Mae Yr Ysgwrn wedi ail-agor ac mae cynnig arbennig i ddarllenwyr Llafar Bro!
Dyma ein hoff amser yma yn yr Ysgwrn – amser ail-agor am y flwyddyn! Daeth yn amser i groesawu ymwelwyr o bell ac agos, i gael cynnau tân rheolaidd yn y ffermdy ac i’n tywyswyr gael gwared ar we pry cop y cof yn barod am dymor arall o adrodd hanes Bardd y Gadair Ddu.Agorwyd ar Ebrill 12fed, ac mae cynnig arbennig i ddarllenwyr Llafar Bro!
Os ddewch chi â rhifyn Ebrill efo chi i’r Ysgwrn, cewch docyn mynediad dau am bris un i’r ffermdy. Bydd y cynnig yn dod i ben ar Hydref 31 2025, felly cadwch eich copi'n ddiogel.
Mi fyddai’r Ysgwrn yn lle gwahanol iawn heb ewyllys da degau o bobol sydd wedi rhoi eu hamser o’u gwirfodd ers ymhell dros ganrif. Mae’r traddodiad hwnnw ddechreuodd teulu Hedd Wyn wrth i ymwelwyr ddod draw i weld y ffermdy ar ôl ei farwolaeth ym Mrwydr Passchendaele ym 1917 yn parhau, ac mae gwirfoddolwyr yn aelodau gwerthfawr o’r tîm. Beth am ymuno â nhw? Efallai eich bod chi’n mwynhau sgwrsio ac yn awyddus i rannu’r hanes? Neu awydd dod draw i helpu yn y caffi a’r oriel? Neu bosib eich bod chi eisiau magu mwy o brofiad yn y sector treftadaeth er mwyn mynd ymlaen i weithio yn y maes ar ôl graddio? Beth bynnag fo’ch rheswm dros ddod yma, mae yna ddigon o bethau allwch chi eu gwneud, megis:
• Tywys ymwelwyr o amgylch y ffermdy
• Gwneud paneidiau a gweini
• Unrhyw waith twtio a glanhau yn yr Oriel a'r caffi
• Gwaith glanhau neu glirio tu allan, megis hel dail neu roi dŵr i flodau
• Gofalu bod y llwybrau cerdded mewn cyflwr da
Dros y Pasg, roedd gweithgareddau yma i blant yn y Beudy Llwyd, gan gynnwys:
Helfa wyau Pasg gyda cherfluniau gwiail ar hyd y daith. Dathlu’r Gwanwyn gyda’r Pethau Bychain. Ysgol Goedwig. A Gweithdy peintio wyau Gwanwyn gydag Ella Jones.
Bydd Emma Metcalfe yn dechrau Clwb Garddio yn fuan hefyd, felly cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am hynny.
At sylw athrawon a rhieni - Bydd grant trafnidiaeth o £100 ar gael i’r 20 ysgol gyntaf sy’n archebu ymweliad ar gyfer 2025/26, felly soniwch wrth eich ysgolion!
- - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon