11.10.25

Chwilio am hen fynwent

Bu llawer o sylwadau am fynwent yn Llys Dorfil, ond gyda'r holl wybodaeth uwch-dechnegol wrth law -gan gynnwys arolwg geo-ffiseg ac electro-magneteg yno eleni, a lluniau awyr arbennig gan ddau gymwynaswr lleol, ni ddarganfuwyd unrhyw olion beddi gan Gymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog, dros yr wyth tymor diwethaf o gloddio. 


 Bu cyfeiriadau at “8 neu 9 o feddau” mewn cyhoeddiadau gan y Parch. Owen Jones yn ei gyfrol ‘Cymru: Yn Hanesyddol, Parthedegol, a Bywgraphyddol’, Cyfrol 1, 1875, tudalen 349. Gan W. Jones, Ffestinfab, yn ‘Hanes Plwyf Ffestiniog a’r Amgylchoedd’, 1879, t38. Hefyd gan G. J. Williams, yn ‘Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf’, 1882, t35. A gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Rhestr. V1 Sir Feirionydd. Plwyf Ffestiniog, t35.

Mae camgymeriad mawr wedi ei wneud gan y cofnodydd cynharaf, Owen Jones, lle gafodd y pwyntiau cwmpawd (gogledd, de, ac ati) yn hollol anghywir,  ac efallai fod hyn wedi bod yn help i ffwndro beddladron.

Yn ein hymdrech i ddarganfod y fynwent agorwyd tair ffos archwilio eleni, wedi eu cloddio â llaw, yn 12m o hyd ac 1m o led, ac i lawr i’r clog glai, ond heb ddim canlyniad. Roedd y clog glai yn rhyw 40cm o ddyfn.  

A oes gan unrhyw un wybodaeth neu syniadau am leoliad y fynwent neu ffurf y beddau? Gadewch i ni wybod! Mary a Bill Jones

Lluniau Gerwyn Roberts 


Mae’n debygol mae dyma dymor cloddio olaf y Gymdeithas ar y safle aml-gyfnod, hynod ddifyr yma. Diolch i’r Gymdeithas am eu llafur cariad gwirfoddol i helpu pobl Stiniog ddeall mwy am ein gorffennol. Cofiwch y bydd cyfle i bawb ddysgu mwy am Lys Dorfil, a gwaith y gwirfoddolwyr yno, yn arddangosfa ddathlu 50 Llafar Bro yn llyfrgell y Blaenau o Hydref 11eg tan y Nadolig. Galwch heibio!  PW

- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025

Dyfal Donc- diwedd tymor 2024

 

 

10.10.25

Iaith a Gwaith

Roedd sylw yn rhifyn Gorffennaf/Awst (Ydi'r ZIP yn Agored i Syniadau'r Gymuned?) i’r galwadau am greu Cronfa Gymunedol, yn sgil cais cwmni Zip World am dros £6miliwn o bres cyhoeddus. 

Y ddadl ydi fod y cwmni hwn yn ddigon cyfoethog i beidio gofyn am grantiau gan y llywodraeth -sydd yn y pen draw yn bres yr ydych chi a fi wedi talu mewn trethi! Ac y dylian nhw rannu rhan o’u elw efo’r cymunedau lle maen nhw’n gweithredu. 

 

Ers hynny mae’r cwmni wedi bod yn y newyddion eto, y tro hwn yn dilyn adroddiad ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Awst ('Five indicators and two questions about wages and conditions at Zip World' gan Foundational Economy Research 

-ar gael i’w lawrlwtho o wefan FERL). 

 

Prif neges yr adroddiad ydi fod rhwng 85% a 93% o weithwyr Zip World yn Llechwedd a Chwarel y Penrhyn, yn 2024, wedi bod ar gontract ‘zero hours’; hynny ydi, does gan y staff ddim sicrwydd o wythnos i wythnos faint o oriau fydden nhw’n weithio. 

Mi edrychodd yr ymchwilwyr ar hysbysebion y cwmni am swyddi newydd dros gyfnod o bythefnos o’r 27ain Mai at 10fed Mehefin 2025, a’u cymharu efo cyflogwyr eraill sy’n gweithredu yn y maes ymwelwyr. Yn y cyfnod hwnnw roedd 80% o’r swyddi a hysbysebwyd gan Portmeirion yn rai llawn amser, a dim un yn ‘zero hours’, tra oedd Zip World yn hysbysebu dros 60% o’r swyddi yn rhai ‘zero hours’, a dim ond un swydd lawn amser.

Mae cyflogau isel ac ansicr yn ei gwneud yn anodd i weithwyr gynllunio eu gwario, ac hefyd yn medru tanseilio economi cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Heb os, mae swyddi llawn amser a chyflogau da yn hanfodol i gadw pobl ifanc yn ein cymunedau!
Os nad ydych wedi cyfrannu sylwadau i’r ymgynghoriad am gronfa gymunedol, holwch cynghorydd.elfedwynapelwyn@gwynedd.llyw.cymru   am becyn gwybodaeth.

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025
 

8.10.25

Dathlu 50 oed!

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Llafar Bro yn Hydref 1975. Mi fydd rhifyn Hydref 2025 felly yn nodi hanner can mlwyddiant o gyhoeddi Papur Misol Cymraeg Cylch Stiniog! 


Rydym yn dal i gyhoeddi 11 rhifyn y flwyddyn, a hynny yn gwbl wirfoddol. 

Mae tua 40 o bobl yn cyfrannu bob mis, fel gohebyddion, aelodau'r pwyllgor, dosbarthwyr, golygyddion, colofnwyr ac ati.

Fel modd o ddathlu’r garreg filltir yma mae is-bwyllgor o griw ein papur bro wedi bod wrthi’n trefnu arddangosfa yn llyfrgell y Blaenau, ac wedi gwahodd y Gymdeithas Hanes a’r Gymdeithas Archeoleg i rannu’r gofod efo ni. 

Bydd yr arddangosfa’n agor ar yr 11eg o Hydref, ac yno tan y Nadolig. Gobeithiwn y medr pob un ohonoch alw i mewn i ddangos cefnogaeth, a chodi’n hyder bod angen papur bro am hanner canrif arall.

27.9.25

Stolpia- ‘Stiniog 100 Mlynedd Yn Ôl

Pytiau o 1925 gan Steffan ab Owain 

- Agor Ysbyty Coffa Ffestiniog (Tybed beth a fyddai ymateb yr hen drigolion pe baent yn gwybod ei fod wedi ei gau fel Ysbyty?)

- Aeth bws yn sownd mewn lluwchfeydd ar yr Allt Goch a bu’n rhaid i’r teithwyr gerdded i fyny i’r Llan i gyfarfod bws arall.

-Cafodd Peter Macauley Owen, Frondeg, sef disgybl yn Ysgol Sir Ffestiniog, arddangosfa yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

- Ar ôl bod yn gauad ac yn rhannol dan ddŵr am sawl blwyddyn ail-agorwyd Chwarel Cwm Orthin gan gwmni Oakeley

- Dedfrydwyd Neil Doherty i fis o garchar a llafur caled am ddwyn par o fwtias (boots) gwerth £1.4s oedd y tu allan i siop yn Stryd yr Eglwys.

-Cynnal Eisteddfod Blodau’r Oes am y tro cyntaf. Tros 300 yn ymgeisio ar wahanol destunau.


- Prif Swyddfa’r Post yn y Blaenau yn agored tan 7:30 yr hwyr. Pris stamp ar lythyr 1d.

- Arbrofwyd gyda defnyddio llwch chwarel i wneud ffyrdd gan Gyngor Tref Blaenau Ffestinog gydag un S. McPherson a oedd yn obeithiol y byddai’n rhoi hwb i chwareli llechi a gweithfeydd sets yr ardal. Gwnaed arbrawf trwy gymysgu llwch llechfaen a glwtin, ac yna gwenithfaen macadam ar ei ben a rholer tros y cyfan. Bu’n weddol lwyddiannus.

-Penderfynwyd sgrapio y pedwar gwn mawr Almaenaidd a anrhegwyd i’r dref fel troffïau rhyfel gan y Cyngor Dosbarth (Credaf mai ar gonglau y Parc yr oeddynt wedi cael eu gosod).

- Oherwydd diffyg galw am gerrig sets a cherrig ar gyfer gwneud ffyrdd bu’n rhaid cau Chwarel Wenithfaen Manod a rhoi’r dynion allan o waith. Bu oddeutu trigain (60) yn gweithio yno ar un adeg.

- Tra yn teithio adref gyda’i wraig tros Fwlch Gorddinan (Y Crimea) collwyd rheolaeth o’r car gan David Hughes, U.H. o’r Blaenau a bu bron iddo fynd tros ymyl oddeutu 100 troedfedd o gwymp, ac yn ddiau, byddai’r ddau wedi eu lladd. Rhywfodd neu’i gilydd, ataliwyd y car ar ffens digon tila fel ei fod ynghrog tros yr ochr. Yn y cyfamser, roedd Mrs Hughes wedi llewygu ond trwy ryw drugaredd daeth modurwyr eraill i’w cynorthwy a llusgwyd y car yn ôl ar y ffordd. (Tybed ymhle yn union y digwyddodd y ddamwain? Ai uwchlaw Llyn Ffridd y bu’r anffawd?)


Llun- Y ffordd tros y Bwlch cyn ei lledu (ymhell ar ôl 1925)


- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025



 

Blodeuo ar Lwyfan Enwog

Mae Gerddi Maes y Plas, gardd farchnad gymunedol wedi’u hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, wedi derbyn yr anrhydedd o cael eu gwahodd i gyflenwi blodau i Ŵyl Glastonbury ar gyfer ei Gardd Heddwch enwog.

Darparodd y fenter, sy’n cael ei chefnogi gan wirfoddolwyr lleol, ddewis bywiog a lliwgar o flodau a dyfwyd yma yn lleol, gan ddod â thipyn o ogledd Cymru i Wlad yr Haf. Yn gyfan gwbl, darparwyd dros 100 o blanhigion a dyfwyd gyda gofal, a’u dewis yn arbennig ar gyfer y digwyddiad, gan ddangos y ddawn arddwriaethol a’r ysbryd cymunedol sydd wrth galon Gerddi Maes y Plas.

Rhannodd Wil Gritten, cydlynydd y prosiect, ei falchder yng ngwaith caled y tîm:
"Mae gweld blodau a dyfwyd yn ein cornel fach ni o Gymru yn dod â harddwch a thawelwch i Ardd Heddwch Glastonbury yn hynod o emosiynol. Mae’n dyst i’r hyn y gall tyfu cymunedol ei gyflawni."
Mae’r gwahoddiad gan Ŵyl Glastonbury nid yn unig yn dathlu ymrwymiad y fenter i gynaliadwyedd ac arferion organig, ond hefyd yn tynnu sylw at sut y gall prosiectau â gwreiddiau cymunedol ffynnu a chael eu cydnabod ymhell y tu hwnt i’w hardal leol.

Mae croeso i drigolion ddod i ymweld â Gerddi Maes y Plas i weld ble dechreuodd y daith — a falle ymuno i dyfu gyda ni’r tymor nesaf.

 

Cynllun Llogi Beiciau Trydan Newydd
Cafodd cynllun llogi beiciau trydan newydd ei lansio ym Mlaenau Ffestiniog ar 2 Gorffennaf, gan gynnig ffordd fwy cynaliadwy a gwyrddach i drigolion ac ymwelwyr deithio o amgylch yr ardal. Bydd y cynllun, sy’n cael ei reoli gan Y Dref Werdd, yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Camau Cynaliadwy’r Loteri Genedlaethol a phrosiect Economi Gylchol Menter Môn.

Bydd y fenter yn darparu fflyd o feiciau trydan i’w llogi, gan annog teithio carbon isel a hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ledled y rhanbarth. Yn ogystal â chefnogi trafnidiaeth lanach, bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar atgyweirio a chynnal beiciau’n lleol, gan greu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac ymgysylltu â’r gymuned.

Dywedodd Emma Ody, cydlynydd y prosiect:

“Mae’n gyffrous iawn i lansio’r cynllun beiciau trydan yma. Mae hyn yn fwy na lleihau allyriadau - er bod hynny’n bwysig iawn - mae hefyd yn ymwneud â gwneud beicio’n fwy hygyrch, hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, a rhoi cyfle i bobl archwilio’n hardal leol mewn ffordd sy’n cefnogi twristiaeth gynaliadwy. Drwy ganolbwyntio ar atgyweirio ac ailddefnyddio, rydyn ni hefyd yn helpu i leihau gwastraff ac adeiladu economi leol fwy cylchol.”
Nod y cynllun yw bod o fudd i’r amgylchedd a’r gymuned leol, gan gynnig trafnidiaeth fforddiadwy ac annog ymwelwyr i brofi’r ardal mewn ffordd gyfrifol ac ecogyfeillgar.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag: emma@drefwerdd.cymru

- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025