Pages

27.5.25

Y Wynnes Cymunedol

Mae'n debyg bod 17 menter gymunedol yn nalgylch Llafar Bro, gyda 77 o bobl ar eu byrddau ac mae'r Pengwern yn Llan Ffestiniog yn esiampl adnabyddus o sut mae mentrau cymunedol yn gallu bod yn destun llwyddiant.

Pan gaewyd y drysau yn Chwefror 2009, roedd sawl un yn ofni mai dyma'r tro olaf y gwelir tafarn yn Llan Ffestiniog. Ond, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn fuan wedyn, fe benderfynwyd datblygu menter gymunedol i'w hailagor ac yma fe anwyd Pengwern Cymunedol Cyf.

Yn dilyn ymdrechion arwrol i godi arian a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, fe brynwyd yr adeilad yn Mawrth 2011, a dros y misoedd wedyn, fe adnewyddwyd yr adeilad gan dîm ymroddgar o wirfoddolwyr. Fe agorwyd y bar a'r ystafell weithgaredd erbyn diwedd Mai 2011 ac ymhen blwyddyn wedyn, roedd y gegin a'r bwyty wedi ei hailagor. Roedd tair ystafell wely ar gael erbyn Tachwedd 2013, ble mae bellach naw ar gael. 

Mae’r weledigaeth tu ôl i'r Pengwern ar ei newydd wedd, wastad wedi bod er budd cymuned Llan Ffestiniog, ond drwy ddefnyddio adnoddau o fewn y gymuned ehangach i wella ymhellach ar y gwaith da y maent wedi ei gyflawni dros y ddegawd a mwy ddiwethaf.

Tra bod y Pengwern yn hen law bellach o fewn byd y mentrau cymunedol, mae yna adeilad hanesyddol lleol arall sydd dim ond yn cychwyn ar y daith o ailagor y drysau.

Wedi ei gofrestru fel gwesty'n wreiddiol, gwelwyd enw Y Wynnes ar Gyfrifiad 1871 (ond mae'n bosib y gall fod ychydig yn hŷn), cafodd ei gofrestru rhyw ddegawd yn ddiweddarach fel tŷ tafarn. Yn ôl yn sôn, roedd yna barchedig lleol gyda'r enw Wynne (does neb yn siŵr os mai enw cyntaf neu cyfenw ydoedd hwn) a oedd yn berchen ar nifer helaeth o lefydd yn y Manod ac felly credir mai dyma tarddiad yr enw Y Wynnes ar y dafarn hynafol hon.

Fe gaewyd drysau'r Wynnes yn 2017, ac yn ôl Nia Parri-Roberts, sydd wedi byw yn Manod ers dros dri degawd, er ei bod hi'n adeg trist iawn, roedd y trigolion "wedi meddwl y byddai rhywun arall yn ei gymryd drosodd" ac nad oeddynt byth wedi meddwl na fyddai'n agor eto. Ymhen hir a hwyr, dywedodd Nia fod y gymuned wedi "dechrau sylweddoli mai adfail oedd gena ni, a doedd o ddim yn mynd i ailagor heb i ni wneud rhywbeth am y peth."

Bellach, yn dilyn cyfarfod cychwynnol, ble fynychodd 60 o bobl a mwy a sawl un arall yn ymddiheuro na fedrant fynychu ar y noson, mae'r gefnogaeth tuag at y syniad o brynu ac ailagor adeilad oedd yn arfer bod yn nghalon cymuned Manod, rhywle oedd wastad yn brysur ofnadwy, wedi bod yn hynod galonogol ac mae trafodaethau ar y gweill i weld be ellir ei wneud i adfer yr adeilad hanesyddol yma. Pan blannwyd y syniad yma, roedd y trigolion yn ei gweld hi fel 'breuddwyd fawr', a'r frawddeg "fysa ni'n cicio'n hun os nawn ni ddim trio" i'w glywed yn aml – ond bellach, gyda chefnogaeth gref ymysg y gymuned leol, mae'n teimlo fod posib gweld dyfodol llewyrchus i'r Wynnes, fel tŷ tafarn, ond sydd a gweithredoedd eraill o fewn ei waliau yn ystod y dydd, megis siop, caffi, rhywle i bobl ifanc, hŷn, dysgwyr, crefftwyr...mae'r posibiliadau yn niferus! 

Rhoddir y gair olaf i Gwenlli Evans, un o'r bobl sy'n gweithio yn ddiflino i sicrhau dyfodol i'r adeilad - "Cadw’r hen Wynnes, a dod â lot o bethau eraill mewn iddo fo". 

Cadwch lygad dros y misoedd nesaf am unrhyw ddiweddariadau gyda'r fenter gyffrous hon ac fe ddymunwn bob lwc iddynt.
- - - - - - -

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon