16.2.25

Murlun newydd!

Tudalen flaen rhifyn Ionawr 2025

Ydych chi wedi gweld y murlun llechi newydd ar y Stryd Fawr? Cafodd y mosaig ar dalcen adeilad cyfrifwyr Beatons ei gwblhau ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.


Kate Hughes*, ysgolfeistres Rhiwbach ar ddechrau’r 1900au, yw canolbwynt y murlun, sydd wedi’i wneud yn gelfydd gan gwmni lleol yr Original Roofing Company. Hi yw’r unig ferch y mae cofnod ohoni’n defnyddio’r car gwyllt ar droad y ganrif. 

Yn ôl y cofnodion byddai Kate yn cael pàs bob bore yn un o’r wagenni gwag i dop yr inclên uwchben Chwarel Maenofferen ac yna’n cerdded i Rhiwbach. Ar ôl diwrnod o ddysgu, byddai’n cerdded i chwarel Graig Ddu ac yn dod yn ôl lawr i’r dref ar y car gwyllt.

Mae’r murlun newydd wedi cymryd lle’r hen ddarn o gelf lliwgar, oedd wedi dechrau mynd â’i ben iddo, gafodd ei wneud tua 2008 gan yr arlunydd Catrin Williams a disgyblion yr ardal. Yn ogystal â’r car gwyllt, mae haenau llechi yn y graig, amlinelliad y Moelwyn a’r tomenni llechi, a nodau cerddoriaeth – sy’n nod tuag at ddiwylliant y Caban, y bandiau pres a’r eisteddfodau lleol – i’w gweld yn y murlun newydd. Ar waelod y darn, mae [addasiad o] linell enwog** y diweddar Dr Gwyn Thomas am y Blaenau:

‘Breichled o dref ar asgwrn o graig’

Sam Buckley a Kaz Bentham ydy cyfarwyddwr Original Roofing, y ddau wedi bod yn gweithio efo llechi ers iddyn nhw adael yr ysgol.

“Roedd yn dipyn o sialens sut i gyfleu stori diwydiant llechi Blaenau a hynny drwy ddefnyddio’r llechen ei hunan; dwi’n credu inni lwyddo yn y pen draw,” meddai Sam.

Mae’r murlun yn cynnwys rywfaint o ddur a phres, ac eglura Kaz bod defnyddio’r gwahanol ddeunyddiau wedi caniatáu iddyn nhw gyfleu sawl gwahanol agwedd “amlwg a phwysig o stori'r dre”, gan gynnwys stori’r bandiau pres.


Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am gomisiynu’r gwaith, fel rhan o’u rhaglen Llewyrch y Llechi, gyda’r bwriad o “godi ymwybyddiaeth” o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi y Gogledd Orllewin. Mae cynlluniau tebyg wedi bod ar y y gweill mewn rhannau eraill o’r sir, gan gynnwys Porthmadog, Penygroes, Bethesda, Llanberis a Thywyn.
- - - - - - - - -


* Mae'r cyfryngau i gyd wedi ei galw yn Kate Griffiths, ond dim ond ar ôl priodi y daeth hi'n Griffiths.  

Hughes oedd hi pan oedd yn athrawes. 


** 'Fe welwch freichled o dref ar asgwrn y graig' ydi'r linell yn y gerdd 'Blaenau' (Ysgyrion Gwaed, Gwasg Gee, 1967)

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon