf i weld Tanau’r Lloer yn derbyn sylw yn rhai o bapurau newydd mwyaf Prydain ar benwythnos Gŵyl Ddewi, gyda’r Observer yn canmol faint o ffiniau sy’n cael eu gwthio gyda’r ffilm yma sy’n troedio sawl genre, y Telegraph yn ei alw’n ‘gloriously odd & wonderfully cinematic’ a’r Sunday Times yn sôn am y dynfa freuddwydiol a dirdynnol sy’n cael ei brofi o’r funud gyntaf.

I fynd nôl at erthygl James Ellis, mi soniodd o am neges y ffilm, sef un o obaith; mai efallai nid creadigrwydd artistig ac hunanfynegiant fydd yr ateb i bopeth, ond y gall ei ddefnyddio fel modd i gymedroli dioddefaint. Dywedodd ei fod yn aml wedi annog a chyflwyno pobl i opera, ac y gallai gweld Tanau’r Lloer ar y sgrin fawr arwain at ddod a mwy o bobl i mewn i fyd yr opera, drwy lygad nofel eiconig. 


Fel rhywun sydd wedi gweithio a theithio gyda Opra Cymru yn y gorffennol, hawdd fyddai hi i mi drio gwerthu’r ffilm hon i chi. Felly, dwi am adael i eiriau’r arbenigwr yn ei faes, sef awdur yr erthygl uchod wneud y gwaith yn ei le: ‘Take the plunge & go savour Tanau’r Lloer’ 

Bydd y ffilm ar gael i chi wylio ar iPlayer a Clic tan ddiwedd yr Haf ac mae’n werth gwylio!

Rhydian

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 


> Cwmorthin yn Hollywood?

 

12.4.26

Antur Stiniog -Eiddo Cymunedol a Gŵyl Dewi

Rydym wedi cael gaeaf prysur iawn yma yn Antur Stiniog, Mae Eifion Stores wedi bod digon ffodus i dderbyn grant ar gyfer adnewyddu ambell i beth yn yr adeilad yn cynnwys ffenestri newydd, lloriau newydd a system wresogi. Ond y newid gorau un yw’r cownter newydd i’r siop. Mae wedi cael ei greu gan Hefin Hamer gydag amryw o goed gwahanol o lefydd gwahanol o gwmpas Blaenau a'r wlad! Hoffwn ddiolch iddo am y gwaith gwych ac unigryw.

Mae gwaith yn parhau ar adeiladau Bolton a Ephraim i adnewyddu’r adeiladau yn gyfan. Yn dilyn archwiliadau strwythurol diweddar, mae wedi dod i’r amlwg bod rhannau o’r ffasâd presennol bellach ddim yn ddiogel, felly mae angen tynnu’r ffasâd i lawr yn ofalus cyn ei hailadeiladu.

Rydym yn deall pa mor bwysig yw’r adeiladau yma i’r gymuned, ac felly hoffem eich sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud gyda gofal mawr. Bydd y ffasâd yn cael ei hailgodi yn yr un arddull a golwg, gan gadw’r cymeriad a’r manylion sy’n gwneud Bolton ac Ephraim mor adnabyddus. Mae gweithwyr arbenigol lleol yn goruchwylio’r prosiect er mwyn sicrhau bod y canlyniad terfynol yn parchu hanes ac ymddangosiad yr adeiladau, tra’n eu gwneud yn ddiogel ac yn gadarn ar gyfer y dyfodol.

Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau wrth i’r prosiect fynd rhagddo. 

Os oes unrhyw gwestiwn mae croeso i chi yrru neges atom ar eiddo@anturstiniog.com

Arwydd newydd yr Aelwyd

 

I ddathlu Gŵyl Dewi, cafwyd bore braf yng nghwmni Melda Lois yn Tŷ Coffi ar fore 28ain o Chwefror, roedd ei cherddoriaeth swynol yn hyfryd i wrando arno yng nghwmni ffrindiau yn y caffi, diolch yn fawr iddi ddod draw atom.

Sioned Davies-Williams
Swyddog Marchnata Antur Stiniog Marketing

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 


11.4.26

Chwareli Llechi y tu allan i Brydain

Y Gymdeithas Hanes

Daeth y Dr Dafydd Gwyn atom ar 25ain Chwefror i roi darlith ar ‘Chwareli Llechi y tu allan i Brydain’. Rydym yn byw mewn ardal sydd wedi bod yn ganolog i hanes cloddio llechi’r byd ac fe gynhyrchodd chwareli llechi Cymru 40% o’r llechi hynny! Mae cysgod y chwareli wedi bod yn drwm ar hanes Stiniog a thebyg na fyddai tref yma o gwbl oni bai am y diwydiant llechi. 

Crëwyd cymunedau unigryw, uniaith Gymraeg, yn yr ardaloedd llechi yng ngogledd Cymru nas gwelwyd erioed o’r blaen ac mae’r cymunedau hyn bellach yn waddol i’r diwydiant hwn…. Mae’r trefi wedi crebachu o ran poblogaeth ond rydym yma o hyd ac wedi addasu yn gymunedau ôl-ddiwydiannol. 

Roedd ein darlithydd yn arbenigwr ar chwareli llechi a hefyd y rheilffyrdd a’r tramiau oedd wedi eu creu i hwyluso symud llechi a gwastraff, ac roedd gwastraff mawr yn y diwydiant hwn fel mae’r holl domennydd yn ei ddatgelu!

Roedd Dr Dafydd Gwyn yn aelod o Fwrdd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog rhwng 2006 a 2016, gyda chyfrifoldeb am gyswllt â Chymdeithas Rheilffyrdd Ucheldir Cymru. Yn 2016 fe'i penodwyd yn Ymddiriedolwr Cwmni Rheilffordd Ffestiniog. 

Fe'i ganed a'i fagu'n rhannol ym Methesda, ac mae'n raddedig o Brifysgolion Caergrawnt a Choleg y Drindod, Dulyn. Mae'n byw ym Mhen-y-groes, ac yn ennill ei fywoliaeth fel archeolegydd annibynnol ac ymgynghorydd treftadaeth. Mae'n awdur sawl astudiaeth mewn archaeoleg o'r oes ddiwydiannol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn hanes ac archaeoleg rheilffyrdd cyn 1840. 

Mae hefyd yn Gadeirydd Rheilffordd Llyn Tegid a bu’n un o’r arbenigwyr fu yn dadlau dros gael cydnabod ardaloedd llechi Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ac fel rhan o’r ymgyrch cyhoeddwyd, yn 2015, lyfr arloesol Dafydd Gwyn sef Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes (ceir fersiwn Saesneg o’r llyfr yn ogystal) gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Mae’r llyfr yn sôn am dirwedd llechi gogledd orllewin Cymru ac yn y llyfr mae modd i chi weld, darllen a deall pob cam o’r diwydiant cloddio yn well na mewn unrhyw fan arall o’r byd. Y chwareli enfawr, pyllau dwfn, ceudyllau a thomennydd anferthol; melinau prosesu; systemau trafnidiaeth yn cynnwys inclêns serth, ffyrdd, rheilffyrdd a phorthladdoedd; cymunedau wedi eu creu ar gyfer y gweithlu a thai crand y perchnogion; defnydd o’r cynnyrch terfynol o’n cwmpas ym mhob man.  

Ar y noson, cawson glywed am ei ymchwil i ardaloedd cynhyrchu llechi led led Ewrop a’r Unol Daleithiau. Soniodd am leoliadau'r chwareli hyn ac roedd cysylltiadau agos wedi bod a rhai o chwareli gogledd Cymru ac ardaloedd cloddio llechi gogledd America megis Granville ar y ffin rhwng taleithiau Efrog Newydd a Vermont. Dangosodd luniau o’r chwareli hyn a sôn am y gwahanol dechnoleg oedd gan yr ardaloedd hyn i gloddio a thrin y llechi a sut o oedd y llechi yn cael eu symud a’u gwerthu. Ac roedd y prosesau hyn yn amrywio. Roedd ei wybodaeth yn llifo ac yn diddori ac roedd yn bleser gwrando arno. Noson lwyddiannus arall i’r Gymdeithas.

-

Heno cyhoeddwyd fod 'Cymdeithas Bro Ffestiniog' wedi darfod. Bu’n weithgar yn yr ardal hyd at ddyddiau Cofid pan ddaeth y gweithgareddau i ben a methwyd a’i hatgyfodi ar ôl saib o rai blynyddoedd. Mabwysiadodd y Gymdeithas hon enw’r Gymdeithas Gymraeg a ddaeth i ben rai blynyddoedd yn ôl a chynnig darlithoedd a nosweithiau yn Saesneg. Mae wedi gadael gwaddol ariannol a phenderfynodd pwyllgor y Gymdeithas gyfrannu £200 i’r Gymdeithas Hanes … ynghyd â rhoddion i rai cymdeithasau eraill, a Llafar Bro. Mynegodd ysgrifennydd y Gymdeithas Hanes, Gareth Tudor Jones, ei ddiolch i Gymdeithas Bro Ffestiniog am eu rhodd.

TVJ.  
- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 

 

10.4.26

Aethnen Goll Bro Ffestiniog?

Ydych chi erioed wedi gweld coeden sy’n troi’n felyn aur llachar yn yr hydref, ei dail yn crynu’n ysgafn yn y gwynt? Efallai eich bod wedi pasio aethnen – un o goed brodorol prinnaf Cymru – heb sylwi.

Aethnen ar lan Afon Bowydd ger Ysgol Maenofferen. Llun- Paul W

Credir bod yr aethnen wedi bod yn rhan o dirwedd Bro Ffestiniog ers miloedd o flynyddoedd. Heddiw, fodd bynnag, mae’n brin iawn. Mae’r goeden hynafol hon nid yn unig yn brydferth, ond hefyd yn hynod bwysig i fioamrywiaeth: mae’n cynnal pryfed, adar a chreaduriaid bach sy’n dibynnu arni am fwyd a lloches. Pan fyddwn yn colli aethnen, rydym yn colli darn o’n hetifeddiaeth naturiol – a’r bywyd gwyllt sy’n dod gyda hi.

Mae ambell aethnen yn tyfu ar dir Ysgol Maenofferen, ac o leiaf bedair arall wedi’u darganfod yn yr ardal. Nawr, mae prosiect cymunedol ar droed i’w hadfer. Bydd y coed yn cael eu clônio gan Dr Jenny Wong, yna eu eu magu ym Meithrinfa Goed Tanygrisiau, ac yna – os aiff popeth yn ôl y cynllun – byddant yn barod i’w plannu ar ein llethrau lleol erbyn Tachwedd eleni. Gan eu bod yn tyfu’n gyflym, gallent drawsnewid rhannau o’r dirwedd mewn ychydig flynyddoedd yn unig.

Ond mae angen eich help chi arnom.

Ydych chi’n gwybod am aethnen arall yn y fro? Edrychwch am ei dail crwn sy’n crynu yn y gwynt (gweler y llun o’r ddeilen). Cysylltwch â ni a helpwch i sicrhau bod yr “aethnen goll” yn dod o hyd i’w lle unwaith eto ym Mro Ffestiniog.  

Gyda’n gilydd, gallwn adfer coeden frodorol, cefnogi bioamrywiaeth, a gadael etifeddiaeth werdd i’r genhedlaeth nesaf.

Meg Thorman, Y Dref Werdd
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 

> Darn blog am aethnen Stiniog o 2012


 

8.4.26

Senedd Stiniog -Mawrth 2026

Adnewyddu’r Parc Sglefrio
Fe gynhaliodd Cyngor Tref Ffestiniog gyfarfod arbennig ym mis Chwefror i bennu praesept ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Penderfynwyd neilltuo £100,000 i adnewyddu’r Parc Sglefrio, sydd wedi bod ar gau ac yn segur am sawl blwyddyn oherwydd fod yr hen offer wedi dirywio ac yn berygl. Mi fydd y Cyngor yn ariannu hwn trwy dynnu arian o’r balansau, gan gyfyngu’r codiad yn y praesept i 4%, sef mwy neu lai lefel chwyddiant. Mi fydd y Cyngor hefyd yn trio codi cymaint â phosibl o’r arian ar gyfer y Parc Sglefrio o grantiau, er mwyn cadw cymaint â phosibl o’r arian hwn ar gyfer gwelliannau a blaenoriaethau eraill yn y fro.   

Tref Ddiwylliant 2026
Roedd Gwenlli Evans o Gwmni Bro Ffestiniog wedi trefnu i fynychu’r cyfarfod i siarad am gyflwr Stryd Fawr y Blaenau. Wnaeth hi gyfeirio at Westy’r Queens yn ogystal a hen siop Lewis. Beth y gellir wneud eu cylch? Mi ofynnodd y Cyng. Dafydd Dafis ba hawliau sydd gan y Cyngor Tref i roi pwysau ar y bobl sy biau’r adeiladau hyn i’w defnyddio? Ydy’r waliau a’r toeau’n ddiogel? 

Roedd pob aelod o’r Cyngor yn awyddus i fynd i’r afael â’r broblem. Aethpwyd ymlaen i drafod y cyfle i Flaenau Ffestiniog gael ei dynodi fel Tref Ddiwylliant y DU, gan fod Llywodraeth y DU wedi gwahodd ceisiadau a’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts wedi tynnu sylw’r Cyngor at y cyfle hwn. A oes modd defnyddio’r cyfle hwn i sicrhau fod y safleoedd hyn yn cael eu datblygu a’u defnyddio? 

Yn y pendraw, cytunwyd i ffurfio is-bwyllgor arbennig i drafod hyn, gyda Chwmni Bro yn cymryd rhan. Dafydd Walter gynigiodd hwn gyda Morwenna Pugh yn eilio. Roedd pawb yn cytuno fod eisiau cydweithio i gael y gorau o hyn. 


Gwella bioamrywiaeth yn Sgwâr Ocli
Mae anghydfod wedi codi am gynlluniau’r Cyngor Tref i ddefnyddio grant o Bartneriaeth Natur Gwynedd i blannu coed ffrwythau ar ran o Sgwâr Ocli, yn ogystal â dôl flodau gwyllt a gwrych traddodiadol wedi ei blygu. Yn anffodus, doedd dim ymgynghoriad wedi digwydd gyda thrigolion y Sgwâr ymlaen llaw ac roedd nifer ohonyn nhw anhapus iawn i weld fod ffens ddwbl wedi ymddangos ar hyd un ochr y Sgwâr. Roedd hwn wedi cael ei godi i amddiffyn y gwrych newydd yn ystod ei flynyddoedd cyntaf. Roeddwn i, y Cyng. Rory Francis, wedi rhoi cynnig i lawr i drefnu cyfarfod safle gyda thrigolion a Hywyn Williams o’r Bartneriaeth i drafod hyn. Ddywedodd y Cyng. Mark Thomas fod y ffens yn y lle anghywir beth bynnag, gan y byddai rhan o’r polyn trydan o fewn y gwrych oni bai fod y ffens yn cael ei symud. Cytunwyd i drefnu cyfarfod safle.            

Pobl ifanc yn gwirfoddoli
Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr elusen GISDA, sy’n cefnogi pobl ifanc rhwng 14-25 oed, yn gofyn a fyddai modd i rai o’r bobl ifanc wneud gwaith gwirfoddol gyda’r Cyngor Tref. Dywedodd y Cyng. Morwenna Pugh fod hwn yn syniad gwych a mi gynigiodd y Cyng. Dei Mur y dylid gwahodd rhywun o GISDA i ddod i gyfarfod efo’r Cyngor i drafod y manylion. Cafodd y syniad hwnnw ei gymeradwyo. 
- - - - - - - - - - 

Addasiad o'r golofn reolaidd a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026

 

6.4.26

Gwneud y Pethau Bychain

Wrth ddweud ei bod yn braf cael ymuno yng Nghyfres Caban YesCymru Bro Ffestiniog, soniodd y canwr Arfon Wyn am ei obaith i efelychu’r gyfres a chynnal digwyddiadau tebyg ym Môn hefyd. Mae mor bwysig ‘gwneud y pethau bychain’ meddai, a hithau’n benwythnos Gŵyl Ddewi, i ddod at ein gilydd i ganu a thrafod. Dathlu ein treftadaeth a’n traddodiadau, a chadw’r ymgyrch am annibyniaeth i Gymru yn amlwg ym meddyliau pobl.

Hon oedd ail-noson-ar-bymtheg y gyfres, yn awyrgylch hyfryd Tŷ Coffi Antur Stiniog, ac yn ôl yr arfer, mi gawsom sét fer o ganeuon gan y cyfansoddwr-ganwr i ddechrau, ac un arall i gloi’r noson. “Rhywbeth hwyliog i gychwyn” meddai, “er mwyn cael c’nesu efo chydig o gyd-ganu”, a bwrw iddi efo Ar Lan y Môr. Bu chwerthin yn y gynulleidfa wrth iddo egluro ei fod wedi ychwanegu pennill am ysgariad -difôrs- i adlewyrchu’r byd modern!

Mi gawsom lawer o’i glasuron -rhai wedi bod yn llwyddianus yng nghystadleuaeth Cân i Gymru dros y blynyddoedd, fel Cae o Ŷd (2000) a geiriau’r gytgan dal yn berthnasol heddiw efo’r hil-laddiad erchyll ym Mhalesteina: ‘Mae sŵn y gynnau’n tanio/Dal i’w clywed yn y nos...’ 

Harbwr Diogel (2002) yn un arall adnabyddus; ond cafwyd ambell un llai cyfarwydd hefyd, fel Ni Welaf yr Haf, a ddaeth i’r brig ym 1979 pan oedd yn aelod o’r grŵp Pererin. Difyr oedd clywed ei brofiadau yn y byd cerddorol, a hanesion difyr a digri, wrth gyflwyno’r caneuon.

Yn dilyn egwyl fer, mi gawsom sgwrs ddifyr tu hwnt gan y bardd a’r awdur Haf Llewelyn. Un a fagwyd ar fferm Graig Isaf ym mhen uchaf Cwm Nantcol, dafliad carreg o Fwlch Drws Ardudwy a dalgylch Llafar Bro. 

Mae gen’ i feddwl y byd o Stiniog” meddai, o’r dyddiau pan oedd yn dod i weld ‘y dyn llygaid’ yma. Soniodd Haf am gefndir hirhoedlog ei theulu yng Nhwm Nantcol, a’r newid enfawr sydd wedi dod i Ardudwy ers ei phlentyndod. Mae’n cofio’r plentyn di-Gymraeg cyntaf yn cyrraedd Ysgol Llanbedr, sy’n anodd credu erbyn heddiw tydi, ac yn gwaredu na chafodd unrhyw air o hanes Owain Glyndŵr, tra oedd yn Ysgol Ardudwy. Ysgol sydd yng nghysgod Castell Harlech fu’n gartref a phencadlys yr arwr a’i deulu am gyfnod yn ystod ei wrthryfel. 

Erbyn hyn mae hanes a threftadaeth yn agos iawn at ei chalon a’i hangerdd yn pefrio trwy ei gwaith- mae’n awdur nifer fawr o lyfrau plant, a nofelau i oedolion.

 

Mi enillodd ei nofel hanesyddol am Hedd Wyn -Diffodd y Sêr- wobr Tir Na N-og yn 2014. Darllenodd ambell gerdd deimladwy iawn o’i chyfrol o farddoniaeth, fel Llwybr y Pererin (ger Gellfechan, Ardudwy), sy’n dechrau fel hyn: 

Unwaith ar y llwybr hwn bu’r brodyr, ac eithin melyn Mai 
yn cydio ym mhlygiadau eu brethyn llwyd; a thybiais imi eu gweld
yn datod rywfodd rubanau’r niwl dros y Sarn, gan adael
Enlli’n gryndod yn y gwres – a’r môr cyn lased medden nhw,
A mantell sidan Branwen gynt.

Noson arbennig arall o adloniant, diwylliant, chwyldro! Dim ond un arall sydd i ddod yn y gyfres yma, a hynny ar nos Wener olaf mis Mawrth (27ain). Mae hanes yr actor/canwr/cyfarwyddwr theatr Arwel Gruffydd yn ein diddanu efo ambell gân a darlleniad, ac yn cael ei holi gan Ffion Dafis yn rhifyn Ebrill. 

PW
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026