Mwy o Hanes y Transfformar
Yn dilyn fy strytyn yn rhifyn Chwefror am y trawsnewidydd (transformer) a gyrhaeddodd Stesion London ym mis Chwefror 1961 a’m ymholiad sut yr aeth oddi yno i bwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau, derbyniais wybodaeth ddiddorol oddi wrth Eifion Lewis, a Brian Owen amdano.
Dywedodd y ddau mai cwmni enwog Pickfords a fu’n gyfrifol am ei gludo i lawr yno a hynny ar un o’u cerbydau pwrpasol gyda dwy lori ar bob pen iddo. Dywedwyd wrthyf bod ffilm ohono i’w weld ar YouTube hefyd.
Wrth edrych arni hi sylwais mai 1962 oedd dyddiad y ffilm a’i bod yn dywydd hafaidd pan y trosglwyddwyd o, gan fod y plant ger yr orsaf mewn crysau ysgafn a cheid dail ar y coed. Gwyddwn mai ym mis bach 1961 oedd yr adroddiad am yr un yn y North Wales Weekly News, ac felly, y cwestiwn oedd – a oedd y pwerdy wedi derbyn dau ohonynt, y cyntaf y mis Chwefror 1961 a’r llall rhywdro yn haf 1962? Deallais mai dyna a oedd wedi digwydd.
Y Ffotograffydd Isaac Hughes
Bum yn gwrando ar sgwrs ddifyr yng Ngwesty Seren (Bryn Llywelyn) gan Gareth Roberts, Menter y Fachwen yn ddiweddar. Testun ei sgwrs oedd Isaac Hughes, un o hen ffotograffwyr Cymru. Un o Dyserth, Sir Ddinbych oedd yn wreiddiol, ond yn Beck Road, Lerpwl oedd ei stiwdio erbyn 1869.
Daeth i’r Blaenau y pryd hwnnw gyda’i gamera a thynnu lluniau yn ein chwareli. Dywedir iddo ymweld â Chwarel Llechwedd a thynnodd amryw o luniau o’r chwarelwyr yno. Serch hynny, bu nifer o’r gweithwyr yn aflonydd a gwingo tra y tynnid y lluniau, ac roedd un hogyn wedi rhoi rhaff am wddw hen chwarelwr mewn hwyl, ac un arall fel pe tai yn bwgwth taro pen un gyda gordd.
Yn yr 1980au ar ôl i deulu symud i dŷ yn Thomas Street, Llanberis, canfuwyd rhai cannoedd o blatiau gwydr gyda ffotograffau arnynt yn yr atig. Daethpwyd i’r casgliad yn ddiweddarach mai ffotograffau Isaac Hughes oeddynt.
Dyma un enghraifft. Sylwer ar y rhes flaen yn eistedd ar gasgenni powdwr du.O.N. Tybed a oes lluniau o waith Isaac Hughes ar ôl yn y Blaenau? Cysylltwch os gwyddoch am rai.
- - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon