Geifr Gwyllt ein Bryniau
Y mae hanes ein geifr gwyllt, neu eifr an-nof (feral) a geir ar fynyddoedd a bryniau Eryri yn ymestyn yn ôl ganrifoedd lawer a chredir bod rhai ohonynt yn ddisgynyddion i rai a oedd yno yn amser Gerallt Gymro yn y flwyddyn 1188 gan iddo gofnodi gweld rhai ar ei deithiau. Yn wir, cred rhai bod eu hil ar greigiau Eryri yn ystod Oes yr Haearn, neu‘n gynt, hyd yn oed.
Pan oeddwn yn hogyn yn yr 1950au, byddai gweld geifr hwnt ac yma ar greigiau Nyth y Gigfran, Cwmorthin a godre’r Allt Fawr yn beth gweddol gyffredin. Gyda llaw, os gwelid hwy yn crwydro i lawr i waelodion y mynydd, byddai’n arwydd o dywydd mawr i ddod ymhen ysbaid o rhyw ddiwrnod neu lai.
Bu gostyngiad yn eu niferoedd am gyfnodau rhwng yr 1970au a’r 1990au, ond y maent i’w weld ar gynnydd unwaith eto. Yn ddiweddar, a phan oeddwn yn mynd am dro efo Jes, fy ngast ddefaid ffyddlon, deuthum ar draws y creadur hwn yn y llun isod. Chwarae teg iddo, nid oedd yn fygythiol o gwbl, dim isho ein twlcio o gwbl, ac ar ôl imi dynnu ei lun, aethom o’n tri ar ein amryfal lwybrau.
Ychydig ar ôl cyfarfod ein cyfaill corniog daeth i’m cof yr amser pan ddaeth rhyw hen fwch gafr i lawr o’r mynydd i’r Rhiw yn yr 1950au a dechrau crwydro o gwmpas y lle fel y byddai’r defaid a geid ar ein strydoedd gynt. Pa fodd bynnag, roedd hwn yn un digywilydd, yn drewi i’r entrychion, ac o dro i dro, byddai’n bwgwth ein twlcio efo’r cyrn mawr ar ei ben.
Un prynhawn penderfynodd ein dilyn i fyny at siopau Market Place, ger y Neuadd, ac fel yr oedd hi’n digwydd bod, roedd yn dywydd cynnes iawn, ac roedd drws Siop Mr Penhall (tad Wyn a Melody) sef yr un agosaf at y North Western Hotel (Ring Newydd) yn llydan agored. Y mae’n rhaid ei fod wedi gweld rhywun yn dod allan o’r siop efo rhywbeth yn ei law a daeth i’w ben i edrych beth oedd i’w gael yno. Y peth nesaf a welsom oedd yr hen fwch yn mynd ar ei ben am waelod y cownter gwydr a’i dwlcio yn iawn nes yr oedd y jariau da-da a’r danteithion ar hyd y llawr.
Y mae hi’n debygol ei fod wedi gweld adlewyrchiad ohono’i hun yn y gwydr ac wedi meddwl bod un o’i debyg eisio cwffas, ac iddo gael myll efo’r bwch dychmygol.
Wel, gallwch ddychmygu sut yr oedd Mr Penhall yn teimlo ar ôl i’r hen fwch greu llanast a gadael drewdod yn ei siop a’i gaffi. Piciodd i nôl ei frwsh llawr a’i hel oddi yno i’r ffordd a chau’r drws yn glep arno rhag ofn iddo ddychwelyd yno.
Os cofiaf yn iawn, bu’r hen fwch yn crwydro wedyn ger Y Cwm (Commercial Hotel) ac mae’n debyg bod rhywun wedi ei riportio i’r awdurdodau gan i Griffith Williams, Talweunydd (tad John, Rowenna, a‘r diweddar Dafydd) ddod heibio wedyn gyda'i fan a’i bacio i’w chefn a mynd a fo yn ôl i droed Moel Iwerddon, neu rywle, a dyna’r tro olaf inni ei weld.
Dywediadau am y Geifr
Y mae hi’n amlwg bod y geifr wedi bod yn ddylanwad arnom ar hyd y canrifoedd gan fod amryw o hen ddywediadau ac idiomau amdanynt yn ein hiaith. Dyma ychydig enghreifftiau.
Fel gafr ar daranau – yn llawn cyffro, neu mewn panig.
Pan ddel tro ar y geifr, yr afr gloff fydd ar y blaen.
Barf yr afr / Barf y bwch – y blodyn Tragopogon pratensis
Blew geifr - cymylau hirfain, weithiau gydag ychydig o dro arnynt - cirrus. Arwydd glaw.
Bwch dihangol (scapegoat)
- - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon